llais y sir

Newyddion

Credyd Pensiwn

Ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth? Oes gennych chi deulu neu ffrindiau sydd wedi cyrraedd yr oed yma?

Oeddech chi’n ymwybodol y gallech chi, neu nhw, fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn?

Byddwch yn derbyn taflen drwy’r post ynghyd â’ch Bil Treth Cyngor dros yr wythnos nesaf gyda manylion pellach.

Gwiriwch os ydych yn gymwys neu siaradwch gyda theulu neu ffrindiau. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gallwch ffonio nhw ar 0800 991 234.

Bydd y fideo canlynol hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi: https://www.youtube.com/watch?v=sIWqdsmW5k0

Hoffem glywed eich barn am ein gwasanaethau: Mae gennych tan 19fed o Fawrth i roi eich barn i ni

Hoffem glywed eich barn am y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu, a’ch barn am Sir Ddinbych a’ch ardal chi. Pa un a ydych yn byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, llenwch ein harolwg a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl! Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i’n helpu ni i wella gwasanaethau sy’n bwysig i chi, yn ogystal â monitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol. I gymryd rhan a dweud eich dweud, ewch i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk neu sganiwch y cod QR isod:

Mae gennych tan 19 Mawrth i gwblhau’r arolwg. Er mwyn gweld ein Cynllun Corfforaethol cyfredol, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/CynllunCorfforaetholEr mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i borth Sgwrs y Sir, http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk, a chofrestrwch ar gyfer Y Panel!

Bydd copïau papur o’r arolwg ar gael hefyd yn Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad Sir Ddinbych.

Y Cyngor i barhau â’r rhaglen ddatblygu ‘Meicro-ddarparwr’ llwyddiannus

Bydd y Cyngor yn parhau i gynnig rhaglen ddatblygu am ddim sy’n cefnogi preswylwyr i sefydlu eu gwasanaeth meicro-ddarparwr eu hunain yn eu cymunedau lleol, yn dilyn llwyddiant y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae ‘meicro-ddarparwyr’ yn cynnig gofal a chefnogaeth i bobl hŷn ac anabl yn eu cartrefi eu hunain, i’w helpu i fyw eu bywydau eu ffordd eu hunain. Hyd yma, mae dros 20 meicro-ddarparwr yn Sir Ddinbych, sy’n cefnogi tua 140 o breswylwyr.

Nid yw’n costio i ymuno â’r rhaglen fentora ac mae’n caniatáu i feicro-ddarparwyr weithio iddyn nhw eu hunain, dewis eu horiau, gweithio’n lleol a chynnig gwasanaeth y byddant yn falch ohono.

Mae’r rhaglen yn cynnig pwynt cyswllt cyfeillgar a chefnogol i helpu i sefydlu’r gwasanaeth meicro-ddarparwyr. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth ymarferol ar reoleiddio, hyfforddiant a chyfleoedd yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae meicro-ddarparwyr yn cynnig ystod o wasanaethau; cymorth ymarferol o amgylch y tŷ, glanhau, helpu gyda phrydau bwyd, DIY, siopa, gofal personol, mynd â chŵn am dro, cwmnïaeth a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn wasanaeth gwych sy’n helpu i ddarparu ystod o wasanaethau hanfodol i’r gymuned leol. Rydw i’n edrych ymlaen at weld ein meicro-ddarparwyr allan yn helpu yn ein cymunedau ar draws y sir gyfan.”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/menter-meicro-ddarparwr.

Gwaith Amddiffyn yr Arfordir

Mae'r Cyngor yn gwneud gwaith i ddisodli amddiffynfeydd arfordirol yng Nghanol y Rhyl a Phrestatyn.

Maent yn brosiectau parhaus i amddiffyn arfordir Sir Ddinbych a rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth iddynt ddechrau ar y gwaith. Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda’i bartner Balfour Beatty i ddylunio’r ddau gynllun a’r gost gyfunol yw £92 miliwn. Cefnogir y cynlluniau hyn gan gyllid Llywodraeth Cymru a bydd y strwythurau arfordirol newydd yn lleihau’r risg o lifogydd ymhellach ac yn rhoi sicrwydd i gymunedau o ganlyniad i lefelau’r môr yn codi a achoswyd gan newid hinsawdd.

Wrth i waith ddechrau bydd cyfres o ddatganiadau i’r wasg a diweddariadau yn cael eu cyhoeddi i breswylwyr lleol yn eu hysbysu am bob cam o’r gwaith. Bydd gwaith yn cymryd dwy flynedd a hanner i’w gwblhau. 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: "Mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu diogelu rhag unrhyw risg posibl o lifogydd. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn addasu ein trefi’n briodol ar gyfer y dyfodol, fel eu bod wedi eu hamddiffyn rhag effeithiau negyddol a fydd yn dod yn sgil cynhesu byd-eang. Amddiffyn y cyhoedd a busnesau yw prif flaenoriaeth y Cyngor; mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i'n gwefan

Ymunwch efo ni mewn diwrnod rhannu gwybodaeth ryngweithiol

Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth ryngweithiol ar 6 Ebrill yn Neuadd y Dref, Y Rhyl.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at joanne.evans@sirddinbych.gov.uk.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes eich teulu?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hel achau a hanes teulu? Ydych chi erioed wedi meddwl ymchwilio i'ch coeden deulu?

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi nawr gael mynediad am ddim i Find My Past yn eich llyfrgell leol, gan gynnwys mynediad i Gyfrifiad 1921. Mae hyn yn ychwanegol at y mynediad am ddim i Ancestry sydd eisoes ar gael yn ein holl lyfrgelloedd. I ddefnyddio un o'r adnoddau hanes teulu gwych hyn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw defnyddio'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN i fewngofnodi i un o'n cyfrifiaduron llyfrgell – dim ond ar gyfer unrhyw allbrintiau y bydd angen talu.

Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan

Gwasanaeth Dechrau Da yn lansio llyfr newydd i fabanod

Gwasanaeth Dechrau Da yn lansio llyfr newydd i fabanod

Mae llyfr newydd ar gyfer babis bach wedi ei lansio gan wasanaeth Dechrau Da Llyfrgelloedd Sir Ddinbych i helpu rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant.

Yn ystod sesiwn amser rhigwm babis arbennig yn Llyfrgell Llanelwy yr wythnos hon, cyflwynwyd y copiau cyntaf o Siarad Babi: Du a Gwyn i fabis a rhieni. Eglurodd staff Dechrau Da Sir Ddinbych sut i ddefnyddio’r llyfr gyda babi bach iawn gan awgrymu rhigymau a chaneuon i’w canu gyda’r delweddau.

Dywedodd Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, “Mewn du a gwyn a llwyd yn unig y gall babis weld wedi eu geni, felly mae’r llyfr newydd yma wedi ei gynllunio yn arbennig ar eu cyfer gyda delweddau du a gwyn syml a chlir. Mae modd gosod y llyfr igamogam wrth ochr babi pan maent yn gorwedd neu o’u blaen unwaith maent yn gorwedd ar eu boliau, neu gall riant rannu’r llyfr gyda’r babi yn eu côl. Bydd defnyddio’r llyfr yn helpu’r babi i ddatblygu’r sgiliau corfforol a deallusol i ffocysu eu llygaid, i droi a chodi eu pen ac i ymateb i’r llyfr a llais y rhiant.

“Rydym yn croesawu cannoedd o fabis a’u teuluoedd i’n llyfrgelloedd bob wythnos i fwynhau amser rhigwm Dechrau Da ac i fenthyg llyfrau fel aelodau llyfrgell.

“Roedden ni angen llyfr bach i’w roi fel anrheg yn fuan ar ôl genedigaeth gan nad yw hi byth yn rhy fuan i gyflwyno babis i lyfrau a rhigymau. Fe wnaethon ni gomisiynu’r lluniau gan artist graffeg ifanc lleol, Charlotte Chapple o Chalice Media, ac roedd hi’n bosib i ni gynhyrchu’r llyfr diolch i ariannu o Gronfa Datblygu’r Plentyn.

“Pan fydd y babis yma ychydig yn hŷn byddant yn derbyn rhodd o fagiau a llyfrau Dechrau Da – bydd y llyfr bach yma yn eu paratoi ar gyfer hyn. Byddwn yn dosbarthu’r llyfr i deuluoedd yn fuan trwy fydwragedd a gofalwyr iechyd ac fe fydd ar gael i’w gasglu o bob llyfrgell yn Sir Ddinbych.

Dyweddodd Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Rwy’n hynod o falch fod y llyfr bach yma wedi ei gyhoeddi gan dîm Dechrau Da ein llyfrgelloedd. Gobeithiaf y bydd yn gychwyn ar oes o gariad tuag at lyfrau, darllen a llyfrgelloedd i’r babanod fydd yn ei dderbyn. Mae gwasanaeth Dechrau Da Sir Ddinbych yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r gefnogaeth a gynigir i holl deuluoedd a phlant bach Sir Ddinbych, i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, dysgu a chymdeithasu, ac i roi cyfle i rieni gyfarfod a chreu cylchoedd ffrindiau newydd. Rwy’n llongyfarch y gwasanaeth llyfrgell ar fenter lwyddiannus arall a hoffwn annog pob rhiant i ddod â’u plant bach i’r llyfrgell yn rheolaidd.”

Gwasanaeth llyfrgell yn dechrau pennod drydanol newydd

Mae gwasanaeth llyfrgell cartref y Cyngor wedi croesawu pennod newydd diolch i bŵer trydan.

Bydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn derbyn fan Peugot e-expert er mwyn lleihau allyriadau carbon y gwasanaeth llyfrgelloedd cartref.

Bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae’r ymgyrch i leihau allyriadau carbon ar draws y Cyngor yn cynnwys lleihau’r allyriadau carbon o gerbydau fflyd.

Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd cartref yn cefnogi’r unigolion nad ydynt yn gallu ymweld â’r llyfrgell yn sgil salwch, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. 

Mae’n gallu ymweld â chartrefi, llety gwarchod, cartrefi gofal neu ganolfannau dydd unwaith y mis. 

Gall pobl ddefnyddio’r catalog ar-lein i wneud cais am eitemau 24 awr y dydd ac mae’r gwasanaeth yn cynnig casgliad eang i’w benthyg am fis ar y tro - gan gynnwys llyfrau, llyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg a gallwch lawrlwytho e-lyfrau a phapurau newydd digidol yn rhad ac am ddim pe dymunech.

Mae’r elfen ychwanegol hon o’r gwasanaeth yn gallu teithio hyd at 200 milltir. 

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i leihau ein hôl-troed carbon, ac rwy’n falch o weld gwasanaeth mor allweddol yn derbyn dull cludiant modern i’n helpu i gyflawni’r nod hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Bydd y fan drydan yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth cartref pwysig i’r rheiny nad ydynt yn gallu ymweld â’r llyfrgell i’w galluogi i barhau i fwynhau’r buddion gwych y mae ein llyfrgelloedd yn eu cynnig.

I gysylltu â’r Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref, ffoniwch Llyfrgell Rhuthun ar 01824 705274 neu anfonwch e-bost at llyfrgell.rhuthun@sirddinbych.gov.uk

Twristiaeth

Rhaglen Orlawn yn Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych

Bydd Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 21 Mawrth yng Ngwesty Oriel House, Llanelwy o 10.30am tan 1.30pm.

Mae’r Fforwm yn gyfle gwych i gynrychiolwyr glywed am y datblygiadau diweddaraf ym myd twristiaeth, cwrdd â busnesau tebyg o’r un feddylfryd a rhannu profiadau.

Y siaradwyr gwadd fydd Robyn Lovelock, Rheolwr y Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Uchelgais Gogledd Cymru, a fydd yn rhoi cyflwyniad am gynnydd a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â Bargen Dwf Gogledd Cymru. Bydd Jenny a Tom Williams o The Laundry Retreat yn Llanrhaeadr yn adrodd eu hanes am y busnes teuluol hwn a sut mae wedi tyfu. Alice Kirwan, Cydlynydd Cyflogaeth, a fydd hefyd yn trafod rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio a chynllun Work Start.

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: “Mae’r Fforwm yn blatfform gwych i bawb yn y sector i ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth, syniadau a chynlluniau i sicrhau twf twristiaeth cynaliadwy yn y dyfodol. Nid digwyddiad ar gyfer busnesau twristiaeth yn unig yw hwn, mae’n gyfle da i fyfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant.”

Bydd amrywiaeth o stondinau gwybodaeth yn y digwyddiad, gan gynnwys Croeso Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Busnes Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Banc Datblygu Cymru a Rheilffordd Llangollen.

Archebwch le AM DDIM yn y Fforwm Twristiaeth yma.  

Taith Ymgyfarwyddo gyda'r Tîm Twristiaeth

Yr wythnos diwethaf fe aethom ar y pumed daith Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan Dîm Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych, a gynlluniwyd i amlygu rhannau gorau’r ardal gyda busnesau twristiaeth lleol fel y gallant rannu’r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dyrchu’n ddyfnach i’n hanes lleol, atyniadau, caffis a siopau.

Y tro hwn fe wnaethom ganolbwyntio ar Ddyffryn Clwyd, ardal sydd wedi elwa o arwyddion newydd yn ddiweddar. Tynnodd ein tywysydd Pete sylw at deithiau cerdded fel Lady Baggot's Drive ar hyd Afon Clywedog ar y ffordd i Ddinbych a’r rheswm dros yr enw Pwll y Grawys yn Ninbych oedd oherwydd cyn iddo gael ei ddraenio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dilyn epidemig colera byddai wedi cael ei stocio gyda physgod a oedd yn darparu bwyd i bobl y dref a’r garsiwn yn Ninbych yn ystod y Grawys.

Cafwyd sgwrs gan Roland yn Llyfrgell Dinbych a eglurodd iddo gael ei adeiladu’n wreiddiol fel Neuadd y Dref gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr a Barwn Dinbych ym 1572. Roedd Dudley yn ffefryn mawr gan Elisabeth I ar y pryd ac roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu Eglwys Caerlŷr. Wedi'i ailfodelu'n helaeth ym 1780, yn wreiddiol roedd yr adeilad yn neuadd farchnad a llys ac yna cafodd ei ddefnyddio fel neuadd y dref hyd at ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae'r adeilad bellach yn llyfrgell gyhoeddus helaeth dros tri llawr. Mae oriau agor i’w gweld yma.

Yna, bu i ni gerdded i fyny i Gastell Dinbych ar hyd y llwybr cyswllt yn Lôn Brombil, gan fwynhau’r gyfres o waith celf ar hyd y ffordd yn darlunio barddoniaeth gan Rhys Trimble, gosodiadau golau ar ffurf Banadl yn ogystal â stori’r Mabinogi, Blodeuwedd sy’n cael ei hadnabod fel Duwies y blodau a redodd i ffwrdd i'r goedwig, dim ond i gael ei holrhain gan Gwydion, dewin sy'n cael ei gynddeiriogi gan frad ei nai. Mae hi'n cael ei throi'n dylluan, i grwydro yn y nos yn unig, ac nid yw’n cael gweld pelydrau'r haul yr oedd yn eu caru gymaint ac yn mynd i fyw bywyd unig. Pan gyrhaeddwch ben y lôn fe welwch darian hardd o flodau, trowch yn ôl ar y ffordd rydych newydd ei cherdded ac fe welwch dylluan hardd yn hedfan.

Bu i ni gerdded i'r Castell drwy Borth Burgess oedd yn un o'r ddwy brif fynedfa i'r dref gaerog. Mae Dinbych (sy'n golygu caer fechan) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Sonnir am y dref gyntaf mewn cofnodion yn y blynyddoedd yn dilyn y Goncwest Normanaidd pan ddaeth yn dref ar y ffin yn gwarchod y ffordd ddynesu at Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae'n debyg mai Dinbych hefyd oedd lleoliad tref gaerog yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid ac yn y deuddegfed ganrif roedd pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, Ein Llyw Olaf, yma. Creodd Edward I Arglwyddiaeth Dinbych ym 1282 a roddwyd i Henry de Lacy a awdurdododd i Gastell Dinbych gael ei adeiladu dros gadarnle Dafydd ap Gruffydd. Nodwedd orau'r castell yw ei Borthdy Mawr tri thŵr ac arno stamp digamsyniol Meistr Iago o Lansan Siôr, y pensaer a oedd yn gyfrifol am holl gestyll mawr Edward I yng Ngogledd Cymru.

Gwelsom weddillion Eglwys anorffenedig Caerlŷr. Dechreuwyd adeiladu ym 1578 gyda’r bwriad o fod yr un mwyaf mawreddog o’r cyfnod, wedi’i gynllunio ar gyfer gwasanaeth Protestannaidd ac o bosibl yn cymryd lle Capel St Hilari ac o bosibl Cadeirlan Llanelwy. Oherwydd diffyg cyllid a gwrthwynebiad lleol cafodd ond ei datblygu hyd at uchder y ffenestr ac fe’i gadawyd yn llwyr pan fu farw Dudley ym 1588. Effeithiodd ei farwolaeth yn fawr ar Elisabeth I a chadwodd ei lythyr olaf ati wrth erchwyn ei gwely tan y bu iddi hi farw 15 mlynedd yn ddiweddarach.

 

Ein stop nesaf oedd cinio bendigedig yng nghaffi’r Cyfieithwyr yng Nghadeirlan Llanelwy. Daeth yn amser am ychydig o rwydweithio a sgwrs gan David am hanes cyfoethog ac amrywiol y gadeirlan. Cafodd ei hadeiladu’n gyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg ond yn ‘llwybr rhyfel’ peryglus Tywysogion Cymru a Brenhinoedd Lloegr ychydig a wyddys faint o ddifrod y byddai’r adeilad gwreiddiol wedi’i ddioddef. Cafodd ei ailfodelu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan ddefnyddio tywodfaen melynaidd graen mân a gloddiwyd yn y Fflint ar gyfer casin allanol y waliau ac ar gyfer myliynau a gwaith cerfiedig arall. Fe'i defnyddiwyd fel stabl gan Owain Glyndŵr yn 1402 ac ers hynny mae wedi dod yn adeilad hardd fel a welwn heddiw. Mae wir yn eich synnu ac mae ar agor gyda gwasanaeth 365 diwrnod y flwyddyn a chôr gweithredol y byddwch efallai'n clywed yn ymarfer yn ystod eich ymweliad. 

Yna, bu i ni ymweld â Chastell Rhuddlan un arall o gadarnleoedd Edward I. Hoffai i'w gestyll fod ar yr arfordir er mwyn cael nwyddau’n hawdd dros y môr pe na bai ei ymgyrch yn erbyn y Cymry yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd. Ond gan fod Rhuddlan yn fewndir, y cynllun oedd defnyddio afon Clwyd yn lle. Fe orfododd Edward gannoedd o gloddwyr ffosydd i ddyfnhau a dargyfeirio ei gwrs. Mae Castell Rhuddlan yn parhau i edrych fel castell yr oedd hi’n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 a hwn oedd y castell cyntaf o’r math consentrig arloesol, neu ‘waliau o fewn waliau’ a ddyluniwyd gan y meistr bensaer Iago o Lansan Siôr. Mae’n hawdd gweld cynllun grid y strydoedd canoloesol yn Rhuddlan yr oes fodern a’i ffosydd.

Yna bu i ni gerdded ar draws i Eglwys y Santes Fair sydd wedi bod yn gwasanaethu pobl Rhuddlan ers 1301 fel man i weddïo ac addoli, dathlu a chofio. Mae’n Eglwys hardd ac yn werth ei gweld, fe’i symudwyd i’r safle hwn gan Edward I ac mae’n ymddangos ei fod yn hoff iawn o symud pethau i weddu i’w gynlluniau cyffredinol. Y tu mewn mae llawer o luniadau canoloesol a ddadorchuddiwyd gan waith adnewyddu blaenorol a chredir eu bod ymhlith y cynharaf sy'n dal i fodoli yng Nghymru.

Fe wnaethom orffen ein diwrnod gydag ymweliad ag Eglwys y Santes Fererid (a elwir hefyd yn Yr Eglwys Farmor), Bodelwyddan. Mae’r Eglwys blwyf hon sydd wedi’i haddurno mewn Arddull Gothig gyda meindwr 202 troedfedd i’w gweld am filltiroedd yn rhan isaf Dyffryn Clwyd ac mae’n hawdd ei chyrraedd o ffordd gyflym yr A55.

Comisiynwyd yr eglwys gan y Foneddiges Margaret Willoughby de Broke o Gastell Bodelwyddan gerllaw er cof am ei gŵr, Henry Peyto-Verney, Barwn Willoughby de Broke rhif 16. Gosododd y garreg sylfaen ar 24 Gorffennaf 1856 a chysegrwyd yr eglwys newydd, a gynlluniwyd gan John Gibson, gan Esgob Llanelwy ar 23 Awst 1860 ar ôl ei hadeiladu ar gost o £60,000. Crëwyd plwyf newydd Bodelwyddan ar 3 Awst 1860. Oherwydd ei ddeunydd a'i ddyluniad moethus cafodd y llys enw  'The Pearl of the Vale'.

Mae'r eglwys yn cynnwys pedwar math ar ddeg o farmor gan gynnwys pileri wedi'u gwneud o farmor Coch Gwlad Belg, mae mynedfa corff yr eglwys wedi'i gwneud o farmor Môn a siafftiau o farmor Languedoc ar sylfaen o farmor Purbeck. Mae hefyd yn cynnwys gwaith coed cywrain, ac yn y tŵr gellir dod o hyd i ffenestri gwydr lliw ar yr ochr ogleddol a deheuol, yn cynnwys y Santes Fererid a Sant Cyndeyrn. Os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ei henw hi a'i gŵr wedi'u cerfio yn y to yn ogystal â'u hwynebau, yn amlwg roedd ganddi lawer o fewnbwn i'r dyluniad yn ogystal â bod yn gofeb hardd i'w diweddar ŵr.

Yn sicr, fe wnaethom wneud llawer yn ystod ein diwrnod yn y Dyffryn ac os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ardal beth am ystyried cymryd rhan yn ein cwrs Llysgennad rhad ac am ddim? Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyfres o fodiwlau ar-lein ar wahanol themâu sy’n berthnasol i’r ardal gan gynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae tair lefel o wobrau - efydd, arian ac aur. Fe anogir preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i fod yn Llysgenhadon i ddysgu mwy am rinweddau unigryw'r ardal. Os hoffech wybod mwy am y cynllun neu os hoffech dderbyn ein newyddlenni, cysylltwch â ni.

 

Sir Ddinbych yn Gweithio

Ffair Swyddi: 8fed o Fawrth

Mi fydd yna Ffair Swyddi yn cael ei chynnal dydd Mercher, 8fed o Fawrth yn Neuadd y Dref, Llangollen LL20 8PW (11am – 3pm).

Mae’r Ffair Swyddi hon yn rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan y Cyngor mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llangollen. 

Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae’r rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith. 

Drwy gynnal y digwyddiad hwn, rydym yn gobeithio y gallwch chi gyfarfod pobl sydd â diddordeb yn y math o waith sydd ar gael ac sydd â’r sgiliau a’r profiad yr ydych yn chwilio amdano. Mae digwyddiadau o’r fath o fudd i bawb. 

Unigolyn Ifanc NEET yn mynd i leoliad gwaith cyflogedig ar y Cynllun Dechrau Gweithio

Cafwyd hunan-atgyfeiriad gan unigolyn ifanc o Dde Sir Ddinbych. Roedd cyfranogwr A wedi cwblhau ei TGAU yn 2022 ac nid oedd am ddychwelyd i addysg. Gofynnodd am gefnogaeth i gynyddu ei phrofiad ac i ddod o hyd i swydd addas ym maes gweinyddu, a gwneud cais amdani.

Trefnwyd iddi gofrestru wyneb yn wyneb yn y llyfrgell agosaf i'w chartref. Roedd Cyfranogwr A yn NEET (Nid mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), yn economaidd anweithgar ac yn byw gyda'i rhieni. Ei rhwystrau i gyflogaeth oedd diffyg profiad a chludiant. Yn ddelfrydol, roedd hi eisiau gweithio'n agos i'w chartref fel nad oedd yn rhaid iddi ddibynnu ar ei mam am lifft.

Yn ei hapwyntiad cyntaf, cwblhawyd yr holl waith papur cofrestru, gan gynnwys ei Seren Gwaith, a gwnaeth y tîm ddatblygu cynllun cefnogaeth. 

Mae ei Chynllun Gweithredu a’r hyn y bu y tîm yn gweithio arno fel a ganlyn:

  • Adolygu a diweddaru CV cyfredol
  • Cefnogaeth i ymgeisio am swydd Cynllun Dechrau Gweithio
  • Cefnogaeth gyda’r cam cyntaf a chyfweliad

Aeth y tîm drwy’r swydd-ddisgrifiad ar gyfer swydd wag cynorthwyydd gweinyddol i'r Cyngor, a thrafodwyd ei sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y rôl. Trafodwyd proses ymgeisio Cynllun Dechrau Gweithio a'r elfen werthfawr o gefnogaeth mewn gwaith gan swyddog lleoliad. Dywedodd cyfranogwr A yr hoffai gael cefnogaeth i ymgeisio.

Trefnwyd apwyntiad arall ar Microsoft Teams ychydig ddyddiau'n ddiweddarach i gwblhau'r ffurflen gais. Cafodd ei CV hefyd ei ddiweddaru a'i anfon mewn e-bost ati.

Cyrhaeddodd Cyfranogwr A y rhestr fer ar gyfer cyfweliad cam cyntaf. Cynhaliwyd y paratoadau ar gyfer y cyfweliad ar-lein drwy Microsoft Teams, ac roedd y mentor yn bresennol yn y cyfweliad cam cyntaf gyda hi, yn ogystal â swyddog lleoliad Sir Ddinbych yn Gweithio. Atebodd cyfranogwr A yn dda iawn, a chafodd ei gwahodd yn ôl am gyfweliad mwy ffurfiol gyda’r rheolwr recriwtio. Ar ôl mwy o baratoi ar gyfer y cyfweliad, roedd cyfranogwr A yn llwyddiannus! Mae Cyfranogwr A wedi dechrau lleoliad cyflogedig 12 wythnos gyda Chyngor Sir Ddinbych o fewn pellter cerdded i'w chartref. Mae hi hefyd yn cael cefnogaeth barhaus yn y gwaith tra ar leoliad. Bydd hyn yn cynyddu ei sgiliau ac yn rhoi profiad gwerthfawr iddi symud i rôl addas arall pan ddaw ei lleoliad i ben.

Adborth cyfranogwr: "Roedd fy mentor yn gefnogol iawn drwy’r holl broses, a gwnaeth yn siŵr fy mod yn gwbl barod gyda’r holl wybodaeth yr oeddwn ei hangen ar gyfer y cam cyntaf a’r cyfweliad. Fe helpodd fi gyda chwestiynau ymarfer a sut i ateb cwestiynau'n gywir. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi bod yn llwyddiannus heb gefnogaeth 'J'."

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn denu’r nifer uchaf erioed

Cynhaliwyd y Ffair Swyddi ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn Y Rhyl, ac fe groesawodd Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 50 o sefydliadau a chyflogwyr i gwrdd a thrafod cyfleoedd gyrfa gyda thrigolion Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf.

Daeth dros 250 i’r digwyddiad, y nifer uchaf erioed, a chawsant ddefnyddio dwy lefel y bwyty a’r bar glan y môr.

Bu amrywiaeth eang o gyflogwyr yn arddangos yn y ffair, gyda sefydliadau a gydnabyddir yn lleol a chenedlaethol fel Aldi, Qioptiq, Airbus, Y Gwasanaeth Tân, Y Fyddin a llawer mwy, gan ddarparu cyfleoedd i unigolion ar bob lefel o brofiad.

Cofrestrodd Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 35 o bobl ar eu fframwaith yn ystod y dydd. Bydd y gwasanaeth bellach yn rhoi cefnogaeth lawn i'r ymgeiswyr ar ôl y digwyddiad a hyd nes y byddant yn dod o hyd i waith.

Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Ymgysylltu Cyflogaeth yn Sir Ddinbych yn Gweithio: “Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a oedd yn bresennol a’r adborth o’r Ffair Swyddi. Hwn oedd ein digwyddiad gorau hyd yma ac rydym wedi rhagori ar yr holl fetrigau blaenorol. Daeth dros 250 o bobl drwy'r drysau, a thros 50 o arddangoswyr yn bresennol. Roedd cynnal y digwyddiad yn 1891 yn y Rhyl yn benderfyniad gwych, gan ganiatáu i ni gynyddu capasiti o dros 50% yn ogystal ag ychwanegu cyfleustra parcio ar y safle. Roedd adborth gan ymwelwyr yn hynod gadarnhaol, gyda 98% o'r mynychwyr yn nodi bod y digwyddiad yn ardderchog neu'n dda. Roedd yr adborth gan gyflogwyr a gawsom gan yr arddangoswyr hefyd yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod yn hyderus y byddant yn dysgu talent newydd o ganlyniad i fynychu. Gwnaethant hefyd sylwadau ar fanteision rhwydweithio gyda chymaint o bartneriaid busnes yn y digwyddiad. Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, a oedd o fudd mawr i bobl y Rhyl, yn ogystal â’r sir gyfan. Hoffwn ddiolch i holl dîm Sir Ddinbych yn Gweithio am eu gwaith caled a’u hymroddiad a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl ac yn hynod o lwyddiannus.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’n wych gweld bod cymaint wedi bod yn bresennol yn y ffair swyddi ddiweddaraf. Fe’u cynhelir i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogaeth i’r sir gyfan. Mae tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn i drefnu’r ffair hon, diolch iddynt am ei gwneud yn llwyddiant ysgubol.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Bws Benthyg yn galw yn Rhuthun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

Yn ddiweddar, daeth prosiect cydweithredol â bws yn llawn eitemau y mae modd eu hailddefnyddio i Rhuthun fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen y mae’r Cyngor Dylunio’n ei alw’n ‘Design Differently’.

Mae’r rhaglen yn ceisio trafod, deall yn well, a dathlu sut mae sefydliadau cymunedol yn cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau a gyflwynir gan newid hinsawdd.

Trwy’r rhaglen hon mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ar syniadau yn ymwneud â’r economi gylchol gyda staff o ReSource CIC a chwmni Bryson’s Recycling. Bydd Bryson's Recycling yn gweithio gyda Resource CIC i ryng-gipio eitemau sydd wedi'u tynghedu ar gyfer tirlenwi a allai gael eu rhoi a'u hailddefnyddio drwy brosiect Bws Benthyg.

Penderfynwyd canolbwyntio ar ddangos Bws Benthyg sy’n brosiect cymharol newydd yn Sir Ddinbych.

Mae nifer o eitemau ar gael o’r Bws Benthyg i bobl eu benthyg am gyfnod byr yn hytrach na’u prynu o’r newydd, yn amrywio o beiriannau torri gwair i bistylloedd siocled. 

Mae hyn yn cefnogi lleihau deunydd gwastraff nad oes modd eu hailgylchu, sy’n niweidiol i’r amgylchedd ac a gaiff eu taflu pan fydd angen eitemau newydd ar bobl.

Roedd y Bws Benthyg yn yr Hen Lys gyda chynrychiolwyr o’r prosiect cydweithredol a chafodd eitemau o’r bws eu harddangos a darparwyd gwybodaeth am sut i’w defnyddio gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn ein bod ni a’n partneriaid wedi gallu cynnal ac arddangos y gwasanaeth unigryw hwn yn Rhuthun ac rwy’n gobeithio ei fod yn ddefnyddiol iawn i breswylwyr wrth ddangos sut gall ailddefnyddio wneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Prosiect bioamrywiaeth pwysig gydag ysgolion wedi ymwreiddio

Mae disgyblion ar draws Sir Ddinbych wedi bod yn cynorthwyo yn y gwaith o blannu’r coed cyntaf o filoedd a fydd yn cael eu dosbarthu ymysg ysgolion Sir Ddinbych i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur.

Bydd tua 9,000 o goed yn cael eu plannu ar safleoedd ysgolion ledled y sir fel rhan o brosiect i wella bioamrywiaeth leol a chynyddu amsugniad carbon.

Mae staff y Cyngor o dimau Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad wedi gweithio gydag Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr, Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl ac Ysgol Uwchradd Prestatyn i ddechrau’r prosiect yma.

Ysgol Dewi Sant
Ysgol Uwchradd Prestatyn
Ysgol Llanrhaeadr

Mae staff y Cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion eraill i wella tiroedd presennol er mwyn cynyddu diddordeb i blant a bywyd gwyllt gan sicrhau hefyd y cedwir lle ar gyfer chwarae hamdden.

Rhai o’r ysgolion eraill sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Bro Famau, Ysgol Bodnant, Ysgol Melyd, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Clocaenog, Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Penmorfa.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y Cyngor: “Mae’n beth gwych gweld prosiect mor bwysig yn cael ei roi ar waith, a fydd yn cynnal a gwella ein bioamrywiaeth leol.  Rydym yn falch bod yr ysgolion yn cymryd rhan, ac yn hynod falch bod y disgyblion yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y sir.”

Datganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Plannwyd bron i 5,000 o goed newydd ar ddechrau 2022 ledled Sir Ddinbych gan greu safleoedd coetir newydd i gynorthwyo i ostwng allyriadau carbon a hybu adferiad natur.

Roedd y rhain yn ychwanegol i 18,000 o goed a gafodd eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth Sir Ddinbych.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cyflwyno Gwobr Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2022

Mae gwirfoddolwr o Lanarmon-yn-Iâl sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth wedi cael ei chyflwyno â gwobr cefn gwlad haeddiannol

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cyflwyno gwobr yn flynyddol i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r dirwedd.

Eleni mae’r gwobrau yn cydnabod gwaith gwirfoddol Christine Evans.

Cyn iddi ymddeol roedd Christine yn ymgynghorydd wroleg a llawfeddyg trawsblaniad ac yn gyfrifol am roi Ysbyty Glan Clwyd ar y map wroleg.

Derbyniodd wobr ym 1997 fel meddyg ysbyty'r flwyddyn a derbyniodd y wobr uchaf posib gan Wroleg Prydain.

Mae Christine wedi gweithio’n ddiflino yn y trydydd byd hefyd yn cynnwys Errbil a Duhok yng Ngogledd Irac, Zimbabwe, Zambia i enwi dim ond rhai lle mae hi wedi helpu i ddatblygu gwasanaethau wroleg hanfodol.

Mae hi wedi bod yn rhan o bartneriaeth AHNE ers nifer o flynyddoedd a daeth yn rhan o’r Bartneriaeth gyntaf, neu'r Cydbwyllgor Ymgynghori fel yr arferai gael ei adnabod, pan oedd yn Gynghorydd Sir i Lanarmon-yn-Iâl ac wedi hynny yn aelod o Bartneriaeth AHNE.

Hi hefyd yw Cadeirydd y Gweithgor Treftadaeth, Diwylliant a Chymunedau, dyma rôl y mae hi’n ei gymryd o ddifri ac yn anaml iawn y bydd hi’n methu cyfarfod ac weithiau y mae hi’n cyflenwi dod â chacennau o'r siop yn Llanarmon!

Mae Christine yn gwneud ei gorau i fynychu ymweliadau safle ac yn un o’r bobl gyntaf i roi cynnig ar y ‘Tramper’ (sgwter oddi ar y ffordd i bobl anabl - y prynodd Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy).

Hi yw un o aelodau Bwrdd gwreiddiol Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac unwaith eto mae hi wastad ar gael i helpu ym mhob ffordd posib.

Ailddechreuodd Christine y Clwb Ieuenctid rhwng 2009 a 2017 a gynhaliwyd yn yr Hen Dŷ Ysgol, Llanarmon. Rhedodd Chrisine y clwb hefyd yn ystod yr amser hwn.

Meddai Howard Sutcliffe, Swyddog yr AHNE: “Mae’r AHNE wedi elwa dros y blynyddoedd gan bawb sydd wedi rhoi eu hamser ac ymdrech i helpu gwella’r dirwedd a chymunedau’r AHNE ac mae’n bwysig bod yr AHNE yn cydnabod a gwerthfawrogi’r bobl a'r grwpiau arbennig hynny.

“Mae Christine wedi bod yn rhan hanfodol o roi’r ‘galon’ yn ôl yng nghymuned Llanarmon-yn-Iâl gyda’i chefnogaeth i’r Raven sef y dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned. Mae Christine hefyd yn wirfoddolwr rheolaidd yn y Siop Gymunedol."

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth AHNE, Andrew Worthington, OBE: “Mae Christine yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae ei brwdfrydedd, egni a’i gallu i weithio gyda phobl ar bob lefel er lles eraill yn haeddu parch ac edmygedd. Mae’n amlwg i unrhyw un bod gan Christine ymrwymiad gwirioneddol i'r AHNE a bydd yn cynorthwyo ar unrhyw lefel i geisio diogelu ei dyfodol.

“Ar ran y tîm AHNE a’r Bartneriaeth hoffwn ddiolch i Christine am ei gwaith diwyd i’r AHNE ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddi.”

Meddai Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd David Hughes (Aelod): “Dwi’n hynod o falch fod Christine wedi cael y wobr hon. Mae ei chymorth i’r AHNE wedi bod yn rhagorol dros y blynyddoedd ac mae hi wedi ysbrydoli gymaint o bobl.”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio y Cyngor: “Dwi wrth fy modd fod Christine wedi ennill y wobr hon. Mae ei brwdfrydedd a’i hegni wrth gefnogi’r AHNE wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i gymaint o bobl a hoffwn ddiolch yn fawr iddi yn bersonol am ei holl waith caled.”

Noson ar y carped coch i sêr Ysgol y Gwernant

Cafodd disgyblion Ysgol y Gwernant, Llangollen, a’u teuluoedd droedio’r carped coch yr wythnos diwethaf, wrth i ffilm arbennig a grëwyd gan ddosbarth Blwyddyn 6 yr ysgol, sydd hefyd yn actio ynddi, gael ei dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Tref Llangollen.

