llais y sir

Fframwaith Argraffu a Dylunio

Ydi’ch busnes chi’n cynnig gwasanaeth argraffu neu ddylunio graffeg, neu gynhyrchu cynllun lliwiau ar gerbydau, neu faneri ac arwyddion?

Os felly, efallai yr hoffech chi gael eich cynnwys ar system brynu ddynamig Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint.

Gellir gweld y cyfle hwn ar PROACTIS ac mae’n agored i bob busnes sy’n darparu gwasanaeth argraffu, dylunio graffeg neu gynllun lliwiau ar gerbydau. Mae’r System Brynu Ddynamig ar agor tan 2027 felly gallwch wneud cais ar unrhyw adeg.

Gallwch fwrw golwg ar y cyfle hwn a gwneud cais ar-lein yn https://supplierlive.proactisp2p.com/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am eich cais, cysylltwch â print@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706223.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid