llais y sir

Lansio arolwg i asesu anghenion ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae arolwg wedi ei lansio fel rhan o’r gwaith i gynhyrchu asesiad o anghenion cyfredol ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cyngor yn asesu’r angen cyfredol am lety ymysg Sipsiwn, Teithwyr, a Siewmyn Teithiol, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd.

Bydd y broses yn cynnwys siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, budd-ddeiliaid allweddol a grwpiau cynrychioli, a bydd yn para tan 7 Hydref 2021.

Bydd yn cynnwys adolygiad o ddata lleol, yn cynnwys y nifer o wersylloedd diawdurdod sydd wedi eu sefydlu yn y sir, ac ymgynghoriad gyda theuluoedd o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych.

Gofynnir i aelodau etholedig a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned hyrwyddo’r arolwg i breswylwyr cymwys, yn ogystal â rhoi adborth ynghylch gwybodaeth leol am batrymau teithio.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) bob pum mlynedd; mae hyn yn un o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 ac y mae hefyd yn un o ofynion y Cynllun Datblygu Lleol newydd y mae’r Cyngor wrthi’n gweithio arno ar hyn o bryd.

Cafodd briff gwaith a chynllun cyfathrebu gan Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i gefnogi’r broses eu cymeradwyo gan Bwyllgor Craffu’r Cyngor ar 26 Gorffennaf.

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym nawr wedi lansio’r ymgynghoriad a byddwn yn ceisio cael cymaint o adborth â phosibl gan deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr er mwyn ein helpu i lywio'r broses hon.

“Rydym yn annog teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i gymryd rhan yn y broses ymgynghori hon. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i wneud yr Asesiad hwn, ac mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn.

“Diben y broses hon yw cael gwell dealltwriaeth o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â’r teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr hynny sy’n aros ar wersylloedd diawdurdod.

“Ni fydd y GTAA ond yn mesur yr angen am lety, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith i chwilio am safleoedd hyd nes y byddwn yn deall yr anghenion presennol.”

Bydd Opinion Research Services yn cynnal yr asesiad ar ran y Cyngor, a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cynnal asesiad tebyg yng Nghonwy.

Os ydych chi’n Sipsi, yn Deithiwr neu’n Siewmon Teithiol sy’n byw yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Michael Bayliss yn Opinion Research Services ar 07471 267095 neu anfonwch e-bost at michael.bayliss@ors.org.uk.

Mae croeso i chi rannu hwn gydag unrhyw ffrindiau neu deulu Sipsi, Teithwyr neu Siewmon Deithiol sydd gennych.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid