llais y sir

Newyddion

Prif Weithredwr newydd i'r Cyngor

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.

Mae Graham Boase, a oedd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus y Cyngor, wedi'i benodi i'r rôl.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn benodiad gwych i Sir Ddinbych a hoffwn i a’r aelodau longyfarch Graham a’i groesawu i’w rôl newydd ar ran ein staff a thrigolion y sir.

“Roedd yna broses dethol hynod o drylwyr gyda nifer o ymgeiswyr cryf yn sefyll allan ac wedi rhoi perfformiad o radd uchel iawn.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i barhau â’r llwyddiant hwn i’r dyfodol.”

Dywedodd Mr Boase: “Rwy’n gyffrous iawn ar ddod yn Brif Weithredwr y Cyngor gwych hwn, ar ôl dechrau gweithio i Sir Ddinbych mor bell yn ôl â 1996.

Rwy’n hynod ddiolchgar i'r aelodau etholedig am ddangos bod ganddynt ffydd ac yn ymddiried ynof. Mae'n rhoi llawer o hyder i mi wybod eu bod wedi cefnogi fy nghynnydd o fod yn Bennaeth Gwasanaeth, i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac yn awr i’r Prif Weithredwr.

“Rwy’n credu fy mod yn adnabod y Cyngor yn dda ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw mewn i’r swydd, siarad â’n tîm arweinyddiaeth rhagorol, aelodau etholedig ymroddedig a’n preswylwyr am ein Gweledigaeth ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol.”

Dechreuodd Mr Boase weithio i Sir Ddinbych pan gafodd ei sefydlu nôl yn 1996, yn wreiddiol fel Uwch Swyddog Cynllunio, yn 2003 daeth yn Bennaeth Cynllunio a Gwarchod Cyhoedd ac yn 2017 cafodd ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus.

Mae wedi cychwyn yn y swydd ers 1af o Awst.

Arian ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cyfle am arian grant untro ar gyfer cymunedau sy’n cynnal ac yn trefnu digwyddiadau yn Sir Ddinbych.

Nod yr arian fydd i wella'r isadeiledd presennol er mwyn cefnogi mwy o ddigwyddiadau cynaliadwy a chost effeithiol, gan ei gwneud yn haws i gynnal mwy o ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol.

Mae cyllideb o £128,000 ar gael i’w rhannu i ymgeiswyr llwyddiannus ledled Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth:

“Dyma gyfle gwych i grwpiau cymunedol a threfnwyr digwyddiadau i ymgeisio am arian i helpu i wella isadeiledd digwyddiadau yn y sir.

“Fe hoffem ofyn i’r rhai sy’n ymgeisio i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau dinas, tref a chymuned a’u cynghorydd sir lleol, i ddatblygu eu cynigion.

“Mae hyn yn rhan o flaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i helpu i gefnogi ein cymunedau i ddod yn fwy cysylltiedig a gwydn, ac i allu mwynhau’r profiad unigryw y mae digwyddiadau lleol yn eu cynnig.”

Yr hyn y byddai’r Cyngor yn ei ffafrio fyddai i gynghorau dinas, tref a chymuned gael eu henwi fel yr arweinydd, gan gyflwyno cynnig y prosiect ar ran yr ymgeisydd.

Fe fydd cefnogaeth gan swyddog datblygu cymunedol ar gael drwy gydol cyfnod y cynllun i gynnig arweiniad ac i hyrwyddo, ac i weithredu fel swyddog cyswllt gydag adrannau mewnol yn ôl y gofyn.

Fe allech hefyd dderbyn cefnogaeth i wneud cais am arian cyfatebol.

Gellir cyflwyno ceisiadau hyd at Fedi 30, a bydd y rhestr fer wedi ei llunio erbyn diwedd mis Hydref, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ym mis Tachwedd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â joanne.taylor@sirddinbych.gov.uk, datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk, neu ffoniwch 01824 706142, a gallwch ymgeisio yma www.sirddinbych.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/digwyddiadau-be-symlaen/cyfle-am-gyllid-ar-gyfer-seilwaith-digwyddiadau-cymunedol.aspx

 

Cyllid at gostau gosod band eang gigabit

Mae trigolion a busnesau gwledig yn Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i wneud cais am gyllid tuag at y gost o osod band eang gigabit.

Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio gyda’i gilydd ar y Cynllun Taleb Band Eang Gigabit sy’n talu rhan o’r gost o osod cysylltiadau rhyngrwyd gigabit newydd.

O dan y bartneriaeth newydd mae £7,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig ac mae hyd at £3,000 ar gael ar gyfer eiddo preswyl.

Mae cysylltiadau band eang gigabit yn cynnig y cyflymderau gorau a mwyaf dibynadwy sydd ar gael, ac mae’r cynllun ar agor i eiddo gwledig gyda chyflymderau band eang sy’n llai na 100Mbps.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae’r cynllun wedi cael ei ail-lansio gan lywodraethau Cymru a’r DU ac rydym yn annog trigolion Sir Ddinbych sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac sy’n methu â chael band eang priodol i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn y talebau yma.

“Mae cysylltu cymunedau yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan ein Cynllun Corfforaethol ac mae gwell cysylltiadau rhyngrwyd yn sicrhau bod cymunedau yn cael mynediad da at wasanaethau ac yn helpu busnesau’r sir i ddarparu gwasanaethau ar-lein.

“Mae modd i drigolion neu grwpiau cymunedol gydweithio ar geisiadau ac mae’r Cyngor yn gweithio er mwyn eu cynghori a’u cynorthwyo gyda’u ceisiadau.”

Yn ogystal â chynnig Cynllun Talebau Band Eang Gigabit, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cynllun Cyflwyno Ffibr a fydd yn golygu bod 1,862 o eiddo ychwanegol yn Sir Ddinbych yn gallu cael Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad erbyn Mehefin 2022 ac mae Openreach eisoes wedi galluogi 399 o eiddo yn y sir.

Os hoffech drafod yr opsiynau sydd ar gael, cysylltwch â Swyddog Digidol y Cyngor trwy e-bostio datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk ac i wirio a ydych yn gymwys i dderbyn Taleb Band Eang Gigabit, edrychwch ar wefan https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/

Grant i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddatblygu eu gyrfaoedd

Mae grant i helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd wedi cael ei ail-lansio.

Mae Grant Hyfforddiant Gweithwyr y Cyngor yn cefnogi preswylwyr cyflogedig o Sir Ddinbych sydd yn ennill cyflog sydd yn is na chyflog canolrif y sir.

Gellir dyfarnu cyllid rhwng £250 a £2,000 fesul person ar gyfer hyfforddiant, datblygiad neu i gael gafael ar fentora i alluogi iddynt symud ymlaen yn eu gweithle presennol neu gyda chyflogwr newydd.

Hyd yn hyn, mae cyflog y rhai sydd wedi derbyn y grant wedi cynyddu 24% ar gyfartaledd fesul blwyddyn.

Caiff y grant ei gweinyddu gan Dîm Datblygiad Economaidd a Busnes y Cyngor ac mae’n cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol newydd y cyngor o sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle mae pobl am fyw a gweithio ynddo a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi ail lansio ein grant hyfforddiant cyflogaeth ac wedi cynyddu’r cymhwyster i sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl.

“Mae’r grant yma’n cynnig cyfle gwych i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd yma yn y sir.

“Mae cyflog y rhai sydd wedi ymgeisio’n llwyddiannus wedi cynyddu ar gyfartaledd ychydig o dan chwarter, ac os ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa, byddem yn eich annog i wirio eich cymhwyster.

“Rydym ni hefyd yn gofyn i gyflogwyr ystyried a oes ganddynt weithwyr allai elwa o’r cynllun yma a fyddai’n eich helpu chi i gadw ac uwchsgilio staff a thyfu eich busnes.”

I fod yn gymwys, mae’n rhaid byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £28,199, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych.

Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gyrsiau addysg bellach, sgiliau a hyfforddiant proffesiynol megis AAT, NVQ, City & Guilds a hyfforddiant i yrru cerbyd masnachol.

I ymgeisio neu i wirio eich cymhwyster, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/grant-hyfforddiant-gweithwyr

Gwobr Sêr Gofal i Weithiwr Gofal Sir Ddinbych

Mae un o weithwyr Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi cael gwobr am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau trigolion yn wyneb yr heriau a grëwyd gan bandemig Covid-19.

Mae Katie Newe, rheolwr gwasanaeth yn y Cyngor, yn un o 12 o weithwyr gofal yng Nghymru sydd wedi derbyn Gwobr Sêr Gofal.

Crëwyd Sêr Gofal i dynnu sylw at weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn ystod y pandemig.

Enwebwyd Katie am y wobr y mis diwethaf gan Ann Lloyd, ei Rheolwr Atebol.

Meddai Ann: “Yn ogystal ag arwain gwasanaeth mawr a chefnogi ein partneriaid annibynnol, aeth Katie ati i dorchi ei llewys a helpu’n ymarferol lle bynnag yr oedd ei hangen hi. Bu’n gweithio’n ddiflino yn ein cartrefi gofal ni, mewn tai gofal ychwanegol ac yng nghartrefi’r sector annibynnol oedd ar drothwy argyfwng. Nid oedd yn ddim ganddi weithio saith niwrnod yr wythnos a gweithio shifftiau nos a gyda’r nos os mai dyna oedd angen ei wneud i helpu ein dinasyddion ac i roi seibiant i aelodau staff oedd wedi ymlâdd a chyrraedd pen eu tennyn.

“Roedd Katie yn gefn enfawr i’w thîm, ac roedd ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad i’r sector gofal cymdeithasol heb ei ail. Roedd hi wir yn dangos esiampl eithriadol i bawb. Rydw i’n sicr bod ei dyfalbarhad a’i natur benderfynol drwy’r pandemig hwn wedi amddiffyn llawer o’n pobl hŷn diamddiffyn ni yma yn Sir Ddinbych.”

Wedi gwirioni i gael ei henwebu a’i chydnabod fel un o’r Sêr Gofal, dywedodd Katie: “Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ac rydw i wedi gallu gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud oherwydd cymorth ac arweiniad anhygoel Ann Lloyd, Phil Gilroy a Nicola Stubbins, sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i amddiffyn dinasyddion mwyaf diamddiffyn Sir Ddinbych.

“Does dim rhaid dweud bod pob un aelod o'n staff gofal yn Sêr Gofal hefyd. Maen nhw wedi mynd i weithio bob diwrnod er gwaethaf eu hofnau personol a'r trallod y maen nhw wedi’i wynebu. Mae ymroddiad ac ymrwymiad gofalwyr Sir Ddinbych yn ddigon i’m syfrdanu bob diwrnod. Gobeithio wir bod y gwaethaf drosodd bellach, ac y cawn ni edrych ymlaen at amser gwell.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor: “Rydym yn falch o weld Katie’n derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol am ei hymroddiad i ofalu am, amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Mae hi wedi bod yn eithriadol, ac fe hoffwn i hefyd ddweud diolch yn fawr iawn i'r staff gofal cymdeithasol a staff y rheng flaen sy’n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”

Fflatiau i gynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl

Mae dau fflat wedi cael eu hadnewyddu gan y Cyngor gyda chyllid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig (GGI) er mwyn cynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

Mae’r fflatiau yng Nghorwen a Rhuthun ac maent yn ffurfio rhan o flaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae’r ddau fflat yn cynnwys cyfleusterau modern a bydd yn galluogi gofalwyr a/neu’r rhai maent yn gofalu amdanynt i gael seibiant.

Mae mynediad hawdd i’r fflatiau, ynghyd ag addasiadau i’w gwneud nhw’n addas i bobl anabl, ac mae cyfleusterau ar gael i gael cymorth dros nos os oes angen.

Mae’r datblygiad yma’n adeiladu ar gynllun prawf llwyddiannus yn Rhuthun, lle bu modd i ofalwyr di͏-dâl elwa o seibiannau yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Awelon, mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Gall gofalwyr di-dâl yn y sir gael mynediad i gyfoeth o gefnogaeth gan sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys seibiant byr, gwasanaeth eistedd a thaliadau uniongyrchol sydd yn galluogi iddynt gydbwyso bywyd ochr yn ochr â gofalu.

Maent yn gallu ymgymryd ag asesiad o anghenion sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, er mwyn darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael.

Mae’r asesiad hwn yn galluogi’r gofalwr di-dâl i egluro’r effaith y mae gofalu yn ei gael arnynt ac ar eu bywydau ac i archwilio ystod o ddewisiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl allweddol yn ein cymdeithas ac mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Rydym wedi adnewyddu’r ddau fflat yma er mwyn cynnig cyfle am seibiant ac egwyliau byr.

“Mae’n cynnig cyfle i gymryd cam yn ôl a buaswn yn annog gofalwyr di-dâl yn y sir i gysylltu â'r Cyngor am asesiad gofalwr fel y gallant weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt."

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl drwy wella’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cefnogwr Gofalwyr y Cyngor: “Rydw i’n croesawu’r ddau fflat yma sy’n cael eu cynnig yn Sir Ddinbych i roi seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

“Mae yna fyrdwn enfawr o gyfrifoldeb ar eu hysgwyddau a bydd cynnig y math yma o gymorth yn helpu i ddarparu seibiant ychwanegol iddynt.

Fe allwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad y Cyngor ar 0300 4561000 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm neu e-bostiwch spoa@denbighshire.gov.uk

 

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn weithredol

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i sicrhau fod perchnogion cŵn yn rheoli eu hanifeiliaid anwes pan fyddant yn defnyddio mannau cyhoeddus y sir.

Cyhoeddwyd y gorchymyn yn dilyn ymgynghoriad llawn, bydd yn caniatáu i’r Cyngor gymryd camau yn erbyn perchnogion sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu ar dir cyhoeddus heb ei lanhau.

Bwriad cyflwyno’r GDMC rheoli cŵn diwygiedig ar draws y sir yw delio’n effeithiol â phroblemau a niwsans arbennig sy’n bodoli ledled y sir.

Mae’r gorchymyn hwn hefyd yn atal perchnogion rhag mynd â’u cŵn ar gaeau chwaraeon ledled Sir Ddinbych a hefyd gadael y ci oddi ar y tennyn yn unrhyw le na ganiateir.

Mae cyfyngiadau ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn hefyd rhwng Mai a 30 Medi, felly cofiwch edrych ar yr arwyddion yn yr ardaloedd hyn.

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o berchnogion cŵn Sir Ddinbych yn parchu aelodau eraill o’r cyhoedd ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Yn anffodus, mae’r Cyngor yn cael nifer o gwynion gan breswylwyr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan berchnogion cŵn nad ydynt yn rheoli eu cŵn yn iawn mewn mannau cyhoeddus.

“Bydd y gorchymyn newydd hwn yn ein caniatáu i gymryd camau priodol yn erbyn y perchnogion cŵn hynny sy’n ymddwyn yn anghyfrifol gyda’u hanifeiliaid anwes yn gyhoeddus.

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i atgoffa holl berchnogion cŵn i sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn gyda nhw pan fyddant yn mynd a'u ci am dro."

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni hyn:

Lansio arolwg i asesu anghenion ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae arolwg wedi ei lansio fel rhan o’r gwaith i gynhyrchu asesiad o anghenion cyfredol ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cyngor yn asesu’r angen cyfredol am lety ymysg Sipsiwn, Teithwyr, a Siewmyn Teithiol, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd.

Bydd y broses yn cynnwys siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, budd-ddeiliaid allweddol a grwpiau cynrychioli, a bydd yn para tan 7 Hydref 2021.

Bydd yn cynnwys adolygiad o ddata lleol, yn cynnwys y nifer o wersylloedd diawdurdod sydd wedi eu sefydlu yn y sir, ac ymgynghoriad gyda theuluoedd o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych.

Gofynnir i aelodau etholedig a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned hyrwyddo’r arolwg i breswylwyr cymwys, yn ogystal â rhoi adborth ynghylch gwybodaeth leol am batrymau teithio.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) bob pum mlynedd; mae hyn yn un o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 ac y mae hefyd yn un o ofynion y Cynllun Datblygu Lleol newydd y mae’r Cyngor wrthi’n gweithio arno ar hyn o bryd.

Cafodd briff gwaith a chynllun cyfathrebu gan Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i gefnogi’r broses eu cymeradwyo gan Bwyllgor Craffu’r Cyngor ar 26 Gorffennaf.

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym nawr wedi lansio’r ymgynghoriad a byddwn yn ceisio cael cymaint o adborth â phosibl gan deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr er mwyn ein helpu i lywio'r broses hon.

“Rydym yn annog teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i gymryd rhan yn y broses ymgynghori hon. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i wneud yr Asesiad hwn, ac mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn.

“Diben y broses hon yw cael gwell dealltwriaeth o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â’r teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr hynny sy’n aros ar wersylloedd diawdurdod.

“Ni fydd y GTAA ond yn mesur yr angen am lety, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith i chwilio am safleoedd hyd nes y byddwn yn deall yr anghenion presennol.”

Bydd Opinion Research Services yn cynnal yr asesiad ar ran y Cyngor, a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cynnal asesiad tebyg yng Nghonwy.

Os ydych chi’n Sipsi, yn Deithiwr neu’n Siewmon Teithiol sy’n byw yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Michael Bayliss yn Opinion Research Services ar 07471 267095 neu anfonwch e-bost at michael.bayliss@ors.org.uk.

Mae croeso i chi rannu hwn gydag unrhyw ffrindiau neu deulu Sipsi, Teithwyr neu Siewmon Deithiol sydd gennych.

Cydnabod Cyngor am gefnogi cymuned y lluoedd arfog

Mae'r Cyngor Sir Ddinbych wedi ei gydnabod am gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Mae’r Cyngor yn un o 24 sefydliad a chyflogwr sector preifat yng Nghymru i gael Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr (CCC) Amddiffyn yn 2021 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r CCC yn annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyn ac yn agored i sefydliadau cyflogwyr sy’n addo, dangos neu eirioli cefnogaeth i amddiffyn cymuned y lluoedd arfog, ac alinio eu gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o gyflawni’r gydnabyddiaeth hon gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn allweddol i ddangos ein cefnogaeth o’r cyfraniad a wneir gan bawb sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi.

“Fel cyflogwr rydym wedi gallu sicrhau fod staff ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi o fewn y Cyngor.”

Mae'r Cyngor wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2019.

Bydd cyflwyniad swyddogol y wobr yn digwydd yn Seremoni'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Gwobrau Arian CCC yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 25 Tachwedd.

Mae’r cynllun Cyfeillion Digidol yn chwilio am wirfoddolwyr

Mae menter arbennig wedi helpu cymunedau i gadw cysylltiad digidol drwy’r pandemig ac mae’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gefnogi trigolion Sir Ddinbch.

Yn ystod haf 2020, drwy gydweithio, fe lansiwyd Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Mae’r cynllun yn helpu unrhyw un sydd angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol ac mae wedi helpu teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid i gadw mewn cysylltiad drwy gyfnodau clo anodd y pandemig.

Mae’r Cyfeillion wedi cynnig cefnogaeth dechnegol dros y ffôn, helpu pobl i fod yn fwy annibynnol a gwella eu iechyd meddwl a’u lles.

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae’r cynllun Cyfeillion Digidol wedi manteisio ar yr egni cadarnhaol hwnnw i gynnig cefnogaeth werthfawr iawn”.

Fy rôl i oedd recriwtio gwirfoddolwyr, sicrhau eu bod wedi eu hyfforddi a’u cyfateb gyda phobl yn y gymuned sydd angen cymorth digidol. Hoffem recriwtio mwy o wirfoddolwyr i fod yn Gyfeillion Digidol.”

Dywedodd Debbie Hughes, gwirfoddolwr sy’n un o’r Cyfeillion Digidol ym Mhrestatyn: “Yn ddiweddar, rydw i wedi helpu dynes oedd heb sgiliau TG o gwbl. Llwyddodd i gael mynediad at dabled drwy’r gwaith digidol rydw i’n ei wneud, ac yna, gyda fy nghymorth i, llwyddodd i lawr lwytho WhatsApp. Erbyn hyn, mae’r wraig yn galw ei merch drwy fideo yn Seland Newydd.

“Dwi’n meddwl ei bod wedi cael agoriad llygad i’r hyn y gall technoleg ei gynnig, a gobeithio y bydd hi’n ymuno â dosbarth TG yn ei llyfrgell leol ym mis Medi.

Ychwanegodd Debbie: “Roedd gwneud yr hyfforddiant yn gadarnhaol iawn a dysgais i amrywiaeth o bethau am y ffordd y gall technoleg ein helpu. Mae bod yn Gyfaill Digidol yn brofiad gwerthfawr gan ei bod yn wych cefnogi pobl a gweld eu hyder gyda TG yn cynyddu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma gynllun gwirfoddol gwych sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn ystod y pandemig. Mae cadw cysylltiad gyda’ch ffrindiau a’ch anwyliaid yn bwysicach nag erioed, ac rydw i’n ddiolchgar iawn o weld faint mae Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych wedi helpu cymunedau yn y sir.

“Mae’n gynllun gwerth chweil i wirfoddolwyr fod yn rhan ohono, gan fod cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles meddyliol.”

Os gwyddoch am unrhyw un sydd â thabled neu ffôn clyfar sydd angen helpu i’w ddefnyddio, er enghraifft, hoffem glywed gennych, a gellir rhoi’r unigolyn mewn cysylltiad â Chyfaill Digidol.

Cysylltwch â Gareth Jones ar 01824 702441 neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk am fwy o wybodaeth neu os hoffech fod yn Gyfaill Digidol.

Sir Ddinbych yn ymuno â'r ymdrechion i hybu Gofalwyr Maeth yng Nghymru

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn 'Maethu Cymru', wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol.

Er bod dros draean (39%) o oedolion Cymru yn honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae yna dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn i gadw i fyny gyda'r nifer o blant sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ddod o hyd i ofalwyr newydd i ddisodli’r rhai sy'n ymddeol neu sy'n gallu darparu cartref parhaol i blant.

Mae'r rhwydwaith cenedlaethol newydd, 'Maethu Cymru', yn dwyn ynghyd y 22 o dimau maethu nid-er-elw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gyda degawdau o brofiad, maent yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Yn lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy'n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol."

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o'r broses o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu."

Ledled Cymru, mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau yn barhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi plant i aros yn eu hardal leol pan dyna’r peth iawn ar eu cyfer.

Mae timau awdurdodau lleol eisoes yn rhannu gwybodaeth drwy gyswllt rheolaidd, ond mae ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru yn camgymryd nad yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan gynghorau yn debygol o fod wedi'u cysylltu’n dda â'i gilydd ledled y wlad. Mae'r penderfyniad i uno'r 22 o wasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol o dan yr enw Maethu Cymru felly yn ceisio sicrhau a gwneud chwarae teg i'r gwaith Cymru gyfan sy'n cael ei gynnal.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy'n cael eu recriwtio'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i'r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i'n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal.

"Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy'n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a'u synnwyr o hunaniaeth. Mae'n adeiladu hyder ac yn lleihau straen. Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi'r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o'u blaenau."

Dywedodd Tanya Evans, aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n Bennaeth Gwasanaethau Plant, "Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant. Mae yna gannoedd o blant ledled Cymru ar hyn o bryd sydd â hawl i ffynnu ac mae arnynt angen rhywun yn eu cymuned i'w cefnogi a chredu ynddynt.

"Mae chwalu'r mythau ynghylch gofal maeth yn dasg allweddol. Er enghraifft, nid oes yr un dau blentyn yr un fath ac nid yw'r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes teulu maeth 'nodweddiadol'.

"P'un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu, p'un a ydych wedi priodi neu'n sengl. Beth bynnag fo’ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i’w cefnogi.

"Yr oll sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw i mewn."

Am fwy o wybodaeth am faethu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru / fosterwales.gov.wales

Gwaith dymchwel wedi ailgychwyn ar Adeiladau’r Frenhines yn Y Rhyl

Mae gwaith i ddymchwel Adeiladau’r Frenhines wedi ailgychwyn yn dilyn oedi byr.

Oedwyd y gwaith dymchwel tra bod peirianwyr strwythurol a chontractwyr yn gweithio ar sicrhau dymchwel yr adeiladau oedd yn weddill a thynnu asbestos yn ddiogel.

Er bod y prosiect wedi gwneud cynnydd cadarnhaol, gydag ychydig dros hanner yr adeiladau eisoes wedi eu dymchwel, mae’r oedi yn golygu y bydd y cam dymchwel yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach na gynlluniwyd i ddechrau.

Mae Adeiladau’r Frenhines wedi eu henwi fel y prosiect ‘catalydd allweddol’ o fewn rhaglen ehangach y Cyngor o Adfywio’r Rhyl.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: "Roedd yn bwysig oedi’r prosiect i sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr adeiladu. Rwy’n falch bod y meysydd o bryder wedi eu datrys ac y gall y gwaith dymchwel barhau.

“Mae’r contractwyr eisoes wedi gwneud cynnydd da gyda’r gwaith dymchwel ac edrychaf ymlaen at wylio’r prosiect yn datblygu ymhellach tuag at y camau nesaf.”

Er bod gwaith ar yr adeiladau hyn wedi ailgychwyn, mae elfennau o Archfarchnad y Frenhines dal ar agor i’r cyhoedd o fynedfa’r Stryd Fawr.

Siopau sy’n parhau i fasnachu yma yw Lynn’s Hair pieces, Top Shelf Vapes, Pennywise Cards and Gifts a Steve’s Vac’s.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl

Y Rhyl yn cynnal lansiad tocyn bws ledled Gogledd Cymru

Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol. Cyhoeddwyd y tocyn 1Bws yn Y Rhyl yn ddiweddar, a ellir ei ddefnyddio i deithio ar fysiau ledled Gogledd Cymru.

Roedd cwmnïau bysiau o Ogledd Cymru yn bresennol yn y lansiad, a gynhaliwyd yn yr Arena Ddigwyddiadau, yn ogystal â gwesteion o gynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, aelodau Seneddol a swyddogion o Drafnidiaeth Cymru.

Mae tocyn oedolyn yn costio £5.70, bydd plentyn yn talu £3.70 a bydd deiliaid tocynnau bysiau consesiwn o Loegr a’r Alban hefyd yn talu £3.70.

Mae tocyn teulu ar gael am ddim ond £12.

Mae un tocyn yn ddilys trwy'r dydd ar fysiau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r rhanbarth ac mae'n bosib crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r fenter hon, a fydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith bws helaeth.

Y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o gael pobl yn ôl ar fysiau ac agor Gogledd Cymru i fyny mewn ffordd sy’n amddiffyn yr amgylchedd.

“Mae’r tocyn hwn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng cwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol. Bu’n bosib cyflwyno’r tocyn hwn gan fod y sector cyhoeddus a phreifat, cwmnïau bysiau mawr a bach, i gyd wedi cydweithio."

Dywedodd Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Rhanbarthol Arriva: “Mae cyflwyno’r tocyn 1Bws yn ganlyniad gwaith partneriaeth agos yng Ngogledd Cymru rhwng cwmnïau ac awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i gwsmeriaid presennol a defnyddwyr newydd posib, gan y bydd y cynnyrch newydd yn gwneud teithio ar fws yn fwy cyfleus a haws.

 “Mae bysiau yn gyfrannwr pwysig i economi Gogledd Cymru a bydd yn allweddol wrth annog adferiad gwyrdd a chynaliadwy o’r pandemig.”

Mae gwybodaeth am amserlenni’r holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar http://bustimes.org/ neu http://www.cymraeg.traveline.cymru/ ;neu trwy ffonio 0800 464 00.

Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol yng Ngogledd Cymru heblaw gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.

Hefyd nid yw'n ddilys ar wasanaethau twristaidd a weithredir gan fysiau to agored, ar wasanaethau coetsis National Express a gwasanaethau parcio a theithio.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid