Planhigfa yn cynhyrchu miloedd o blanhigion ar gyfer safleoedd blodau gwyllt
Mae miloedd o blanhigion wedi eu tyfu yn lleol i hybu prosiect bioamrywiaeth y Cyngor.
Mae planhigfa goed tarddiad lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, wedi cynhyrchu bron i 8,000 o blanhigion yn ystod ei thymor tyfu cyntaf.
Mae’r blanhigfa wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Ac yn dilyn datganiad y Cyngor ar Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae 30 math o blanhigion blodau gwyllt wedi eu tyfu yn y blanhigfa, gan gynnwys tafod y llew gwrychog, melynydd, barf yr arf felen, tafod y bytheiad a pheradl garw.
Bydd y planhigion a dyfwyd yn mynd i ddolydd blodau gwyllt ledled y sir i hybu’r amrywiaeth o flodau yn y safleoedd a chynnal bioamrywiaeth leol.
Disgwylir i’r blanhigfa gynhyrchu dros 1,000 o goed a fydd yn cael eu plannu ar draws safleoedd coetir dethol yn y sir i gefnogi’r amgylchedd lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau cnwd y flwyddyn gyntaf o flodau gwyllt yn y blanhigfa. Mae ein tîm bioamrywiaeth wrthi’n trefnu i ddosbarthu i’r safleoedd blodau gwyllt ar draws y sir sydd angen cefnogaeth ychwanegol i aeddfedu ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o liwiau ac amrywiaeth yn ymddangos yn y dolydd y flwyddyn nesaf.
“Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr gwych sydd wedi ein helpu i gyflawni’r nifer hyn o blanhigion trwy roi eu hamser i helpu yn y blanhigfa.”
“Rydym yn awyddus i barhau ein cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, yn dyfwyr planhigion brwd neu’r rhai sydd eisiau dysgu am brosiectau bioamrywiaeth y Cyngor, wrth i ni ddynesu at y tymor plannu tu allan.”
Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch a bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk