Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi helpu i gefnogi natur ar safle’r ysgol.

Yn ddiweddar bu i’r disgyblion ymuno â Thîm Bioamrywiaeth a Cheidwaid Cefn Gwlad y Cyngor i helpu i ymestyn gwrychoedd ar y safle i ddarparu mwy o gymorth i natur leol.

Dros y 12 mis diwethaf, mae gwaith wedi parhau ledled ysgolion y sir, er mwyn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar diroedd ysgol, i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r plant. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.

Trwy blannu coed ar diroedd ysgolion, mae hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bu i ddisgyblion helpu i lenwi’r bylchau mewn 110 metr o wrychoedd trwy blannu 16 coeden safonol a chefnogi datblygiad ardal 60 metr newydd o wrychoedd.

Bu iddynt hefyd helpu i blannu 19 coeden fawr i greu ardal goetir ar y cae yn y cefn a hefyd 16 coeden ffrwythau.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu cymorth gwych wrth helpu ein Tîm Bioamrywiaeth i greu cymorth ychwanegol ar y safle i natur leol ei fwynhau a hefyd darparu gwell lles awyr agored a dysgu i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran.”