llais y sir

Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan mwyaf Cymru’n dod i’r Rhyl

Bydd canolbwynt gwefru cerbydau trydan newydd yn cael ei osod yn y Rhyl. 

Mae'r gwaith wedi cychwyn i osod canolbwynt gwefru cerbydau trydan ym Maes Parcio Gorllewin Stryd Cinmel, y Rhyl. 

Bydd y parc gwefru, y mwyaf o’i faint yng Nghymru a’r ail fwyaf yn y DU, yn gallu gwefru 36 o gerbydau ar unwaith.

Mae’r canolbwynt hwn, a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y pwyntiau gwefru llwyddiannus a osodwyd ym maes parcio Rhodfa’r Brenin ym Mhrestatyn.

Wedi’i leoli ar ochr orllewinol y maes parcio, bydd y canolbwynt yn cynnwys cymysgedd o bwyntiau gwefru 7kwh ‘cyflym’ i ddefnyddwyr lleol nad oes ganddynt fynediad at lefydd pario oddi ar y stryd a phwyntiau gwefru 50kw ‘cyflym iawn’ i bobl sy’n dymuno gwefru eu ceir yn sydyn ac i annog rhagor o yrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan gan leihau’r amhariad i’w oriau gweithredol.  Bydd yr holl bwyntiau gwefru yn y canolbwynt ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd.

Disgwylir i’r gwaith ar y safle gymryd oddeutu 8 wythnos i’w cwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod falch o fedru lansio’r prosiect cyffrous hwn ar gyfer y Rhyl er mwyn cefnogi perchnogion cerbydau trydan lleol.  Bydd y pwynt gwefru hwn hefyd yn cefnogi ein gwaith pwysig mewn perthynas â’r newid hinsawdd ac yn fantais sylweddol i aelwydydd cyfagos nad oes ganddynt unman i wefru eu cerbydau oddi ar y ffordd.

“Gobeithiwn y bydd y canolbwynt hwn yn helpu i annog rhagor o ymwelwyr i ddod i’r Rhyl gan fod cyfleusterau ar gael i wefru eu cerbydau ac y bydd hefyd yn ased i gymudwyr sy’n cyrraedd y dref i ddefnyddio’r orsaf drên gyfagos drwy eu galluogi i barcio a gwefru.

“Deallwn y bydd y gwaith gosod yn tarfu rhywfaint ar y maes parcio a diolchwn i bobl am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i’r canolbwynt gael ei adeiladu.  Bydd llefydd ar gael ym Maes Parcio Gorllewin Cinmel ac hefyd mewn meysydd parcio cyfagos yn y dref wrth i’r gwaith gael ei wneud.”

Bydd tri o’r llefydd parcio a’r unedau gwefru wedi’u dyrannu’n benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.

Bydd yr unedau gwefru hefyd yn cynnig ystod o opsiynau talu dwyieithog, gan gynnwys cerdyn digyswllt, Ap a Cherdyn  RFID. 

Bydd gofyn i bobl dalu am le parcio yn y canolbwynt yn ystod y dydd ac ar adegau prysur, fodd bynnag, ni fydd yn rhaid talu am lefydd parcio cerbydau trydan rhwng 5pm a 8am yn yr un modd â gweddill y maes parcio.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid