llais y sir

Newyddion

Y Cyngor yn llwyddiannus wrth gwblhau gwaith gorfodaeth cynllunio

Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ar hysbysiad gorfodi cynllunio yn y Sir.

Bu i swyddogion y Cyngor fynd i safle yn Llandegla i symud nifer o gerbydau sgrap a oedd yn cael eu cadw ar y tir yn anghyfreithlon. Dyma’r ail dro i’r Cyngor glirio’r tir yn yr ardal hon o dan berchnogaeth yr un unigolyn oherwydd effeithiau amgylcheddol niweidiol.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r gwaith ehangach mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Sir i fynd i’r afael â’r achosion mwyaf niweidiol o dorri rheoliadau cynllunio.

Ers cwblhau’r gwaith clirio, mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth gael gwaharddeb yn Llys Ynadon Wrecsam, i atal y tirfeddiannwr rhag rhoi unrhyw gerbydau sgrap ac eitemau eraill ar ei dir yn Llandegla.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae’r camau gweithredu cyfreithiol hyn gan y Cyngor unwaith eto’n dangos ei fod yn cymryd niwed amgylcheddol o ddifrif.  Bydd unigolion sy’n ceisio osgoi prosesau cynllunio a pharhau i ddifetha ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn cael eu trin yn y ffordd gryfaf.

“Byddwn yn annog trigolion sydd â phryderon ynglŷn ag unrhyw ddifrod a niwed posib i’r amgylchedd naturiol ac adeiledig i gysylltu â’r Cyngor yn uniongyrchol, a gallaf sicrhau trigolion y cynhelir ymchwiliadau pan fo niwed amgylcheddol yn amlwg.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion cynllunio y Cyngor a’r Aelod Lleol am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth ymdrin â’r achosion anodd hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cynllunio’r Cyngor ewch i’n gwefan.

Y Cyngor yn croesawu asesiad perfformiad panel

Ym mis Medi 2024, cynhaliwyd asesiad pan fu arbenigwyr annibynnol yn gwerthuso meysydd allweddol o berfformiad y Cyngor.

Sir Ddinbych oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gael yr asesiad gan banel o dan arweiniad cadeirydd annibynnol, dau uwch gymar o Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a dau gymar o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Fel rhan o’r broses, cynhaliodd y Panel gyfweliadau ag Aelodau Cabinet, Cynghorwyr, staff ac ystod o bartneriaid.

Daeth y panel i’r canfyddiad bod Sir Ddinbych yn gyffredinol, o ystyried y cyd-destun presennol o alw sylweddol a phwysau ariannol, yn gyngor sy’n cael ei redeg yn dda gyda meysydd allweddol o gryfderau ac arloesedd. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod yr Awdurdod yn cael ei redeg yn dda ar y cyfan a'i fod yn cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol gan hefyd gydnabod yr heriau y mae wedi'u hwynebu yn ddiweddar. Dywedodd hefyd fod gan y Cyngor broses glir ar waith i reoli adnoddau'n ddarbodus ac yn effeithlon a'i fod wedi dygymod â dros ddegawd o lymder llywodraeth leol yn dda wrth ddiogelu gwasanaethau rheng flaen lle bo modd. Canfuwyd bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff ac aelodau a chydnabyddiaeth ymhlith staff o ethos y Cyngor. Roedd staff hefyd yn dangos ymdeimlad cryf o falchder mewn gweithio i'r Awdurdod ac yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymunedau a pharodrwydd i gefnogi gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor pan fo angen. Nododd y Panel bod meysydd o arfer da ac arloesedd, gan gynnwys lefel uchel o integreiddio ar draws gwasanaethau cymdeithasol ac addysg; ymgysylltu da â staff ac aelodau; a’r Grwpiau Ardal Aelodau lle mae aelodau a swyddogion yn cyfarfod mewn wardiau dynodedig ar draws y Sir i drafod blaenoriaethau lleol trigolion a materion lleol.

Yn mis Chwefror, cymeradwyodd y Cabinet a'r Cyngor yr adroddiad.

Gellir gweld adroddiad terfynol Asesiad Perfformiad Panel, ein datganiadau ymateb a'n Cynllun Gweithredu sy'n ymateb i'r argymhellion hynny, ar ein gwefan >>> www.sirddinbych.gov.uk/perfformiad.

Ydych yn meddwl am weithio o fewn y sector gofal?

Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen i ehangu gwasanaeth ail-alluogi o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, trwy recriwtio Weithwyr Cymorth Ailalluogi newydd. Mae'r rôl yma yn helpu preswylwyr i wneud pethau cyffredin megis gwisgo a choginio. Mae nifer o resymau pam y gall pobl fod angen y cymorth hwn, megis yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.
Buddion i weithwyr:
🌄 Gwyliau blynyddol hael.
📃Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
🚗 Defnydd o gerbyd gwaith.
🏠 Polisïau Cyfeillgar i Deuluoedd.
✅ Cyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Ydych chi'n gweld eich hun mewn rôl debyg? Cadwch lygad ar ein gwefan lle byddwch yn dod o hyd i lawer o gyfleoedd yn y maes gofal.

Mae Eirian Jones yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Ail-alluogi ac yn y fideo isod, mae hi'n rhoi ychydig o fewnwelediad i'r gwaith mae hi'n ei wneud o ddydd i ddydd.

Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Taith gerdded eirlysiau a hanes

 Eglwys Sant Tysilio

Yn ddiweddar, cafodd cerddwyr gyfle i fwynhau taith eirlysiau heulog braf i groesawu’r gwanwyn.

Arweiniodd Ceidwaid Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ynghyd â’r tîm Natur er Budd Iechyd daith gerdded y gwanwyn i weld yr eirlysiau yn Eglwys Sant Tysilio, Llantysilio.

Bu’r Ceidwaid yn sgwrsio am y gwaith gwella sy’n mynd ymlaen yn Rhaeadr y Bedol cyn mynd i lawr at yr eglwys.

Croesawyd pawb i’r eglwys gan y warden i ddysgu am ei hanes, y bobl enwog sydd wedi eu claddu yno ac i fwynhau tlysni’r eirlysiau o’i hamgylch.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae’n bwysig iawn bod pobl yn neilltuo amser i fwynhau bod allan yn yr awyr agored ac mae llawer iawn o astudiaethau sy’n profi pam bod cysylltu â natur a’r tirlun a’r hanes o’i gwmpas yn dda i ni.”

Hoffai’r Ceidwaid ddiolch yn arbennig i wardeiniaid Eglwys Sant Tysilio am groesawu’r grŵp a chynnal sgwrs mor ddifyr am y safle.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect ar y cyd sy’n ymgysylltu ag unigolion a chymunedau i hyrwyddo’r gwaith y gall mynediad at natur ei chwarae i wella iechyd a lles. Mae’r rhaglen yn croesawu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn cadwraeth a gweithgareddau awyr agored iach ar garreg eich drws. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU.

Os methoch chi’r daith hon ac os hoffech ymuno â digwyddiad yn y dyfodol, neu os hoffech gael copi o amserlen digwyddiadau am ddim Natur er Budd Iechyd, cysylltwch drwy anfon e-bost at naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk neu ewch ar dudalen Eventbrite Natur er Budd Iechyd drwy’r ddolen gyswllt: https://shorturl.at/XSVSU

Cymorth lleol ar gyfer ein gylfinirod

Mae swydd Sam fel Swyddog y Gylfinir a Phobl ar gyfer Cysylltu Gylfinir Cymru * yn rhan o brosiect 3 blynedd i gydweithio’n agos gyda thirfeddianwyr i wella poblogaeth y gylfinir sy’n prinhau. Eglurodd Sam fod nifer y gylfinir wedi lleihau’n sylweddol oherwydd torri dolydd gwair yn ddwys ar gyfer silwair ac oherwydd coedwigaeth ac ysglyfaethu. Pwrpas y prosiect yn rhannol yw adnabod safleoedd nythu ac yna eu monitro a’u hamddiffyn gyda ffensys trydan er mwyn i’r oedolion fagu’r wyau a’r cywion bach nes eu bod yn barod i hedfan y nyth. Oherwydd bod y nythod ar y tir, maent mewn perygl o ysglyfaethwyr megis moch daear a llwynogod. Y cynefin mwyaf cyffredin yw glaswelltir wedi’i led wella, rhostir sych a chorsydd mawn. 

Gallwch ddarllen mwy ar blog Gogledd Ddwyrain Cymru.

Cymorth i gerddwyr cŵn ym mharc gwledig

Moel Famau

Dros wyliau hanner tymor rhoddwyd cyngor defnyddiol i bobl a oedd yn cerdded eu cŵn mewn parc poblogaidd yn ogystal â darparu ategolion defnyddiol ar gyfer crwydro llwybrau’r ardal.

Bu i Geidwaid o dîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy osod stondin ym maes parcio Penbarras, Parc Gwledig Moel Famau yn ystod gwyliau hanner tymor.

Mae’r stondin yn rhan o ymgyrch wybodaeth wedi’i hanelu at helpu i hysbysu cerddwyr cŵn ynglŷn â’r angen i gadw eu hanifeiliaid ar dennyn wrth gerdded drwy gefn gwlad, yn enwedig wrth i dymor wyna agosáu.

Bu Ceidwaid a cheidwaid gwirfoddol yn sgwrsio ag ymwelwyr cyn iddynt gerdded llwybr Clawdd Offa i gyfeiriad Tŵr Jiwbili, er mwyn eu helpu i ddeall y cyfyngiadau a’r canllawiau sydd mewn grym i’w cadw nhw, eu hanifeiliaid ac eraill yn ddiogel.

Fe wnaethant hefyd gynnig bagiau baw cŵn a phethau i’w dal, tenynnau rhag ofn bod rhai perchnogion wedi anghofio dod â thenynnau ar gyfer eu hanifeiliaid, danteithion i’r cŵn a oedd eisoes ar dennyn a mapiau o’r llwybrau i grwydro’r ardal yn ddiogel.

Hefyd, cymerodd y tîm amser i gyfarfod pobl ar hyd llwybr Clawdd Offa i’w helpu i ddeall sut i aros yn ddiogel gyda’u hanifeiliaid yn y rhan hon o Barc Gwledig Moel Famau.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r ymateb rydym wedi’i gael gan bobl sy’n mynd â chŵn am dro i fyny Moel Famau wedi bod yn dda iawn ac rydw i’n gobeithio ein bod wedi gallu eu helpu a’u cefnogi, i roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o’r cyfyngiadau cefn gwlad sydd mewn grym mewn rhai ardaloedd ar gyfer y tro nesaf y byddant yn mynd am dro gyda’u cŵn.

“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio o flaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk a dilynwch Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Facebook ac X.

Artistiaid yn dychwelyd i gartref cefn gwlad i ddathlu carreg filltir

Mae Peintwyr Parc Gwledig Loggerheads yn ôl yn arddangos eu celf yn yr Oriel rhwng y Gerddi Te a’r bont garreg ym Marc Gwledig Loggerheads.

Mae grŵp o artistiaid yn dathlu carreg filltir arbennig mewn parc cefn gwlad.

Mae Peintwyr Parc Gwledig Loggerheads yn ôl yn arddangos eu celf yn yr Oriel rhwng y Gerddi Te a’r bont garreg ym Marc Gwledig Loggerheads.

Maent yn grŵp bach o artistiaid amatur lleol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau yn amrywio o acrylig, dyfrliw, pastel, caligraffi a llawer mwy.

Mae’r grŵp celf wedi bod yn dod i Loggerheads i gynnal eu gweithdai wythnosol ers 2006 gyda’r gwaith diweddaraf yn 20fed arddangosfa a gynhelir yn y Parc Gwledig.

Mae llawer o waith celf yr aelodau wedi ei ysbrydoli gan amrywiaeth a harddwch naturiol Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r arddangosfa eleni’n cynnwys ychwanegiad arbennig o Gornel y Gylfinir; wedi ei ysbrydoli gan Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru mae’r grŵp celf wedi creu amrywiaeth o waith celf a ysbrydolwyd gan y gylfinir i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Gylfinir Ewrasiaidd, rhywogaeth adar o bwysigrwydd diwylliannol sy’n dirywio’n sydyn yng Nghymru.

Nod yr ymdrechion cymunedol hyn, sy’n digwydd ar draws tirwedd ehangach Cymru, yw atal diflaniad y gylfinir fel rhywogaeth fridio, y disgwylir iddo ddigwydd yng Nghymru erbyn 2033.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Os ydych yn mynd i Barc Gwledig Loggerheads i weld y gwaith celf anhygoel yn yr arddangosfa eleni, a wnewch chi bleidleisio dros eich hoff ddarn o waith, gan fod yr artist sy’n cael y mwyaf o bleidleisiau bob blwyddyn yn ennill Tarian Peintwyr Parc Gwledig Loggerheads ac yn dewis elusen i gael holl elw’r arddangosfa.

Dewisodd enillydd y llynedd elusen Tŷ Gobaith.

Bydd yr arddangosfa ymlaen tan 20 Mawrth.

Gwastraff ac Ailgylchu

Y Cyngor yn annog trigolion i gofrestru ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd

Mae gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd Sir Ddinbych wedi ailagor i drigolion, gyda strwythur talu diwygiedig yn dod rym o 1 Ebrill 2025. Yn dilyn saib dros dro yn y broses danysgrifio yn gynharach eleni, er mwyn cwblhau uwchraddiad hanfodol, mae tanysgrifiadau ar gael eto.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion sy'n tanysgrifio am y tro cyntaf i wneud hyn mewn da bryd i sicrhau y gellir dosbarthu biniau newydd mewn pryd ar gyfer 1 Ebrill ac i fanteisio'n llawn ar y gwasanaeth 12 mis.

Bydd trigolion sydd eisoes â thanysgrifiad sy’n ymestyn tu hwnt i 1 Ebrill, ddim ond yn talu cyfran o’r ffi tanysgrifio 12 mis – o’u dyddiad adnewyddu i 31 Mawrth 2026.

Bydd y gwasanaeth tanysgrifio diwygiedig yn rhedeg am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn a bydd tanysgrifiadau ar-lein yn costio £45 eleni. Mae cost weinyddol ychwanegol o £5 ar gyfer ceisiadau tanysgrifio drwy’r ganolfan gyswllt neu Siopau Un Alwad y Cyngor (caiff ffioedd tanysgrifio eu hadolygu'n flynyddol yn unol â chyfraddau chwyddiant). Wedi hynny, o 1 Ebrill 2026, bydd yr holl adnewyddiadau, tanysgrifiadau ac uwchraddiadau yn cyd-fynd â'r flwyddyn ariannol.

Mae Sir Ddinbych yn cynnig y gwasanaeth pythefnosol hwn fel ffordd ddewisol a chost-effeithiol o ailgylchu gwastraff gardd. Gyda 26 o gasgliadau bob blwyddyn, mae hyn yn cyfateb i tua £1.74 y casgliad. Mae'r tâl tanysgrifio yn angenrheidiol er mwyn i'r Cyngor ddarparu'r gwasanaeth anstatudol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Hoffwn annog trigolion sydd am gofrestru i wneud hynny cyn gynted â phosibl i roi digon o amser os oes angen dosbarthu biniau newydd ac i gymryd mantais o’r gwasanaeth am y flwyddyn lawn.

“Rydym yn cydnabod bod rhai trigolion wedi profi toriad i’w gwasanaeth gwastraff gardd yn ystod 2024, ac fel arwydd o ewyllys da bydd y Cyngor yn dal pris y llynedd ar gyfer y trigolion hynny yr effeithiwyd arnynt ar gyfer y cyfnod 2025/26.”

Gall trigolion wirio os oes ganddynt danysgrifiad byw ar y dudalen dyddiadau casglu biniau ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/dyddiadau-casgliadau-bin.

Fel arall, gallwch ffonio'r ganolfan gyswllt cwsmer ar 01824 706000.

Bydd Wych - Gwnewch addewid i achub eich bwyd rhag y sbwriel

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Diwrnod y Llyfr 2025

Bydd llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych yn dathlu Diwrnod y Llyfr ar ddydd Iau, 6ed o Fawrth ac yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu arferiad oes o ddarllen er pleser.

Gall llyfrau eich helpu i ddysgu ffeithiau hynod ddiddorol, teithio trwy amser, cymryd amser i arafu mewn byd prysur a dianc rhag realiti! Y cyfan sydd ei angen yw llyfr. Ni fydd yn rhedeg allan o fatris nac angen ei wefru, a gallwch fenthyg llyfrau am ddim o’ch llyfrgell leol. 

Bydd copïau o deitlau Diwrnod y Llyfr ar gael i’w casglu mewn llyfrgelloedd tra bydd cyflenwad ar gael!

 

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunodd Tîm Dechrau Da yn ymgyrch BookTrust Cymru i ddathlu Amser Rhigwm Mawr Cymru yn eu sesiynau yn ddiweddar. Mwynhawyd sesiynau byrlymus gyda’r babis a phlant yn dysgu ac ymarfer eu rhigymau.

Dathliad blynyddol ydi Amser Rhigwm Mawr Cymru o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Mae'n fwrlwm y rhigwm i bawb!

Sêr y Silffoedd

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn prosiect cyffrous newydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru. Mae Sêr y Silffoedd wedi rhoi cyllid i lyfrgelloedd i wahodd awduron i lyfrgelloedd i gynnal gweithdai gydag ysgolion lleol yn Gymraeg a Saesneg.

     

Yn Sir Ddinbych cawsom y fraint o gydweithio gyda’r awduron arbennig Anni Llŷn, Damian Harvey a Rebecca Roberts. Daeth bron 450 o blant o 12 o ysgolion ar draws Sir Ddinbych i sesiynau yn Llyfrgelloedd Llanelwy, Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Rhuthun. Cawsant gyfle i fwynhau profiad arbennig o gyfarfod awdur a chymryd rhan mewn gweithdai bywiog a chyffrous oedd yn tanio’r dychymyg ac yn ysgogi creadigrwydd.

Croesawyd Anni Llŷn i Lyfrgelloedd Dinbych a Rhuthun gan gynnal gweithdai gyda Ysgolion Betws Gwerful Goch, Bro Elwern, Henllan, Pant Pastynog, Pen Barras, Pentrecelyn, Tremeirchion a Twm o’r Nant. Bu’n trafod ei llyfrau gan gyflwyno sgiliau iaith cyflythrennu, ansoddeiriau ac odl gan ennyn diddordeb y plant i ysgrifennu’n greadigol.

Yr awdur Damian Harvey ymwelodd a Lyfrgelloedd Llanelwy a’r Rhyl gyda sesiynau llawn egni a hwyl tra’n trafod ei waith fel awdur a’i lyfrau. Croesawyd plant Ysgolion Esgob, Morgan, VP Llanelwy a Crist y Gair i’r llyfrgelloedd.

Cafwyd hefyd sesiwn greadigol gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Prestatyn gyda’r awdur Rebecca Roberts yn Llyfrgell Prestatyn fel rhan o’r prosiect.

     

Cefnogaeth i drigolion

Gallwch gofrestru i dderbyn eich biliau Treth y Cyngor ar-lein

Bydd biliau Treth y Cyngor yn cael eu hanfon yn fuan. Oeddech yn gwybod y gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif Treth y Cyngor ar-lein er mwyn:

  • Gwirio’ch cyfrif, yn cynnwys unrhyw falans sydd ar ôl a rhandaliadau yn y dyfodol
  • Cael biliau di-bapur
  • Newid eich dull talu
  • Gweld eich biliau ar-lein
  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw newid yn eich manylion personol
  • Rhannu eich taliadau drwy ddewis cynllun talu
  • Ymgeisio am ostyngiad person sengl
  • Gwirio eich band Treth y Cyngor
  • Mynediad at gymorth ar unrhyw adeg

Mae cofrestru yn hawdd a chyflym. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio

Yn Sir Ddinbych yn Gweithio rydym yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, rydym yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol, cofrestrwch heddiw www.sirddinbych.gov.uk/sirddinbychyngweithio.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio.

Clwb Gwaith

Amserlen Barod (Gweithgaredd Lles)

Diwrnodau Hyfforddiant a Gwybodaeth

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyfleoedd hyfforddi rhad ac am ddim i rymuso preswylwyr Sir Ddinbych gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn yr yrfa o’u dewis. P'un a ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau newydd, ehangu ar yr hyn rydych chi’n ei wybod eisoes, neu archwilio llwybr gyrfa newydd, mae ein rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra i’ch helpu chi i lwyddo.

Diwrnodau Gwybodaeth:

  • Cadw Tir - Diwrnod Gwybodaeth 
  • Garddwriaeth a Chadwraeth 
  • Llwybr Sector - Cadw Tir 
  • Cyflwyniad i'r sector Gofal Cymdeithasol 

Hyfforddiant

  • Hyfforddiant Barista
  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle 

I archebu ymweliad, cliciwch ar y ddolen - www.eventbrite.co.uk/o/working-denbighshire-79434827543

Ffair Swyddi yn torri record ac yn croesawu dros 600 o bobl

Ar 19 Chwefror, mynychodd 603 o geiswyr swyddi, Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ym Mwyty a Bar 1891 yn y Rhyl, lle roedd cyfle i drigolion gysylltu gyda dros 50 o gyflogwyr o sectorau megis lletygarwch, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y digwyddiad yn llwyfan i drigolion lleol archwilio cyfleoedd gwaith, llwybrau gyrfa a dewisiadau hyfforddi, ac ymhlith y cyflogwyr a oedd yn bresennol roedd Seren Gobaith, Grŵp Llandrillo Menai, Cyfreithwyr Gamlins, G&H Phoenix, TG Williams Builders Ltd, a Grŵp Bwyd 2 Sisters.

Cynhaliwyd awr dawel rhwng 10am ac 11am ar gyfer unrhyw un oedd yn ffafrio awyrgylch tawelach a Chlwb Swyddi cyn y digwyddiad, a oedd yn cynnig cyngor i geiswyr swyddi o ran CVs a llythyrau eglurhaol.

Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

“Rydym yn hynod falch fod cymaint wedi mynychu unwaith eto, ac o’r gefnogaeth anhygoel gan ein busnesau lleol.

Yn ogystal â dod o hyd i swydd, mae’r Ffair Swyddi yn gyfle i agor drysau i gyfleoedd newydd a helpu pobl i gymryd camau mentrus tuag at ddyfodol mwy disglair. Mae’n galonogol gweld cymaint o unigolion yn awyddus i wella eu bywydau, datblygu sgiliau newydd, a chysylltu â chyflogwyr sydd wir yn poeni am y gymuned.

Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos gwir bŵer dod ynghyd i wneud gwahaniaeth ac yn cefnogi Strategaeth newydd Llywodraeth y DU, i Gael Prydain i Weithio.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae cyflogaeth yn un o bileri allweddol cymdeithas weithredol, sy’n ffynnu.

Mae’r Ffeiriau Swyddi hyn yn galluogi cyflogwyr i gysylltu gyda thrigolion sy’n chwilio am waith neu o bosibl newid gyrfa. Rwy’n falch o’r gwaith y mae’r tîm wedi’i wneud unwaith eto eleni i helpu trigolion lleol Sir Ddinbych i ymuno â’r farchnad swyddi.

Mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn amlygu pŵer cydweithio â chyflogwyr a busnesau lleol i gefnogi ein cymuned a chreu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i’r wefan.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Gwaith carbon isel yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn ysgol yn Ninbych

Ysgol Twm o’r Nant

Mae gwaith carbon isel wedi helpu ysgol gynradd yn Ninbych i fod yn fwy effeithlon o ran ynni.

Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi helpu Ysgol Twm o’r Nant i wella effeithlonrwydd ynni a sicrhau costau is yn yr hirdymor yn dilyn gwaith carbon isel yn adeilad yr ysgol.

Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor yn cynnwys nifer o ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Fe asesodd Tîm Ynni y Cyngor yr adeilad er mwyn helpu i ganolbwyntio ar ba feysydd o ddefnydd ynni y gellir eu gwella drwy gyflwyno technoleg newydd ar y safle.

Roedd hyn yn cynnwys gosod system panel solar (14.94KW) ar do’r ysgol. Bydd pob cilowat a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan Ysgol Twm o’r Nant yn arbed tua 22 ceiniog. Nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau allyriadau carbon yn sylweddol, ond hefyd yn lleihau straen ar isadeiledd y grid lleol.

Cafodd batris storio hefyd eu gosod wrth ymyl y system panel solar er mwyn helpu’r ysgol i storio ynni ychwanegol a gynhyrchir gan y paneli er mwyn ei ddefnyddio ar y safle.

Gosodwyd goleuadau LED y tu mewn i’r ysgol a fydd hefyd yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau defnyddio ynni.

Disgwylir i’r gwaith hwn arbed tua 13664kWh yn flynyddol, dros 5.6 tunnell o allyriadau carbon a thros £5,997.00 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod byr o amser.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae hi wedi bod yn wych dod â darnau amrywiol o dechnoleg ynni ynghyd i helpu i leihau defnydd, allyriadau carbon a chostau hirdymor yr ysgol. Fe fydd hyn hefyd yn helpu i wella amgylchedd yr adeilad ar gyfer disgyblion a staff.”

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau ac rydym ni’n diolch i’r Tîm Ynni am eu gwaith rhagweithiol parhaus a’r gefnogaeth gan ddisgyblion a staff Ysgol Twm o’r Nant am alluogi i’r prosiect hwn gael ei gwblhau.”

Disgyblion Prestatyn yn rhoi hwb i natur yr ysgol

 Ysgol Uwchradd Prestatyn

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi helpu i gefnogi natur ar safle’r ysgol.

Yn ddiweddar bu i’r disgyblion ymuno â Thîm Bioamrywiaeth a Cheidwaid Cefn Gwlad y Cyngor i helpu i ymestyn gwrychoedd ar y safle i ddarparu mwy o gymorth i natur leol.

Dros y 12 mis diwethaf, mae gwaith wedi parhau ledled ysgolion y sir, er mwyn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar diroedd ysgol, i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r plant. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.

Trwy blannu coed ar diroedd ysgolion, mae hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bu i ddisgyblion helpu i lenwi’r bylchau mewn 110 metr o wrychoedd trwy blannu 16 coeden safonol a chefnogi datblygiad ardal 60 metr newydd o wrychoedd.

Bu iddynt hefyd helpu i blannu 19 coeden fawr i greu ardal goetir ar y cae yn y cefn a hefyd 16 coeden ffrwythau.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu cymorth gwych wrth helpu ein Tîm Bioamrywiaeth i greu cymorth ychwanegol ar y safle i natur leol ei fwynhau a hefyd darparu gwell lles awyr agored a dysgu i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran.”

Gwaith coetir yn helpu natur tir yr ysgol

Yn ddiweddar, torchodd disgyblion Crist y Gair eu llewys i helpu i greu hafan newydd i fyd natur ar dir eu hysgol.

Mae ardal goetir newydd yn gwreiddio mewn ysgol uwchradd yn y Rhyl.

Yn ddiweddar, torchodd disgyblion Crist y Gair eu llewys i helpu i greu hafan newydd i fyd natur ar dir eu hysgol.

Yn ddiweddar bu disgyblion yn helpu Tîm Bioamrywiaeth a Cheidwaid Cefn Gwlad y Cyngor i ddatblygu gwrychoedd a choetiroedd newydd yn yr ysgol.

Cynhaliwyd gwaith plannu prysur ar draws ysgolion y sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar draws tiroedd ysgol. Mae hyn er mwyn cefnogi byd natur a’i adfer, gan ddarparu ardal awyr agored lles addysgol i bobl ifanc. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.

Mae cynyddu nifer y coed ar diroedd ysgol hefyd yn helpu i gefnogi ymgyrch y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bu’r disgyblion yn helpu i greu gwrych 260 metr o hyd, gan gynnwys 14 o goed safonol ynddo. Roedd y rhain yn cynnwys criafol, Masarn Bach, Ffug-geirios, Gwifwrnwydden, Ceirios Du, a Choed Ceirios yr Adar.

Bu disgyblion Crist y Gair hefyd yn helpu i blannu cymysgedd o goed derw, gwern a helyg yn ardal yr ysgol goedwig. Cyfanswm arwynebedd y gwaith plannu a gyflawnwyd gan ddisgyblion y Tîm Bioamrywiaeth a'r ceidwaid yw 400 metr sgwâr.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i ddisgyblion Crist y Gair am eu cymorth gwych wrth helpu ein Tîm Bioamrywiaeth a’r ceidwaid i greu’r ardal newydd hon ar y safle i natur leol ei fwynhau a hefyd darparu gwell lles awyr agored a dysgu i’r holl bobl ifanc yn yr ysgol.”

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Mae gwaith yn mynd rhagddo ym Mharc Bodelwyddan

Mharc Bodelwydda

Mae gwaith wedi dechrau ar greu parc natur newydd yn Sir Ddinbych.

Mae cam cyntaf y gwaith o ddatblygu ac adfywio coetir a pharcdir o amgylch Castell Bodelwyddan wedi dechrau.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU, fe fydd y gwaith adnewyddu ym Mharc Bodelwyddan yn golygu y bydd y parcdiroedd, coetiroedd a pherllannau yn ailagor i’r cyhoedd unwaith eto.

Mae bron i filltir a hanner o lwybrau calchfaen newydd sy’n addas i bobl anabl eu defnyddio wedi cael eu datblygu ar draws tir o waelod y parcdir, gan gysylltu i fyny at y coetir.

Fe fydd y llwybrau yma’n gweu trwy ardaloedd o goetir a dolydd blodau gwyllt sydd newydd eu plannu er mwyn helpu bioamrywiaeth leol, i gyd-fynd â’r golygfeydd o Gastell Bodelwyddan a Dyffryn Clwyd. Mae hen berllan wedi cael ei hagor er mwyn cerdded drwyddi hefyd, fe fydd byrddau dehongli yn cael eu lleoli ar hyd y llwybrau er mwyn rhoi eglurhad am y tir gerllaw ac fe fydd seddi newydd yn cael eu darparu.

Fe fydd gwrychoedd yn cael eu plannu ar hyd ffensys ffiniol newydd i gefnogi natur lleol ar y parcdir. Fe fydd mynediad yn cael ei ddarparu i yr o geirw iwrch y parcdir mewn mannau allweddol yn y ffensys ffiniol newydd.

Mae gwaith wedi cael ei wneud i gadw’r ffosydd hanesyddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mhen uchaf y parcdir gyda ffensys newydd i amddiffyn y safle.

Fe fydd llwybrau’r coetir hefyd yn cael eu hadnewyddu gyda thopin calchfaen newydd i wella mynediad i ymwelwyr i Barc Bodelwyddan, ynghyd ag arwyddion newydd yn yr ardal a’r parcdir.

Mae ffensys amddiffynnol arbennig wedi cael eu hadeiladu yn y coetir i amddiffyn ardaloedd o goed a phlanhigion yn cynnwys yr hen Berllan Fictoraidd rhag ceirw er mwyn i rywogaethau penodol ffynnu’n gryfach wrth symud ymlaen.

Mae ardal parcio newydd wedi cael ei greu ger y fynedfa waelod oddi yr A55 i bobl sy’n ymweld â’r parc. Mae cam cyntaf y gwaith fod i gael ei gwblhau ym mis Mai.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Rydym ni’n falch iawn o weld bod Parc Bodelwyddan yn dechrau siapio ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu’r cyhoedd yn ôl i’r ardal wych yma i gefnogi eu lles corfforol a meddyliol trwy gerdded drwy amrywiaeth mor eang o barcdir.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Fe fydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld i brofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”

Hwb i Fioamrywiaeth Porth Natur Prestatyn

Coed y Morfa

Bydd mynedfa hafan natur yn cael ei ailfywiogi’r haf hwn.

Mae gwaith wedi dechrau ar roi hwb i fioamrywiaeth mynedfa Coed y Morfa ym Mhrestatyn.

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd yn ehangu’r ddôl flodau gwyllt ar y dde wrth i chi ddod i mewn i barc Coed y Morfa.

Mae’r grŵp yn ehangu’r ddôl drwy glirio’r prysg ar yr ochr uchaf iddi a pharatoi’r pridd ar gyfer cymysgedd o flodau gwyllt a glaswellt, yn cynnwys 25 o rywogaethau gwahanol fel briallen Fair sawrus, cribell felen, blodau'r brain, gwygbys, cynffonwellt y maes a pheiswellt coch.

Bydd yr ardal hon wedyn yn ategu’r safle blodau gwyllt wrth ymyl y ffordd fynediad.

Bydd ehangu’r ardal flodau gwyllt yn helpu i roi hwb i bryfed peillio a bywyd gwyllt Coed y Morfa sy’n bwydo ar bryfaid.

Mae creu safleoedd blodau gwyllt yn bwysig oherwydd ers y 1930au mae’r DU wedi colli 97% o’i gynefinoedd dolydd blodau gwyllt, sydd wedi cael effaith ar bryfed peillio hanfodol fel gwenyn sy’n helpu i ddod â bwyd i aelwydydd.

Meddai Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae creu ardaloedd fel hyn yn bwysig gan ei fod yn darparu priffordd i bryfed ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi safleoedd eraill gerllaw drwy gludo hadau o un lle i’r llall.

“Mae hefyd yn wych i’r gymuned gan y byddan nhw’n gweld yr ardal hon yn darparu llinell fywyd i flodau sy’n galluogi cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau’r safle ochr yn ochr â’r gefnogaeth gadarnhaol mae’r ardal yn ei rhoi i natur leol.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae dolydd blodau gwyllt yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Wrth i ni gyflwyno mwy o flodau gwyllt i’r tir byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“O gofio’r amser sydd arnyn nhw ei angen i sefydlu, bydd ein holl ddolydd er lles preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau nawr ac, yn bwysicach fyth, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ym Mhrestatyn.”

Coedlannu yn helpu llwybr i gefnogi natur

 Llwybr Prestatyn i Ddyserth

Mae cymorth wedi ei roi i natur sydd ar hyd llwybr poblogaidd yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd wedi rhoi bywyd newydd i natur ar hyd Llwybr Prestatyn i Ddyserth a hynny gyda chrefft draddodiadol a ddefnyddir gyda choetiroedd.

Mae gwaith coedlannu wedi ei wneud ar goed cyll ger yr hen lein reilffordd nad yw’n cael ei defnyddio mwyach, ger Y Sied yng Ngallt Melyd.

Fel rhan o’r dechneg sgiliau coed caiff y goeden gollen ei thorri i lefel y tir er mwyn helpu coesau newydd i aildyfu o’r gwaelod er mwyn hybu adnewyddiad y goeden.

Mae arfer y dechneg hon ar hyd Llwybr Prestatyn i Ddyserth hefyd yn helpu i gefnogi natur yn yr ardal. Mae coedlannu yn galluogi i fwy o olau i daro’r tir o amgylch y coed gan roi mwy o gefnogaeth i rywogaethau planhigion eraill, gan achosi adwaith cadwynol sy’n cynyddu ystod y planhigion a bywyd gwyllt mewn ardal o goetir.

Dywedodd Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Rydym hefyd wedi gallu creu twmpathau cynefinoedd o dorbrennau coed cyll sydd gennym ni o’r gwaith coedlannu ar hyd y llwybr. Mae’r rhain yn bwysig ar gyfer cefnogi twf bioamrywiaeth yn yr ardal hon gan y byddant yn darparu bwyd a hefyd lloches fel y gall natur leol ffynnu a goroesi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwaith traddodiadol hwn yn bwysig ar gyfer cefnogi twf bioamrywiaeth yn y dyfodol. Pob clod i’r gwirfoddolwyr a’r staff Cefn Gwlad am helpu natur i ffynnu ar hyd y llwybr gwych hwn fel y gall cymunedau lleol ei fwynhau.”

Adran Busnes

Mis Mawrth Menter

Mae'r ymgyrch Mis Mawrth Menter yn dechrau wythnos fory, a cynhelir un ar ddeg o ddigwyddiadau cyffrous eleni ledled y Sir ac ar-lein. Eto eleni, cynigir cyngor ac adnoddau proffesiynol gwerthfawr yn rhad ac am ddim i fusnesau lleol Sir Ddinbych.

Bydd y digwyddiadau’n gymysgedd o gyfleoedd i rwydweithio a gweithdai.

Am ragor o wybodaeth ag i archebu ewch i: https://bit.ly/3X14hGS.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid