llais y sir

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Sialens Ddarllen yr Haf 2022

Mae’r Haf o Hwyl yn Llyfgrelloedd Sir Ddinbych yn ei anterth.

Mae thema wyddonol y Teclynwyr i’r Sialens Ddarllen Haf eleni yn denu gwyddonwyr a pheiriannwyr ifanc ledled y sir i ymuno yn yr hwyl wrth fenthyg a darllen llyfrau gwych. Trefnwyd gweithdai rhyngweithiol cyffrous yn mhob un o’r wyth llyfrgell gyda Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xlpore!. Mae GCG Cymunedau yn cynnal gweithdai Lego creadigol mewn sawl llyfrgell.

I’r rhai bach mae Eleni.Cymru wedi darparu sesiynnau dawns a symud yn seiliedig ar lyfr stori newydd bob wythnos, ac mae’r tîm Dechrau Da wedi cyflwyno Amser Rhigwm Haf ar gyfer babis. Mae’r Sialens Ddarllen mor boblogaidd ag erioed gyda’r Teclynwyr yn casglu sticeri tra’n darllen er mwyn pleser dros yr haf. Mae cannoedd wedi cychwyn yn barod a gan fod y Sialens yn parhau tan ddiwedd Medi, mae dal digon o amser i ymuno trwy alw mewn i’ch llyfrgell leol.

Mae arian Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithdai Haf o Hwyl Teclynwr wedi ei sicrhau gan SCL Cymru ar gyfer holl lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.

Ydy eich plant yn caru Lego?

Ydy'ch plant yn caru LEGO®? Manteisiwch ar y ‘Clybiau Animeiddio Bore Sadwrn’ am ddim mewn Llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych.

Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno gan G2G Communities CIC fel rhan o #HafoHwyl

Mae lle yn gyfyngedig felly archebwch eich lle ar-lein >>> https://g2gcommunities.org/t/denbighshire-libraries/

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid