Mae llyfr newydd ar gyfer babis bach wedi ei lansio gan wasanaeth Dechrau Da Llyfrgelloedd Sir Ddinbych i helpu rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant.

Yn ystod sesiwn amser rhigwm babis arbennig yn Llyfrgell Llanelwy yr wythnos hon, cyflwynwyd y copiau cyntaf o Siarad Babi: Du a Gwyn i fabis a rhieni. Eglurodd staff Dechrau Da Sir Ddinbych sut i ddefnyddio’r llyfr gyda babi bach iawn gan awgrymu rhigymau a chaneuon i’w canu gyda’r delweddau.

Dywedodd Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, “Mewn du a gwyn a llwyd yn unig y gall babis weld wedi eu geni, felly mae’r llyfr newydd yma wedi ei gynllunio yn arbennig ar eu cyfer gyda delweddau du a gwyn syml a chlir. Mae modd gosod y llyfr igamogam wrth ochr babi pan maent yn gorwedd neu o’u blaen unwaith maent yn gorwedd ar eu boliau, neu gall riant rannu’r llyfr gyda’r babi yn eu côl. Bydd defnyddio’r llyfr yn helpu’r babi i ddatblygu’r sgiliau corfforol a deallusol i ffocysu eu llygaid, i droi a chodi eu pen ac i ymateb i’r llyfr a llais y rhiant.

“Rydym yn croesawu cannoedd o fabis a’u teuluoedd i’n llyfrgelloedd bob wythnos i fwynhau amser rhigwm Dechrau Da ac i fenthyg llyfrau fel aelodau llyfrgell.

“Roedden ni angen llyfr bach i’w roi fel anrheg yn fuan ar ôl genedigaeth gan nad yw hi byth yn rhy fuan i gyflwyno babis i lyfrau a rhigymau. Fe wnaethon ni gomisiynu’r lluniau gan artist graffeg ifanc lleol, Charlotte Chapple o Chalice Media, ac roedd hi’n bosib i ni gynhyrchu’r llyfr diolch i ariannu o Gronfa Datblygu’r Plentyn.

“Pan fydd y babis yma ychydig yn hŷn byddant yn derbyn rhodd o fagiau a llyfrau Dechrau Da – bydd y llyfr bach yma yn eu paratoi ar gyfer hyn. Byddwn yn dosbarthu’r llyfr i deuluoedd yn fuan trwy fydwragedd a gofalwyr iechyd ac fe fydd ar gael i’w gasglu o bob llyfrgell yn Sir Ddinbych.

Dyweddodd Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Rwy’n hynod o falch fod y llyfr bach yma wedi ei gyhoeddi gan dîm Dechrau Da ein llyfrgelloedd. Gobeithiaf y bydd yn gychwyn ar oes o gariad tuag at lyfrau, darllen a llyfrgelloedd i’r babanod fydd yn ei dderbyn. Mae gwasanaeth Dechrau Da Sir Ddinbych yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r gefnogaeth a gynigir i holl deuluoedd a phlant bach Sir Ddinbych, i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, dysgu a chymdeithasu, ac i roi cyfle i rieni gyfarfod a chreu cylchoedd ffrindiau newydd. Rwy’n llongyfarch y gwasanaeth llyfrgell ar fenter lwyddiannus arall a hoffwn annog pob rhiant i ddod â’u plant bach i’r llyfrgell yn rheolaidd.”