llais y sir

Newyddion

Prif Weithredwr newydd i'r Cyngor

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.

Mae Graham Boase, a oedd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus y Cyngor, wedi'i benodi i'r rôl.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn benodiad gwych i Sir Ddinbych a hoffwn i a’r aelodau longyfarch Graham a’i groesawu i’w rôl newydd ar ran ein staff a thrigolion y sir.

“Roedd yna broses dethol hynod o drylwyr gyda nifer o ymgeiswyr cryf yn sefyll allan ac wedi rhoi perfformiad o radd uchel iawn.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i barhau â’r llwyddiant hwn i’r dyfodol.”

Dywedodd Mr Boase: “Rwy’n gyffrous iawn ar ddod yn Brif Weithredwr y Cyngor gwych hwn, ar ôl dechrau gweithio i Sir Ddinbych mor bell yn ôl â 1996.

Rwy’n hynod ddiolchgar i'r aelodau etholedig am ddangos bod ganddynt ffydd ac yn ymddiried ynof. Mae'n rhoi llawer o hyder i mi wybod eu bod wedi cefnogi fy nghynnydd o fod yn Bennaeth Gwasanaeth, i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac yn awr i’r Prif Weithredwr.

“Rwy’n credu fy mod yn adnabod y Cyngor yn dda ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw mewn i’r swydd, siarad â’n tîm arweinyddiaeth rhagorol, aelodau etholedig ymroddedig a’n preswylwyr am ein Gweledigaeth ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol.”

Dechreuodd Mr Boase weithio i Sir Ddinbych pan gafodd ei sefydlu nôl yn 1996, yn wreiddiol fel Uwch Swyddog Cynllunio, yn 2003 daeth yn Bennaeth Cynllunio a Gwarchod Cyhoedd ac yn 2017 cafodd ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus.

Mae wedi cychwyn yn y swydd ers 1af o Awst.

Arian ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cyfle am arian grant untro ar gyfer cymunedau sy’n cynnal ac yn trefnu digwyddiadau yn Sir Ddinbych.

Nod yr arian fydd i wella'r isadeiledd presennol er mwyn cefnogi mwy o ddigwyddiadau cynaliadwy a chost effeithiol, gan ei gwneud yn haws i gynnal mwy o ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol.

Mae cyllideb o £128,000 ar gael i’w rhannu i ymgeiswyr llwyddiannus ledled Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth:

“Dyma gyfle gwych i grwpiau cymunedol a threfnwyr digwyddiadau i ymgeisio am arian i helpu i wella isadeiledd digwyddiadau yn y sir.

“Fe hoffem ofyn i’r rhai sy’n ymgeisio i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau dinas, tref a chymuned a’u cynghorydd sir lleol, i ddatblygu eu cynigion.

“Mae hyn yn rhan o flaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i helpu i gefnogi ein cymunedau i ddod yn fwy cysylltiedig a gwydn, ac i allu mwynhau’r profiad unigryw y mae digwyddiadau lleol yn eu cynnig.”

Yr hyn y byddai’r Cyngor yn ei ffafrio fyddai i gynghorau dinas, tref a chymuned gael eu henwi fel yr arweinydd, gan gyflwyno cynnig y prosiect ar ran yr ymgeisydd.

Fe fydd cefnogaeth gan swyddog datblygu cymunedol ar gael drwy gydol cyfnod y cynllun i gynnig arweiniad ac i hyrwyddo, ac i weithredu fel swyddog cyswllt gydag adrannau mewnol yn ôl y gofyn.

Fe allech hefyd dderbyn cefnogaeth i wneud cais am arian cyfatebol.

Gellir cyflwyno ceisiadau hyd at Fedi 30, a bydd y rhestr fer wedi ei llunio erbyn diwedd mis Hydref, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ym mis Tachwedd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â joanne.taylor@sirddinbych.gov.uk, datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk, neu ffoniwch 01824 706142, a gallwch ymgeisio yma www.sirddinbych.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/digwyddiadau-be-symlaen/cyfle-am-gyllid-ar-gyfer-seilwaith-digwyddiadau-cymunedol.aspx

 

Cyllid at gostau gosod band eang gigabit

Mae trigolion a busnesau gwledig yn Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i wneud cais am gyllid tuag at y gost o osod band eang gigabit.

Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio gyda’i gilydd ar y Cynllun Taleb Band Eang Gigabit sy’n talu rhan o’r gost o osod cysylltiadau rhyngrwyd gigabit newydd.

O dan y bartneriaeth newydd mae £7,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig ac mae hyd at £3,000 ar gael ar gyfer eiddo preswyl.

Mae cysylltiadau band eang gigabit yn cynnig y cyflymderau gorau a mwyaf dibynadwy sydd ar gael, ac mae’r cynllun ar agor i eiddo gwledig gyda chyflymderau band eang sy’n llai na 100Mbps.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae’r cynllun wedi cael ei ail-lansio gan lywodraethau Cymru a’r DU ac rydym yn annog trigolion Sir Ddinbych sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac sy’n methu â chael band eang priodol i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn y talebau yma.

“Mae cysylltu cymunedau yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan ein Cynllun Corfforaethol ac mae gwell cysylltiadau rhyngrwyd yn sicrhau bod cymunedau yn cael mynediad da at wasanaethau ac yn helpu busnesau’r sir i ddarparu gwasanaethau ar-lein.

“Mae modd i drigolion neu grwpiau cymunedol gydweithio ar geisiadau ac mae’r Cyngor yn gweithio er mwyn eu cynghori a’u cynorthwyo gyda’u ceisiadau.”

Yn ogystal â chynnig Cynllun Talebau Band Eang Gigabit, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cynllun Cyflwyno Ffibr a fydd yn golygu bod 1,862 o eiddo ychwanegol yn Sir Ddinbych yn gallu cael Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad erbyn Mehefin 2022 ac mae Openreach eisoes wedi galluogi 399 o eiddo yn y sir.

Os hoffech drafod yr opsiynau sydd ar gael, cysylltwch â Swyddog Digidol y Cyngor trwy e-bostio datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk ac i wirio a ydych yn gymwys i dderbyn Taleb Band Eang Gigabit, edrychwch ar wefan https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/

Grant i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddatblygu eu gyrfaoedd

Mae grant i helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd wedi cael ei ail-lansio.

Mae Grant Hyfforddiant Gweithwyr y Cyngor yn cefnogi preswylwyr cyflogedig o Sir Ddinbych sydd yn ennill cyflog sydd yn is na chyflog canolrif y sir.

Gellir dyfarnu cyllid rhwng £250 a £2,000 fesul person ar gyfer hyfforddiant, datblygiad neu i gael gafael ar fentora i alluogi iddynt symud ymlaen yn eu gweithle presennol neu gyda chyflogwr newydd.

Hyd yn hyn, mae cyflog y rhai sydd wedi derbyn y grant wedi cynyddu 24% ar gyfartaledd fesul blwyddyn.

Caiff y grant ei gweinyddu gan Dîm Datblygiad Economaidd a Busnes y Cyngor ac mae’n cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol newydd y cyngor o sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle mae pobl am fyw a gweithio ynddo a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi ail lansio ein grant hyfforddiant cyflogaeth ac wedi cynyddu’r cymhwyster i sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl.

“Mae’r grant yma’n cynnig cyfle gwych i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd yma yn y sir.

“Mae cyflog y rhai sydd wedi ymgeisio’n llwyddiannus wedi cynyddu ar gyfartaledd ychydig o dan chwarter, ac os ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa, byddem yn eich annog i wirio eich cymhwyster.

“Rydym ni hefyd yn gofyn i gyflogwyr ystyried a oes ganddynt weithwyr allai elwa o’r cynllun yma a fyddai’n eich helpu chi i gadw ac uwchsgilio staff a thyfu eich busnes.”

I fod yn gymwys, mae’n rhaid byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £28,199, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych.

Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gyrsiau addysg bellach, sgiliau a hyfforddiant proffesiynol megis AAT, NVQ, City & Guilds a hyfforddiant i yrru cerbyd masnachol.

I ymgeisio neu i wirio eich cymhwyster, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/grant-hyfforddiant-gweithwyr

Gwobr Sêr Gofal i Weithiwr Gofal Sir Ddinbych

Mae un o weithwyr Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi cael gwobr am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau trigolion yn wyneb yr heriau a grëwyd gan bandemig Covid-19.

Mae Katie Newe, rheolwr gwasanaeth yn y Cyngor, yn un o 12 o weithwyr gofal yng Nghymru sydd wedi derbyn Gwobr Sêr Gofal.

Crëwyd Sêr Gofal i dynnu sylw at weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn ystod y pandemig.

Enwebwyd Katie am y wobr y mis diwethaf gan Ann Lloyd, ei Rheolwr Atebol.

Meddai Ann: “Yn ogystal ag arwain gwasanaeth mawr a chefnogi ein partneriaid annibynnol, aeth Katie ati i dorchi ei llewys a helpu’n ymarferol lle bynnag yr oedd ei hangen hi. Bu’n gweithio’n ddiflino yn ein cartrefi gofal ni, mewn tai gofal ychwanegol ac yng nghartrefi’r sector annibynnol oedd ar drothwy argyfwng. Nid oedd yn ddim ganddi weithio saith niwrnod yr wythnos a gweithio shifftiau nos a gyda’r nos os mai dyna oedd angen ei wneud i helpu ein dinasyddion ac i roi seibiant i aelodau staff oedd wedi ymlâdd a chyrraedd pen eu tennyn.

“Roedd Katie yn gefn enfawr i’w thîm, ac roedd ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad i’r sector gofal cymdeithasol heb ei ail. Roedd hi wir yn dangos esiampl eithriadol i bawb. Rydw i’n sicr bod ei dyfalbarhad a’i natur benderfynol drwy’r pandemig hwn wedi amddiffyn llawer o’n pobl hŷn diamddiffyn ni yma yn Sir Ddinbych.”

Wedi gwirioni i gael ei henwebu a’i chydnabod fel un o’r Sêr Gofal, dywedodd Katie: “Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ac rydw i wedi gallu gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud oherwydd cymorth ac arweiniad anhygoel Ann Lloyd, Phil Gilroy a Nicola Stubbins, sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i amddiffyn dinasyddion mwyaf diamddiffyn Sir Ddinbych.

“Does dim rhaid dweud bod pob un aelod o'n staff gofal yn Sêr Gofal hefyd. Maen nhw wedi mynd i weithio bob diwrnod er gwaethaf eu hofnau personol a'r trallod y maen nhw wedi’i wynebu. Mae ymroddiad ac ymrwymiad gofalwyr Sir Ddinbych yn ddigon i’m syfrdanu bob diwrnod. Gobeithio wir bod y gwaethaf drosodd bellach, ac y cawn ni edrych ymlaen at amser gwell.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor: “Rydym yn falch o weld Katie’n derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol am ei hymroddiad i ofalu am, amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Mae hi wedi bod yn eithriadol, ac fe hoffwn i hefyd ddweud diolch yn fawr iawn i'r staff gofal cymdeithasol a staff y rheng flaen sy’n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”

Fflatiau i gynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl

Mae dau fflat wedi cael eu hadnewyddu gan y Cyngor gyda chyllid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig (GGI) er mwyn cynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

Mae’r fflatiau yng Nghorwen a Rhuthun ac maent yn ffurfio rhan o flaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae’r ddau fflat yn cynnwys cyfleusterau modern a bydd yn galluogi gofalwyr a/neu’r rhai maent yn gofalu amdanynt i gael seibiant.

Mae mynediad hawdd i’r fflatiau, ynghyd ag addasiadau i’w gwneud nhw’n addas i bobl anabl, ac mae cyfleusterau ar gael i gael cymorth dros nos os oes angen.

Mae’r datblygiad yma’n adeiladu ar gynllun prawf llwyddiannus yn Rhuthun, lle bu modd i ofalwyr di͏-dâl elwa o seibiannau yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Awelon, mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Gall gofalwyr di-dâl yn y sir gael mynediad i gyfoeth o gefnogaeth gan sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys seibiant byr, gwasanaeth eistedd a thaliadau uniongyrchol sydd yn galluogi iddynt gydbwyso bywyd ochr yn ochr â gofalu.

Maent yn gallu ymgymryd ag asesiad o anghenion sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, er mwyn darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael.

Mae’r asesiad hwn yn galluogi’r gofalwr di-dâl i egluro’r effaith y mae gofalu yn ei gael arnynt ac ar eu bywydau ac i archwilio ystod o ddewisiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl allweddol yn ein cymdeithas ac mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Rydym wedi adnewyddu’r ddau fflat yma er mwyn cynnig cyfle am seibiant ac egwyliau byr.

“Mae’n cynnig cyfle i gymryd cam yn ôl a buaswn yn annog gofalwyr di-dâl yn y sir i gysylltu â'r Cyngor am asesiad gofalwr fel y gallant weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt."

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl drwy wella’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cefnogwr Gofalwyr y Cyngor: “Rydw i’n croesawu’r ddau fflat yma sy’n cael eu cynnig yn Sir Ddinbych i roi seibiant byr i ofalwyr di-dâl.

“Mae yna fyrdwn enfawr o gyfrifoldeb ar eu hysgwyddau a bydd cynnig y math yma o gymorth yn helpu i ddarparu seibiant ychwanegol iddynt.

Fe allwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad y Cyngor ar 0300 4561000 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm neu e-bostiwch spoa@denbighshire.gov.uk

 

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn weithredol

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i sicrhau fod perchnogion cŵn yn rheoli eu hanifeiliaid anwes pan fyddant yn defnyddio mannau cyhoeddus y sir.

Cyhoeddwyd y gorchymyn yn dilyn ymgynghoriad llawn, bydd yn caniatáu i’r Cyngor gymryd camau yn erbyn perchnogion sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu ar dir cyhoeddus heb ei lanhau.

Bwriad cyflwyno’r GDMC rheoli cŵn diwygiedig ar draws y sir yw delio’n effeithiol â phroblemau a niwsans arbennig sy’n bodoli ledled y sir.

Mae’r gorchymyn hwn hefyd yn atal perchnogion rhag mynd â’u cŵn ar gaeau chwaraeon ledled Sir Ddinbych a hefyd gadael y ci oddi ar y tennyn yn unrhyw le na ganiateir.

Mae cyfyngiadau ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn hefyd rhwng Mai a 30 Medi, felly cofiwch edrych ar yr arwyddion yn yr ardaloedd hyn.

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o berchnogion cŵn Sir Ddinbych yn parchu aelodau eraill o’r cyhoedd ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Yn anffodus, mae’r Cyngor yn cael nifer o gwynion gan breswylwyr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan berchnogion cŵn nad ydynt yn rheoli eu cŵn yn iawn mewn mannau cyhoeddus.

“Bydd y gorchymyn newydd hwn yn ein caniatáu i gymryd camau priodol yn erbyn y perchnogion cŵn hynny sy’n ymddwyn yn anghyfrifol gyda’u hanifeiliaid anwes yn gyhoeddus.

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i atgoffa holl berchnogion cŵn i sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn gyda nhw pan fyddant yn mynd a'u ci am dro."

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni hyn:

Lansio arolwg i asesu anghenion ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae arolwg wedi ei lansio fel rhan o’r gwaith i gynhyrchu asesiad o anghenion cyfredol ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cyngor yn asesu’r angen cyfredol am lety ymysg Sipsiwn, Teithwyr, a Siewmyn Teithiol, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd.

Bydd y broses yn cynnwys siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, budd-ddeiliaid allweddol a grwpiau cynrychioli, a bydd yn para tan 7 Hydref 2021.

Bydd yn cynnwys adolygiad o ddata lleol, yn cynnwys y nifer o wersylloedd diawdurdod sydd wedi eu sefydlu yn y sir, ac ymgynghoriad gyda theuluoedd o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr sydd yn byw yn Sir Ddinbych.

Gofynnir i aelodau etholedig a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned hyrwyddo’r arolwg i breswylwyr cymwys, yn ogystal â rhoi adborth ynghylch gwybodaeth leol am batrymau teithio.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) bob pum mlynedd; mae hyn yn un o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 ac y mae hefyd yn un o ofynion y Cynllun Datblygu Lleol newydd y mae’r Cyngor wrthi’n gweithio arno ar hyn o bryd.

Cafodd briff gwaith a chynllun cyfathrebu gan Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i gefnogi’r broses eu cymeradwyo gan Bwyllgor Craffu’r Cyngor ar 26 Gorffennaf.

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Rydym nawr wedi lansio’r ymgynghoriad a byddwn yn ceisio cael cymaint o adborth â phosibl gan deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr er mwyn ein helpu i lywio'r broses hon.

“Rydym yn annog teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i gymryd rhan yn y broses ymgynghori hon. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i wneud yr Asesiad hwn, ac mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn.

“Diben y broses hon yw cael gwell dealltwriaeth o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â’r teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr hynny sy’n aros ar wersylloedd diawdurdod.

“Ni fydd y GTAA ond yn mesur yr angen am lety, ac nid yw’r gwaith hwn yn cynnwys chwilio am leoliadau ar gyfer safleoedd. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith i chwilio am safleoedd hyd nes y byddwn yn deall yr anghenion presennol.”

Bydd Opinion Research Services yn cynnal yr asesiad ar ran y Cyngor, a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cynnal asesiad tebyg yng Nghonwy.

Os ydych chi’n Sipsi, yn Deithiwr neu’n Siewmon Teithiol sy’n byw yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Michael Bayliss yn Opinion Research Services ar 07471 267095 neu anfonwch e-bost at michael.bayliss@ors.org.uk.

Mae croeso i chi rannu hwn gydag unrhyw ffrindiau neu deulu Sipsi, Teithwyr neu Siewmon Deithiol sydd gennych.

Cydnabod Cyngor am gefnogi cymuned y lluoedd arfog

Mae'r Cyngor Sir Ddinbych wedi ei gydnabod am gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Mae’r Cyngor yn un o 24 sefydliad a chyflogwr sector preifat yng Nghymru i gael Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr (CCC) Amddiffyn yn 2021 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r CCC yn annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyn ac yn agored i sefydliadau cyflogwyr sy’n addo, dangos neu eirioli cefnogaeth i amddiffyn cymuned y lluoedd arfog, ac alinio eu gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o gyflawni’r gydnabyddiaeth hon gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn allweddol i ddangos ein cefnogaeth o’r cyfraniad a wneir gan bawb sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi.

“Fel cyflogwr rydym wedi gallu sicrhau fod staff ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi o fewn y Cyngor.”

Mae'r Cyngor wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2019.

Bydd cyflwyniad swyddogol y wobr yn digwydd yn Seremoni'r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Gwobrau Arian CCC yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 25 Tachwedd.

Mae’r cynllun Cyfeillion Digidol yn chwilio am wirfoddolwyr

Mae menter arbennig wedi helpu cymunedau i gadw cysylltiad digidol drwy’r pandemig ac mae’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gefnogi trigolion Sir Ddinbch.

Yn ystod haf 2020, drwy gydweithio, fe lansiwyd Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Mae’r cynllun yn helpu unrhyw un sydd angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol ac mae wedi helpu teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid i gadw mewn cysylltiad drwy gyfnodau clo anodd y pandemig.

Mae’r Cyfeillion wedi cynnig cefnogaeth dechnegol dros y ffôn, helpu pobl i fod yn fwy annibynnol a gwella eu iechyd meddwl a’u lles.

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae’r cynllun Cyfeillion Digidol wedi manteisio ar yr egni cadarnhaol hwnnw i gynnig cefnogaeth werthfawr iawn”.

Fy rôl i oedd recriwtio gwirfoddolwyr, sicrhau eu bod wedi eu hyfforddi a’u cyfateb gyda phobl yn y gymuned sydd angen cymorth digidol. Hoffem recriwtio mwy o wirfoddolwyr i fod yn Gyfeillion Digidol.”

Dywedodd Debbie Hughes, gwirfoddolwr sy’n un o’r Cyfeillion Digidol ym Mhrestatyn: “Yn ddiweddar, rydw i wedi helpu dynes oedd heb sgiliau TG o gwbl. Llwyddodd i gael mynediad at dabled drwy’r gwaith digidol rydw i’n ei wneud, ac yna, gyda fy nghymorth i, llwyddodd i lawr lwytho WhatsApp. Erbyn hyn, mae’r wraig yn galw ei merch drwy fideo yn Seland Newydd.

“Dwi’n meddwl ei bod wedi cael agoriad llygad i’r hyn y gall technoleg ei gynnig, a gobeithio y bydd hi’n ymuno â dosbarth TG yn ei llyfrgell leol ym mis Medi.

Ychwanegodd Debbie: “Roedd gwneud yr hyfforddiant yn gadarnhaol iawn a dysgais i amrywiaeth o bethau am y ffordd y gall technoleg ein helpu. Mae bod yn Gyfaill Digidol yn brofiad gwerthfawr gan ei bod yn wych cefnogi pobl a gweld eu hyder gyda TG yn cynyddu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma gynllun gwirfoddol gwych sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn ystod y pandemig. Mae cadw cysylltiad gyda’ch ffrindiau a’ch anwyliaid yn bwysicach nag erioed, ac rydw i’n ddiolchgar iawn o weld faint mae Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych wedi helpu cymunedau yn y sir.

“Mae’n gynllun gwerth chweil i wirfoddolwyr fod yn rhan ohono, gan fod cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles meddyliol.”

Os gwyddoch am unrhyw un sydd â thabled neu ffôn clyfar sydd angen helpu i’w ddefnyddio, er enghraifft, hoffem glywed gennych, a gellir rhoi’r unigolyn mewn cysylltiad â Chyfaill Digidol.

Cysylltwch â Gareth Jones ar 01824 702441 neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk am fwy o wybodaeth neu os hoffech fod yn Gyfaill Digidol.

Sir Ddinbych yn ymuno â'r ymdrechion i hybu Gofalwyr Maeth yng Nghymru

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn 'Maethu Cymru', wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol.

Er bod dros draean (39%) o oedolion Cymru yn honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae yna dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn i gadw i fyny gyda'r nifer o blant sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ddod o hyd i ofalwyr newydd i ddisodli’r rhai sy'n ymddeol neu sy'n gallu darparu cartref parhaol i blant.

Mae'r rhwydwaith cenedlaethol newydd, 'Maethu Cymru', yn dwyn ynghyd y 22 o dimau maethu nid-er-elw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gyda degawdau o brofiad, maent yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Yn lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy'n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol."

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o'r broses o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu."

Ledled Cymru, mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau yn barhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi plant i aros yn eu hardal leol pan dyna’r peth iawn ar eu cyfer.

Mae timau awdurdodau lleol eisoes yn rhannu gwybodaeth drwy gyswllt rheolaidd, ond mae ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru yn camgymryd nad yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan gynghorau yn debygol o fod wedi'u cysylltu’n dda â'i gilydd ledled y wlad. Mae'r penderfyniad i uno'r 22 o wasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol o dan yr enw Maethu Cymru felly yn ceisio sicrhau a gwneud chwarae teg i'r gwaith Cymru gyfan sy'n cael ei gynnal.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy'n cael eu recriwtio'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i'r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i'n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal.

"Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy'n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a'u synnwyr o hunaniaeth. Mae'n adeiladu hyder ac yn lleihau straen. Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi'r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o'u blaenau."

Dywedodd Tanya Evans, aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n Bennaeth Gwasanaethau Plant, "Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant. Mae yna gannoedd o blant ledled Cymru ar hyn o bryd sydd â hawl i ffynnu ac mae arnynt angen rhywun yn eu cymuned i'w cefnogi a chredu ynddynt.

"Mae chwalu'r mythau ynghylch gofal maeth yn dasg allweddol. Er enghraifft, nid oes yr un dau blentyn yr un fath ac nid yw'r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes teulu maeth 'nodweddiadol'.

"P'un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu, p'un a ydych wedi priodi neu'n sengl. Beth bynnag fo’ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i’w cefnogi.

"Yr oll sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw i mewn."

Am fwy o wybodaeth am faethu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru / fosterwales.gov.wales

Gwaith dymchwel wedi ailgychwyn ar Adeiladau’r Frenhines yn Y Rhyl

Mae gwaith i ddymchwel Adeiladau’r Frenhines wedi ailgychwyn yn dilyn oedi byr.

Oedwyd y gwaith dymchwel tra bod peirianwyr strwythurol a chontractwyr yn gweithio ar sicrhau dymchwel yr adeiladau oedd yn weddill a thynnu asbestos yn ddiogel.

Er bod y prosiect wedi gwneud cynnydd cadarnhaol, gydag ychydig dros hanner yr adeiladau eisoes wedi eu dymchwel, mae’r oedi yn golygu y bydd y cam dymchwel yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach na gynlluniwyd i ddechrau.

Mae Adeiladau’r Frenhines wedi eu henwi fel y prosiect ‘catalydd allweddol’ o fewn rhaglen ehangach y Cyngor o Adfywio’r Rhyl.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: "Roedd yn bwysig oedi’r prosiect i sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr adeiladu. Rwy’n falch bod y meysydd o bryder wedi eu datrys ac y gall y gwaith dymchwel barhau.

“Mae’r contractwyr eisoes wedi gwneud cynnydd da gyda’r gwaith dymchwel ac edrychaf ymlaen at wylio’r prosiect yn datblygu ymhellach tuag at y camau nesaf.”

Er bod gwaith ar yr adeiladau hyn wedi ailgychwyn, mae elfennau o Archfarchnad y Frenhines dal ar agor i’r cyhoedd o fynedfa’r Stryd Fawr.

Siopau sy’n parhau i fasnachu yma yw Lynn’s Hair pieces, Top Shelf Vapes, Pennywise Cards and Gifts a Steve’s Vac’s.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl

Y Rhyl yn cynnal lansiad tocyn bws ledled Gogledd Cymru

Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol. Cyhoeddwyd y tocyn 1Bws yn Y Rhyl yn ddiweddar, a ellir ei ddefnyddio i deithio ar fysiau ledled Gogledd Cymru.

Roedd cwmnïau bysiau o Ogledd Cymru yn bresennol yn y lansiad, a gynhaliwyd yn yr Arena Ddigwyddiadau, yn ogystal â gwesteion o gynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, aelodau Seneddol a swyddogion o Drafnidiaeth Cymru.

Mae tocyn oedolyn yn costio £5.70, bydd plentyn yn talu £3.70 a bydd deiliaid tocynnau bysiau consesiwn o Loegr a’r Alban hefyd yn talu £3.70.

Mae tocyn teulu ar gael am ddim ond £12.

Mae un tocyn yn ddilys trwy'r dydd ar fysiau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r rhanbarth ac mae'n bosib crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r fenter hon, a fydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith bws helaeth.

Y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o gael pobl yn ôl ar fysiau ac agor Gogledd Cymru i fyny mewn ffordd sy’n amddiffyn yr amgylchedd.

“Mae’r tocyn hwn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng cwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol. Bu’n bosib cyflwyno’r tocyn hwn gan fod y sector cyhoeddus a phreifat, cwmnïau bysiau mawr a bach, i gyd wedi cydweithio."

Dywedodd Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Rhanbarthol Arriva: “Mae cyflwyno’r tocyn 1Bws yn ganlyniad gwaith partneriaeth agos yng Ngogledd Cymru rhwng cwmnïau ac awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i gwsmeriaid presennol a defnyddwyr newydd posib, gan y bydd y cynnyrch newydd yn gwneud teithio ar fws yn fwy cyfleus a haws.

 “Mae bysiau yn gyfrannwr pwysig i economi Gogledd Cymru a bydd yn allweddol wrth annog adferiad gwyrdd a chynaliadwy o’r pandemig.”

Mae gwybodaeth am amserlenni’r holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar http://bustimes.org/ neu http://www.cymraeg.traveline.cymru/ ;neu trwy ffonio 0800 464 00.

Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol yng Ngogledd Cymru heblaw gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.

Hefyd nid yw'n ddilys ar wasanaethau twristaidd a weithredir gan fysiau to agored, ar wasanaethau coetsis National Express a gwasanaethau parcio a theithio.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Llyfrgelloedd yn lansio cefnogaeth ddigidol newydd

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi lansio menter ddigidol newydd i gefnogi pobl sy’n chwilio am le ar gyfer apwyntiadau preifat ar-lein.

Ar ôl ailagor yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid, mae holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych bellach yn cynnig gofod digidol unigol newydd ar ôl sicrhau cyllid gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Ystafelloedd preifat yw’r rhain sydd â gliniaduron i alluogi trigolion i gynnal apwyntiadau cyfrinachol ar-lein, megis cymryd rhan mewn cyfweliad am swydd, apwyntiad meddygol neu gyfarfod ar-lein trwy Zoom neu blatfformau eraill.

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae ein llyfrgelloedd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i drigolion lleol trwy gydol y 18 mis anodd diwethaf.

“Rwy’n hynod falch fod y fenter wych hon wedi’i chyflwyno i gefnogi ein trigolion, yn enwedig wrth i ni weld cynnydd mawr yn y defnydd o gyfryngau digidol fel modd o gyfathrebu yn ein bywydau bob dydd yn ystod y pandemig.

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff y llyfrgelloedd am eu gwaith caled a’u hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaeth hanfodol i’n cymunedau.

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio, mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa y gallan nhw rŵan ymweld â’u llyfrgell leol i bori, dewis a dychwelyd llyfrau heb drefnu apwyntiad.

Bydd angen iddyn nhw drefnu apwyntiad o hyd i ddefnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell, archebu lle i astudio ac i gael mynediad at wasanaethau’r Siop Un Alwad a gallan nhw wneud hynny trwy ffonio eu llyfrgell leol.

Mae llyfrgelloedd yn lleoedd diogel i ymweld â nhw a mae digon o le i gadw pellter cymdeithasol.  Mae cyfyngiad ar y nifer o bobl sydd i mewn ar yr un pryd ac mae diheintydd dwylo ac offer ar gael.

Gallwch archebu gofod digidol unigol trwy gysylltu â’ch llyfrgell agosaf ar Llyfrgelloedd | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)  

Cylchgronau poplogaidd am ddim!

Mae cannoedd o gylchgronau poblogaidd ar gael rwan i'w lawrlwytho a'u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7. Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby, yr ap darllen gan Overdrive. Ymhlith y prif deitlau cewch Cara, Lingo Newydd, Comic Mellten, a llawer mwy.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch Libby neu ewch i denbighshireuk.overdrive.com (gwefan allanol).

Ddim yn aelod o’r llyfrgell eto? Gallwch ymuno arlein. www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.

Palasau Hwyl

Twristiaeth

Sir Ddinbych yn lansio adnoddau twristiaeth newydd

Mae cyfres o adnoddau marchnata proffesiynol cysylltiedig â thwristiaeth i fusnesau eu defnyddio wedi eu lansio fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych.

Mae pecyn cyfathrebu gyda negeseuon allweddol i annog ethos teithio diogel a chyfrifol wedi’i gynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys annog ymwelwyr i gynllunio, paratoi ac archebu ymlaen llaw i sicrhau profiad cadarnhaol, cyngor diogelwch arfordirol a negeseuon diogelwch awyr agored i sicrhau fod gan bobl y sgiliau, gwybodaeth ac offer cywir cyn mentro allan.

Mae’r Cod Cefn Gwlad newydd hefyd yn cael ei amlygu i annog ymwelwyr a phreswylwyr i amddiffyn yr amgylchedd drwy fynd â sbwriel gartref, cadw cŵn dan reolaeth, dilyn arwyddion a chadw ar lwybrau wedi eu marcio, cau giatiau a pharcio’n gyfrifol.

Mae cyfres o graffeg cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â’r prif negeseuon wedi’i gynhyrchu i fusnesau a Llysgenhadon Twristiaeth yn ogystal â chronfa lluniau proffesiynol i hybu’r ardal.

Dywedodd Steve Layt, Llysgennad Twristiaeth Aur Sir Ddinbych a threfnydd Gŵyl Gerdded Corwen: “Mae’r adnoddau a’r lluniau yn wych a byddant yn ddefnyddiol iawn i amlygu’r ardal ac annog twristiaeth gyfrifol. Mae Dyffryn Dyfrdwy a Mynyddoedd y Berwyn yn cael effaith mawr ar Corwen a phobl yn dod i Sir Ddinbych ar yr A5, fodd bynnag nid yw llawer o ymwelwyr yn ymwybodol ohono. Fodd bynnag, Moel Fferna yw’r pwynt uchaf yn yr AHNE a Chadair y Berwyn yw’r pwnt uchaf yn Sir Ddinbych.

Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn ar Gadair Bronwen ac roedd cwpl o Blackpool ar y copa ac roeddent yn dweud eu bod yn arfer mynd i Eryri ond doedden nhw ddim yn gallu credu’r ystod o fynyddoedd yr oeddent wedi gyrru heibio iddynt.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: Rydym nawr yn nesáu at brif dymor yr haf ac mae’n bwysig parhau i annog ymddygiad cyfrifol a diogel gan ymwelwyr a phreswylwyr. Mae dros 200 busnes yn Sir Ddinbych bellach wedi cyflawni’r nod ‘Barod i Fynd’, sy’n golygu y dilynwyd canllawiau Covid caeth. Rydym i gyd angen gweithio gyda’n gilydd i warchod a gwella nodweddion arbennig Sir Ddinbych ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae Sir Ddinbych hefyd yn annog pawb i ddysgu a gwerthfawrogi mwy am yr ardal drwy fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych. Mae cyfres o fodiwlau rhyngweithiol ar-lein am ddim gyda phosau wedi eu llunio ar amrywiol themâu gan gynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, AHNE, Safle Treftadaeth y Byd, yr arfordir a thwristiaeth bwyd. Mae yna dros 275 o Lysgenhadon ar hyn o bryd ac mae’r cynllun wnaeth ddechrau yn Sir Ddinbych, nawr yn ymestyn i ardaloedd eraill ar draws Cymru.

Dywedodd Richard Hughes, Bracdy Holidays yn Llandyrnog a Llysgennad Twristiaeth Aur: “Nid yw llawer o’n hymwelwyr yng Ngwersyllfa Bracdy erioed wedi aros yn yr ardal o’r blaen. Maent wedi gwirioni gyda hyfrydwch Bryniau Clwyd y tu cefn i’r safle a’r golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd. Rydym yma i ateb cwestiynau am Sir Ddinbych ac i wella ein gwybodaeth leol rydym wedi dychwelyd i’r ysgol i fod yn Llysgennad. Rydym wrth ein bodd pan mae ein hymwelwyr yn gofyn cwestiynau ac rydym yn hoffi cael yr atebion a gyda 2000 o flynyddoedd o ddigwyddiadau hanesyddol i siarad amdanynt, mae’r mannau agored eang a’r trefi marchnad bywiog â digon yn digwydd.”

Mae dwy Ganolfan Groeso gyda staff Sir Ddinbych nawr yn agored i gynorthwyo ymwelwyr gyda llety, gweithgareddau, bwyta allan a theithio o amgylch y sir. Mae Llangollen yn agored ddydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn 9.30am – 5pm a Chanolfan Groeso y Rhyl yn agored ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, 9.30am – 4pm.

Mae’r gwaith hwn yn ffurfio rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych.

Ebostiwch twristiaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech ddefnyddio’r adnoddau hyn.

A hoffech chi ddysgu mwy am yr ardal?

Mae cwrs Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu hyfforddiant i bobl ar gynnig twristiaeth Sir Ddinbych. Mae’n rhad ac am ddim, yn hyblyg, yn hwyl ac mae’n agored i bawb.

Mae cyfres o 11 o fodiwlau rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau wedi eu llunio ar amrywiol themâu gan gynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, trefi, yr iaith Gymraeg, AHNE, Safle Treftadaeth y Byd, yr arfordir a thwristiaeth bwyd. Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gaiff eu cwblhau.

Erbyn hyn mae gennym 275 o Lysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych Efydd ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn -

“Rwyf wir yn mwynhau’r cwrs ac yn dysgu cymaint. Rwyf nawr wedi cwblhau’r Arian a’r Aur ac fe fydda i’n parhau i wneud yr holl fodiwlau sydd ar ôl.”

www.denbighshireambassador.wales

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sut y gall Sir Ddinbych yn Gweithio eich helpu?

Cynllun Work Start

Roedd y tîm Work Start am rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am y prosiect. Mae Work Start yn brosiect a gaiff ei arwain gan gyflogaeth o fewn Sir Ddinbych yn Gweithio, ac mae’n cefnogi unigolion i gael cyflogaeth. Gallwn gynnig lleoliad tri mis, naill ai am dâl neu’n ddi-dâl, a’u cefnogi trwy gydol eu taith. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys bod â swyddog prosiect dynodedig a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu cyfnod, gan roi mynediad iddynt i gyrsiau hyfforddi, mentora, cyngor a chefnogaeth ac edrych ar y camau nesaf. Bydd y swyddogion hefyd yn darparu cefnogaeth un i un wedi’i theilwra a gweithio gyda’r cyfranogwr i gael cynllun gweithredu unigol iddynt weithio arno. Er enghraifft, efallai bydd un unigolyn am fod â nod sy’n ymwneud â dysgu sgiliau newydd, ac efallai bydd un unigolyn am gynyddu eu hyder; mae pawb yn wahanol, sy’n golygu bod pob cynllun yn wahanol.

Mae Work Start yn fewnol ac allanol, sy’n golygu y gallwn ddarparu cyfleoedd cyflogaeth yn y cyngor a thu hwnt. Mae rhai o’r lleoliadau rydym wedi eu darparu yn cynnwys

  • Cymhorthydd gweinyddol
  • Cymhorthydd Cyfryngau Cymdeithasol
  • Cymhorthydd trin cŵn
  • Labrwr

Ac mae llawer mwy, unig ofyniad Work Start yw bod rhaid i’r cyfranogwr fod wedi’u cofrestru â Sir Ddinbych yn Gweithio, a bod prosiect a mentor wedi’u dyrannu iddynt. Gallwn ni wneud popeth arall. Mae’n werth nodi bod mwyafrif ein lleoliadau’n arwain at gyflogaeth bellach yn y lleoliad hwnnw. Mae’n rhoi profiad i’r cyfranogwr o’r byd go iawn a gall helpu i ddarparu cefnogaeth i’r busnes, gyda’r nod o roi swydd iddynt ar ôl i’r lleoliad ddod i ben.

Os ydych chi’n credu y byddai eich sector chi’n elwa o gynllun Work Start, neu os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect, anfonwch e-bost at Workstart@sirddinbych.gov.uk

Diolch!

Tîm Workstart

Cymundau am Waith a Mwy: Astudiaeth Achos

Crynodeb

Cyfranogwyr ifanc Sir Ddinbych yn Gweithio yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned – Pencoed, Coetir Cymunedol Dinbych a’r Berllan Gymunedol writh ymyl swyddfeydd y Cyngor.

Cefndir

Mae grŵp bach o bobl ifanc sy’n gweithio gyda Mentoriaid Cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio i ganfod gwaith, addysg neu hyfforddiant addas, wedi bod yn cyfarfod bob wythnos ar-lein trwy Microsoft Teams.  Oherwydd bod rhai o’r cyfyngiadau wedi llacio, gwnaethom benderfynu cwrdd yn bersonol, fodd bynnag, roeddem yn awyddus i’r achlysur fod yn werthfawr i’r gymuned a’r amgylchedd mewn rhyw ffordd hefyd.  Gwnaeth y bobl ifanc feddwl am syniadau o ran beth hoffent ei wneud ac aethom ati i roi cynllun ar waith.  Gydag adnoddau cyfyngedig, roeddem yn gwybod y byddai angen cefnogaeth ychwanegol arnom, felly gwnaeth Jen Dutton (Mentor Cymunedol Cymunedau am Waith a Mwy) wahodd Heather Battisson- Howard (Swyddog Mannau Gwyrdd CSDd) i’r sesiynau cynllunio ar-lein er mwyn ein helpu ni.  Ar ôl rhannu syniadau, lluniwyd cynllun a phenderfynwyd ei weithredu ar 6 Gorffennaf 2021 yn Ninbych. 

Yr ymgysylltiad

Roedd ein cyfarfod Cymuned Ieuenctid yn cynnwys casglu sbwriel o ardal Coetir Cymunedol ac adeiladu gwestai trychfilod mewn perllan gymunedol oedd newydd ei phlannu.  Llwyddwyd i gasglu 2 fag o sbwriel cymysg a oedd yn cynnwys caniau lager, poteli gwin, bagiau baw ci wedi’u gollwng, papur fferins, gwydr wedi torri, poteli plastig, taniwr sigaréts wedi torri, bonion sigaréts a phedal oddi ar feic hyd yn oed! Roedd y sbwriel wedi’i wasgaru dros ardal y coetir yn y perthi, fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r eitemau a gasglwyd o amgylch y meinciau picnic.

 

Ar ôl picnic i ginio a sgwrs dda, aethom ati i adeiladu gwestai trychfilod o weddillion paledi pren a hen ddarnau o goed.  Roedd hyn yn golygu defnyddio dril bateri i wneud tyllau a’u sgriwio gyda’i gilydd.  Yna aethom ati i chwilio am eitemau i lenwi’r strwythurau roeddem wedi’u creu a defnyddio llif i dorri trwy ddarnau o goed naturiol heb eu trin.  Yna gosodwyd y gwestai trychfilod ar ffens y Berllan Gymunedol.

Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ac roedd y bobl ifanc yn cyd-dynnu’n dda.  Gwnaethant lunio fideo Tik Tok i arddangos eu gwaith yn ystod y dydd. Mae’r bobl ifanc wedi’u hynysu’n gymdeithasol felly roedd yn hyfryd eu gweld yn rhyngweithio a chael amser da (wrth gadw pellter cymdeithasol!).  Roedd y diwrnod o fudd i’r gymuned leol hefyd, oherwydd casglwyd 2 fag o sbwriel ac mae gan drychfilod rhywle diogel i aros J. Mae gwestai trychfilod yn cynnig lloches i bryfaid llesol, yn enwedig peillwyr. Mae pryfaid yn darparu nifer o fuddion i’r ecosystem trwy beillio, y cylch maethynnau ac maen nhw’n ffynhonnell bwyd i adar hefyd.

Bu’r bobl ifanc yn ymgysylltu â gweithgareddau nad oeddent wedi cael profiad ohonynt o’r blaen, a dysgu sgiliau y gallant eu defnyddio mewn gweithgareddau yn y dyfodol.  Buon nhw’n defnyddio amrywiaeth o declynnau torri coed dan oruchwyliaeth er mwyn creu’r gwestai trychfilod.

Gwnaeth y bobl ifanc ddarganfod lleoedd newydd nad oeddent wedi bod iddynt o’r blaen a buont yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad a chysylltu â natur.  Mae nifer o baneli gwybodaeth ar hyd y llwybr ym Mhencoed sy’n arddangos gwybodaeth am hanes yr ardal leol, a thrafodwyd y rhain â’r cyfranogwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall gwerth hanesyddol yr ardal.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Uchelgeisiau Lleihau Gwastraff yn Sir Ddinbych

Mae’n adeg wych i ganolbwyntio ar leihau gwastraff, gan fod Wythnos Dim Gwastraff newydd fod (2-6 Medi) a’r 19eg Wythnos Ailgylchu flynyddol (20-26 Medi) yn ystod y mis yma. Mae’r ddau ddigwyddiad hwn yn pwysleisio’r pwysigrwydd a’r angen i bob un ohonom ni weithio i leihau allyriadau carbon trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle gallwn ni. Thema’r Wythnos Ailgylchu genedlaethol ar gyfer eleni yw ‘Camu i Fyny’. Maent yn annog pawb i wneud mwy o ymdrech wrth ailgylchu ac ymuno yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd!

                                  Ysgol Christchurch – gwaith ailgylchu’r pwyllgor eco               

Roedd gwastraff yn cyfrif am 3% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cyngor Sir Ddinbych yn 2019/20 a 6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn 2018. Felly beth allwn ni i gyd ei wneud? Mae llawer o bethau bach, syml y gall pob un ohonom newid yn ein bywydau i wneud gwahaniaeth mawr. Rhai meysydd i ganolbwyntio arnyn nhw yw bwyd a diod, pecynnau plastig a beth rydych yn ei wneud â’ch dillad a’ch tecstilau. Efallai y gallwch chi feddwl am eich arferion ailgylchu ar hyn o bryd a dod o hyd i fannau i wneud mwy, prynu ffrwythau sydd ddim mewn plastig neu siopa am bethau ail-law i gadw mwy yn yr economi gylchol ac allan o safleoedd tirlenwi. Mae ein penderfyniadau yn y meysydd yma wedyn yn gallu cael effaith ar lefel y galw a helpu i newid y rhain i lefel gynaliadwy ar gyfer y blaned.  

Ysgol y Llys – sioe ffasiwn o ddefnyddiau ailgylchu

Fel Cyngor, rydym ni eisiau lleihau carbon o’n gwastraff o leiaf 35% erbyn 2030 o gymharu â’r sylfaen yn 2019/20 er mwyn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn Gyngor di-garbon net. Rydym ni’n edrych ar wella ein model gwastraff, yn ogystal â meysydd eraill lle gallwn ni wneud mwy, er mwyn cyrraedd y nod hwn a’n targed ailgylchu statudol o 70% yn 2045/5.

Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio, ym mharc gwastraff ac ailgylchu’r Rhyl, Marsh Road, y Rhyl, LL18 2AT

Rydym ni wedi cyflawni nifer o brosiectau lleihau gwastraff Economi Gylchol wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn barod eleni, sydd wedi’u hanelu at weithgareddau trwsio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi. Mae’r rhain yn cynnwys Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio ym mharc gwastraff ac ailgylchu’r Rhyl, a fydd yn helpu i atal tecstilau, trugareddau, dodrefn ac eitemau bach trydanol rhag mynd i’r system wastraff ac yn cynyddu nifer y pethau sy’n cael eu hailddefnyddio. Bydd y manion olaf yn Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio’n cael eu cwblhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys arwyddion parhaol. Gallwch ymweld â’r siop ar hyn o bryd a gweld yr hyn sydd ar gael ar ddyddiau Gwener a Sadwrn (10.00-16.30) a dyddiau Sul (10.00-16.00). Maent yn derbyn taliadau cerdyn neu arian parod.

Cafodd yr un ffynhonnell o gyllid ei defnyddio i sefydlu partneriaeth trwsio tecstilau gyda Co-Options yn y Rhyl, lle mae trigolion lleol yn cael eu hyfforddi i drwsio a pharatoi tecstilau sydd wedi’u rhoi a rhai wedi’u casglu ar ochr y palmant i’w gwerthu eto. Cafodd cyllid hefyd ei ddefnyddio i adnewyddu siopau elusen yng nghanol y dref a darparu cyfarpar roeddent ei angen i’w cynorthwyo i ddargyfeirio gwastraff a pharhau i gyfrannu at yr economi gylchol.

Mae ein hysgolion lleol hefyd yn chwarae eu rhan i annog ac addysgu disgyblion am y pwnc pwysig yma, yn enwedig ein eco-sgolion. Yn ddiweddar, mae disgyblion o Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl wedi bod yn mynd i’r afael â phlastig un-defnydd yng nghymuned eu hysgol trwy herio faint sy’n cael ei ddefnyddio mewn bocsys brechdanau cinio ac annog pobl hefyd i ail-lenwi poteli dŵr plastig neu newid i boteli diodydd plastig caletach. Bu Ysgol Gynradd Christchurch yn y Rhyl yn gweithio gyda’r sefydliad lleol G2G i dderbyn plastig un-defnydd sydd wedi’i daflu, ei lanhau, ei falu a’i anfon atynt i greu eitemau plastig newydd ohono gyda’u hargraffydd 3D ac mae Ysgol Pen Barras yn Rhuthun wedi cyflwyno biniau newydd i gasglu pecynnau creision gwag i’w hailgylchu, a fydd yn atal cannoedd rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r Cyngor Eco yn yr ysgol hefyd wedi cyfrannu at ailgylchu gwastraff bwyd yn well trwy sicrhau bod biniau bwyd priodol ym mhob adran, sy’n cael eu gwagio un ai i’r bin compost, i fwydo pryfed genwair yn eu fferm bryfed genwair, neu i’r Cyngor eu casglu’n wythnosol. Yn olaf, mae Ysgol y Llys ym Mhrestatyn wedi cynnal prosiect ailgylchu i ddisgyblion greu gwisg o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu a chynnal sioe ffasiwn yn yr ysgol. Daeth dros 210 o blant mewn gwisgoedd anhygoel wedi’u creu o decstilau fel hen gyrtens, bocsys bwyd, papur newydd a chaeadau poteli. Mae’n anhygoel beth allwn ni ei ailddefnyddio wrth fod yn greadigol!

Mae’r eco-sgolion yn cael eu rhedeg yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: www.keepwalestidy.cymru/eco-sgolion.

Mae rhagor o wybodaeth am holl waith rhaglenni di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol y Cyngor i’w gweld ar y wefan – www.sirddinbych.gov.uk/newid-hinsawdd ac mae diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Rheoli’r coetir o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Fel rhan o’n prosiect Ein Tirlun Darluniadwy a ariennir gan y Loteri yn Nyffryn Dyfrdwy, byddwn yn dechrau gwneud gwaith rheoli’r coetir yn y coetir o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte y gaeaf hwn.

Mae coetiroedd yn gynefinoedd dynamig sy’n newid yn barhaus. Gall y mannau arbennig hyn ymddangos yn anghydryw ac yn fawr i ni, yn anffodus gallant ddod yn unffurf mewn strwythur ac yn ddiraddedig o ran y potensial bioamrywiaeth. Mae cadw ein coetiroedd yn iach ac mor amrywiol â phosibl i fywyd gwyllt yn un o’n prif flaenoriaethau. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i ni dorri coed weithiau. Mae gwaith o’r fath yn cael ei gynllunio’n ofalus i sicrhau bod bywyd gwyllt sy’n nythu, clwydo a gaeafgysgu yn cael eu hamddiffyn.

Mae misoedd yr hydref a’r gaeaf, pan fydd coed collddail wedi colli eu dail a phan nad oes llawer o adar yn nythu, yn amser delfrydol i wneud gwaith rheoli coetiroedd. Yn aml, mae hyn yn cynnwys technegau traddodiadol fel bôn-docio a theneuo.

Ers canrifoedd, mae llawer o goetiroedd wedi cael eu rheoli drwy fôn-docio. Mae hyn yn golygu torri rhai coed neu lwyni yn ôl i lefel y llawr o dro i dro, gan adael iddynt flaguro cyffion newydd o’r bonion a dorrwyd.   Gwneir hyn yn ystod y gaeaf pan fydd y goeden yn cysgu. Mae bôn-docio yn golygu bod mwy o oleuni’r haul uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cyrraedd llawr y coetir a gall ysgogi planhigion coetir fel briallu a chlychau’r gog dyfu. Mae deiliach a blodau’r planhigion hyn yn ffynhonnell fwyd i infertebratau sydd yn ei dro yn darparu bwyd i anifeiliaid eraill fel adar ac ystlumod. Mae’r arfer hefyd yn sicrhau bod ystod oedran cymysg ac amrywiaeth o goed, sydd felly’n dod â budd i amrywiaeth cyffredinol y coetir. Mae bôn-docio yn grefft draddodiadol coetir a ddefnyddir i dyfu cyffion syth o goed, a ddefnyddir i wneud coesau brwsys, polion ffa, basgedi, clwydi ac ati. Mae sawl rhywogaeth o goed yn ymateb yn dda iawn i fôn-docio, sy’n eu galluogi i bara am flynyddoedd lawer, ac sy’n golygu y gallant ddarparu cnydau pellach o goed sy’n cael eu cynaeafu bob 5–20 mlynedd yn dibynnu ar y cnwd sydd ei angen.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn teneuo coetiroedd. Mae hyn yn golygu cael gwared ar goed sydd mewn cyflwr gwael, sydd ddim yn iach neu’n rhy drwchus i wneud y coed sydd ar ôl yn gryfach ac yn iachach. Mae teneuo’n cael ei ddefnyddio i reoli coetiroedd sydd wedi’u hesgeuluso, ble mae cysgod trwchus yn golygu bod llai o flodau coetir. Mae teneuo’n digwydd yn aml mewn coetiroedd newydd i alluogi coed cryfach dyfu’n dda drwy roi mwy o le iddynt ffynnu.

Mae llawer o’r bywyd gwyllt mewn coetiroedd yn dibynnu ar reoli gweithredol i ddarparu strwythur cynefinoedd amrywiol, o bentyrrau o goed marw sy’n gallu bod yn hanfodol i rai chwilod a ffyngau, i lennyrch agored sy’n gartref i loÿnnod byw a phryfed eraill sy’n peillio.

Mae gan y coetiroedd mwyaf amrywiol ystod o wahanol rywogaethau ac oedran coed. Heb ryw fath o reolaeth weithredol, gall coetiroedd fynd yn dywyll y tu mewn gan arwain at ychydig iawn o amrywiaeth mewn strwythur, oed neu rywogaethau. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod llai o fywyd gwyllt yn gallu byw ynddynt. Drwy reoli coetiroedd yn gynaliadwy, rydym yn meithrin cynefin sy’n dod â budd i goed, bywyd gwyllt a phobl.

Mae iechyd a diogelwch hefyd yn flaenoriaeth uchel ac mae coetiroedd yn cael eu monitro drwy gyfres o archwiliadau coed. Mae canlyniadau’r archwiliadau hyn yn ein galluogi i weithredu’n briodol i ddiogelu coed rhag plâu a chlefydau, wrth gynnal amgylchedd groesawgar i ymwelwyr dynol.

Pan fydd coeden yn cael ei thorri, rydym yn ystyried yr effaith ar y coetir a byddwn yn plannu coed yn eu lle pan fo angen. Fodd bynnag, aildyfiant naturiol rhywogaeth coed lleol yw’r dewis a ffefrir wrth i natur lenwi’r bylchau’n raddol.

Dyma fydd rhan gyntaf y gwaith parhaus o reoli’r coetir yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte ac mae’n rhan allweddol o amcanion cadwraethol Ein Tirlun Darluniadwy.

Croeso i'r Ceidwaid

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn brysur iawn dros wyliau’r haf unwaith eto eleni gyda miloedd o ymwelwyr yn awyddus i fwynhau’r rhan arbennig hon o Gymru a’r holl bethau arbennig sydd i’w cynnig yma.

Matthew Willars

Gyda’r cyfyngiadau Covid yn dechrau llacio a’r feirws yn parhau i fygwth trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, roedd y tîm AHNE yn falch o dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i leoli ceidwaid cefn gwlad ychwanegol mewn mannau prydferth, gan gynnwys parciau gwledig Loggerheads a Moel Famau a Rhaeadr y Bedol, i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i ymwelwyr a helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau.

Evie Challinor

Mae’r gefnogaeth ychwanegol hon hefyd wedi helpu’r Tîm AHNE â’u hymgyrchoedd cod cefn gwlad blynyddol dros yr haf, gan roi pwyslais arbennig ar:

  • Annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn yn arbennig o amgylch da byw
  • Cynllunio ymlaen a sicrhau bod cynllun wrth gefn ar waith ar gyfer adegau prysur
  • Parcio’n gyfrifol ac mewn meysydd dynodedig
  • Cario picnic neu siopa’n lleol yn hytrach na defnyddio barbeciws untro

Imogen Hammond

A ydych chi wedi ymweld â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy dros yr haf eleni? A wnaethoch chi gwrdd â’n Ceidwaid newydd?

Cofiwch ein crybwyll ar y cyfryngau cymdeithasol  >>>  FacebookInstagramTwitter

Gwartheg ar Moel Famau

Wedi’i reoli mewn partneriaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru ac yr Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, mae ‘House for a Grouse’ a enwir gan blant ysgol lleol yn safle 35 erw wedi’i leoli ar Moel Famau. Yn flaenorol, roedd yn safle coediog a chafodd ei glurio yn 2002/2003. Caiff Grugiar Du ei harolygu ar y safle hwn yn ystod arolygon blynyddol cenedlaethol ac mae'r ardal yn rhan bwysig o'r gwaith monitro cenedlaethol ar y Grugiar Du. Mae hefyd yn cefnogi ystod nodweddiadol o adar yr ucheldir, ymlusgiaid a gloÿnnod byw. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg yn agos ar hyd un ochr.

Ers i'r safle gael ei glirio, mae staff a gwirfoddolwyr wedi bod yn clirio’r safle yn rheolaidd er mwyn cael gwared ar yr aildyfiant conwydd a grug aeddfed, mae hon yn broses araf iawn. Yn 2018 daeth ‘House for a Grouse’ yn rhan o brosiect Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy'n dod â tua 40 o safleoedd i gyfundrefnau rheoli cynaliadwy, drwy rannu adnoddau a chynnwys cymunedau ym manteision bioamrywiaeth a diwylliannol y safleoedd. Felly fe ddarparodd y prosiect yr holl isadeiledd angenrheidiol fel giatiau, ffens, gwelliannau ir trac mynediad ac bydd hefyd yn darparu corlan stoc.

Mae 5 o wartheg Belted Galloway bellach wedi'u cyflwyno i'r safle am y tro cyntaf. Mae gwartheg Belted Galloway yn frid traddodiadol or Alban, sy'n tarddu o'r Galloway yn ochr de orllewinol o’r Alban. Maent yn frîd treftadaeth ac wedi'u haddasu'n dda i fyw ar borfeydd ucheldir o ansawdd gwael a rhostir gwyntog. Bydd y gwartheg yn helpu i reoli'r safle drwy fwyta prysgwydd a chadw'r grug i lawr.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Arolygwyr Coed

Mae coed yn chwarae rôl bwysig wrth siapio a diffinio tirluniau Sir Ddinbych. O hen goed parcdir i goed ifanc coetir, ac o erddin gwynion yr ucheldir i boblys y tir isel, maent i gyd yn cyfrannu at wneuthuriad y sir.

Yn gyffredinol, gall coed fyw am amser hir yng Nghymru, h.y. degawdau hyd at canrifoedd. Drwy gydol oes hir iawn, mae coed yn darparu sawl budd i'r amgylchedd ehangach a rhywogaethau eraill, gan gynnwys ni. Mae buddion yn cynnwys darpariaeth ocsigen, dal a storio carbon, cartref i rywogaethau eraill, cymeriad y tirlun, treftadaeth ddiwylliannol, mae’r rhestr yn hirfaith. Serch hynny, mae’r mwyafrif o’r buddion hyn yn cael eu darparu pan mae coeden mewn iechyd da, gyda llawer o dwf.

Gan ei bod yn organebau byw, maent yn agored i gael clefydau. Mae achosion a phresenoldeb clefydau yn elfen bwysig o’r byd naturiol, ond mae'n rhaid cael yr union gydbwysedd mewn amgylchedd iach.

Wrth i fodau dynol symud ymhellach ac yn gynt ar draws y byd, gan gario deunyddiau megis pren a phridd i, ac o leoliadau tu hwnt i gyrhaeddiad naturiol, ac erydu systemau naturiol, mae rhai rhywogaethau wedi ecsbloetio cilfachau nad oedd ar gael iddynt yn y gorffennol.

Mae Hymenoscyphus fraxineus a elwir hefyd yn glefyd coed ynn, yn ffwng sydd erbyn hyn wedi lledaenu yn bell tu hwnt i’w gyrhaeddiad brodorol o rannau o Asia. Mae coed ynn (rhywogaeth Fraxinus) yn y fath fannau yn gallu ymdopi gyda phresenoldeb H. fraxineus gan eu bod wedi esblygu ar y cyd. Serch hynny, mae coed ynn Fraxinus excelsior y DU llawer mwy bregus, gan eu bod wedi esblygu’n annibynnol.

Coedd ynn yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin yn Sir Ddinbych. Maent yn meddiannu rhai coetiroedd, ar hyd priffyrdd, yn sefyll yn falch mewn parciau, ac yn darparu cynefin ar gyfer sawl rhywogaeth cysylltiol. Serch hynny, wrth i'r coed ddirywio mewn cyflwr, maent yn fwy tebygol o golli canghennau, gan achosi risg posib i bobl. Er bod pren marw yn nodwedd gynefinol bwysig iawn, ac mae’n cael ei gadw pan fo'n bosib, mae gennym ddyletswydd gofal i’r cyhoedd.

Mae iechyd a diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr yn flaenoriaeth. O ganlyniad, mae gennym dîm o Arolygwyr Coed sydd wedi ymrwymo i'r dasg o fapio, cynnal arolygon, archwilio ac asesu risgiau yn sgil coed ynn ledled y sir. Mae hon yn dasg heriol, ac mae'n bwysig, nid yn unig ar gyfer iechyd a diogelwch pobl, ond hefyd at ddibenion mewn perthynas â’r datganiad argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol. Bydd coed sydd wedi’u cofnodi ar ein system rheoli coed yn cael eu monitro’n agos i bennu os a phan bydd gwaith corfforol yn ofynnol.

Dywedodd Michelle Brown, Arolygydd Coed: “Fy hoff ran o'r swydd yw bod yn yr awyr agored a mwynhau natur a chefn gwlad Sir Ddinbych.  Rydw i wir yn mwynhau cwrdd â’r cyhoedd a cheisio meithrin perthynas cadarnhaol rhyngom ni gyd.” Aiff ymlaen i nodi bod gobaith, gan ddweud: “Mae fy niddordeb pennaf yn ymwneud â ymateb amrywiol coed i glefyd coedd ynn, nid yn unig mewn coed aeddfed, ond mewn canran sylweddol o goed ifanc. Mae natur amrywiol Fraxinus excelsior yn rhoi gobaith bod mwtaniad ffafriol (ymwrthiant o bosib) eisoes yn cael ei weld o bosib mewn coed iach, ifanc, ac mae'n rhaid eu gwarchod yn ofalus, fel y coed aeddfed sydd wedi goroesi.”

Bydd data a gasglwyd ar goed ynn yn ystod 2021 yn bwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn. Bydd y ddogfen hon yn darparu strategaeth i reoli coed ynn wedi'u heintio gyda chlefyd coed ynn. Bydd hefyd yn cynnwys dull ehangach i ddiogelu rhywogaethau cysylltiedig, sy'n hyrwyddo rhywogaethau coed addas ar gyfer eu plannu i ddisodli’r hen rai, ac ystyriaeth lleoliadau lle gallwn annog aildyfiant naturiol coed.

Yn anffodus, nid clefyd coed ynn yw’r unig fygythiad i’n coed lleol. Mae plâu a chlefydau nodedig eraill yn cynnwys clefyd llwyfen yr Iseldiroedd Ophiostoma novo-ulmi, clefyd llarwydden Phytophthora ramorum, ac ymdeithiwr y derw Thaumetopoea processionea. Mae 'rhain, a rhywogaethau eraill yn peri bygythiad gwirioneddol, ond gallwch helpu i leihau'r fath bwysau. Mae gwefan TreeAlert gan Forest Research yn bwynt cychwyn da os ydych chi’n dymuno dysgu rhagor a chyflwyno adroddiad ar gyfer plâu a chlefydau coed.

Mae Tom Hiles, Arolygydd Coed, yn nodi sut mae’n parhau i fod yn gadarnhaol er gwaethaf nifer cynyddol o blâu a chlefydau coed: “Mae’n beth da bod yn rhagweithiol. Rydym yn gallu gwneud rhywbeth ynghylch heriau amgylcheddol ein cyfnod, er fel chwaraewyr bychain mewn gêm fawr. Mae rhywbeth i’w ddysgu ac i ymchwilio iddo ymhellach o hyd. Mae coed a’u bioleg, sut maent yn rhyngweithio gyda rhywogaethau eraill a’u hanes yn y tirlun yn ddiddorol iawn.”

Gall pawb wneud gwahaniaeth cadarnhaol a helpu i leihau lledaeniad plâu a chlefydon drwy weithredu bioddiogelwch da. Y symlaf yw glanhau eich esgidiau o fwd ar ôl pob taith gerdded, rhedeg neu fforiad. Nid yn unig ydych chi’n lleihau lledaeniad sborau a hadau, rydych yn diogelu eich arian hefyd, gan na fydd angen i chi brynu esgidiau newydd yn rheolaidd. Ceir rhagor o wybodaeth am fioddiogelwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/forestry/tree-health-and-biosecurity/how-to-practise-biosecurity-in-woodlands-keep-it-clean/?lang=cy

Andrew Cutts (Swyddog Coed y Sir)

Natur er budd Iechyd

Wrth i’r genedl wynebu heriau cynyddol i gadw’n iach, un o’r meddyginiaethau gorau, a mwyaf syml yw mynd allan i’r awyr agored. Mae Sir Ddinbych yn gartref i fannau gwyrdd o ansawdd uchel, a nid yn y mynyddoedd yn unig. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli nifer o fannau gwyrdd gyda chysylltiadau i ardaloedd trefol cyfagos, ble mae rhaglen Natur er budd Iechyd wedi bod yn rhedeg ers 2018. Mae’r prosiect Natur er budd Iechyd yn darparu cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r awyr agored drwy deithiau cerdded a gweithgareddau cadwraeth bywyd gwyllt, yn ogystal â sesiynau crefft, yn Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Llangollen a Chorwen. Gohiriwyd gweithgareddau gwirfoddoli am y rhan helaeth o’r flwyddyn ddiwethaf oherwydd pandemig Covid-19, ond ers ailgychwyn y sesiynau ym mis Mai eleni, maent wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r grwpiau wedi gweld llwyddiannau anhygoel wrth i bobl ymdopi â materion iechyd, dod yn fwy heini, dygymod â cholled, ac yn fwy na dim, gwneud ffrindiau newydd.

Gwirfoddolwyr ar ddiwrnod hyfforddi pladuro yn Y Rhyl

Mae’r sesiynau natur a chadwraeth yn Y Rhyl a Phrestatyn wedi canolbwyntio ar gynnal prosiectau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn cynnwys rheoli llystyfiant mewn ardaloedd lle plannwyd coed yn ddiweddar, a sicrhau bod ardaloedd blodau gwynt yng Nghoed y Morfa ym Mhrestatyn yn parhau i ffynnu. Mae sesiynau yn Ninbych wedi ailddechrau’n ddiweddar, gyda chyfleoedd i wneud gwaith cadwraeth gwirfoddol ym Mhencoed. Yn Y Rhyl a Phrestatyn, creodd y gwirfoddolwyr erddi bach o berlysiau, gan eu haddurno a mynd â hwy gartref gyda nhw. Fe wnaeth y cyfranogwyr hefyd fwynhau adeiladu gorsafoedd wedi eu codi i fwydo adar ar gyfer Pwll y Brickfield yn Y Rhyl. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd gweithdai gwehyddu helyg yn Y Rhyl a Phrestatyn. Fe wnaeth pawb a fynychodd fwynhau creu eu hambwrdd tensiwn Catalanaidd eu hunain! Dysgodd y gwirfoddolwyr am yr arfer amaethyddol traddodiadol o bladuro, a thorri un o’n dolydd yn Y Rhyl, dan arweiniad hyfforddwr lleol. Yn ogystal â hyn, yn ystod teithiau tywysedig o Wlypdiroedd Prestatyn, esboniodd ein Cydlynydd Prosiect Pori beth oedd y broses o archwilio da byw gyda gwartheg Belted Galloway. Drwy hyn, mae gwirfoddolwyr wedi ennill sgiliau gwerthfawr y gellid eu defnyddio yn ystod cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Mae prosiect parhaus Celf mewn Natur wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gyflwyno pobl newydd i’r prosiect drwy sesiynau crefft a’r thema bywyd gwyllt. Roedd sesiwn printio syanoteip gyda dail yn llwyddiant arbennig. Mae’r sesiynau Dewch i Gerdded Sir Ddinbych wedi ailddechrau ac yn cael eu cynnal bob dydd Gwener, wedi eu cydlynu gan Katrina Day, Swyddog Lles Cymunedol. Drwy gymryd rhan yn y sesiynau, mae cyfranogwyr wedi gweld gwelliannau yn eu hiechyd, gan gynnwys brwydro diabetes math 2 a phwysedd gwaed uchel, lleihau’r perygl o strôc a thrawiad ar y galon a gwella lles meddyliol.

Mae Steve Fenner wedi bod yn gwirfoddoli gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd ers y cychwyn, wedi iddo fod yn rhan o’r gwaith yng Nghoed y Morfa ym Mhrestatyn ers 2017. Yn ddiweddar mae wedi mynychu sesiynau gwirfoddoli gan gynnwys pladuro a gwehyddu helyg ( yn y llun), yn ogystal â nifer o dasgau cadwraeth eraill yng Nghoed y Morfa. “Rwy’n hoffi bod allan, cyfarfod pobl newydd a gwneud gweithgareddau corfforol. Mae’n braf fod rhywbeth i’w wneud yn y dref sy’n hawdd i gael ato.”

Mae gennym nifer o weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer gweddill yr haf, gan gynnwys teithiau cerdded adar ac ystlumod, sesiwn pladuro arall yn Ninbych, rhagor o sesiynau celf a thasgau cadwraeth o amgylch y safleoedd. Bydd Dewch i Gerdded Sir Dinbych yn parhau: mae’n ffordd wych i grwydro’ch ardal leol tra’n cyfarfod pobl newydd. Hoffech chi ymuno â ni mewn sesiwn Natur er budd Lles yn y dyfodol? Cysylltwch â NaturErBuddIechyd@sirddinbych.gov.uk (NatureForHealth@denbighshire.gov.uk) neu ffoniwch 01824 712757 i gael gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd yn Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Llangollen a Chorwen.

Mae Natur er budd Iechyd yn brosiect ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych. Mae’r digwyddiadau Celf Natur yn brosiect ar y cyd rhwng Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Sir Ddinbych sy’n Deall Dementia a’r Prosiect Natur er budd Iechyd. Ariannwyd y sesiynau yma gan Grant o dan arweiniad Cymuned Ymwybodol o Ddementia Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC).

 

Cam-drin Domestig

Byw Heb Ofn

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael ddydd a nos i BAWB sy’n dioddef camdriniaeth – gwryw, benyw, ifanc neu hen. Siaradwch â #BywHebOfn yn gyfrinachol:

Addysg

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl

Mae bron i 500 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn cynllun bwyta’n iach yr haf hwn.

Evie Pirie and Amelia Kordziewicz o Ysgol Llywelyn

Fel rhan o raglen Bwyd a Hwyl Gwella Gwyliau’r Haf Sir Ddinbych fe gadwodd wyth ysgol eu drysau ar agor am dair wythnos o wyliau’r haf i rai rhwng 3 a 12 oed.

Fe gymrodd yr ysgolion canlynol ran yn y rhaglen: Ysgol Christchurch ac Ysgol Llywelyn, Y Rhyl; Ysgol Uwchradd y Rhyl; Ysgol Uwchradd Prestatyn; Ysgol Penmorfa, Prestatyn; Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy;  Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych; ac Ysgol Cefn Meiriadog.

Violet Walton o Ysgol Cefn Meiriadog

Cafodd plant gyfle i fwynhau brecwast iach a chinio poeth a oedd yn cael eu darparu bob dydd gan Wasanaeth Prydau Ysgol Sir Ddinbych ac roedd Bwyd a Hwyl yn canolbwyntio ar addysgu ynglŷn â maeth, gyda’r plant yn cael eu hannog i roi cynnig ar fwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â bwyd.

Amelia Hughes and Sophia Barnett o Ysgol Llywelyn

Caiff y cynllun ei ariannu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’i redeg mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd yr ysgolion hefyd yn darparu gweithgareddau ychwanegol gan gynnwys gwneud crysau t clymliwio, teils Mosäig a pheli straen. Hefyd fe fu’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, dawnsio ac amrywiaeth o chwaraeon.

Furryah Khan o Ysgol Cefn Meiriadog

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor: “Mae Bwyd a Hwyl wedi bod yn boblogaidd iawn yr haf hwn. Mae plant wedi cael cyfleoedd i ddysgu am ddilyn ffordd o fyw sy’n iach, bod yn egnïol dros y gwyliau, mae nifer wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn bwysicaf oll maen nhw wedi cael hwyl.

“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol yn natblygiad Bwyd a Hwyl, cafodd gweithgareddau chwaraeon strwythuredig ym mhob ysgol eu darparu gan Hamdden Sir Ddinbych a chafodd sesiynau chwarae eu darparu gan Wasanaeth Chwarae Hygyrch Sir Ddinbych.

“Fe gymrodd ysgolion ran yn sialens ddarllen yr haf gyda chefnogaeth eu llyfrgell leol, fe ddarparodd y gwasanaeth prydau ysgol brydau iach a chefnogwyd staff gan dîm Deietig BIPBC i ennill cymwysterau a darparu gwersi maeth o ansawdd i’r plant.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddarparu Bwyd a Hwyl am eu gwaith caled dros yr haf. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym yn edrych ymlaen at ei ehangu i fwy o ysgolion y flwyddyn nesaf.”

Plant Ysgol Cefn Meiriadog yn ymarfer gyda Clwb Rygbi Dinbych

Cynllun Corfforaethol

Cyrraedd targed cartrefi fforddiadwy Sir Ddinbych

Cyrhaeddwyd targed uchelgeisiol i greu mwy o gartrefi fforddiadwy yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o flaenoriaeth Tai ei Gynllun Corfforaethol, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymrwymo i helpu i greu 260 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y sir rhwng 2017 a 2022 a hyd yma mae 394 o gartrefi wedi eu cyflawni.

Mae’r cartrefi wedi eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat ac mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda'r Cyngor yn rheoli’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, sydd wedi galluogi adeiladu’r rhan fwyaf o gartrefi fforddiadwy yn y sir.

Gosododd y Cyngor hefyd flaenoriaethau ar gyfer tai fforddiadwy yn unol â’i Gynllun Corfforaethol, Strategaeth Tai a Digartrefedd a’r rhestr aros am dai cymdeithasol.

Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, darparwyd 174 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol o fewn y sir.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tai yn flaenoriaeth i’n Cyngor ac rydym yn cydnabod bod angen pwysig i sicrhau bod tai ar gael i weddu anghenion trigolion Sir Ddinbych.

“Mae cyrraedd a mynd y tu hwnt i’r targed hwn yn gynnar yn gyflawniad anhygoel i bawb sydd yn rhan o’r broses ac o wir fudd i drigolion yma yn Sir Ddinbych. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled i gyrraedd y nod hwn.

“Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn creu hyd yn oed mwy o gartrefi. Mae darparu mwy o dai fforddiadwy yn ein cymunedau yn rhan o’n gwaith parhaus i sicrhau y gallwn gadw mwy o bobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

Mae tai fforddiadwy yn gymysgedd o dai cymdeithasol, rhentu canolradd a pherchnogaeth cartrefi drwy opsiynau ecwiti a rennir a rhentu i berchnogi.

Mae’r eiddo a grëwyd wedi eu gwasgaru ar draws y sir ac yn cynnwys cymysgedd o adeiladau newydd traddodiadol, dulliau cyfoes o adeiladu, ac adnewyddu anheddau presennol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi addo cefnogi datblygu 1,000 o gartrefi newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy a 170 ohonynt yn dai cyngor.

Mae datblygiadau pellach o gartrefi fforddiadwy sydd i’w cwblhau yn cynnwys:

  • Cyfleuster Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin, a fydd yn darparu 74 annedd i bobl ddiamddiffyn a phobl hŷn, y disgwylir y byddant wedi eu cwblhau erbyn yr hydref.
  • Safle datblygu tai fforddiadwy Adra yng Ngallt Melyd, yn darparu 44 o gartrefi deiliadaeth gymysg, disgwylir y bydd y safle wedi’i gwblhau yn Rhagfyr 2021 ac mae’r eiddo cyntaf rŵan yn cael eu hysbysebu ar gofrestr tai fforddiadwy Tai Teg, ar gyfer ymgeiswyr.
  • Safle datblygu Cartrefi Conwy yn y Rhyl, yn darparu 18 o fflatiau tai cymdeithasol, disgwylir y byddant wedi’u cwblhau yn Ionawr 2022
  • Safle datblygu Clwyd Alyn yn Rhuthun, yn darparu 63 cartref fforddiadwy o ddeiliadaeth gymysg, disgwylir y byddant wedi’u gwblhau ym mis Mai 2023
  • Mae Sir Ddinbych yn datblygu safleoedd ar Caradoc Road ym Mhrestatyn a Tan y ‘Sgubor yn Ninbych a fydd yn dwyn ymlaen 26 o gartrefi rhent cymdeithasol yn 2022.

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau tai fforddiadwy, cymhwysedd ac eiddo sydd ar gael, ewch i wefan Tai Teg http://www.taiteg.org.uk/ neu ffoniwch 03456 015 605

Nodweddion

Cyfli i Ddweud eich Dweud!

Ydych chi'n defnyddio neu'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru? Os felly, hoffem wybod beth yw eich barn am y gofal a'r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a sut y gellid ei wella.

Mae'r Asesiad Anghenion Poblogaeth (AAP) yn asesu anghenion iechyd, gofal a chymorth y boblogaeth yn bennaf i’r rhai mewn gofal a chymorth gan gynnwys cymorth gyda byw o ddydd i ddydd oherwydd salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd i bobl o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal maeth neu fabwysiadu yn ogystal â gofalwyr di-dâl sy'n darparu cefnogaeth i deulu neu ffrindiau. Yr AAP yw'r sylfaen y mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) yn cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau trwy sylfaen dystiolaeth ddibynadwy, glir a phenodol o anghenion a darpariaeth gwasanaeth.

Mae llais y cyhoedd a darparwyr, o unigolion, i grwpiau a sefydliadau, yn hanfodol er mwyn iddynt gael y cyfle i fynegi eu canfyddiadau o wasanaethau ac anghenion yn llawn. Defnyddir y wybodaeth a ddarperir i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Gogledd Cymru.

Bydd yr arolygon Saesneg a Chymraeg yn cael eu rhannu trwy amrywiaeth o wahanol rwydweithiau i sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Mae ein harolwg ar gael ar-lein: www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/asesiad-o-anghenion-poblogaeth-gogledd-cymru/ gyda’g fersiynau amgen megis EasyRead; fersiwn plant a phobl ifanc; print neu fersiwn Iaith Arwyddion Prydeinig. Os hoffech gysylltu â ni gan ddefnyddio cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio gwasanaeth InterpretersLive! service a ddarperir gan Sign Solutions.

Fel arall, os byddai'n well gennych ateb y cwestiynau dros y ffôn (yn Saesneg neu Gymraeg), cysylltwch ag Eluned Yaxley ar 01824 712041.

I gael mwy o wybodaeth am BPRhGC a sut i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu ledled Gogledd Cymru ewch i'r wefan ranbarthol www.northwalescollaborative.wales

E-bost: northwalescollaborative@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 712432.

Gofalwyr Sir Ddinbych i ymgymryd â her cerdded i ddathlu gweithio mewn gofal

Bydd Gweithwyr Gofal o bob rhan o Gyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â'u her tri chopa eu hunain yn ddiweddarach y mis hwn. Byddant yn cerdded tair o'r teithiau cerdded anoddaf yn Sir Ddinbych; Gwaenyesgor, Moel Fammau a Chastell Dinas Bran yn Llangollen.

Nod y daith gerdded yw amlygu a dathlu rôl gofalwyr yn Sir Ddinbych, gan gefnogi ymgyrch GofalWn Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Byddant hefyd yn codi arian i gymdeithas Alzheimer drwy dudalen rhoi yn unig. Bydd staff o bob rôl wahanol ar draws Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y daith gerdded gan gynnwys gofalwyr, gweithwyr cymorth, dofi, swyddi uwch a rheolwyr.

Os ydych eisiau cefnogi'r cerddwyr >>> https://www.justgiving.com/fundraising/denbighshire3peaks.

Mae'r neges yn un syml – Mae gweithio'n ofal yn ddewis gyrfa gwerth chweil gyda llawer o gyfleoedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn gofal yn Sir Ddinbych, cysylltwch drwy e-bost neu ffoniwch hrdirect@denbighshire.gov.uk neu 01824 706200 gyda'r cyfeirnod WeCare Recruitment.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid