llais y sir

Ein Tirlun Darluniadwy

Gwaith atgyweirio i waliau’r porthdy yng Nghastell Dinas Brân

Bydd gwaith atgyweirio hanfodol yn cael ei gwblhau ar waliau canoloesol strwythur y porthdy yng Nghastell Dinas Brân dros yr wythnosau nesaf. Bydd sgaffaldau'n cael eu codi cyn i’r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau gan gwmni arbenigol yn defnyddio technegau morter calch.

Tŵr y porthdy yw’r unig ardal gaeedig â tho yn y castell, a bydd y gwaith atgyweirio’n galluogi’r cyhoedd i gael mynediad at y tŵr pan gaiff ei agor ar gyfer digwyddiadau arbennig. Bydd hyn yn gwella profiad a dealltwriaeth ymwelwyr o’r porthdy sydd wedi bod ar gau i ymwelwyr.

Caiff y gwaith ei ariannu gan Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n gyfrifol am adfer nifer o nodweddion o fewn Dyffryn Dyfrdwy.

Mae Castell Dinas Brân, y fryngaer a’r castell canoloesol, yn safle eiconig yn Nyffryn Dyfrdwy, ac mae’r castell yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif ac yn denu oddeutu 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ymweld â’r safle ar hyd dau brif lwybr. Mae’r mwyafrif o’r tir o amgylch y castell yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gaiff ei ddiogelu yn sgil y ddaeareg a’r glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae cyfle cyffrous iawn dros yr haf eleni i gynnal gweithgareddau yn y castell ochr yn ochr â’r gwaith atgyweirio i ddangos pam bod Castell Dinas Brân wedi ysbrydoli gymaint o ymwelwyr dros y canrifoedd i archwilio a gwerthfawrogi’r lleoliad arbennig o fewn tirwedd hyfryd Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n bleser gennym fedru cwblhau’r gwaith atgyweirio hwn a fydd yn helpu i ddiogelu strwythur y castell a’n galluogi i agor tŵr y porthdy i’r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau arbennig yn y dyfodol. Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”

Meddai Ashley Batten, Archwilydd Henebion Hynafol Cadw; “Mae’r porthdy dau dŵr yng Nghastell Dinas Brân yn unigryw iawn. Credir ei fod yn dyddio’n ôl i’r 1260au ac yn un o ddarnau gwaith Madog ap Llywelyn o Bowys. Mae’r dyluniad yn ymddangos yn fwy pensaernïol nag amddiffynnol, ac yn cynnwys dau dŵr cul. Mae strwythur bwaog yn parhau i fod yn amlwg yn y tŵr deheuol, ond mae llawer o’r gwaith maen allanol wedi’i golli dros y canrifoedd. Mae hyn yn golygu bod craidd carreg bregus y strwythur wedi bod yn agored i’r elfennau a rhai darnau pensaernïol yn agored i erydiad. Bydd y gwaith cadwraeth arbenigol hwn yn anelu at ddiogelu’r gwaith maen gwerthfawr a chynnal y gweddillion er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu deall a’u mwynhau.”

Mainc newydd yn cael ei gosod mewn safle golygfa boblogaidd Dyfrbont Pontcysyllte

Mae pwynt golygfa poblogaidd ar gyfer gweld Dyfrbont Pontcysyllte wedi cael bywyd newydd ym Masn Trefor.

Mae’r llystyfiant yn y blaendir wedi’i gynnal ar uchder llai fel ei bod yn bosibl gweld yr olygfa odidog o’r dyfrbont a mainc wledig wedi’i gosod yno.

Mae’r fainc wedi’i gwneud o foncyff coeden lwyfen fu’n rhaid ei thorri am resymau diogelwch ym Mhlas Newydd yn Llangollen 3 blynedd yn ôl.

Diolch am gyllid drwy ein Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, drwy’r Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, roedd y gwirfoddolwyr wnaeth gyfrannu wedi dysgu’r sgiliau oedd eu hangen a gallant nawr eistedd gyda balchder a mwynhau’r golygfeydd.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae llawer o ymwelwyr a phobl leol yn stopio ac yn edrych ar yr olygfa odidog o’r safle hwn a gallan nhw nawr eistedd a threulio amser yn mwynhau’r tirlun darluniadwy.   Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid