llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2023

Prosiect bioamrywiaeth pwysig gydag ysgolion wedi ymwreiddio

Mae disgyblion ar draws Sir Ddinbych wedi bod yn cynorthwyo yn y gwaith o blannu’r coed cyntaf o filoedd a fydd yn cael eu dosbarthu ymysg ysgolion Sir Ddinbych i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur.

Bydd tua 9,000 o goed yn cael eu plannu ar safleoedd ysgolion ledled y sir fel rhan o brosiect i wella bioamrywiaeth leol a chynyddu amsugniad carbon.

Mae staff y Cyngor o dimau Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad wedi gweithio gydag Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl ac Ysgol Uwchradd Prestatyn i ddechrau’r prosiect yma.

Ysgol Dewi Sant
Ysgol Uwchradd Prestatyn
Ysgol Llanrhaeadr

Mae staff y Cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion eraill i wella tiroedd presennol er mwyn cynyddu diddordeb i blant a bywyd gwyllt gan sicrhau hefyd y cedwir lle ar gyfer chwarae hamdden.

Rhai o’r ysgolion eraill sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Bro Famau, Ysgol Bodnant, Ysgol Melyd, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Clocaenog, Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Penmorfa.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y Cyngor: “Mae’n beth gwych gweld prosiect mor bwysig yn cael ei roi ar waith, a fydd yn cynnal a gwella ein bioamrywiaeth leol.  Rydym yn falch bod yr ysgolion yn cymryd rhan, ac yn hynod falch bod y disgyblion yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y sir.”

Datganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Plannwyd bron i 5,000 o goed newydd ar ddechrau 2022 ledled Sir Ddinbych gan greu safleoedd coetir newydd i gynorthwyo i ostwng allyriadau carbon a hybu adferiad natur.

Roedd y rhain yn ychwanegol i 18,000 o goed a gafodd eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth Sir Ddinbych.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...