Mae’r ffilm, sef ‘Antur Teithio mewn Amser: Darganfod Camera Obscura Castell Dinas Brân, 1869 – 1910’, yn ganlyniad prosiect ffilm y bu’r disgyblion yn gweithio arno gyda phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sef Cynllun Partneriaeth Tirlun a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dosbarth Blwyddyn 6 wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r gwneuthurwr ffilmiau, Rob Spaull, i ymchwilio, ysgrifennu, cynhyrchu ac actio yn y ffilm fer. Mae hon yn mynd â’r gwylwyr ar daith i’r gorffennol i ddarganfod hanes anhygoel Castell Dinas Brân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig y Camera Obscura a safai ar frig y bryn yn edrych dros y golygfeydd godidog islaw, ac a oedd yn atyniad mawr i dwristiaid oedd yn ymweld â Dyffryn Dyfrdwy i chwilio am harddwch arbennig.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i gynulleidfa o dros 100 o bobl, a chafodd y plant gerdded i mewn ar y carped coch, cael hwyl gyda bwth lluniau a mwynhau popcorn, cyn cael gwylio eu creadigaeth ar y sgrin fawr.

Yn yr un digwyddiad, lansiwyd hefyd, Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’ sef gwibdaith drwy Ddyffryn Dyfrdwy’r gorffennol a’r presennol, sy’n rhoi profiad i’r gwylwyr o olygfeydd a synau’r dirwedd drwy’r oesau.

Mae’r ddwy ffilm bellach ar gael i’w gwylio ar ein gwefan.

Dywedodd Y Cynghorydd  Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r prosiect yma’n dangos grŵp mor dalentog o bobl ifanc sydd yn Llangollen, a dw i’n siŵr y bydd hwn yn brofiad y bydd y plant yn ei gofio a’i werthfawrogi am amser hir iawn."

Dywedodd Hannah Marubbi, Rheolwr Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Roedd hi’n bleser gweithio gyda phlant Ysgol y Gwernant yn creu’r ffilm anhygoel yma, ac mae’n wych gweld eu mwynhad bod y ffilm yn cael ei arddangos o flaen eu cyfeillion, teulu a’r gymuned ehangach yn Llangollen. Rydym yn falch o allu rhannu’r animeiddiad digidol sydd wedi’i greu gan DextraVisual oedd yn edrych yn drawiadol iawn ar y sgrin fawr.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein galluogi i ddarparu’r profiadau yma sydd yn archwilio ein treftadaeth leol gyfoethog.”

Disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol y Gwernant yn gweithio gyda’r gwneuthurwr
ffilmiau, Rob Spaull i greu eu ffilm.

Y gynulleidfa yn Neuadd y Dref Llangollen yn mwynhau ffilm
Ysgol y Gwernant ar y sgrin fawr

Y Cynghorydd Win Mullen-James yn cyflwyno’r disgyblion gyda phoster o Ddinas Brân
wedi’i fframio fel cydnabyddiaeth o’r gwaith rhyfeddol yn creu’r ffilm.

Digwyddiad Ffeirio Hadau

Ymunwch â ni ym Mhlas Newydd, Llangollen ar 26 o Fawrth ar gyfer ein Digwyddiad Rhannu Hadau blynyddol! Dewch â’ch hadau a’ch toriadau dros ben i’w cyfnewid â garddwyr eraill.

Rhwng 10am a 11am bydd y digwyddiad ar agor i’r rhai sydd â hadau neu doriadau i’w cyfnewid, ac o 11am ymlaen bydd cyfle i unrhyw un sydd eisiau dechrau tyfu i ddod draw!

Rydym yn awgrymu bod y rhai nad ydynt yn dod â hadau i’w cyfnewid yn rhoi rhodd o 50c y pecyn.

Cynhelir raffl ar y thema garddio ar y diwrnod, yn ogystal â sesiwn gyda Natur er Budd Iechyd!

Defaid yn mynd i’r afael â chefnogi bioamrywiaeth ar lechwedd yn Sir Ddinbych

Mae defaid yn arwain prosiect i roi hwb i flodau gwyllt a bywyd gwyllt ar lechwedd yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi rhoi praidd o ddefaid ar Lechwedd Prestatyn i gynorthwyo â gwaith cynnal a chadw’r blodau gwyllt a’r bywyd gwyllt sy’n rhoi cymeriad arbennig i’r safle.

Mae cyflwyno’r anifeiliaid yn rhan o Brosiect ‘Cyfleoedd Unigryw – Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru’ a chafodd ei gefnogi a’i ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llechwedd Prestatyn yn un o 40 o safleoedd cadwraeth natur posibl y prosiect, a ddynodwyd am ei Laswelltiroedd Calchfaen sy’n brin yn rhyngwladol.

Nod y prosiect yw dod â phob safle dan gyfundrefnau rheoli cynaliadwy a lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol gan ddefnyddio offer a pheiriannau trwm, a chanolbwyntio ar ddefnyddio anifeiliaid traddodiadol sy’n pori fel gwartheg, defaid a cheffylau.

Cafodd diwrnodau ymgynghori cymunedol eu cynnal yn Y Sied ym Mhrestatyn i sgwrsio ag aelodau’r gymuned leol am y cynlluniau ar gyfer y llechwedd a chynhaliwyd Arolygon Botanegol ym mis Mehefin 2021 i ddeall yn well yr hyn a oedd ar y safle ar hyn o bryd a gweithredu fel cyfeirnod i roi cyfarwyddyd a monitro rheoli’r safle yn y dyfodol.

Gosodwyd ffensys a dŵr ym mis Ionawr 2022 a chafodd y deunyddiau i gyd eu cario i’r safle â llaw oherwydd hyn a hyn o gerbydau oedd ar gael. Cafodd giatiau mochyn eu gosod i sicrhau nad oedd mynediad wedi’i gyfyngu ar hyd y Llwybr Clawdd Offa.

Dywedodd Jack Parry, Swyddog Prosiect Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Gogledd Ddwyrain Cymru: “Mae'r defaid yn frîd gwydn sydd wedi arfer â phori ar dir uchel ac maen nhw’n gallu goroesi y tu allan mewn tywydd eithafol. Cyn belled eu bod nhw’n cael llonydd maen nhw’n ddigon bodlon yn pori. Mae defnyddio defaid i bori yn ein galluogi ni i reoli’r safle’n fwy cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio peiriannau ar y safle.

“Ein nod ni yw helpu’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Bydd y defaid yn ein helpu ni i gyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf gan gynnig hafan i löynnod byw a bywyd gwyllt arall.

“Bydd y defaid ar y safle am ddau fis ac yn pori ar un darn yn unig ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn cyfyngu ar fynediad, ond gofynnwn fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth dynn wrth fynd drwy’r darn â’r defaid ynddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Rwy’n falch i weld prosiect mor unigryw ar waith ar Lechwedd Prestatyn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y buddion yn ffynnu ar y safle.”

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Diwrnod Agored Baddondy Rhufeinig Prestatyn

Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnal diwrnod agored yn y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn, ar Melyd Avenue, Prestatyn LL19 8RN. Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 18 Mawrth, 10am-4pm. Mae lleoedd parcio ar gael yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, Princes Avenue, LL19 8RS.  Mae Melyd Avenue ar gael ar gyfer parcio i bobl anabl yn unig.

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld y gwaith sydd wedi’i wneud ar y gwaith cerrig.  Bydd cyfleoedd i weld y gwaith celf sydd wedi’i wneud gan blant ysgolion lleol. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael tro ar wneud eu crefftau Rhufeinig eu hunain, yn ogystal â gweld casgliad o arteffactau hanesyddol. 

Cafodd Baddondy Rhufeinig Prestatyn ei ddarganfod yn gyntaf yn ystod gwaith cloddio yn y 1930au. Cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir bod y Baddondy wedi’i adeiladu tua 120 OC, yna’i ymestyn yn 150 OC. Mae rhywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir bod cysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau. Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol. Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd y diwrnod agored yn dathlu’r cyfan y mae’r prosiect Baddondy Rhufeinig wedi’i gyflawni, yn cynnwys:

  • Gwaith i sefydlogi’r gwaith cerrig a oedd wedi dod yn rhydd dros amser.
  • Gwaith ar y llwybr o amgylch y baddondy.
  • Paneli gwybodaeth newydd.
  • Plannu blodau gwyllt.
  • Gweithdai celfyddyd ac ymweliadau safle ag ysgolion lleol.
  • Arddangosfa yn Llyfrgell Prestatyn i ddangos gwaith celf yr ysgolion.

Nod Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yw tynnu mwy o sylw at y Baddondy Rhufeinig, a sicrhau bod nifer cynyddol hirdymor o bobl yn ymweld â’r safle.

Baddondy Rhufeinig Prestatyn

Crefftau Rhufeinig

Arteffactau hanesyddol

Cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk i gael rhagor o fanylion.

 

Un o’r ffefrynnau gwylwyr adar yn profi gwlyptiroedd sy’n cael eu hadfywio

Mae’r gwlyptir yn gorwedd wrth ymyl cafn Prestatyn ac mae’n ffurfio ceuffos naturiol ar adegau o law trwm, gan weithredu fel amddiffynfa bwysig rhag llifogydd.

Mae un o’r adar mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd gwlyptir sy’n datblygu yn Sir Ddinbych.

Roedd yr 2ail o Chwefror yn Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd sy’n annog adfywio ac adfer gwlyptiroedd sydd wedi dirywio.

Mae'r ymgyrch hefyd yn cefnogi adfywio'r ardaloedd pwysig hyn i annog rhagor o fywyd gwyllt i ddychwelyd ac mae un o’r ardaloedd sy'n cael ei hadfywio wedi'i lleoli ym Mhrestatyn.

Dechreuodd y gwaith ar y Morfa, sy’n 35 erw o wlyptir ger Prestatyn yn 2020 pan gafodd ei brynu gan y Cyngor ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ei statws yn adnodd gwlyptir naturiol. Cafodd tri phwll eu creu ar y safle i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer byd natur y gwlyptir.

Mae manteision hyn yn cynnwys mwy o fioamrywiaeth, fflora ac adar yn ogystal ag atyniad gwlyptir i wylwyr adar ymweld ag ef o dri platfform gwylio. Mae gan bob platfform fwrdd dehongli yn sôn am yr ardal y mae’n edrych allan arni.

Mae’r gwlyptir yn gorwedd wrth ymyl cafn Prestatyn ac mae’n ffurfio ceuffos naturiol ar adegau o law trwm, gan weithredu fel amddiffynfa bwysig rhag llifogydd.

Ac yn awr mae un o’r ffefrynnau ymhlith gwylwyr adar wedi’i weld yn mwynhau rhyfeddodau’r ardal ynghyd â rhywogaethau eraill gan gynnwys y crëyr bach copog a hwyaid gwyllt.

Eglurodd Sasha Taylor, y Ceidwad Cefn Gwlad sy’n gofalu am y safle: “Mae’n gynefin ardderchog i lawer o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid eraill hefyd. Rydym ni wedi gweld ambell i gïach yma a gwelodd aelod o’r grŵp amgylcheddol lleol las y dorlan yma a oedd yn anhygoel. Mae’r adar llai hefyd wrth eu bodd â’r coed helyg yn y canol. Mae’n brysur bob amser yno.

“Mae gennym ni fyrddau dehongli hyfryd newydd sy’n egluro’r buddion o gael y system wlyptir hon. Maen nhw’n egluro’r cyfan am storio carbon a pha mor fuddiol ydyw ar gyfer newid hinsawdd”

Mae anifail o’r DU sydd mewn perygl hefyd wedi’i weld ger y gwlyptiroedd a bydd gwaith i’w helpu i ffynnu yn yr ardal yn cynnwys datblygu ffosydd draenio dŵr i ddarparu cynefin gwell ar ei gyfer.

Ychwanegodd Sasha: “Mae llawer o bobl yn ein grŵp gwirfoddoli yn treulio llawer o amser yma ac mae llawer ohonyn nhw wedi tynnu lluniau o lygod pengrwn y dŵr ar hyd y dorlan.”

Mae'r Cyngor yn parhau i ddefnyddio gwartheg Belted Galloway i bori ar dir yr ardal a chefnogi i reoli’r safle a disgwylir i'r rhain fod yn ôl ar y gwlyptiroedd yn ystod yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld yr ardal hon yn parhau i adfer bioamrywiaeth lleol. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl waith caled y mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud ynghyd â’n staff Cefn Gwlad er mwyn gwneud y safle hwn yn lle arbennig ar gyfer cefnogi ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd.”

Cydweithio cymunedol yn gweld bioamrywiaeth yn ffynnu yn y gwarchodfeydd natur

Mae partneriaeth gymunedol wedi helpu bioamrywiaeth ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan.

Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp cymunedol sydd y tu ôl i Warchodfa Natur Rhuddlan i dyfu amgylchedd sy’n ffynnu o ran bioamrywiaeth ac i ymwelwyr ei fwynhau.

Mae’r staff gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn rheoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau yn y gymuned.

Yn dilyn y gwaith hwn bu i’r warchodfa natur ennill gwobr Cymru yn ei Blodau llynedd yn y wobr ‘Overall It’s Your Neighbourhood’. Cyflwynwyd Tystysgrif Genedlaethol Arbenigrwydd RHS i aelodau’r grŵp a staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. 

Yn eu hadroddiad am y warchodfa, ysgrifennodd Cymru yn ei Blodau, “Ym mhob maes rheoli, cynllunio a threfnu gwirfoddolwyr hyd at ymdrechion ymarferol ar y safle, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn enghraifft wych o sut i feithrin a chreu cynefin.”

Diolch i weledigaeth werdd y grŵp a sgiliau staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, mae’r safle wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy gyflwyno mentrau gan gynnwys dau ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau. 

Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a’r grŵp gwarchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Gwagle sy’n gyfeillgar i bobl â dementia gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych â gwrychoedd wedi plygu, seddi coed derw Cymreig traddodiadol wedi eu creu ar y safle.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan: “Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ac yn falch o gael y wobr Tystysgrif Genedlaethol o Arbenigrwydd yn y gwobrau “Prydain yn ei Blodau” y llynedd.

“Fel Cadeirydd, gyda bwriad o wella ac amrywio cynefinoedd y warchodfa ar gyfer addysgu a mwynhad ein hymwelwyr, y rhan fwyaf yn breswylwyr lleol ond hefyd yn ymwelwyr ar eu gwyliau, gallaf dynnu ar amryw sgiliau’r pwyllgor. Mae’r rhain yn cynnwys arbenigedd ar fywyd gwyllt a gwybodaeth am yr ardal leol, gan gynnwys cynghorwyr tref a sir, ac wrth gwrs sgiliau bioamrywiaeth Garry Davies, Jim Kilpatrick a Brad Shackleton o Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.

“Ers ei agor yn 2011, mae preswylwyr Rhuddlan wedi mwynhau’r gwagle agored diogel hwn. Mae teuluoedd yn dod â phlant i chwarae a chael picnic, cerdded gyda’u cŵn a thynnu lluniau o fywyd adar. Yn ogystal, rydym yn trefnu helfeydd pryfaid ar gyfer plant meithrinfa leol ac ysgol gynradd leol, cefnogi gwirfoddolwyr i ddysgu am blygu gwrychoedd ac arwain teithiau cerdded i grwpiau oedolion lleol.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd hi’n bleser cael ymweld â Gwarchodfa Rhuddlan yn ddiweddar i weld sut mae brwdfrydedd y grŵp i wella’r tir wedi dod yn fyw drwy reolaeth gan ein staff Gwasanaeth Cefn Gwlad.

“Mae’r cydweithio hyn wedi cynhyrchu ardal wych yn Sir Ddinbych ar gyfer cefnogi a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfoethogrwydd gwybodaeth yn gyrru datblygiad y safle gan y grŵp, ynghyd â sgiliau staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi creu ardal lle gall Rhuddlan fod yn falch wrth gefnogi ein bywyd gwyllt a natur.”

Priffyrdd

Sut rydym yn blaenoriaethu’r rhaglen cynnal a chadw priffyrdd

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio 1,400 cilometr o holl ffyrdd Sir Ddinbych sy’n darparu mynediad at swyddi, ysgolion, gwasanaethau a busnesau. Mae’n hanfodol ein bod yn gwario ein cyllid cyfalaf yn y ffordd fwyaf cost effeithiol posib ac felly mae blaenoriaethu ffyrdd sydd angen gwaith yn golygu ystyriaeth drwyadl.  Mae ein gwaith yn defnyddio nifer o feini prawf gan gynnwys:

  • Materion ymwrthedd sgidio - mae’r rhain yn cael eu canfod trwy’r arolygon blynyddol
  • Blaenoriaethu ffyrdd - rhoddir mwy o flaenoriaeth i ffyrdd A a B oherwydd mwy o ddefnydd a therfynau cyflymder felly mae’r perygl i ddefnyddwyr yn uwch
  • Cymunedau - i gael o leiaf un ffordd o ansawdd dda
  • Eiddo anghysbell - mynediad pan fo perygl o gael eu hynysu

Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau:

  • Trin wyneb ffordd ac asffalt micro i atal dirywiad - mae’r rhain yn arbed arian yn yr hir dymor
  • Jetpatcher i drin ardaloedd lleol
  • Trwsio ffyrdd eraill i atal dirywiad

Mae’r meini prawf hyn a dulliau trin yn sicrhau fod yr arian sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio ar ffyrdd sydd fwyaf angen eu trin mewn modd teg a chyson ledled y sir, wrth gyflawni ein dyletswydd statudol i gadw ffyrdd yn ddiogel. Trafodir y rhaglen ddrafft mewn cyfarfodydd Aelodau i gael eu hadborth a phan geir cytundeb fe’i datblygir yn rhaglen ar gyfer y flwyddyn a’i chyhoeddi ar ein gwefan.

Dyma esiamplau o waith sydd wedi ei chyflawni yn y Sir.

Bull Lane, Dinbych (cyn y gwaith)
Bull Lane, Dinbych (ar ôl y gwaith)
Ffordd Gronant, Prestatyn (cyn y gwaith)
Ffordd Gronant, Prestatyn (ar ôl y gwaith)
Hen Lon Parcwr, Rhuthun (cyn y gwaith)
Hen Lon Parcwr, Rhuthun (ar ôl y gwaith)
Y Glyn, Llanrhaeadr (cyn y gwaith)
Y Glyn, Llanrhaeadr (ar ôl y gwaith)

 

Adran Busnes

Mis Mawrth Menter

Mae ymgyrch Mis Mawrth Menter yn ôl ar gyfer 2023, ac mae’n cynnig gweithdai yn rhad ac am ddim, digwyddiadau rhwydweithio a sesiynau cyngor ar gyfer busnesau ledled Sir Ddinbych.

Am fwy o wybodaeth ar sut i archebu lle ar y gweithdai isod, ewch i'n gwefan

Addysg

Estyniad yn Ysgol Penmorfa

Mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn i ymestyn y cyfleuster gofal plant ar y safle. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd gwaith ar yr estyniad ym mis Medi 2022 a bydd y cyfleuster yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023. Bydd yr estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol gael mynediad i’r gofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg ym Mhrestatyn. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi mynediad i ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel i fwy o deuluoedd yn yr ardal ond hefyd yn galluogi rhieni i chwilio am waith a chefnogi llesiant plant gan leihau’r risg o dlodi mewn teuluoedd.

Ymwelodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd â Safle Ysgol Penmorfa i edrych ar y cynnydd a wnaed hyd yma. 

Dywedodd y Cynghorydd Gill German: “Mae ein darpariaeth Dechrau’n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych mor bwysig i gefnogi ein teuluoedd ac i roi dechrau haeddiannol mewn bywyd i'n plant.

"Bydd yr estyniad hwn yn Ysgol Penmorfa yn cynyddu’r capasiti ar gyfer lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn yr ardal i ymestyn ein cynnig presennol.

"Mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned a bydd yn rhoi cyfle i fwy o blant fynychu addysg blynyddoedd cynnar o safon, a thrwy hynny eu paratoi'n well ar gyfer eu haddysg gynradd yn y dyfodol a thu hwnt.

"Mae'r adeilad yn mynd rhagddo'n dda iawn a bydd yn cynnwys cyfleusterau o ansawdd uchel er budd y plant a fydd yn mynychu.

"Rwy’n falch iawn o weld hyn yn digwydd ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y gwaith yn mynd rhagddo.”

Cadeirydd y Cyngor yn ymweld ag enillwyr Cystadleuaeth Celf Ysgolion

Ymwelodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, ag enillwyr ei gystadleuaeth celf i ysgolion, a gafodd ei lansio mewn partneriaeth ag un o’i elusennau enwebedig, NSPCC Cymru, Hwb Gogledd Cymru, Prestatyn. Ymwelodd y Cadeirydd â’r ysgolion, a chyflwynwyd tystysgrifau, medalau a gwobrau iddyn nhw am eu hymdrechion arbennig.

Nod y gystadleuaeth o’r enw LLES - ‘Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?’, yw codi ymwybyddiaeth o wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, ac yr oedd yn gofyn i blant dan 12 oed dynnu llun yr hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.

Ar ôl cael dros 560 o geisiadau, cafodd yr ysgolion a ddaeth yn fuddugol eu cyhoeddi cychwyn mis Chwefror.

Roedd yr ysgolion llwyddiannus yn cynnwys Ysgol Christchurch, Ysgol y Parc, Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Melyd, Ysgol Uwchradd Dinbych a chafodd Ysgol Gymunedol Bodnant deilyngdod arbennig.

Roedd y gwaith celf a ddaeth i’r brig yn cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn cynnwys llun o’r traeth, darlun o lyfrgell ysgol a golygfa o daith gerdded i fyny allt yn ystod machlud haul.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae’n wych gallu cyfarfod â rhai o’r artistiaid talentog y tu ôl i rai o’r gweithiau celf anhygoel a gafodd eu cyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth hon.

"Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu defnyddio’r gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth am wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, oherwydd mae’n llinell gymorth hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc allu siarad am eu hiechyd meddwl.”

Mae rhestr o’r holl enillwyr, a’u gwaith celf i’w gweld yma: www.denbighshireenrichment.com

 

Adran Cynllunio

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn symud yn ei flaen yn dilyn cymeradwyo Cytundeb Cyflawni diwygiedig. Mae’r Cytundeb Cyflawni’n nodi’r amserlen ar gyfer paratoi’r cynllun a hefyd sut a phryd fydd y Cyngor yn ymgynghori ym mhob cam allweddol, a chyda phwy.

Mae’r amserlen yn nodi y bydd y cam ymgynghori nesaf ar gyfer y Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd, a fydd yn cynnwys yr holl bolisïau cynllunio manwl a dyraniadau tir a argymhellwyd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd tua diwedd 2023.

Gellir gweld copi o’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn holl Lyfrgelloedd a Siopau Un Alwad Sir Ddinbych, ac ar wefan y Cyngor.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid