Mae cymorth wedi ei roi i natur sydd ar hyd llwybr poblogaidd yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd wedi rhoi bywyd newydd i natur ar hyd Llwybr Prestatyn i Ddyserth a hynny gyda chrefft draddodiadol a ddefnyddir gyda choetiroedd.

Mae gwaith coedlannu wedi ei wneud ar goed cyll ger yr hen lein reilffordd nad yw’n cael ei defnyddio mwyach, ger Y Sied yng Ngallt Melyd.

Fel rhan o’r dechneg sgiliau coed caiff y goeden gollen ei thorri i lefel y tir er mwyn helpu coesau newydd i aildyfu o’r gwaelod er mwyn hybu adnewyddiad y goeden.

Mae arfer y dechneg hon ar hyd Llwybr Prestatyn i Ddyserth hefyd yn helpu i gefnogi natur yn yr ardal. Mae coedlannu yn galluogi i fwy o olau i daro’r tir o amgylch y coed gan roi mwy o gefnogaeth i rywogaethau planhigion eraill, gan achosi adwaith cadwynol sy’n cynyddu ystod y planhigion a bywyd gwyllt mewn ardal o goetir.

Dywedodd Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Rydym hefyd wedi gallu creu twmpathau cynefinoedd o dorbrennau coed cyll sydd gennym ni o’r gwaith coedlannu ar hyd y llwybr. Mae’r rhain yn bwysig ar gyfer cefnogi twf bioamrywiaeth yn yr ardal hon gan y byddant yn darparu bwyd a hefyd lloches fel y gall natur leol ffynnu a goroesi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwaith traddodiadol hwn yn bwysig ar gyfer cefnogi twf bioamrywiaeth yn y dyfodol. Pob clod i’r gwirfoddolwyr a’r staff Cefn Gwlad am helpu natur i ffynnu ar hyd y llwybr gwych hwn fel y gall cymunedau lleol ei fwynhau.”