llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Bws Benthyg yn galw yn Rhuthun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

Yn ddiweddar, daeth prosiect cydweithredol â bws yn llawn eitemau y mae modd eu hailddefnyddio i Rhuthun fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen y mae’r Cyngor Dylunio’n ei alw’n ‘Design Differently’.

Mae’r rhaglen yn ceisio trafod, deall yn well, a dathlu sut mae sefydliadau cymunedol yn cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau a gyflwynir gan newid hinsawdd.

Trwy’r rhaglen hon mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ar syniadau yn ymwneud â’r economi gylchol gyda staff o ReSource CIC a chwmni Bryson’s Recycling. Bydd Bryson's Recycling yn gweithio gyda Resource CIC i ryng-gipio eitemau sydd wedi'u tynghedu ar gyfer tirlenwi a allai gael eu rhoi a'u hailddefnyddio drwy brosiect Bws Benthyg.

Penderfynwyd canolbwyntio ar ddangos Bws Benthyg sy’n brosiect cymharol newydd yn Sir Ddinbych.

Mae nifer o eitemau ar gael o’r Bws Benthyg i bobl eu benthyg am gyfnod byr yn hytrach na’u prynu o’r newydd, yn amrywio o beiriannau torri gwair i bistylloedd siocled. 

Mae hyn yn cefnogi lleihau deunydd gwastraff nad oes modd eu hailgylchu, sy’n niweidiol i’r amgylchedd ac a gaiff eu taflu pan fydd angen eitemau newydd ar bobl.

Roedd y Bws Benthyg yn yr Hen Lys gyda chynrychiolwyr o’r prosiect cydweithredol a chafodd eitemau o’r bws eu harddangos a darparwyd gwybodaeth am sut i’w defnyddio gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn ein bod ni a’n partneriaid wedi gallu cynnal ac arddangos y gwasanaeth unigryw hwn yn Rhuthun ac rwy’n gobeithio ei fod yn ddefnyddiol iawn i breswylwyr wrth ddangos sut gall ailddefnyddio wneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Prosiect bioamrywiaeth pwysig gydag ysgolion wedi ymwreiddio

Mae disgyblion ar draws Sir Ddinbych wedi bod yn cynorthwyo yn y gwaith o blannu’r coed cyntaf o filoedd a fydd yn cael eu dosbarthu ymysg ysgolion Sir Ddinbych i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur.

Bydd tua 9,000 o goed yn cael eu plannu ar safleoedd ysgolion ledled y sir fel rhan o brosiect i wella bioamrywiaeth leol a chynyddu amsugniad carbon.

Mae staff y Cyngor o dimau Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad wedi gweithio gydag Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl ac Ysgol Uwchradd Prestatyn i ddechrau’r prosiect yma.

Ysgol Dewi Sant
Ysgol Uwchradd Prestatyn
Ysgol Llanrhaeadr

Mae staff y Cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion eraill i wella tiroedd presennol er mwyn cynyddu diddordeb i blant a bywyd gwyllt gan sicrhau hefyd y cedwir lle ar gyfer chwarae hamdden.

Rhai o’r ysgolion eraill sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Bro Famau, Ysgol Bodnant, Ysgol Melyd, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Clocaenog, Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Penmorfa.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y Cyngor: “Mae’n beth gwych gweld prosiect mor bwysig yn cael ei roi ar waith, a fydd yn cynnal a gwella ein bioamrywiaeth leol.  Rydym yn falch bod yr ysgolion yn cymryd rhan, ac yn hynod falch bod y disgyblion yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y sir.”

Datganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Plannwyd bron i 5,000 o goed newydd ar ddechrau 2022 ledled Sir Ddinbych gan greu safleoedd coetir newydd i gynorthwyo i ostwng allyriadau carbon a hybu adferiad natur.

Roedd y rhain yn ychwanegol i 18,000 o goed a gafodd eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth Sir Ddinbych.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid