Y Cyngor yn llwyddiannus wrth gwblhau gwaith gorfodaeth cynllunio
Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ar hysbysiad gorfodi cynllunio yn y Sir.
Bu i swyddogion y Cyngor fynd i safle yn Llandegla i symud nifer o gerbydau sgrap a oedd yn cael eu cadw ar y tir yn anghyfreithlon. Dyma’r ail dro i’r Cyngor glirio’r tir yn yr ardal hon o dan berchnogaeth yr un unigolyn oherwydd effeithiau amgylcheddol niweidiol.
Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r gwaith ehangach mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Sir i fynd i’r afael â’r achosion mwyaf niweidiol o dorri rheoliadau cynllunio.
Ers cwblhau’r gwaith clirio, mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth gael gwaharddeb yn Llys Ynadon Wrecsam, i atal y tirfeddiannwr rhag rhoi unrhyw gerbydau sgrap ac eitemau eraill ar ei dir yn Llandegla.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r camau gweithredu cyfreithiol hyn gan y Cyngor unwaith eto’n dangos ei fod yn cymryd niwed amgylcheddol o ddifrif. Bydd unigolion sy’n ceisio osgoi prosesau cynllunio a pharhau i ddifetha ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn cael eu trin yn y ffordd gryfaf.
“Byddwn yn annog trigolion sydd â phryderon ynglลทn ag unrhyw ddifrod a niwed posib i’r amgylchedd naturiol ac adeiledig i gysylltu â’r Cyngor yn uniongyrchol, a gallaf sicrhau trigolion y cynhelir ymchwiliadau pan fo niwed amgylcheddol yn amlwg.
“Hoffwn ddiolch i swyddogion cynllunio y Cyngor a’r Aelod Lleol am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth ymdrin â’r achosion anodd hyn.
I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cynllunio’r Cyngor ewch i’n gwefan.
Y Cyngor yn croesawu asesiad perfformiad panel
Ym mis Medi 2024, cynhaliwyd asesiad pan fu arbenigwyr annibynnol yn gwerthuso meysydd allweddol o berfformiad y Cyngor.
Sir Ddinbych oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gael yr asesiad gan banel o dan arweiniad cadeirydd annibynnol, dau uwch gymar o Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a dau gymar o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Fel rhan o’r broses, cynhaliodd y Panel gyfweliadau ag Aelodau Cabinet, Cynghorwyr, staff ac ystod o bartneriaid.
Daeth y panel i’r canfyddiad bod Sir Ddinbych yn gyffredinol, o ystyried y cyd-destun presennol o alw sylweddol a phwysau ariannol, yn gyngor sy’n cael ei redeg yn dda gyda meysydd allweddol o gryfderau ac arloesedd. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod yr Awdurdod yn cael ei redeg yn dda ar y cyfan a'i fod yn cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol gan hefyd gydnabod yr heriau y mae wedi'u hwynebu yn ddiweddar. Dywedodd hefyd fod gan y Cyngor broses glir ar waith i reoli adnoddau'n ddarbodus ac yn effeithlon a'i fod wedi dygymod â dros ddegawd o lymder llywodraeth leol yn dda wrth ddiogelu gwasanaethau rheng flaen lle bo modd. Canfuwyd bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff ac aelodau a chydnabyddiaeth ymhlith staff o ethos y Cyngor. Roedd staff hefyd yn dangos ymdeimlad cryf o falchder mewn gweithio i'r Awdurdod ac yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymunedau a pharodrwydd i gefnogi gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor pan fo angen. Nododd y Panel bod meysydd o arfer da ac arloesedd, gan gynnwys lefel uchel o integreiddio ar draws gwasanaethau cymdeithasol ac addysg; ymgysylltu da â staff ac aelodau; a’r Grwpiau Ardal Aelodau lle mae aelodau a swyddogion yn cyfarfod mewn wardiau dynodedig ar draws y Sir i drafod blaenoriaethau lleol trigolion a materion lleol.
Yn mis Chwefror, cymeradwyodd y Cabinet a'r Cyngor yr adroddiad.
Gellir gweld adroddiad terfynol Asesiad Perfformiad Panel, ein datganiadau ymateb a'n Cynllun Gweithredu sy'n ymateb i'r argymhellion hynny, ar ein gwefan >>> www.sirddinbych.gov.uk/perfformiad.
Ydych yn meddwl am weithio o fewn y sector gofal?
Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen i ehangu gwasanaeth ail-alluogi o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, trwy recriwtio Weithwyr Cymorth Ailalluogi newydd. Mae'r rôl yma yn helpu preswylwyr i wneud pethau
cyffredin megis gwisgo a choginio. Mae nifer o resymau pam y gall pobl fod angen y cymorth hwn, megis yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.

Gwyliau blynyddol hael.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Defnydd o gerbyd gwaith.

Polisïau Cyfeillgar i Deuluoedd.

Cyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Ydych chi'n gweld eich hun mewn rôl debyg? Cadwch lygad ar ein gwefan lle byddwch yn dod o hyd i lawer o gyfleoedd yn y maes gofal.Mae Eirian Jones yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Ail-alluogi ac yn y fideo isod, mae hi'n rhoi ychydig o fewnwelediad i'r gwaith mae hi'n ei wneud o ddydd i ddydd.