Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn weithredol
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i sicrhau fod perchnogion cŵn yn rheoli eu hanifeiliaid anwes pan fyddant yn defnyddio mannau cyhoeddus y sir.
Cyhoeddwyd y gorchymyn yn dilyn ymgynghoriad llawn, bydd yn caniatáu i’r Cyngor gymryd camau yn erbyn perchnogion sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu ar dir cyhoeddus heb ei lanhau.
Bwriad cyflwyno’r GDMC rheoli cŵn diwygiedig ar draws y sir yw delio’n effeithiol â phroblemau a niwsans arbennig sy’n bodoli ledled y sir.
Mae’r gorchymyn hwn hefyd yn atal perchnogion rhag mynd â’u cŵn ar gaeau chwaraeon ledled Sir Ddinbych a hefyd gadael y ci oddi ar y tennyn yn unrhyw le na ganiateir.
Mae cyfyngiadau ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn hefyd rhwng Mai a 30 Medi, felly cofiwch edrych ar yr arwyddion yn yr ardaloedd hyn.
Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o berchnogion cŵn Sir Ddinbych yn parchu aelodau eraill o’r cyhoedd ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Yn anffodus, mae’r Cyngor yn cael nifer o gwynion gan breswylwyr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan berchnogion cŵn nad ydynt yn rheoli eu cŵn yn iawn mewn mannau cyhoeddus.
“Bydd y gorchymyn newydd hwn yn ein caniatáu i gymryd camau priodol yn erbyn y perchnogion cŵn hynny sy’n ymddwyn yn anghyfrifol gyda’u hanifeiliaid anwes yn gyhoeddus.
“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i atgoffa holl berchnogion cŵn i sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn gyda nhw pan fyddant yn mynd a'u ci am dro."
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni hyn: