Dros wyliau hanner tymor rhoddwyd cyngor defnyddiol i bobl a oedd yn cerdded eu cŵn mewn parc poblogaidd yn ogystal â darparu ategolion defnyddiol ar gyfer crwydro llwybrau’r ardal.
Bu i Geidwaid o dîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy osod stondin ym maes parcio Penbarras, Parc Gwledig Moel Famau yn ystod gwyliau hanner tymor.
Mae’r stondin yn rhan o ymgyrch wybodaeth wedi’i hanelu at helpu i hysbysu cerddwyr cŵn ynglŷn â’r angen i gadw eu hanifeiliaid ar dennyn wrth gerdded drwy gefn gwlad, yn enwedig wrth i dymor wyna agosáu.
Bu Ceidwaid a cheidwaid gwirfoddol yn sgwrsio ag ymwelwyr cyn iddynt gerdded llwybr Clawdd Offa i gyfeiriad Tŵr Jiwbili, er mwyn eu helpu i ddeall y cyfyngiadau a’r canllawiau sydd mewn grym i’w cadw nhw, eu hanifeiliaid ac eraill yn ddiogel.
Fe wnaethant hefyd gynnig bagiau baw cŵn a phethau i’w dal, tenynnau rhag ofn bod rhai perchnogion wedi anghofio dod â thenynnau ar gyfer eu hanifeiliaid, danteithion i’r cŵn a oedd eisoes ar dennyn a mapiau o’r llwybrau i grwydro’r ardal yn ddiogel.
Hefyd, cymerodd y tîm amser i gyfarfod pobl ar hyd llwybr Clawdd Offa i’w helpu i ddeall sut i aros yn ddiogel gyda’u hanifeiliaid yn y rhan hon o Barc Gwledig Moel Famau.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r ymateb rydym wedi’i gael gan bobl sy’n mynd â chŵn am dro i fyny Moel Famau wedi bod yn dda iawn ac rydw i’n gobeithio ein bod wedi gallu eu helpu a’u cefnogi, i roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o’r cyfyngiadau cefn gwlad sydd mewn grym mewn rhai ardaloedd ar gyfer y tro nesaf y byddant yn mynd am dro gyda’u cŵn.
“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio o flaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk a dilynwch Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Facebook ac X.