Canllaw Gwyrdd i helpu amgylchedd y dref
Mae canllaw gwyrdd wedi cael ei gyhoeddi i greu syniadau ar gyfer gwella amgylchedd y dref.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) wedi cyhoeddi canllaw â darluniau i gyfleoedd ar gyfer mentrau Isadeiledd Gwyrdd yn Llangollen.
Yn dilyn cyhoeddiad AHNE 2021 ‘Adferiad Natur a Thirlun mewn Hinsawdd sy’n Newid’, mae’r canllaw newydd yn edrych ar gyfleoedd i ychwanegu at rwydwaith Isadeiledd Gwyrdd presennol Llangollen i reoli, lleihau ac addasu’r bygythiadau y mae newid hinsawdd yn ei achosi.
Wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol ac wedi’i arwain gan swyddog arweiniol newid hinsawdd AHNE, mae’r canllaw yn nodi chwe lleoliad poblogaidd yn y dref a sut fyddent yn elwa o ychwanegiadau Isadeiledd Gwyrdd.
Mae pob un lleoliad wedi cysylltu â’i gilydd gan lwybr Isadeiledd Gwyrdd sydd yn goridor gwyrdd heb draffig yn bennaf, a ddylai annog teithio llesol.
Mae’r canllaw yn edrych ar y sefyllfa bresennol yn y dref, yn nodi egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i ddarparu rhwydwaith cyfun o fannau gwyrdd a fydd yn elwa’r ecosystem leol ac yn argymell gwelliannau ar gyfer eu trafod a fyddai’n gwireddu amcanion yr Isadeiledd Gwyrdd.
Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau ecolegol megis plannu coed a dolydd blodau gwyllt a gwella cyfleusterau megis llwybrau a gwella arwyddion a systemau draenio cynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu a Chynllunio Lleol: “Mae’r cyhoeddiad gwych hwn yn nodi dechrau amcan hirdymor i greu Llangollen mwy cynaliadwy. Ar wahân i’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r AHNE, mae nifer o sefydliadau a busnesau lleol eisoes wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer y canllaw, gan gynnwys y cyngor tref a Chyfeillion y Ddaear Llangollen.
“Mae hefyd yn wych gweld Ysgol Dinas Brân yn rhoi ei chefnogaeth lawn gan fod cyfranogiad y genhedlaeth nesaf yn hanfodol.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ysgogi trafodaeth a gweithredu ar isadeiledd gwyrdd ar lefel cymunedol a lefel strategol, ac edrychwn ymlaen at glywed y canlyniadau a ddaw o’r ddogfen hon.”
Mae fersiynau caled o’r canllaw hefyd ar gael o swyddfa AHNE Llangollen ac o swyddfa Parc Gwledig Loggerheads.
“Ailgysylltu”
Er bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod i bobl ailddarganfod cysylltiad â natur, mae’r broses hon o ailgysylltu nawr yn ymestyn i bobl. Ar ôl dwy flynedd o gyfarfodydd ar-lein, mae’r cyfle i gael dal i fyny wyneb yn wyneb yn un yr ydym i gyd yn falch o’i groesawu. Yma yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych nid ydym yn eithriad. Diwrnod Dysgu ar Fryniau Prestatyn? Rhowch ein henw i lawr!
Gyda thîm mor amrywiol - o geidwaid cefn gwlad i geidwaid Natur er Budd Iechyd, i swyddogion coed a bioamrywiaeth - mae ein dyddiau prysur yn gallu ei gwneud yn anodd dal i fyny gyda chysylltiadau a phrosiectau sydd ar y gweill. Mae’n bwysig cryfhau’r perthnasoedd gwaith hyn i ni allu gweithio’n effeithiol fel tîm i gyflawni’r gwaith pwysig ar draws AHNE a Sir Ddinbych, gyda manteision ychwanegol hybu morâl.
Sôn am bibellau, un o’r prosiectau i’w ddathlu oedd camau olaf gosod pibell ddŵr ar gyfer anifeiliaid pori ar Fryniau Prestatyn. Safle heriol o’r dechrau, yn hygyrch ar droed yn unig, mae hefyd wedi’i gydnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, am ei laswelltir calchaidd cyfoethog a phocedi o rostir calchfaen. Mae’r rhain o dan fygythiad oherwydd rhywogaethau ymledol ac amlwg ar bocedi serth o’r tir. Roedd agosau at gwblhau’r cam cyntaf o’r gwaith hwn i oresgyn y problemau gyda phori wirioneddol yn rhywbeth i fod yn falch ohono.
Roedd Bryniau Prestatyn yn un o’r safleoedd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Rheoli Cynaliadwy a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’r UE - prosiect Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, oedd yn anelu i ddod â 40 safle allweddol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i drefn pori rheoli cynaliadwy. Mae’r prosiect yn buddsoddi mewn isadeiledd sydd ei angen i wneud y safleoedd yn addas ar gyfer pori, gan gynnwys ffensys, darparu cyflenwad dŵr a rheoli cynefinoedd. Fel rhan o hyn, roedd y bryniau wedi eu rhannu yn 3 rhan pori fel y gellir cyflwyno defaid i’r safle i’n helpu i reoli’r glaswelltir calchfaen bendigedig sy’n bodoli yno. Roedd gosod y bibell ddŵr i ddarparu dŵr i’r defaid yn rhan olaf o’r cam cyntaf hwn.
Roedd ein taith yn mynd â ni ar daith o’r bryn gyda sgyrsiau gan y bobl allweddol oedd wedi gweithio ar y prosiect hwn. Efallai bod y cydbwysedd rhwng y gwaith cynefin, y paratoi ar gyfer cyflwyno’r pori a’r mynediad hamdden wedi bod yn anodd i’w gyflawni ond bydd yn helpu i wireddu potensial llawn cynefinoedd Bryniau Prestatyn. Ar ein siwrnai yn ôl, buom ar wibdaith o amgylch prosiectau eraill sydd ar y gweill yn yr ardal, gan gynnwys gwaith llwybr troed, gwaith pyllau a phrosiect cymunedol i adfer lawnt eu pentref, sydd nid yn unig yn edrych yn wych ond bydd o fudd mawr i beillwyr.
Ffordd berffaith i dreulio diwrnod yn dal i fyny gyda chydweithwyr, dathlu eu cyflawniadau a chael ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Ni allaf aros tan ein diwrnod dysgu staff nesaf!
Prosiect Cymunedau Gwyrdd yn cael dechrau da yn Sir Ddinbych
Mae’r tim Cymunedau Gwyrdd wedi bod yn brysur yn teithio i bob cornel or sir drost y misoedd diwethaf yn archwilio gwahanol brosiectau a chefnogi cymunedu gyda ceisiadau i’r gronfa Cymunedau Gwyrdd. Mae llawer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer cymunedau ac unigolion ar draws Sir Ddinbych wedi’i cynnig ac mae saith prosiect wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau ac wedi dechrau gweithio i gyflawni eu cynlluniau.
Mae gan Llanfair Dyffryn Clwyd gynlluniau mawr ar gyfer cae chwarae yr hen ysgol, mae nhw’n bwriadu defnyddio’r cae at nifer o ddibenion a fydd yn rhoi budd ac amwynder i’r gymuned. Tair prif agwedd or prosiect hon yw creu ardal chwarae i blant gan ddefnyddio adnoddau naturiol. Bydd hyn yn cynnwys man chwarae gwyllt a gofod ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Yn ail byddant yn creu gardd heddwch i bobl o bob oedran, ond yn enwedig trigolion hyn. Ac yn olaf, bydd man tyfu cymunedol yn cael ei greu, mi fydd hyn yn galluogi trigolion lleol i fwynhau tyfu llysiau.
Mae ReSource yn fenter gymdeithasol ac amgylcheddol sydd wedi’i leoli ger tref Dinbych, maen’t wedi ymrwymo i gysylltu cymunedau trwy weithgareddau cynaliadwy gyda ffocws penodol ar gynnwys unigolion ag anableddau dysgu. Mae ReSource yn gweithredu o safle Ymddiriedolaeth Cae Dai yn Ninbych ac yn darparu gofod tyfu cymunedol, gwaith coed, gweithdy uwchgylchu a llawer mwy. Dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi gwneud drost 300 o oriau gwirfoddol ac yn brysur redeg allan o le. Gyda cymorth gyllid y prosiect Cymunedau Gwyrdd mae ReSource yn dymuno ehangu’r ardaloedd cymunedol i ddau gae cyfagos sydd wedi’u hesgeuluso ers nifer o flynyddoedd a ddod a’r ardaloedd hyn yn ôl yn fyw. Bydd ReSource yn creu safle cymunedol ar gyfer natur a thyfu, bydd hyn yn cynnwys dod a’r berllan gymunedol yn ôl yn fyw, atgyweirio’r pwll natur er mwyn gwella bioamrywiaeth rhywogaethau yn yr ardal a chreu gofod cymunedol i bobl eistedd ac ymlacio yn yr awyr agored ac ym myd natur.
Mae tim Trefi Taclus Llangollen wedi bod yn gweithio’n galed yn cynllunio prosiect ‘St Jon’s wood’, prosiect arall sy’n elwa o’r gronfa Cymunedau Gwyrdd. Bydd y prosiect yn agor mynediad i fan gwyrdd yn agos at ganol tref Llangollen, yn ogystal a gwella edrychiad y fynwent gyfagos. Nid yw’r safle yn agored ar hyn o bryd, ond bydd y tim Trefi Taclus yn creu mynediad i’r coetir, gan greu man tawel i bobl fwynhau bywyd gwyllt a’r cynefin naturiol o’u cwmpas. Bydd rhai coed peryglus yn cael eu torri lawr gan eu bod wedi eu heffeithio gan wywiad onnen, bydd meinciau derw yn cael eu gosod lle gall ymwelwyr orffwys, bydd mannau agored yn cael eu creu i ganiatau gweithgareddau ysgol goedwig a bydd llwybur natur bach yn cael ei greu gyda phaneli dehongli yn tywys pobl o gwmpas, bydd y paneli hefyd yn amlygu pwysigrwydd ecoleg, bioamrywiaeth a byd natur. Mae’r safle yn rhannu ei faes parcio gyda’r fynwent, bydd y prosiect yn gwella’r maes parcio gan ei wneud yn fwy deiniadol tra hefyd yn creu mwy o lefydd parcio.
Er i Neuadd Bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd dderbyn statws Carbon Niwtral unarddeg mlynedd yn ôl, roedd pwyllgor y Neuadd bentref yn awyddus i fynd a hi gam ymhellach ac anelu at ddod yn neuadd bentref wyrddaf Cymru, tra hefyd yn ystyried bioamrywiaeth a’r amgylchedd. Gyda chymorth y prosiect Cymunedau Gwyrdd maen’t wedi gallu ychwanegu paneli solar ychwanegol i’r Neuadd, bydd hyn yn lleihau’r angen am danwydd ffosil ac yn lleihau costau rhedeg y Neuadd. Bydd y prosiect hefyd yn newid y goleuadau tu mewn a tu allan, gyda synwyryddion wedi’u gosod ar bob un ohonynt, bydd hyn yn lleihau yr amser y bydd y goleuadau ymlaen, mae’r goleuadau y tu allan hefyd yn cydymffurfio gyda’r prosiect awyr dywyll er mwyn lleihau yr effaith ar fywyd gwyllt yn yr ardal. Yn olaf, bydd y prosiect yn ariannu pwynt gwefru allanol ar gyder beiciau trydanol, er mwyn ceisio lleihau’r defnydd o geir yn lleol, bydd y pwynt gwefru ar gael i drigolion lleol yn ogystal a phobl or tu allan a allai fod yn dymuno ymweld ar Eglwys leol nueu’r dafarn.
Mae Cyngor Tref Rhuddlan wedi bod yn llwyddiannus gyda’u cais i’r gronfa Cymunedau Gwyrdd ac yn barod i ddechrau ar y gwaith dros yr Hydref, mae gan y prosiect yma pump prif rhan, y cyntaf yw gosod pŵer yn y rhandiroedd cymunedol er mwyn caniatau defnyddio offer trydanol, bydd hyn yn lleihau sŵn yn ogystal a lleihau llygredd trwy ddefnyddio ffynhonnell ynni gwyrdd. Yn ail byddant yn gwella’r llwybrau ar y rhandiroedd i ganiatau mynediad mwy diogel at y gwlau tyfu. Yn drydydd bydd dwy ardd wenyn yn cael eu creu, un yn y rhandiroedd ac un arall yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan, bydd hyn yn hybu bioamrywiaeth trwy gyflwyno mwy o beillwyr i’r ardal. Bydd Cyngor Tref Rhuddlan hefyd yn elwa o’r prosiect Cymunedu Gwyrdd drwy blannu clawdd aeron yn y Clwb Bowlio, a fydd yn annog adar a bywyd gwyllt. Yn olaf, bydd y prosiect yn ariannu athro a chynorthwyydd i gael eu hyfforddi mewn Sgiliau Coedwig Lefel 3, bydd hyn yn galluogi i sgiliau coetir a chwricwlwm awyr agored gael eu gyflwyno i holl ddigyblion Ysgol Y Castell.
Mae pwyllgor y Neuadd Goffa yn Llandegla hefyd yn elwa or prosiect Cymunedau Gwyrdd i osod paneli solar er mywyn gynhyrchu ynni gwyrdd i bweru’r Neuadd, bydd cael paneli solar yn lleihau ol troed carbon y Neuadd ac yn darparu cynaliadwyedd parhaus i’r Neuadd fel ased cymunedol er budd y presennol a chenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal a’r ysgol gymunedol sy’n defnyddio y Neuadd yn ystod y dydd. Maen’t wedi cyfrifo y byddan nhw trwy greu trydan eu hunnain yn arbed tua £2,500 y flwyddyn. Yn ogystal a gosod paneli solar, meant hefyd yn cynnwys rhywfaint o welliannau amgylcheddol yn eu prosiect, trwy blannu gwrych o amgylch y maes chwarae i annog adar a bywyd gwyllt, bydd y plannu yn weithgaredd addysgiadol gyda plant yr ysgol a gwirfoddolwyr.
Mae yna dal gyfle i gymunedau gysylltu ag unrhyw brosiectau posibl sydd ganddynt, mae swyddogion y prosiect bob amser yn hapus i roi cyngor ar unrhyw brosiectau posibl a byddant yn eich helpu ar hyd y ffordd. Anfonwch e-bost at gwenno.jones@sirddinbych.gov.uk am unrhyw wybodaeth pellach.