llais y sir

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Gweu dros achos da

Bob prynhawn Mercher mae grŵp yn cwrdd yn Llyfrgell Rhuddlan i sgwrsio, gweu a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag achos pwysig iawn.

Daw’r grŵp gweu ynghyd i greu amrywiaeth o eitemau gwlân i godi arian ac ymwybyddiaeth o Ffibrosis yr Ysgyfaint, cyflwr sydd wedi effeithio ar sawl aelod o’r grŵp.

Mae Ffibrosis yr Ysgyfaint yn achosi creithiau mewnol sy’n ei gwneud yn anodd i bobl anadlu. Mae’r creithiau’n troi meinwe’r ysgyfaint yn drwchus ac anystwyth, sy’n peri trafferthion ag amsugno ocsigen i’r gwaed. Mae o Ffibrosis yr Ysgyfaint yn effeithio ar tua 70,000 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol.

Sue a Jackie a lansiodd y grŵp wedi i’r cyflwr effeithio ar aelod o’u teulu, a buont yn gweu mewn ystafell haul ar y cychwyn cyn symud i’r llyfrgell wedi i’r niferoedd gynyddu.

Llai na mis ers iddynt symud i’r llyfrgell mae bron teirgwaith cymaint o bobl yn dod, ac mewn sesiwn diweddar fe ddaeth pymtheg o bobl gyda’u nodwyddau.

Mae’r grŵp yn gwerthu’r eitemau gwlân i godi arian at yr achos, ac yn rhoi unrhyw eitemau sy’n weddill i achosion da eraill yn lleol, gan gynnwys pymtheg o flancedi i Fyddin yr Iachawdwriaeth dros y Nadolig. Maent wrthi’n paratoi ar gyfer y Pasg ac yn brysur yn gweu nifer o hwyaid, cywion, cwningod ac ŵyn bach.

Cynhaliwyd bore coffi i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned fis Medi diwethaf gan godi mwy na £2,500 at yr achos a bwriedir cynnal un arall fis Medi eleni.

Dywedodd y grŵp: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i’r Llyfrgell am adael inni ddefnyddio’r lle a bod mor groesawgar, mae’n lle gwych i gynnal sesiynau.

"Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweu, mae croeso i bawb yma.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’r llyfrgelloedd yn ein cymunedau ni wedi dod yn fwy na dim ond lleoedd i ddarllen, ac mae’r grŵp yma sy’n cwrdd i godi ymwybyddiaeth yn enghraifft berffaith o hynny.

"Rydw i’n eithriadol o falch bod rhywun yn defnyddio’r lle ar gyfer achos mor deilwng, a bod y creadigaethau gwlanog mor wych hefyd!”

Croeso Cynnes

Os yw’n oer tu allan fe gewch groeso cynnes bob amser yn eich llyfrgell leol. Mae nifer o'n llyfrgelloedd yn cynnal sesiynau crefft, boreau cymdeithasol a chlybiau darllen gyda chroeso i unrhyw un ymuno, neu ddod o hyd i le tawel i ddarllen papur newydd neu gylchgrawn, neu hyd yn oed wneud jig-so.

Gallwch gael mynediad at gyfrifiadur ac argraffydd i astudio neu wneud gwaith cartref, neu defnyddiwch y Wi-Fi am ddim ar eich dyfais eich hun.

Edrychwch ar dudalennau gwe'r llyfrgell i weld beth sy'n digwydd yn eich llyfrgell leol. www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd

 

Cylchgronau Digidol

Arbedwch arian wrth brynu'ch hoff gylchgronau a'u lawrlwytho am ddim gyda'ch cerdyn llyfrgell. Gellir lawrlwytho cylchgronau digidol am ddim, 24/7 a dim rhestrau aros.

Mae cannoedd o gylchgronau ar gael, gan gynnwys BBC Good Food, Amatur Photographer, BBC Gardeners World, Radio Times, Good Housekeeping, Auto Express a Time.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch yr ap arobryn Libby, neu ewch i wefan y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cerdyn llyfrgell a PIN. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell mae’n gyflym ac yn hawdd ymuno ar-lein.

Ewch i www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd  am ragor o wybodaeth.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid