Mae ardal goetir newydd yn gwreiddio mewn ysgol uwchradd yn y Rhyl.
Yn ddiweddar, torchodd disgyblion Crist y Gair eu llewys i helpu i greu hafan newydd i fyd natur ar dir eu hysgol.
Yn ddiweddar bu disgyblion yn helpu Tîm Bioamrywiaeth a Cheidwaid Cefn Gwlad y Cyngor i ddatblygu gwrychoedd a choetiroedd newydd yn yr ysgol.
Cynhaliwyd gwaith plannu prysur ar draws ysgolion y sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar draws tiroedd ysgol. Mae hyn er mwyn cefnogi byd natur a’i adfer, gan ddarparu ardal awyr agored lles addysgol i bobl ifanc. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.
Mae cynyddu nifer y coed ar diroedd ysgol hefyd yn helpu i gefnogi ymgyrch y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).
Bu’r disgyblion yn helpu i greu gwrych 260 metr o hyd, gan gynnwys 14 o goed safonol ynddo. Roedd y rhain yn cynnwys criafol, Masarn Bach, Ffug-geirios, Gwifwrnwydden, Ceirios Du, a Choed Ceirios yr Adar.
Bu disgyblion Crist y Gair hefyd yn helpu i blannu cymysgedd o goed derw, gwern a helyg yn ardal yr ysgol goedwig. Cyfanswm arwynebedd y gwaith plannu a gyflawnwyd gan ddisgyblion y Tîm Bioamrywiaeth a'r ceidwaid yw 400 metr sgwâr.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i ddisgyblion Crist y Gair am eu cymorth gwych wrth helpu ein Tîm Bioamrywiaeth a’r ceidwaid i greu’r ardal newydd hon ar y safle i natur leol ei fwynhau a hefyd darparu gwell lles awyr agored a dysgu i’r holl bobl ifanc yn yr ysgol.”