llais y sir

Newyddion

Credyd Pensiwn

Ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth? Oes gennych chi deulu neu ffrindiau sydd wedi cyrraedd yr oed yma?

Oeddech chi’n ymwybodol y gallech chi, neu nhw, fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn?

Byddwch yn derbyn taflen drwy’r post ynghyd â’ch Bil Treth Cyngor dros yr wythnos nesaf gyda manylion pellach.

Gwiriwch os ydych yn gymwys neu siaradwch gyda theulu neu ffrindiau. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gallwch ffonio nhw ar 0800 991 234.

Bydd y fideo canlynol hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi: https://www.youtube.com/watch?v=sIWqdsmW5k0

Hoffem glywed eich barn am ein gwasanaethau: Mae gennych tan 19fed o Fawrth i roi eich barn i ni

Hoffem glywed eich barn am y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu, a’ch barn am Sir Ddinbych a’ch ardal chi. Pa un a ydych yn byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, llenwch ein harolwg a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl! Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i’n helpu ni i wella gwasanaethau sy’n bwysig i chi, yn ogystal â monitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol. I gymryd rhan a dweud eich dweud, ewch i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk neu sganiwch y cod QR isod:

Mae gennych tan 19 Mawrth i gwblhau’r arolwg. Er mwyn gweld ein Cynllun Corfforaethol cyfredol, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/CynllunCorfforaetholEr mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i borth Sgwrs y Sir, http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk, a chofrestrwch ar gyfer Y Panel!

Bydd copïau papur o’r arolwg ar gael hefyd yn Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad Sir Ddinbych.

Y Cyngor i barhau â’r rhaglen ddatblygu ‘Meicro-ddarparwr’ llwyddiannus

Bydd y Cyngor yn parhau i gynnig rhaglen ddatblygu am ddim sy’n cefnogi preswylwyr i sefydlu eu gwasanaeth meicro-ddarparwr eu hunain yn eu cymunedau lleol, yn dilyn llwyddiant y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae ‘meicro-ddarparwyr’ yn cynnig gofal a chefnogaeth i bobl hŷn ac anabl yn eu cartrefi eu hunain, i’w helpu i fyw eu bywydau eu ffordd eu hunain. Hyd yma, mae dros 20 meicro-ddarparwr yn Sir Ddinbych, sy’n cefnogi tua 140 o breswylwyr.

Nid yw’n costio i ymuno â’r rhaglen fentora ac mae’n caniatáu i feicro-ddarparwyr weithio iddyn nhw eu hunain, dewis eu horiau, gweithio’n lleol a chynnig gwasanaeth y byddant yn falch ohono.

Mae’r rhaglen yn cynnig pwynt cyswllt cyfeillgar a chefnogol i helpu i sefydlu’r gwasanaeth meicro-ddarparwyr. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth ymarferol ar reoleiddio, hyfforddiant a chyfleoedd yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae meicro-ddarparwyr yn cynnig ystod o wasanaethau; cymorth ymarferol o amgylch y tŷ, glanhau, helpu gyda phrydau bwyd, DIY, siopa, gofal personol, mynd â chŵn am dro, cwmnïaeth a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn wasanaeth gwych sy’n helpu i ddarparu ystod o wasanaethau hanfodol i’r gymuned leol. Rydw i’n edrych ymlaen at weld ein meicro-ddarparwyr allan yn helpu yn ein cymunedau ar draws y sir gyfan.”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/menter-meicro-ddarparwr.

Gwaith Amddiffyn yr Arfordir

Mae'r Cyngor yn gwneud gwaith i ddisodli amddiffynfeydd arfordirol yng Nghanol y Rhyl a Phrestatyn.

Maent yn brosiectau parhaus i amddiffyn arfordir Sir Ddinbych a rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth iddynt ddechrau ar y gwaith. Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda’i bartner Balfour Beatty i ddylunio’r ddau gynllun a’r gost gyfunol yw £92 miliwn. Cefnogir y cynlluniau hyn gan gyllid Llywodraeth Cymru a bydd y strwythurau arfordirol newydd yn lleihau’r risg o lifogydd ymhellach ac yn rhoi sicrwydd i gymunedau o ganlyniad i lefelau’r môr yn codi a achoswyd gan newid hinsawdd.

Wrth i waith ddechrau bydd cyfres o ddatganiadau i’r wasg a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi i breswylwyr lleol yn eu hysbysu am bob cam o’r gwaith. Bydd gwaith yn cymryd dwy flynedd a hanner i’w gwblhau. 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: "Mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu diogelu rhag unrhyw risg posibl o lifogydd. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn addasu ein trefi’n briodol ar gyfer y dyfodol, fel eu bod wedi eu hamddiffyn rhag effeithiau negyddol a fydd yn dod yn sgil cynhesu byd-eang. Amddiffyn y cyhoedd a busnesau yw prif flaenoriaeth y Cyngor; mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i'n gwefan

Ymunwch efo ni mewn diwrnod rhannu gwybodaeth ryngweithiol

Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth ryngweithiol ar 6 Ebrill yn Neuadd y Dref, Y Rhyl.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at joanne.evans@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid