Rheoli’r coetir o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte
Fel rhan o’n prosiect Ein Tirlun Darluniadwy a ariennir gan y Loteri yn Nyffryn Dyfrdwy, byddwn yn dechrau gwneud gwaith rheoli’r coetir yn y coetir o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte y gaeaf hwn.
Mae coetiroedd yn gynefinoedd dynamig sy’n newid yn barhaus. Gall y mannau arbennig hyn ymddangos yn anghydryw ac yn fawr i ni, yn anffodus gallant ddod yn unffurf mewn strwythur ac yn ddiraddedig o ran y potensial bioamrywiaeth. Mae cadw ein coetiroedd yn iach ac mor amrywiol â phosibl i fywyd gwyllt yn un o’n prif flaenoriaethau. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i ni dorri coed weithiau. Mae gwaith o’r fath yn cael ei gynllunio’n ofalus i sicrhau bod bywyd gwyllt sy’n nythu, clwydo a gaeafgysgu yn cael eu hamddiffyn.
Mae misoedd yr hydref a’r gaeaf, pan fydd coed collddail wedi colli eu dail a phan nad oes llawer o adar yn nythu, yn amser delfrydol i wneud gwaith rheoli coetiroedd. Yn aml, mae hyn yn cynnwys technegau traddodiadol fel bôn-docio a theneuo.
Ers canrifoedd, mae llawer o goetiroedd wedi cael eu rheoli drwy fôn-docio. Mae hyn yn golygu torri rhai coed neu lwyni yn ôl i lefel y llawr o dro i dro, gan adael iddynt flaguro cyffion newydd o’r bonion a dorrwyd. Gwneir hyn yn ystod y gaeaf pan fydd y goeden yn cysgu. Mae bôn-docio yn golygu bod mwy o oleuni’r haul uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cyrraedd llawr y coetir a gall ysgogi planhigion coetir fel briallu a chlychau’r gog dyfu. Mae deiliach a blodau’r planhigion hyn yn ffynhonnell fwyd i infertebratau sydd yn ei dro yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill fel adar ac ystlumod. Mae’r arfer hefyd yn sicrhau bod ystod oedran cymysg ac amrywiaeth o goed, sydd felly’n dod â budd i amrywiaeth cyffredinol y coetir. Mae bôn-docio yn grefft draddodiadol coetir a ddefnyddir i dyfu cyffion syth o goed, a ddefnyddir i wneud coesau brwsys, polion ffa, basgedi, clwydi ac ati. Mae sawl rhywogaeth o goed yn ymateb yn dda iawn i fôn-docio, sy’n eu galluogi i bara am flynyddoedd lawer, ac sy’n golygu y gallant ddarparu cnydau pellach o goed sy’n cael eu cynaeafu bob 5–20 mlynedd yn dibynnu ar y cnwd sydd ei angen.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn teneuo coetiroedd. Mae hyn yn golygu cael gwared ar goed sydd mewn cyflwr gwael, sydd ddim yn iach neu’n rhy drwchus i wneud y coed sydd ar ôl yn gryfach ac yn iachach. Mae teneuo’n cael ei ddefnyddio i reoli coetiroedd sydd wedi’u hesgeuluso, ble mae cysgod trwchus yn golygu bod llai o flodau coetir. Mae teneuo’n digwydd yn aml mewn coetiroedd newydd i alluogi coed cryfach dyfu’n dda drwy roi mwy o le iddynt ffynnu.
Mae llawer o’r bywyd gwyllt mewn coetiroedd yn dibynnu ar reoli gweithredol i ddarparu strwythur cynefinoedd amrywiol, o bentyrrau o goed marw sy’n gallu bod yn hanfodol i rai chwilod a ffyngau, i lennyrch agored sy’n gartref i loÿnnod byw a phryfed eraill sy’n peillio.
Mae gan y coetiroedd mwyaf amrywiol ystod o wahanol rywogaethau ac oedran coed. Heb ryw fath o reolaeth weithredol, gall coetiroedd fynd yn dywyll y tu mewn gan arwain at ychydig iawn o amrywiaeth mewn strwythur, oed neu rywogaethau. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod llai o fywyd gwyllt yn gallu byw ynddynt. Drwy reoli coetiroedd yn gynaliadwy, rydym yn meithrin cynefin sy’n dod â budd i goed, bywyd gwyllt a phobl.
Mae iechyd a diogelwch hefyd yn flaenoriaeth uchel ac mae coetiroedd yn cael eu monitro drwy gyfres o archwiliadau coed. Mae canlyniadau’r archwiliadau hyn yn ein galluogi i weithredu’n briodol i ddiogelu coed rhag plâu a chlefydau, wrth gynnal amgylchedd groesawgar i ymwelwyr dynol.
Pan fydd coeden yn cael ei thorri, rydym yn ystyried yr effaith ar y coetir a byddwn yn plannu coed yn eu lle pan fo angen. Fodd bynnag, aildyfiant naturiol rhywogaeth coed lleol yw’r dewis a ffefrir wrth i natur lenwi’r bylchau’n raddol.
Dyma fydd rhan gyntaf y gwaith parhaus o reoli’r coetir yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte ac mae’n rhan allweddol o amcanion cadwraethol Ein Tirlun Darluniadwy.
Croeso i'r Ceidwaid
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn brysur iawn dros wyliau’r haf unwaith eto eleni gyda miloedd o ymwelwyr yn awyddus i fwynhau’r rhan arbennig hon o Gymru a’r holl bethau arbennig sydd i’w cynnig yma.
Matthew Willars
Gyda’r cyfyngiadau Covid yn dechrau llacio a’r feirws yn parhau i fygwth trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, roedd y tîm AHNE yn falch o dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i leoli ceidwaid cefn gwlad ychwanegol mewn mannau prydferth, gan gynnwys parciau gwledig Loggerheads a Moel Famau a Rhaeadr y Bedol, i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i ymwelwyr a helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau.
Evie Challinor
Mae’r gefnogaeth ychwanegol hon hefyd wedi helpu’r Tîm AHNE â’u hymgyrchoedd cod cefn gwlad blynyddol dros yr haf, gan roi pwyslais arbennig ar:
- Annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn yn arbennig o amgylch da byw
- Cynllunio ymlaen a sicrhau bod cynllun wrth gefn ar waith ar gyfer adegau prysur
- Parcio’n gyfrifol ac mewn meysydd dynodedig
- Cario picnic neu siopa’n lleol yn hytrach na defnyddio barbeciws untro
Imogen Hammond
A ydych chi wedi ymweld â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy dros yr haf eleni? A wnaethoch chi gwrdd â’n Ceidwaid newydd?
Cofiwch ein crybwyll ar y cyfryngau cymdeithasol >>>
Gwartheg ar Moel Famau
Wedi’i reoli mewn partneriaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru ac yr Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, mae ‘House for a Grouse’ a enwir gan blant ysgol lleol yn safle 35 erw wedi’i leoli ar Moel Famau. Yn flaenorol, roedd yn safle coediog a chafodd ei glurio yn 2002/2003. Caiff Grugiar Du ei harolygu ar y safle hwn yn ystod arolygon blynyddol cenedlaethol ac mae'r ardal yn rhan bwysig o'r gwaith monitro cenedlaethol ar y Grugiar Du. Mae hefyd yn cefnogi ystod nodweddiadol o adar yr ucheldir, ymlusgiaid a gloÿnnod byw. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg yn agos ar hyd un ochr.
Ers i'r safle gael ei glirio, mae staff a gwirfoddolwyr wedi bod yn clirio’r safle yn rheolaidd er mwyn cael gwared ar yr aildyfiant conwydd a grug aeddfed, mae hon yn broses araf iawn. Yn 2018 daeth ‘House for a Grouse’ yn rhan o brosiect Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy'n dod â tua 40 o safleoedd i gyfundrefnau rheoli cynaliadwy, drwy rannu adnoddau a chynnwys cymunedau ym manteision bioamrywiaeth a diwylliannol y safleoedd. Felly fe ddarparodd y prosiect yr holl isadeiledd angenrheidiol fel giatiau, ffens, gwelliannau ir trac mynediad ac bydd hefyd yn darparu corlan stoc.
Mae 5 o wartheg Belted Galloway bellach wedi'u cyflwyno i'r safle am y tro cyntaf. Mae gwartheg Belted Galloway yn frid traddodiadol or Alban, sy'n tarddu o'r Galloway yn ochr de orllewinol o’r Alban. Maent yn frîd treftadaeth ac wedi'u haddasu'n dda i fyw ar borfeydd ucheldir o ansawdd gwael a rhostir gwyntog. Bydd y gwartheg yn helpu i reoli'r safle drwy fwyta prysgwydd a chadw'r grug i lawr.