llais y sir

Y Rhyl yn cynnal lansiad tocyn bws ledled Gogledd Cymru

Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol. Cyhoeddwyd y tocyn 1Bws yn Y Rhyl yn ddiweddar, a ellir ei ddefnyddio i deithio ar fysiau ledled Gogledd Cymru.

Roedd cwmnïau bysiau o Ogledd Cymru yn bresennol yn y lansiad, a gynhaliwyd yn yr Arena Ddigwyddiadau, yn ogystal â gwesteion o gynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, aelodau Seneddol a swyddogion o Drafnidiaeth Cymru.

Mae tocyn oedolyn yn costio £5.70, bydd plentyn yn talu £3.70 a bydd deiliaid tocynnau bysiau consesiwn o Loegr a’r Alban hefyd yn talu £3.70.

Mae tocyn teulu ar gael am ddim ond £12.

Mae un tocyn yn ddilys trwy'r dydd ar fysiau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r rhanbarth ac mae'n bosib crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r fenter hon, a fydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith bws helaeth.

Y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o gael pobl yn ôl ar fysiau ac agor Gogledd Cymru i fyny mewn ffordd sy’n amddiffyn yr amgylchedd.

“Mae’r tocyn hwn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng cwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol. Bu’n bosib cyflwyno’r tocyn hwn gan fod y sector cyhoeddus a phreifat, cwmnïau bysiau mawr a bach, i gyd wedi cydweithio."

Dywedodd Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Rhanbarthol Arriva: “Mae cyflwyno’r tocyn 1Bws yn ganlyniad gwaith partneriaeth agos yng Ngogledd Cymru rhwng cwmnïau ac awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i gwsmeriaid presennol a defnyddwyr newydd posib, gan y bydd y cynnyrch newydd yn gwneud teithio ar fws yn fwy cyfleus a haws.

 “Mae bysiau yn gyfrannwr pwysig i economi Gogledd Cymru a bydd yn allweddol wrth annog adferiad gwyrdd a chynaliadwy o’r pandemig.”

Mae gwybodaeth am amserlenni’r holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar http://bustimes.org/ neu http://www.cymraeg.traveline.cymru/ ;neu trwy ffonio 0800 464 00.

Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol yng Ngogledd Cymru heblaw gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.

Hefyd nid yw'n ddilys ar wasanaethau twristaidd a weithredir gan fysiau to agored, ar wasanaethau coetsis National Express a gwasanaethau parcio a theithio.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid