llais y sir

Gwobr Sêr Gofal i Weithiwr Gofal Sir Ddinbych

Mae un o weithwyr Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi cael gwobr am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau trigolion yn wyneb yr heriau a grëwyd gan bandemig Covid-19.

Mae Katie Newe, rheolwr gwasanaeth yn y Cyngor, yn un o 12 o weithwyr gofal yng Nghymru sydd wedi derbyn Gwobr Sêr Gofal.

Crëwyd Sêr Gofal i dynnu sylw at weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn ystod y pandemig.

Enwebwyd Katie am y wobr y mis diwethaf gan Ann Lloyd, ei Rheolwr Atebol.

Meddai Ann: “Yn ogystal ag arwain gwasanaeth mawr a chefnogi ein partneriaid annibynnol, aeth Katie ati i dorchi ei llewys a helpu’n ymarferol lle bynnag yr oedd ei hangen hi. Bu’n gweithio’n ddiflino yn ein cartrefi gofal ni, mewn tai gofal ychwanegol ac yng nghartrefi’r sector annibynnol oedd ar drothwy argyfwng. Nid oedd yn ddim ganddi weithio saith niwrnod yr wythnos a gweithio shifftiau nos a gyda’r nos os mai dyna oedd angen ei wneud i helpu ein dinasyddion ac i roi seibiant i aelodau staff oedd wedi ymlâdd a chyrraedd pen eu tennyn.

“Roedd Katie yn gefn enfawr i’w thîm, ac roedd ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad i’r sector gofal cymdeithasol heb ei ail. Roedd hi wir yn dangos esiampl eithriadol i bawb. Rydw i’n sicr bod ei dyfalbarhad a’i natur benderfynol drwy’r pandemig hwn wedi amddiffyn llawer o’n pobl hŷn diamddiffyn ni yma yn Sir Ddinbych.”

Wedi gwirioni i gael ei henwebu a’i chydnabod fel un o’r Sêr Gofal, dywedodd Katie: “Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ac rydw i wedi gallu gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud oherwydd cymorth ac arweiniad anhygoel Ann Lloyd, Phil Gilroy a Nicola Stubbins, sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i amddiffyn dinasyddion mwyaf diamddiffyn Sir Ddinbych.

“Does dim rhaid dweud bod pob un aelod o'n staff gofal yn Sêr Gofal hefyd. Maen nhw wedi mynd i weithio bob diwrnod er gwaethaf eu hofnau personol a'r trallod y maen nhw wedi’i wynebu. Mae ymroddiad ac ymrwymiad gofalwyr Sir Ddinbych yn ddigon i’m syfrdanu bob diwrnod. Gobeithio wir bod y gwaethaf drosodd bellach, ac y cawn ni edrych ymlaen at amser gwell.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor: “Rydym yn falch o weld Katie’n derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol am ei hymroddiad i ofalu am, amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Mae hi wedi bod yn eithriadol, ac fe hoffwn i hefyd ddweud diolch yn fawr iawn i'r staff gofal cymdeithasol a staff y rheng flaen sy’n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid