llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Gwasanaeth llyfrgell yn dechrau pennod drydanol newydd

Mae gwasanaeth llyfrgell cartref y Cyngor wedi croesawu pennod newydd diolch i bŵer trydan.

Bydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn derbyn fan Peugot e-expert er mwyn lleihau allyriadau carbon y gwasanaeth llyfrgelloedd cartref.

Bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae’r ymgyrch i leihau allyriadau carbon ar draws y Cyngor yn cynnwys lleihau’r allyriadau carbon o gerbydau fflyd.

Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd cartref yn cefnogi’r unigolion nad ydynt yn gallu ymweld â’r llyfrgell yn sgil salwch, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. 

Mae’n gallu ymweld â chartrefi, llety gwarchod, cartrefi gofal neu ganolfannau dydd unwaith y mis. 

Gall pobl ddefnyddio’r catalog ar-lein i wneud cais am eitemau 24 awr y dydd ac mae’r gwasanaeth yn cynnig casgliad eang i’w benthyg am fis ar y tro - gan gynnwys llyfrau, llyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg a gallwch lawrlwytho e-lyfrau a phapurau newydd digidol yn rhad ac am ddim pe dymunech.

Mae’r elfen ychwanegol hon o’r gwasanaeth yn gallu teithio hyd at 200 milltir. 

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i leihau ein hôl-troed carbon, ac rwy’n falch o weld gwasanaeth mor allweddol yn derbyn dull cludiant modern i’n helpu i gyflawni’r nod hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Bydd y fan drydan yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth cartref pwysig i’r rheiny nad ydynt yn gallu ymweld â’r llyfrgell i’w galluogi i barhau i fwynhau’r buddion gwych y mae ein llyfrgelloedd yn eu cynnig.

I gysylltu â’r Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref, ffoniwch Llyfrgell Rhuthun ar 01824 705274 neu anfonwch e-bost at llyfrgell.rhuthun@sirddinbych.gov.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...