llais y sir

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Diwrnod y Llyfr 2025

Bydd llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych yn dathlu Diwrnod y Llyfr ar ddydd Iau, 6ed o Fawrth ac yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu arferiad oes o ddarllen er pleser.

Gall llyfrau eich helpu i ddysgu ffeithiau hynod ddiddorol, teithio trwy amser, cymryd amser i arafu mewn byd prysur a dianc rhag realiti! Y cyfan sydd ei angen yw llyfr. Ni fydd yn rhedeg allan o fatris nac angen ei wefru, a gallwch fenthyg llyfrau am ddim o’ch llyfrgell leol. 

Bydd copïau o deitlau Diwrnod y Llyfr ar gael i’w casglu mewn llyfrgelloedd tra bydd cyflenwad ar gael!

 

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunodd Tîm Dechrau Da yn ymgyrch BookTrust Cymru i ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru yn eu sesiynau yn ddiweddar. Mwynhawyd sesiynau byrlymus gyda’r babis a phlant yn dysgu ac ymarfer eu rhigymau.

Dathliad blynyddol ydi Amser Rhigwm Mawr Cymru o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Mae'n fwrlwm y rhigwm i bawb!

Sêr y Silffoedd

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn prosiect cyffrous newydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru. Mae Sêr y Silffoedd wedi rhoi cyllid i lyfrgelloedd i wahodd awduron i lyfrgelloedd i gynnal gweithdai gydag ysgolion lleol yn Gymraeg a Saesneg.

     

Yn Sir Ddinbych cawsom y fraint o gydweithio gyda’r awduron arbennig Anni Llŷn, Damian Harvey a Rebecca Roberts. Daeth bron 450 o blant o 12 o ysgolion ar draws Sir Ddinbych i sesiynau yn Llyfrgelloedd Llanelwy, Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Rhuthun. Cawsant gyfle i fwynhau profiad arbennig o gyfarfod awdur a chymryd rhan mewn gweithdai bywiog a chyffrous oedd yn tanio’r dychymyg ac yn ysgogi creadigrwydd.

Croesawyd Anni Llŷn i Lyfrgelloedd Dinbych a Rhuthun gan gynnal gweithdai gyda Ysgolion Betws Gwerful Goch, Bro Elwern, Henllan, Pant Pastynog, Pen Barras, Pentrecelyn, Tremeirchion a Twm o’r Nant. Bu’n trafod ei llyfrau gan gyflwyno sgiliau iaith cyflythrennu, ansoddeiriau ac odl gan ennyn diddordeb y plant i ysgrifennu’n greadigol.

Yr awdur Damian Harvey ymwelodd a Lyfrgelloedd Llanelwy a’r Rhyl gyda sesiynau llawn egni a hwyl tra’n trafod ei waith fel awdur a’i lyfrau. Croesawyd plant Ysgolion Esgob, Morgan, VP Llanelwy a Crist y Gair i’r llyfrgelloedd.

Cafwyd hefyd sesiwn greadigol gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Prestatyn gyda’r awdur Rebecca Roberts yn Llyfrgell Prestatyn fel rhan o’r prosiect.

     

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid