llais y sir

Newyddion

Pleidleisio mewn Etholiadau: Gofyniad ID Pleidleiswyr

Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, isetholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau cynghorau lleol.

Ffurfiau ID Ffotograffig a dderbynnir

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Teithiau rhyngwladol

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE neu o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas

Teithio lleol

  • Pàs Bws Person Hŷn a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Bws Person Anabl a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn Oyster 60+ a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban a roddwyd at ddibenion teithio rhatach (gan gynnwys Pàs bws 60+, anabl neu rai dan 22 oed)
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyhoeddwyd yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)

Dogfennau eraill a gyhoeddwyd gan y llywodraeth

  • Dogfen mewnfudo fiometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Dim ond un math o ID ffotograffig y bydd angen i chi ei ddangos. Mae angen iddo fod yn fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.

ID ffotograffig nad yw’n gyfredol

Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr; https://www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy

Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Gofynnir i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais, i brofi pwy ydych.

Mae terfynau ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer dau berson sy'n byw yn y DU y gallwch chi weithredu fel dirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pobl sy'n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl ond dim ond dau o'r rhain y gellir eu lleoli yn y DU.

Nid yw’r newidiadau’n berthnasol i etholiadau Senedd Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Ar gyfer yr etholiadau hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais bapur o hyd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/ffyrdd-i-bleidleisio neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.

CGGSDd yn lansio Grantiau Lluosog

📢Mae Grantiau Lluosog wedi Lansio!
🌐 https://www.dvsc.co.uk/cy/grant/multiply-grants/
🔒Yn dod i ben: 31 Mawrth 2024

Mae CGGSDd yn edrych i ariannu prosiectau tymor byr sy'n cynyddu hyder rhifedd a galluoedd oedolion 19+ oed ar draws Sir Ddinbych.

£20K-£50K o grantiau refeniw ar gael
Rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Rhaid cwblhau gwariant a danfoniad erbyn 31 Hydref 2024

Newyddlen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd

Mae rhifyn diweddaraf ein newyddlen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd bellach wedi’i gyhoeddi a gellir ei weld yma: https://bit.ly/3Tm7NdC
Os hoffech dderbyn y diweddariadau hyn yn syth i'ch mewnflwch, gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio: https://bit.ly/3ZllsTo

Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Y Rhyl

Fel rhan o’r gwaith ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl, mae creigiau mawr yn cael eu gosod a’u claddu ar y traeth o dan y tywod

Dyma Is-Asiant Balfour Beatty ar y cynllun i egluro ymhellach.

Taliadau Meysydd Parcio

Nodyn i'ch atgoffa y gallwch ddod o hyd i'r raddfa newydd o daliadau ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor mewn lleoliadau amrywiol ledled Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Mae'r oriau codi tâl hefyd wedi newid o 8am i 5pm i 8am i 11pm.

Gwastraff ac Ailgylchu

Amserlen ddosbarthu ar gyfer cynwysyddion ailgylchu newydd

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth ailgylchu a gwastraff newydd yn dechrau ddydd Llun, 3 Mehefin 2024.

Fel rhan o’r gwasanaeth newydd hwn, bydd trigolion y sir sydd â biniau ar olwynion ar hyn o bryd yn derbyn Trolibocs newydd i ailgylchu papur, gwydr, plastig, tuniau a chartonau bwyd a bag hesian i ailgylchu cardfwrdd. Bydd y trigolion hynny sy'n ailgylchu gyda sachau pinc untro ar hyn o bryd yn derbyn bagiau hesian newydd ailddefnyddiadwy.

Rhaid i'r Cyngor ddosbarthu'r cynwysyddion hyn i dros 45,000 o gartrefi ledled y Sir, tra'n parhau i ddarparu'r gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff presennol. Felly, mae'n rhaid i'r broses hon ddechrau'n gynnar gyda'r cynwysyddion cyntaf wedi cychwyn cael eu dosbarthu.

Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd ac Amgylcheddol, “Byddwn yn danfon cynwysyddion i drigolion rhwng 23 Chwefror a 17 Mai. Rydym yn ymwybodol bod hyn yn gynnar ac y bydd yn rhaid i rai preswylwyr storio cynwysyddion ychwanegol am gryn amser cyn i’r gwasanaeth newydd ddechrau. Fodd bynnag, dyma'r unig ffordd i sicrhau bod yr holl breswylwyr wedi derbyn eu cynwysyddion mewn da bryd cyn i'r gwasanaeth ddechrau ar 3 Mehefin. Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra, ond gobeithiwn fod trigolion yn deall nad oes modd osgoi hyn.”

Dyma Paul Jackson, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor i egluro am y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd. 

Mae'r amserlen ar gyfer danfon y cynwysyddion newydd ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/statws-gwasanaeth-ailgylchu. Sylwch, mae'r holl amserlenni dosbarthu cynwysyddion yn rhai bras a gall y dyddiadau newid.

Yn ogystal â chynwysyddion newydd, bydd trigolion yn derbyn pecyn gwybodaeth yn egluro’r newidiadau’n fanwl, yn dangos pa fath o eitemau cartref ddylai fynd i ba gynhwysydd a sut i gyflwyno cynwysyddion ar y diwrnod casglu. Bydd y pecynnau hyn ym mlwch uchaf y Trolibocs neu yn y bag hesian ailddefnyddiadwy ar gyfer cardfwrdd a dylid eu cadw'n ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gan y system ailgylchu newydd lawer o fanteision i drigolion a’r sir. Mae'n well i'r amgylchedd gan y bydd yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch; bydd yn rhatach i'w redeg gan ddarparu gwell gwerth am arian; mae hefyd yn dda i'r economi leol gan arwain at greu 27 o swyddi newydd, ac mae manteision economaidd wedi i bedwar busnes lleol ehangu ar Ystad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.

“Mae hon yn ymdrech ar y cyd rhwng ein Tîm Gwastraff ac Ailgylchu a phobl Sir Ddinbych a hoffwn ddweud diolch, gan fod eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Beth sy'n newid?

  • Casglu ailgylchu a chardfwrdd bob wythnos
  • Bydd y Cyngor yn casglu 250 litr o ailgylchu bob wythnos yn lle 240 litr bob pythefnos.
  • Casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pedair wythnos mewn bin mwy 240 litr (yn wythnosol os cesglir gwastraff mewn bagiau ailddefnyddiadwy).
  • Casglu eitemau trydanol bach a batris cartref bob wythnos.
  • Casglu tecstilau bob pedair wythnos.
  • Casgliad newydd wythnosol o gynnyrch hylendid amsugnol (e.e., clytiau, weips, padiau anymataliaeth a phadelli gwelyau a leinin untro). Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, ond rhaid i breswylwyr gofrestru erbyn 1 Mawrth ar gyfer y rownd gofrestru gyntaf hon. Bydd rownd arall yn agor yn yr hydref.

Beth sy'n aros yr un peth?

  • Casgliad gwastraff bwyd bob wythnos.
  • Casglu gwastraff gardd bob pythefnos (gwasanaeth y codir tâl amdano).

Fideo yn esbonio'r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd

Y Cynghorydd Rhys Thomas yn esbonio y newidiadau i'r casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu newydd.

Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Pecynnau gwybodaeth

Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Pecynnau Gwybodaeth

Gwasanaeth safonol (Trolibocs)

Pecyn Gwybodaeth: Trolibocs (PDF, 2.26MB)

Gwasanaeth bagiau

Pecyn Gwybodaeth Gwasanaeth Bag (PDF, 2.1MB

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Y Bin Glas

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Claddu Sbwriel

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Sut byddwn yn ymdopi â chasgliadau misol?

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Gwastraff Anifeiliad Anwes

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Sut bydd pobl ag anableddau yn ymdopi?

Eich cwestiynau wedi'u hateb: A fydd yr hen finiau'n cael eu hailgylchu?

Eich cwestiynau wedi'u hateb: Mae'r system newydd yn wastraff arian y Cyngor

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Gweu dros achos da

Bob prynhawn Mercher mae grŵp yn cwrdd yn Llyfrgell Rhuddlan i sgwrsio, gweu a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag achos pwysig iawn.

Daw’r grŵp gweu ynghyd i greu amrywiaeth o eitemau gwlân i godi arian ac ymwybyddiaeth o Ffibrosis yr Ysgyfaint, cyflwr sydd wedi effeithio ar sawl aelod o’r grŵp.

Mae Ffibrosis yr Ysgyfaint yn achosi creithiau mewnol sy’n ei gwneud yn anodd i bobl anadlu. Mae’r creithiau’n troi meinwe’r ysgyfaint yn drwchus ac anystwyth, sy’n peri trafferthion ag amsugno ocsigen i’r gwaed. Mae o Ffibrosis yr Ysgyfaint yn effeithio ar tua 70,000 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol.

Sue a Jackie a lansiodd y grŵp wedi i’r cyflwr effeithio ar aelod o’u teulu, a buont yn gweu mewn ystafell haul ar y cychwyn cyn symud i’r llyfrgell wedi i’r niferoedd gynyddu.

Llai na mis ers iddynt symud i’r llyfrgell mae bron teirgwaith cymaint o bobl yn dod, ac mewn sesiwn diweddar fe ddaeth pymtheg o bobl gyda’u nodwyddau.

Mae’r grŵp yn gwerthu’r eitemau gwlân i godi arian at yr achos, ac yn rhoi unrhyw eitemau sy’n weddill i achosion da eraill yn lleol, gan gynnwys pymtheg o flancedi i Fyddin yr Iachawdwriaeth dros y Nadolig. Maent wrthi’n paratoi ar gyfer y Pasg ac yn brysur yn gweu nifer o hwyaid, cywion, cwningod ac ŵyn bach.

Cynhaliwyd bore coffi i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned fis Medi diwethaf gan godi mwy na £2,500 at yr achos a bwriedir cynnal un arall fis Medi eleni.

Dywedodd y grŵp: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i’r Llyfrgell am adael inni ddefnyddio’r lle a bod mor groesawgar, mae’n lle gwych i gynnal sesiynau.

"Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweu, mae croeso i bawb yma.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’r llyfrgelloedd yn ein cymunedau ni wedi dod yn fwy na dim ond lleoedd i ddarllen, ac mae’r grŵp yma sy’n cwrdd i godi ymwybyddiaeth yn enghraifft berffaith o hynny.

"Rydw i’n eithriadol o falch bod rhywun yn defnyddio’r lle ar gyfer achos mor deilwng, a bod y creadigaethau gwlanog mor wych hefyd!”

Croeso Cynnes

Os yw’n oer tu allan fe gewch groeso cynnes bob amser yn eich llyfrgell leol. Mae nifer o'n llyfrgelloedd yn cynnal sesiynau crefft, boreau cymdeithasol a chlybiau darllen gyda chroeso i unrhyw un ymuno, neu ddod o hyd i le tawel i ddarllen papur newydd neu gylchgrawn, neu hyd yn oed wneud jig-so.

Gallwch gael mynediad at gyfrifiadur ac argraffydd i astudio neu wneud gwaith cartref, neu defnyddiwch y Wi-Fi am ddim ar eich dyfais eich hun.

Edrychwch ar dudalennau gwe'r llyfrgell i weld beth sy'n digwydd yn eich llyfrgell leol. www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd

 

Cylchgronau Digidol

Arbedwch arian wrth brynu'ch hoff gylchgronau a'u lawrlwytho am ddim gyda'ch cerdyn llyfrgell. Gellir lawrlwytho cylchgronau digidol am ddim, 24/7 a dim rhestrau aros.

Mae cannoedd o gylchgronau ar gael, gan gynnwys BBC Good Food, Amatur Photographer, BBC Gardeners World, Radio Times, Good Housekeeping, Auto Express a Time.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch yr ap arobryn Libby, neu ewch i wefan y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cerdyn llyfrgell a PIN. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell mae’n gyflym ac yn hawdd ymuno ar-lein.

Ewch i www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd  am ragor o wybodaeth.

 

Twristiaeth

Teithiau cerdded yn Sir Ddinbych

Mae’r tîm twristiaeth wedi bod yn ceisio llonni misoedd y gaeaf gyda chyfres o deithiau cerdded gan eu blogiwr gwadd Julie Brominicks, awdur 'The Edge of Cymru'.

Mae pob taith yn hygyrch drwy gludiant cyhoeddus a bydd map syml er mwyn dilyn pob un. Mae 8 ar y gweill i gyd dros y misoedd nesaf, felly cadwch olwg amdanynt ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae arnom eisiau eich ysbrydoli i archwilio ychydig bach mwy ar ein rhan hardd o’r byd.

Dyma’r tair taith gyntaf

Mae Llwybrau Cymru yn dilyn llwyddiant pum blwyddyn thema Croeso Cymru hyd yma - antur, chwedlau, y môr, darganfod, yr awyr agored.  Mae’r blynyddoedd thema yn cyflwyno Cymru fel cyrchfan groesawgar, gynhwysol sydd ar agor trwy’r flwyddyn, boed hynny i’r anturiaethwyr dewr neu ymwelwyr sy’n dymuno ymlacio. Gan weithio gyda blwyddyn thema Croeso Cymru, mae’r tîm twristiaeth wedi llunio cyfres o ffilmiau byrion i gyflwyno llwybrau yn yr ardal, dan y thema cerdded, beicio, hygyrchedd, treftadaeth, yr awyr agored, celf a chrefft a’r teulu. Bydd y rhain hefyd yn cael eu lansio ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd nesaf.

Mae modd gweld y cyntaf yma.

 

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych Ar-lein

Mawrth 2024

Sesiynau am ddim trwy Zoom

Arloesi a rhagoriaeth

Dydd Iau, 21 Mawrth: 2pm i 3.15pm

Gwen Davies Gwinllan y Dyffryn – O’r winwydden i win yn Nyffryn Clwyd

Tom Taylor Rheilffordd Llangollen – Atyniad y Flwyddyn yng Nghwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru 2023

Archebwch heddiw!  https://Online-Tourism-Forum-Innovation-and-excellence.eventbrite.co.uk

 

Busnesau gyda straeon i'w hadrodd

Dydd Gwener, 22 Mawrth: 10.30am i 11.45am

Rob Price Gŵyl Rhuthun - Dathlu 30 mlynedd yn 2024

Gail Swan Siop Fferm Swans – Fferm fynydd draddodiadol a siop fferm sydd wedi ennill gwobrau

Archebwch heddiw!  https://Online-Tourism-Forum-Businesses-with-stories-to-tell.eventbrite.co.uk

Y MANYLION 

  • Archebwch ar un neu'r ddau sesiwn.
  • Bydd Zoom yn agor 30 munud cyn pob sesiwn er mwyn caniatáu amser i bawb gael mynediad.
  • Anfonir y dolenni cyswllt Zoom trwy e-bost at y cyfranogwyr y diwrnod cyn bob sesiwn.
  • Bydd y sesiynau'n cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau ar ôl pob cyflwyniad.
  • Diweddariad byr gan y tîm twristiaeth
  • Cynhelir cyfarfodydd yn Saesneg ond bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar Zoom

Cefnogaeth i drigolion

Sut all Cyngor ar Bobeth eich helpu

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor a chymorth annibynnol, cyfrinachol, diduedd, rhad ac am ddim i bawb. Maent yn rhoi gwybodaeth a hyder i bobl ddod o hyd i ffyrdd ymlaen er mwyn gwella eu cadernid ariannol a phersonol, atal digartrefedd a lleihau tlodi.

Wyddoch chi? Gall Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych helpu gyda:

  • Hawliadau budd-daliadau
  • Delio â materion dyled ac arian
  • Cyllidebu a gwneud y gorau o’ch incwm
  • Cyngor a chefnogaeth ar gyfer delio â materion teuluol
  • Rhentu neu brynu tŷ neu ddod o hyd i rywle i fyw
  • Biliau ynni a bwyd
  • Defnyddio banciau bwyd
  • Hawliau defnyddiwr
  • Hawliau a diogelu yn y gweithlu
  • Hawliau cyfreithiol a sifil
  • Gwybod eich hawliau, cyfrifoldebau a diogelwch tra yn y DU.

Gallwch gael mynediad at eu gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd:

  • Siarad gydag ymgynghorwyr ar-lein
  • Mynychu sesiynau cynghori yn bersonol
  • Ar y ffôn
  • Trwy e-bost
  • Defnyddio’r ffurflen ar-lein

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.cadenbighshire.co.uk/hafan neu gyrrwch e-bost i energy@dcab.co.uk.

Cymorth Costau Byw

Mae gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobl â chostau byw ar ein gwefan

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mali Flur Owen, Cynorthwyydd Gofal, Cartref Gofal Dolwen

 

Mae Mali yn unigolyn sydd â ffocws mawr a’i gyrfa’n greiddiol i’w bywyd, ac o oedran ifanc, cefnogodd ei Mam trwy ddarparu gofal a chefnogaeth i'w brawd hŷn ag anableddau cymhleth, yn ogystal â darparu gofal diwedd oes i'w Thaid a oedd â dementia.

Nid oedd Mali’n gweithio ond fe wnaeth ei rolau gofalu o fewn y teulu ei hysbrydoli i ymuno â'r sector gofal fel llwybr gyrfa dewisol. Er nad oedd gan Mali brofiad uniongyrchol o fewn y sector roedd ganddi'r empathi a'r angerdd i anelu at ei nodau.

Ar ôl mynychu diwrnod agored ‘Camu Mewn i Waith’ sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cofrestrodd Mali ar y Rhaglen ‘Blas ar Ofal’. (Mae’r Rhaglen Blas ar Ofal yn Brosiect Gofal Cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r angen am staff cynaliadwy, cymwys a phroffesiynol yn y Sector Gofal).

Rhoddodd y rhaglen wybodaeth fanwl i Mali am y sector gofal, gan gynnwys cyfleoedd gyrfa, manylion yr hyfforddiant gorfodol a’r disgwyliadau o weithwyr. Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, roedd Mali yn 'barod am swydd'. Unwaith y bydd y rhaglen orfodol wedi'i chwblhau a'r cyfranogwyr yn “barod am swydd”, maent yn camu ‘mlaen i gwblhau lleoliad i gael profiad ymarferol trwy leoliad 4 wythnos, gyda lleiafswm o 8 awr yr wythnos.

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen Blas ar Ofal cofrestrodd Mali ar Gynllun Dechrau Gweithio, Sir Ddinbych yn Gweithio ar ôl gweld lleoliad 12 wythnos yn Nolwen wedi’i hysbysebu ar wefan Swyddi Den Sir Ddinbych yn Gweithio.

Cefnogodd Sir Ddinbych sy'n Gweithio Mali trwy gydol ei chais a derbyniodd y lleoliad yn llwyddiannus.

Trwy gydol ei lleoliad, rhoddodd Mali gefnogaeth ymarferol ac emosiynol i'r preswylwyr mewn digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau crefft ac amser bwyd. Rhoddodd hyn y profiadau angenrheidiol iddi weithio ym maes Gofal. Cwblhaodd Mali hefyd ei hyfforddiant Codi a Chario a Chymorth Cyntaf fel rhan o'i lleoliad.

Roedd Mali yn awyddus i wneud cais i gael swydd barhaol mewn gofal a thua diwedd ei lleoliad, daeth yn ymwybodol o swydd wag Cynorthwyydd Gofal yng Nghartref Gofal Dolwen. Helpodd Swyddog Cymorth Prosiect y Cynllun Dechrau Gweithio Mali i lenwi'r ffurflen gais, ysgrifennu datganiad personol a rhoddwyd cymorth ar ôl cyfweliad hefyd a oedd yn cynnwys ffug gyfweliad. Llwyddodd Mali i gael y swydd, a ddechreuodd ar ei phen-blwydd yn 18 oed ac mae'n parhau â'i chymhwyster Pasbort i Ofal ochr yn ochr â'i swydd.

Mae’r stori lwyddiant hon yn dangos y budd enfawr o ddilyn a galluogi ymagwedd strategol at gyflogadwyedd a chymorth sgiliau. Roedd cefnogaeth Mali yn cynnwys: 

  • Rhaglen Blas ar Ofal - lefel mynediad ac anwytho i'r sector Gofal
  • Cefnogaeth mentora 1-2-1 – Swyddog Cefnogi Lleoliad Sir Ddinbych yn Gweithio
  • Lleoliad gwaith cyflogedig 12 wythnos – Cynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio
  • Hyfforddiant – cymhwyster sy'n gysylltiedig â'r sector

Cyflawnwyd hyn i gyd, gan alluogi Mali i wneud y mwyaf o incwm a'i hatal rhag gorfod cael cymorth budd-daliadau. Dywedodd Mali heb gefnogaeth Blas ar Ofal a’r Cynllun Dechrau Gweithio a’i Swyddog Cefnogi Lleoliad y byddai’n dal i chwilio am waith.

Gwybodaeth Bellach:

Sir Ddinbych yn Gweithio - Y Cynllun Dechrau Gweithio

Mae’r rhaglen cynllun Dechrau Gweithio yn cynnig cyfle i ddinasyddion Sir Ddinbych sy’n ddi-waith neu’n economaidd anweithgar gael profiad gwaith â thâl neu’n ddi-dâl o fewn sectorau amrywiol. Y gwerth ychwanegol yw'r gefnogaeth a ddarperir trwy gydol y lleoliad ar gyfer y cyfranogwr a'r cyflogwr yn ogystal â'r cyfleoedd hyfforddi am ddim i uwchsgilio a sicrhau swydd barhaol.

  • Proses recriwtio
  • Cyflwyno cais CV i gynllun Dechrau Gweithio
  • Swyddog lleoliad wedi'i neilltuo i'r swydd wag
  • Cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad cyn sgrinio

Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sydd angen cymorth i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau.

Mae'n efelychu cyfle cyflogaeth gwirioneddol lle gwahoddir ceisiadau a chynhelir cyfweliadau cyn sgrinio sydd hefyd yn rhoi cyfle i'r ymgeiswyr ofyn cwestiynau am y rôl. Cynigir cymorth pellach i'r ymgeiswyr llwyddiannus i sicrhau bod ganddynt yr hyder a'r wybodaeth i fynychu cyfweliad ffurfiol gyda'r cyflogwr. Gall hyn fod ar ffurf ffug gyfweliadau neu ymchwil. Darperir cymorth ariannol hefyd megis tocynnau teithio a chynigir dillad ar gyfer y cyfweliad lle bo angen er mwyn helpu i gael gwared ar eu rhwystrau rhag dilyniant.

Tra ar y lleoliad mae'r cyfranogwr yn cael Swyddog Cefnogi Lleoliad sy'n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol 1-2-1 i'r unigolyn. Mae'r gefnogaeth, er nad yw'n gynhwysol, yn cynnwys trefnu tocynnau teithio am y mis cyntaf hyd nes y byddant yn derbyn eu cyflog, ymweld â'r cyfranogwr a'r cyflogwr trwy gydol y lleoliad yn ôl yr angen, dod o hyd i hyfforddiant, gwneud chwiliadau swydd a diweddaru'r CV.

Amserlen Barod: Mawrth 2024

Croesawu Awtistiaeth yn y gweithle

Trefnodd Sir Ddinbych yn Gweithio gyfres o ddigwyddiadau creadigol i bobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Awtistig ac yn cael trafferth dod o hyd i waith, er mwyn gwella eu lles.

 

Cynhaliwyd y gweithdai yn Costigan’s yn y Rhyl, a thîm Prosiect Barod Sir Ddinbych yn gweithio a’u trefnodd.

Bu’r bardd proffesiynol a chynhyrchydd creadigol lleol, Martin Daw, yn helpu pobl yn y digwyddiadau hyn i gyfansoddi cân a fideo wedi’i animeiddio.

Mae’r gân a’r fideo’n sôn am feddu ar y grym i fynd allan a dod o hyd i waith ac mae’n ceisio annog pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn awtistig i fagu dewrder a chael y swydd a ddymunant.

 

 

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyrsiau hyfforddi

 

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyfle i ailhyfforddi ac ennill mwy o gymwysterau i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych, gan ganiatáu i fwy o bobl gael swydd newydd neu i symud ymlaen yn eu swyddi presennol.

Mae cyfleoedd hyfforddi hefyd yn cael eu trefnu drwy’r cynllun Dechrau Gweithio, gyda’r nod o uwchsgilio preswylwyr.

Gellir trefnu cynlluniau hyfforddi i breswylwyr sydd â diddordeb mewn gweithio mewn diwydiannau poblogaidd fel Adeiladu, Lletygarwch a Gwallt a Harddwch, ond sydd heb brofiad.

Trefnir cyrsiau drwy gydol y flwyddyn hefyd i unrhyw un sydd eisiau cymhwyster mewn Cymorth Cyntaf neu Iechyd a Diogelwch, sy’n caniatáu iddynt gael cerdyn CSCS.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio’n agos gyda cholegau lleol a darparwyr hyfforddiant eraill.

Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol: “Rwyf yn falch bod ein cyrsiau hyfforddi yn boblogaidd yn barod, roedd ein cwrs Barista diweddar yn llawn mewn ychydig ddyddiau.

"Byddwn yn annog unigolion a busnesau yn y sir i gymryd mantais o’r cyfleoedd hyfforddi rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i wella eich siawns o gael swydd sy’n talu’n well, neu os ydych yn fusnes, gwella sgiliau eich tîm.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r cyrsiau hyfforddi hyn yn gyfle i bobl Sir Ddinbych ehangu eu gorwelion, ac o bosibl, i ddod o hyd i lwybr gyrfa sy’n fwy addas i’w nodau.

"Mae arnom eisiau i holl breswylwyr Sir Ddinbych fwynhau’r yrfa maent yn ei dewis, mewn maes ble gallant fynegi eu hunain a rhagori.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://forms.office.com/e/VK2Ub5Vnmu

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Gwelliannau Tai

Defnyddio Cartrefi Gwag Unwaith Eto

Yn ddiweddar gwerthwyd dau eiddo rhestredig, hanesyddol ym mhentref Llandyrnog i brynwr preifat.  Mae'r eiddo wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn ac wedi dirywio i gyflwr gwael.

Gan fod yr eiddo wedi'u rhestru, bydd angen arweiniad arnynt i ddod yn ôl i ddefnydd.  Mae’r perchnogion newydd eisoes wedi holi ynglŷn â defnyddio cynllun benthyciad Troi Tai’n Gartrefi sy’n cael ei weinyddu gan dîm cartrefi gwag Sir Ddinbych.

Bydd y benthyciad yn cynorthwyo'r perchnogion newydd i ddod â'r eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned.

Mae eiddo gwag hirdymor arall hefyd newydd ei werthu yn amodol ar gontract yn y pentref, ac mae'n debygol y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio eto hefyd. Mae tri eiddo gwag hirdymor arall yn y pentref hefyd yn cael eu hailddefnyddio. Mae'r perchennog wedi adnewyddu dau yn sylweddol a bydd un arall yn cael ei gychwyn yn y dyfodol agos.  Bydd y rhain yn cael eu rhentu yn y sector rhentu preifat.

Mae'r perchennog wedi gweithio'n agos gyda'r tîm cartrefi gwag, sydd wedi ei gynghori ar hyd y ffordd, yn ystod y prosiectau adnewyddu.

Mae’r nod o ddefnyddio eiddo gwag hirdymor unwaith eto yn hollbwysig ar gyfer cynaladwyedd cymunedau gwledig, felly dylid dathlu’r stori newyddion da hon o Landyrnog.

Mae ailddefnyddio eiddo gwag hirdymor yn flaenoriaeth allweddol i Sir Ddinbych. Gan weithio’n agos gyda pherchnogion i gynnig rhai o’r benthyciadau a’r grantiau sydd ar gael iddynt, megis benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, cynllun Grant Cartrefi Gwag Cymru a gostyngiad mewn TAW ar gostau adeiladu.

Hefyd, gweithio'n agos gyda gwasanaethau digartrefedd i nodi eiddo a allai fod yn addas ar gyfer Cynllun Prydlesu Cymru, wrth nodi eiddo gwag y gallai perchnogion fod â diddordeb yn eu prydlesu i'r cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi gwag a'r opsiynau sydd ar gael, cysylltwch â jeff.evans@sirddinbych.gov.uk neu 01824 706794 / 07721484142. 

Gofal Maeth

Mae storïau gofalwyr maeth yn dangos y ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal

Mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. 

Ar hyn o bryd mae oddeutu 180 o blant mewn gofal maeth yn Sir Ddinbych ac mae angen mwy o ofalwyr maeth i sicrhau y gall blant aros yn eu cymuned leol, pan mae’n iawn iddynt hwy.

Roedd gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol. 

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych wedi ymuno â’r ymgyrch newydd o’r enw ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach, ond sylweddol, sydd gan bobl a all wneud y byd o wahaniaeth i unigolyn sy’n derbyn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal.

Roedd yr ymatebion gan y grwpiau hyn yn tynnu sylw at dri pheth allweddol a oedd yn rhwystro gofalwyr posibl rhag ymholi:  

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn sy’n derbyn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camddealltwriaeth ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr. 

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gan ofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol, ac yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Mae gofalwyr maeth Sharen a Colin wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yn Sir Ddinbych ers 23 mlynedd. Maent wedi ffocysu’n bennaf ar faethu plant yn eu harddegau gan eu bod yn teimlo eu ‘hanwybyddu’ o fewn Gofal Maeth gyda’r canfyddiad eu bod yn fwy anodd eu rheoli.

Meddai Sharen: “De ni wedi maethu nifer o blant yn eu harddegau dros y blynyddoedd ac rydym ni’n ffynnu gyda’r manteision a ddaw yn sgil maethu plant yn eu harddegau.” meddai Sharen. Yn aml mae plant yn eu harddegau’n cael eu camddeall, ac maent yn mynd i ofal mewn cyfnod pan maen nhw’n ymwybodol iawn o’r hyn sy’n digwydd. 

Mae pobl yn meddwl bod plant yn eu harddegau yn gymhleth ac er bod yna heriau yn dod gyda nhw, gall yr arweiniad, sefydlogrwydd iawn, a’r diogelwch a roddir i blentyn yn ei arddegau fod yn help mawr wrth siapio eu dyfodol.   

Fe aeth un o’n plant maeth i brifysgol yn ddiweddar. Mae gan un arall swydd lawn amser, wedi cynilo arian ac wedi prynu eu car eu hunain.  Mae eu gweld yn cyrraedd cerrig milltir, cael annibyniaeth a throi mewn i oedolion gofalgar, hyderus wedi rhoi andros o foddhad i ni fel teulu.”

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae bob amser yn bleser cael cyfarfod â’n gofalwyr maeth Sir Ddinbych Maethu Cymru, a dod i’w hadnabod a’u hanes yn well. Does dim stori’r un fath, ond yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw’r dymuniad i ddarparu cartref diogel a sefydlog, ac yn cynnig gofal a chefnogaeth i’n plant sydd mewn angen.

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn dîm gwych, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am faethu i gysylltu.”

Ychwanegodd Julie Fisher, Rheolwr Tîm, Maethu Cymru Sir Ddinbych: “Mae ein gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Maethu Cymru Sir Ddinbych yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant drwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. 

Ond mae angen i ni recriwtio mwy o bobl anhygoel yn ein hardal i sicrhau bod yr holl blant lleol sydd ei angen yn cael cartref croesawgar a’r gofalwr maeth iawn ar eu cyfer.

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych, bydd y tîm yn sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â Maethu Cymru Sir Ddinbych.”  Dewch yn rhan o’ch cymuned maethu leol.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i gwefan Maethu Cymru.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Gwaith yn dechrau ar greu lle cymunedol ar gyfer natur yn Llanelwy

Nglan Elwy, Llanelwy

Mae pêl-droedwyr wedi helpu i ddechrau’r gwaith o ddatblygu lle cymunedol newydd ar gyfer natur yn Llanelwy.

Mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a Newid Hinsawdd y Cyngor wedi dechrau’r gwaith o ddatblygu pedwar lle cymunedol newydd ar gyfer natur yn y sir er mwyn rhoi hwb o ran manteision i fywyd gwyllt a thrigolion lleol.

Dechreuodd y gwaith heddiw yng Nglan Elwy, Llanelwy, yn sgil cefnogaeth leol gan dimau ieuenctid clwb pêl-droed y ddinas a Grŵp Gofal Elwy.

Mae Prosiect Mannau Natur Cymunedol wedi cael £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd y gwaith gwella bioamrywiaeth yma hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bydd Glan Elwy’n canolbwyntio ar ddarparu mannau cynefin cryfach i natur elwa ohonynt yn ogystal â mannau cymunedol i drigolion hen ac ifanc eu mwynhau a dysgu gan fywyd gwyllt lleol.

Mae gwirfoddolwyr, ynghyd â staff y Cyngor wedi plannu bron i 2,000 o goed ar y safle.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn parhau i feithrin a thyfu ein coetiroedd lleol sydd eisoes wedi gweld ardaloedd gwych ar gyfer natur a chymunedau yn cael eu creu yn Y Rhyl, Prestatyn, Rhuthun, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

“Mae’r ardaloedd hyn yn dod a chynefinoedd yn ôl ar gyfer ein natur lleol ond hefyd yn cefnogi’r cymunedau cyfagos, i roi rhywbeth i drigolion fod yn falch ohono a dyna pam y gelwir y gwaith eleni yn brosiect Mannau Natur Cymunedol ac rydym ni’n falch o ddechrau’r gwaith yma yn Llanelwy.

“Rydym ni dal yn awyddus i glywed a hoffai trigolion gymryd rhan yn y safleoedd eraill ar gyfer diwrnodau plannu coed ac unrhyw gyfleoedd eraill i wirfoddoli neu gael hyfforddiant”.

Os oes gennych chi ddiddordeb, e-bostiwch newidhinsawdd@sirddinbych.gov.uk

Plannu coed ar safle cymunedol newydd yn y Rhyl

Mae coed yn cael eu plannu ar y Safle Natur Cymunedol newydd, gyferbyn â Pharc Ffordd Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar safle yn y Rhyl, a fydd yn darparu buddion i natur leol a lles cymunedol.

Mae coed yn cael eu plannu ar y Safle Natur Cymunedol newydd, gyferbyn â Pharc Ffordd Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â thri Safle Natur Cymunedol arall sy’n cael eu sefydlu gan y Cyngor eleni yn Llanelwy, Henllan a Chlocaenog, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023 a gwaith plannu coed mewn ysgolion ar hyd a lled y Sir, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’r Prosiect Safleoedd Natur Cymunedol wedi derbyn cyllid o grant gwerth £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Ymhen amser, bydd Safle Natur Cymunedol newydd y Rhyl yn darparu cynefinoedd cryfach i natur elwa ohonynt, yn ogystal â mannau cymunedol i gefnogi lles meddyliol a chorfforol preswylwyr a’u galluogi i ddysgu am fywyd gwyllt lleol.

Bydd datblygu’r safle hwn yn y Rhyl hefyd yn darparu buddion cymunedol eraill megis gwell ansawdd aer, oeri gwres trefol ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r ymdrech i leihau ôl troed carbon y Sir, drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) gan goed.

Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Llys Brenig yn cynnwys creu pwll a gwlyptir i gefnogi bywyd gwyllt lleol, gosod ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle, a pharatoi i greu llwybr troed yn y dyfodol i aelodau’r gymuned ei ddefnyddio at ddibenion hamdden.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn plannu 1,885 o goed ar y safle yr wythnos hon, sy’n gymysgedd o goed llydanddail cynhenid sy’n briodol ar gyfer yr amodau lleol ac a fydd, fel yn achos y gwlyptiroedd a’r dolydd blodau gwyllt ar y safle, yn helpu i ddarparu cynefinoedd llawn rhywogaethau amrywiol i gynorthwyo ag adferiad a gwytnwch natur, a chyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, yn ogystal â’r buddion o ran iechyd y gymuned leol. Mae disgyblion blwyddyn 4 o Ysgol Bryn Hedydd wedi bod yn dysgu am gynaliadwyedd yn y dosbarth, ac fe wnaethon nhw dorchi llewys hefyd i helpu gyda’r plannu ar y safle cymunedol newydd.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma ddatblygiad gwych o ran lles y gymuned leol o amgylch y safle hwn ac rwy’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o gaffael y tir hwn.

“Rwyf wedi bod allan yn helpu gyda’r plannu ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ardal hon yn datblygu i gefnogi natur leol a chefnogi’r gwaith o ddarparu man gwych i breswylwyr lleol fynd i fwynhau bywyd gwyllt ar eu stepen drws, er mwyn rhoi hwb i’w lles meddyliol a chorfforol.”

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Allwch chi gysylltu’r gylfinir â chefnogaeth hanfodol?

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Cysylltu Gylfinir Cymru’, prosiect a gynhelir gan y bartneriaeth Adfer y Gylfinir sy’n gweithio â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Lansiwyd apêl i helpu cysylltu’r gylfinir ag amddiffyniad angenrheidiol y tymor hwn.

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Cysylltu Gylfinir Cymru’, prosiect a gynhelir gan y bartneriaeth Adfer y Gylfinir sy’n gweithio â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae Gylfinir Cymru’n bartneriaeth genedlaethol sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae gwaith hwn yn mynd yn ei flaen i amddiffyn y gylfinir mewn deuddeg o ardaloedd yng Nghymru, wedi’i ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Mae’r prosiect yn cynnwys yr AOHNE, sef ardaloedd mawr o Sir Ddinbych, a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

I helpu i gael y cymorth a’r warchodaeth gywir i’r adar yn yr ardal, mae’r tîm y prosiect yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i fonitro gweld a chlywed y gylfinir o’r tir.

Esboniodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Leol, Sam Kenyon: Mae’r gylfinir dan fygythiad ledled y DU oherwydd rhesymau megis colli cynefin, torri cnydau porthi’n gynt yn ystod y tymor nythu ac anifeiliaid eraill yn eu lladd.

“Beth fyddwn yn ei wneud yn y dyfodol agos yw monitro ac arolygu yn ystod y gwanwyn i gael syniad da o le rydym angen targedu ein hymdrechion yn wledig. Gan fod hon yn ardal fawr, rydym yn chwilio am gefnogaeth gan aelodau o’r gymuned leol i’n helpu ni leoli’r gylfinir drwy eu gweld a’u clywed mewn mannau nad oes mynediad i’r cyhoedd, a hefyd cymryd rhan mewn monitro trwy gydol y tymor.

“Byddwn yn cefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu’r adar prin hyn i oroesi yn yr ardal, ac mae’n gyfle gwych i fod yn yr awyr agored i helpu eich lles chi, yn ogystal â’r gylfinir.”

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu sôn am unrhyw ylfinirod rydych chi wedi’u gweld neu’u clywed yn yr ardaloedd sydd wedi’u rhestru ar What 3 Words, e-bostiwch samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hwn yn brosiect arbennig o bwysig i helpu’r gylfinir oedd unwaith i’w weld yn aml, nid yn unig yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Gyfunol. Rwy’n ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid yn caniatáu i’r AHNE fynd ati go iawn i ddiogelu’r gylfinir, a byddaf yn annog y sawl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu’r poblogaethau i oroesi yn y gobaith y byddant yn ffynnu yn y dyfodol.

Dewch i archwilio Loggerheads ar deithiau tywys gan geidwaid

Parc Gwledig Loggerheads

Mae cerddwyr brwd yn cael eu gwahodd i chwilio am eu hesgidiau cerdded yn barod i archwilio parc gwledig.

Mae ceidwaid cefn gwlad AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau â chyfres o deithiau cerdded tywysedig o amgylch Parc Gwledig Loggerheads i helpu pobl i archwilio’r ardal a mwynhau buddion yr awyr agored ar gyfer eu lles meddyliol a chorfforol.

Saif y parc islaw clogwyni calch trawiadol Dyffryn Alun, lle mae’r afon yn mynd drwy geunentydd coediog serth a glaswelltir agored a diarffordd. Mae calchfaen yn dylanwadu ar bob rhan o’r parc gan siapio gwedd y dirwedd a dylanwadu ar blanhigion sy’n tyfu yno.

Mae gan Loggerheads hefyd hanes treftadaeth cyfoethog gyda’r graig yn yr ardal yn cael ei chloddio am blwm yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Cynhaliodd tîm y ceidwaid Daith Gerdded y Gaeaf yn ddiweddar a arweiniodd grŵp o amgylch y dylanwad tymhorol presennol ar y parc gan roi cyfle i bobl fwynhau manteision bod yn yr awyr agored a dysgu am yr ardal.

Esboniodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Imogen Hammond: “Yn ddiweddar, fe wnaethom groesawu aelodau o’r cyhoedd am yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yn daith dymhorol chwarterol ar benwythnosau o amgylch Parc Gwledig Loggerheads.

“Cawsom 19 o bobl yn bresennol a chawsom drafodaeth wych ar blanhigion y gaeaf, y gwaith sy’n mynd rhagddo ar glefyd y coed ynn, gwaith rheoli cynefinoedd a rôl hanfodol ein tîm o wirfoddolwyr!”

Bydd y daith dywys nesaf gan y ceidwaid ym Mharc Gwledig Loggerheads ddydd Iau 28 Mawrth o Loggerheads i Geinant y Cythraul i ddysgu am etifeddiaeth mwyngloddio plwm yn yr ardal. Y mis canlynol ar ddydd Sadwrn Ebrill 20 bydd taith gerdded yn ystod y gwanwyn yn y parc.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ar daith gerdded, cysylltwch ag imogen.hammond@sirddinbych.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae mynd allan i’r awyr agored mor bwysig ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol a byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r teithiau tywys gwych hyn gan y ceidwaid i ddysgu am reolaeth a hanes Loggerheads, tra’n mwynhau’r manteision y gall bod yn yr awyr agored eu rhoi i’ch llesiant eich hun.”

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Gall gwirfoddoli ofalu yr arfordir helpu i wella iechyd a’r amgylchedd

Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â Gwirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd wedi helpu i wneud gwaith atgyweirio o amgylch Harbwr y Rhyl yn ddiweddar gan gynnwys newid coed ar y llwybr pren a chynnal a chadw’r meinciau.

Mae cyfleoedd i helpu i ofalu am ardaloedd arfordirol yn helpu i gefnogi iechyd gwell i gymunedau, gwirfoddolwyr a hefyd yn gwella amgylcheddau lleol.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr gyda Natur er Budd Iechyd i helpu pobl i fwynhau’r awyr agored a lles corfforol a meddyliol a dod yn fwy heini yn gorfforol.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n ymgysylltu unigolion a chymunedau i hyrwyddo sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.

Mae Rhaglen Natur er Budd Iechyd wedi cael £703,854 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â Gwirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd wedi helpu i wneud gwaith atgyweirio o amgylch Harbwr y Rhyl yn ddiweddar gan gynnwys newid coed ar y llwybr pren a chynnal a chadw’r meinciau.

Roedd y grŵp hefyd wedi gosod disgiau ac arwyddbyst newydd ar Lwybr Arfordir Cymru gyda’r cynlluniau lliw cywir o amgylch yr harbwr a Thrwyn Horton.

Mae clirio prysgwydd wedi bod yn flaenoriaeth dros fisoedd y gaeaf, a chafwyd sesiynau ar dwyni Barkby a Gronant. Bu’r gwirfoddolwyr dan arweiniad y ceidwaid yn gwneud gwaith cynnal a chadw pwysig ar y blychau gwenyn unigol (mewn lleoliad), gan eu glanhau’n iawn a sicrhau eu bod nhw’n barod i gael eu gosod allan unwaith eto yn y gwanwyn.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae wedi bod yn dda iawn cael y gwirfoddolwyr yn gofalu am eu lles eu hunain drwy helpu gyda’r gwaith awyr agored pwysig hwn i wella’r ardaloedd ar gyfer natur a’r bobl sy’n dod i ymweld ar gyfer eu hanghenion iechyd eu hunain.

“Mae gwirfoddoli yng nghefn gwlad yn ffordd wych i roi hwb i’ch iechyd, cael profiad a hefyd gofalu am yr amgylchedd ble rydych yn byw hefyd.

“Bydd y gwaith cynnal a chadw pwysig maent wedi helpu i’w wneud ar y blychau gwenyn unigol yn creu lle i’r saerwenynen goch a’r wenynen ddeildorrol ddodwy eu hwyau, a fydd yna’n datblygu i fod yn wenyn yn eu llawn dwf yn y gwanwyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae bod allan yn yr awyr agored mor bwysig ar gyfer rhoi hwb i iechyd meddwl a chorfforol ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith hwn a wnaed gan y ceidwaid a’r gwirfoddolwyr a gobeithio eu bod wedi mwynhau er mwyn eu lles eu hunain.

“Mae hefyd yn bwysig gwarchod natur yn yr amgylcheddau anhygoel hyn sydd gennym ar yr arfordir a bydd hyn yn helpu i gadw’r ardaloedd a’r cynefinoedd hyn i bobl ymweld a mwynhau.

Mae gwaith i ddod ar hyd yr arfordir yn cynnwys trawsblannu moresg yn Harbwr Y Rhyl a helpu yn y nythfa ar gyfer môr-wenoliaid bychain. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu gysylltu â Claudia ar 07785517398 neu anfon e-bostClaudia.Smith@sirddinbych.gov.uk

 

Adran Busnes

Y Cyngor yn atgoffa busnesau lleol o’r gefnogaeth sydd ar gael

Wrth i’r flwyddyn ariannol newydd ddynesu, hoffai’r Cyngor atgoffa busnesau lleol Sir Ddinbych o’r gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael iddynt.

Drwy gydol mis Mawrth bydd y Cyngor yn cynnal ei ymgyrch boblogaidd ‘Mis Mawrth Menter’, sy’n darparu gweithdai, digwyddiadau rhwydweithio a sesiynau cyngor yn rhad ac am ddim i fusnesau ledled Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Rhagor o wybodaeth yma.

Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol, sydd wedi derbyn cyllid gwerth £290,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol yng nghanol trefi a dinas Sir Ddinbych. Mae’r cynllun grant yn rhan o’r Prosiect Cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi ehangach. Mae grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i wella neu ddatblygu eiddo masnachol.

Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol Sir Ddinbych yn agored i eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol un o’r 8 prif drefi a dinas yn y sir, sef:

  • Corwen
  • Dinbych
  • Llangollen
  • Prestatyn
  • Rhuddlan
  • Y Rhyl
  • Rhuthun
  • Llanelwy

Mae’n rhaid i’r prosiect fodloni meini prawf penodol. Ceir rhagor o fanylion ar ein gwefan.

Mae busnesau micro a bach presennol, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol yn gymwys i wneud cais am grant ‘Sir Ddinbych Ffyniannus’ a ddarperir drwy Gadwyn Clwyd. Ariennir hyn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’. Mae nod y prosiect yn cyd-fynd â nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sef rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, gyda phwyslais ar gefnogi mentrau micro a bach o fewn Sir Ddinbych. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Cadwyn Clwyd.

Mae tîm Gwarchod y Cyhoedd yn y Cyngor yn darparu cyngor ac arweiniad defnyddiol yn rhad ac am ddim i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r cyfreithiau a rheoliadau sy’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys cyngor ynglŷn â pha drwyddedau sydd eu hangen, cyngor am iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd a labelu, materion safonau masnach mewn busnesau, a llawer mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r Cyngor yma i gefnogi busnesau lleol y stryd fawr, sy’n gweithio’n galed – maent yn hanfodol i’r economi leol.

"Pa un a ydych yn fusnes newydd neu’n fusnes sy’n bodoli eisoes, gall y Cyngor ddarparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch cynorthwyo, ac mae hyn yn cynnwys ‘Mis Mawrth Menter’, sydd ar ddod.”

Mis Mawrth Menter

March for Business logo

Mae ymgyrch Mis Mawrth Menter yn ôl ar gyfer 2024, ac mae’n cynnig gweithdai yn rhad ac am ddim, digwyddiadau rhwydweithio a sesiynau cyngor ar gyfer busnesau ledled Sir Ddinbych.

Mae mwy o wybodaeth am y gweithdai sydd ar gael, ar ein gwefan.

Addysg

Gallai eich plentyn for yn cymwys i gyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol

Gallai eich plentyn gael hyd at £200 tuag at Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol.

Am ragor o wybodaeth ar sut i hawlio help, ewch i'n gwefan.

#BwydoEuBywydau

Ydych erioed wedi meddwl am fod yn Lywodraethwr Ysgol?

Mae llywodraethwyr ysgolion yn gweithio i gynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol, goruchwylio cyllidebau, a chefnogi a herio'r pennaeth. Fel rhan o'r bwrdd llywodraethu, mae llywodraethwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu ysgolion i redeg yn effeithlon ac yn effeithiol er mwyn rhoi'r addysg orau bosibl i blant.

Mae ysgolion sydd â byrddau llywodraethu cryf mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar yr addysg maen nhw'n ei darparu ar gyfer eu disgyblion.

Os ydych yn meddwl bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.  

Nodweddion

Ydych erioed wedi meddwl am roi gwaed?

Mewn llai nag ① awr, gallech achub hyd at ③ o fywydau drwy roi gwaed gyda @Gwaedcymru! ❤❤
📅 Gwnewch apwyntiad heddiw: 🔗

https://wbs.wales/DenbighshireCC  

Treftadaeth

Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre i ailagor fis Mawrth

Mae Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl ar ôl bod ar gau dros y gaeaf, pan fydd y safleoedd treftadaeth yn agor eu drysau ddydd Sadwrn 23 Mawrth.

Mae’r safleoedd hanesyddol yn cynnig taith hudolus drwy amser. Ceir cipolwg grymus, llawn awyrgylch ar fywyd carcharorion ers talwm yn y Carchar a chewch wybod mwy am fywyd teuluol yng Nghymru drwy’r oesau yn Nantclwyd y Dre, tŷ pren rhestredig Gradd 1 â statws ‘Trysor Cudd’ am yr ystafelloedd a ail-grëwyd a’i erddi hudolus.  

Y tymor hwn, ochr yn ochr ag arddangosfeydd rhyngweithiol, teithiau tywys ac arddangosfeydd ymarferol, bydd ymwelwyr yn cael eu herio i ddianc o’r Carchar a dod yn deithwyr amser yn Nantclwyd y Dre fel rhan o weithgareddau newydd sy’n dod â hanes yn fyw mewn ffyrdd sy’n siŵr o greu atgofion.

Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd yn cynnig diwrnod perffaith i deuluoedd, rhai sy’n frwd am hanes ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am orffennol cymdeithasol a phensaernïol Rhuthun. Gan agor mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg, bydd llwybr y Pasg yn cael ei gynnal yn Nantclwyd y Dre ar 23, 28, 29 a 30 Mawrth (10:30 - 17:00, mynediad olaf am 16:00), sy’n rhan o bris arferol tocynnau.

Bydd Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre ar agor i’r cyhoedd o 23 Mawrth ymlaen, a bydd yr oriau agor a gwybodaeth am docynnau ar gael ar eu gwefannau.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid