llais y sir

Fflatiau i gynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl

Mae dau fflat wedi cael eu hadnewyddu gan y Cyngor gyda chyllid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig (GGI) er mwyn cynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

Mae’r fflatiau yng Nghorwen a Rhuthun ac maent yn ffurfio rhan o flaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae’r ddau fflat yn cynnwys cyfleusterau modern a bydd yn galluogi gofalwyr a/neu’r rhai maent yn gofalu amdanynt i gael seibiant.

Mae mynediad hawdd i’r fflatiau, ynghyd ag addasiadau i’w gwneud nhw’n addas i bobl anabl, ac mae cyfleusterau ar gael i gael cymorth dros nos os oes angen.

Mae’r datblygiad yma’n adeiladu ar gynllun prawf llwyddiannus yn Rhuthun, lle bu modd i ofalwyr di͏-dâl elwa o seibiannau yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Awelon, mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Gall gofalwyr di-dâl yn y sir gael mynediad i gyfoeth o gefnogaeth gan sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys seibiant byr, gwasanaeth eistedd a thaliadau uniongyrchol sydd yn galluogi iddynt gydbwyso bywyd ochr yn ochr â gofalu.

Maent yn gallu ymgymryd ag asesiad o anghenion sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, er mwyn darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael.

Mae’r asesiad hwn yn galluogi’r gofalwr di-dâl i egluro’r effaith y mae gofalu yn ei gael arnynt ac ar eu bywydau ac i archwilio ystod o ddewisiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl allweddol yn ein cymdeithas ac mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Rydym wedi adnewyddu’r ddau fflat yma er mwyn cynnig cyfle am seibiant ac egwyliau byr.

“Mae’n cynnig cyfle i gymryd cam yn ôl a buaswn yn annog gofalwyr di-dâl yn y sir i gysylltu â'r Cyngor am asesiad gofalwr fel y gallant weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt."

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl drwy wella’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cefnogwr Gofalwyr y Cyngor: “Rydw i’n croesawu’r ddau fflat yma sy’n cael eu cynnig yn Sir Ddinbych i roi seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

“Mae yna fyrdwn enfawr o gyfrifoldeb ar eu hysgwyddau a bydd cynnig y math yma o gymorth yn helpu i ddarparu seibiant ychwanegol iddynt.

Fe allwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad y Cyngor ar 0300 4561000 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm neu e-bostiwch spoa@denbighshire.gov.uk

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid