llais y sir

Canolfan y Dderwen yn dathlu ar ôl derbyn adroddiad o’r radd flaenaf

Mae’r staff yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl yn dathlu ar ôl derbyn adroddiad canmoliaethus yn dilyn arolygiad yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn, yr Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan yn darparu gofal diwrnod llawn i blant rhwng wyth wythnos a 12 mlwydd oed, ac fe’i lleolir yng nghampws Ysgol Christchurch. Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Mehefin.

Mae’r adroddiad yn amlygu llawer o agweddau cadarnhaol ynglŷn â lles plant, ac yn nodi:

  • Bod bron i bob plentyn yn cyrraedd yn hapus, llawn cyffro ac yn barod i chwarae; maent yn cymryd rhan yn dda mewn gweithgareddau ac yn ymwneud yn dda gyda phlant eraill. Maent yn hapus, wedi ymlacio, ac yn gyfforddus gyda’u gofalwyr.
  • Mae bron i bob plentyn yn gwneud cynnydd cadarn o ran datblygu ystod o sgiliau yn ystod eu hamser yng Nghanolfan y Dderwen. Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn datblygu sgiliau gwrando, siarad, rhifedd a sgiliau creadigol yn dda.
  • Mae gan y staff ddealltwriaeth gadarn o sut i gadw plant yn ddiogel ac yn iach, ac mae ganddynt “ddealltwriaeth gref o’u cyfrifoldebau”. Mae’r holl ymarferwyr yn ffurfio “perthnasoedd gwaith effeithiol gyda’r plant, gan arddangos y gofal a’r gefnogaeth sy’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu”.  
  • Yn ogystal, amlygodd yr adroddiad y cyfleoedd a gynigir i’r plant i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth Gymreig, a chydnabod pwysigrwydd gadael i blant chwarae am gyfnod estynedig heb darfu arnynt.
  • Mae’r arweinyddiaeth ar bob lefel yn darparu “arweinyddiaeth effeithiol, sydd yn ei dro’n cael effaith gadarnhaol ar y cynnydd y mae plant yn ei wneud… Maent yn creu a chynnal ethos clir o weithio mewn tîm, ac yn sicrhau y gwerthfawrogir pob aelod o staff”.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae’r adroddiad hwn yn bleser i’w ddarllen, a hoffwn longyfarch holl dîm Canolfan y Dderwen am adroddiad mor ganmoliaethus. 

“Mae wir yn adlewyrchu maint aruthrol y gwaith gwych sy’n digwydd yno o ran hybu lles plant, darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu, ac i’r plant gael cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau sy’n hwyliog ac atyniadol.

“Mae’n waith tîm o ddifri yng Nghanolfan y Dderwen, ac mae’r adroddiad yn bendant yn adlewyrchu hynny, gyda chyfeiriadau penodol at arweinyddiaeth lwyddiannus ar bob lefel sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr holl staff, yn ogystal â’r plant.

“Byddwn yn rhoi sylw i’r argymhellion a wnaed yn dilyn yr arolygiad, a byddwn yn parhau i ymdrechu i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer y plant sy’n mynychu’r Ganolfan ar hyn o bryd, ac a fydd yn y dyfodol.”

Er mwyn gweld yr adroddiad, ewch i http://www.aolygiaethgofal.cymru/

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid