Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth
Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan mwyaf Cymru’n dod i’r Rhyl
Bydd canolbwynt gwefru cerbydau trydan newydd yn cael ei osod yn y Rhyl.
Mae'r gwaith wedi cychwyn i osod canolbwynt gwefru cerbydau trydan ym Maes Parcio Gorllewin Stryd Cinmel, y Rhyl.
Bydd y parc gwefru, y mwyaf o’i faint yng Nghymru a’r ail fwyaf yn y DU, yn gallu gwefru 36 o gerbydau ar unwaith.
Mae’r canolbwynt hwn, a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y pwyntiau gwefru llwyddiannus a osodwyd ym maes parcio Rhodfa’r Brenin ym Mhrestatyn.
Wedi’i leoli ar ochr orllewinol y maes parcio, bydd y canolbwynt yn cynnwys cymysgedd o bwyntiau gwefru 7kwh ‘cyflym’ i ddefnyddwyr lleol nad oes ganddynt fynediad at lefydd pario oddi ar y stryd a phwyntiau gwefru 50kw ‘cyflym iawn’ i bobl sy’n dymuno gwefru eu ceir yn sydyn ac i annog rhagor o yrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan gan leihau’r amhariad i’w oriau gweithredol. Bydd yr holl bwyntiau gwefru yn y canolbwynt ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd.
Disgwylir i’r gwaith ar y safle gymryd oddeutu 8 wythnos i’w cwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod falch o fedru lansio’r prosiect cyffrous hwn ar gyfer y Rhyl er mwyn cefnogi perchnogion cerbydau trydan lleol. Bydd y pwynt gwefru hwn hefyd yn cefnogi ein gwaith pwysig mewn perthynas â’r newid hinsawdd ac yn fantais sylweddol i aelwydydd cyfagos nad oes ganddynt unman i wefru eu cerbydau oddi ar y ffordd.
“Gobeithiwn y bydd y canolbwynt hwn yn helpu i annog rhagor o ymwelwyr i ddod i’r Rhyl gan fod cyfleusterau ar gael i wefru eu cerbydau ac y bydd hefyd yn ased i gymudwyr sy’n cyrraedd y dref i ddefnyddio’r orsaf drên gyfagos drwy eu galluogi i barcio a gwefru.
“Deallwn y bydd y gwaith gosod yn tarfu rhywfaint ar y maes parcio a diolchwn i bobl am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i’r canolbwynt gael ei adeiladu. Bydd llefydd ar gael ym Maes Parcio Gorllewin Cinmel ac hefyd mewn meysydd parcio cyfagos yn y dref wrth i’r gwaith gael ei wneud.”
Bydd tri o’r llefydd parcio a’r unedau gwefru wedi’u dyrannu’n benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.
Bydd yr unedau gwefru hefyd yn cynnig ystod o opsiynau talu dwyieithog, gan gynnwys cerdyn digyswllt, Ap a Cherdyn RFID.
Bydd gofyn i bobl dalu am le parcio yn y canolbwynt yn ystod y dydd ac ar adegau prysur, fodd bynnag, ni fydd yn rhaid talu am lefydd parcio cerbydau trydan rhwng 5pm a 8am yn yr un modd â gweddill y maes parcio.
Y Cyngor yn derbyn gwobr Llythrennedd Carbon
Mae'r Cyngor wedi derbyn Gwobr Efydd y Sefydliad Llythrennog o ran Carbon yn ffurfiol.
Cyflwynwyd y wobr i’r Cyngor mewn digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 14 Gorffennaf yn Oriel Gelf Whitworth, Manceinion, gan y Prosiect Llythrennedd Carbon.
Datganodd y Cyngor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac ers hynny mae'n ymroddedig i fod yn Gyngor Carbon Net Sero ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon o’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynir.
Bu i’r Cyngor hefyd newid ei Gyfansoddiad ym mis Hydref 2020 a bellach mae’n rhaid i bob penderfyniad a wneir ‘roi ystyriaeth i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd ac Ecolegol’.
Aethpwyd â dros 200 o staff a chynghorwyr ar gwrs undydd dwys i wella llythrennedd carbon ar draws y sefydliad a gall pob aelod o staff bellach gael mynediad at becyn E-ddysgu ar-lein newydd sy’n eu cyflwyno i faterion Newid Hinsawdd a sut y gallant wneud gwahaniaeth yn eu swyddi a’u cartrefi bob dydd.
Mae’r Cyngor wedi dod yn un o’r 52 o sefydliadau llythrennog o ran carbon yn y DU ac Iwerddon.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon yn ffurfiol yn dilyn ein hymgyrch barhaus i fod yn garbon niwtral. Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd yn brif flaenoriaeth i ni ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i barhau i leihau ein hôl troed carbon a chynyddu bioamrywiaeth ar draws Sir Ddinbych.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl staff sydd wedi ein cefnogi ni i gyflawni’r achrediad hwn gan y bydd yn parhau i’n helpu ni i sicrhau bod ein gwasanaethau i gyd yn deall eu hôl troed carbon a pha gyfraniadau y bydd angen iddynt eu gwneud i’w leihau.”
Gwaith diwedd y tymor yn digwydd ar gyfer prosiect bioamrywiaeth
Bydd gwaith diwedd y tymor yn digwydd ar draws dolydd blodau gwyllt y sir.
O ddechrau mis Awst, bydd torri gwair yn digwydd am yr ail waith y tymor hwn yn safleoedd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Sir.
Mae’r tymor eleni yn cynnwys dros 100 o ddolydd blodau gwyllt a reolir, sydd wedi cyfrannu tuag at wella cyfoeth rhywogaeth ar draws Sir Ddinbych. Mae’r rhain yn creu bron i 35 o gaeau pêl-droed o gynefinoedd blodau gwyllt cynhenid.
Eisoes eleni mae’r Cyngor wedi cofnodi Tegeirian Porffor y Gwanwyn, Tegeirian Bera a naw Tegeirian Gwenynog ar y safleoedd lle nad oeddent wedi’u cofnodi o’r blaen.
Mae’r prosiect sy’n rhan o ymgyrch Caru Gwenyn ehangach y Cyngor hefyd mewn lle i gefnogi adferiad gwenyn a peillwyr eraill yn y sir.
Wrth i’r tymor blodeuo ddod i ben, bydd ein staff gwasanaethau stryd yn ymweld â safleoedd ar draws y sir y dorri gwair gydag offer torri gwair arbenigol. Mae’r toriadau’n cael eu tynnu oddi ar safleoedd dolydd er mwyn helpu i leihau cyfoeth y pridd ac i gefnogi tir maeth isel y mae ein blodau gwyllt cynhenid a gwair ei angen i dyfu.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Nid ydym yn torri ein safleoedd rhwng Mawrth ac Awst. Mae torri yn hwyrach yn yr haf yn rhoi cyfle i’r blodau hadu a pharhau i wella bioamrywiaeth y dolydd maent yn tyfu ynddynt.
“Mae hyn hefyd yn galluogi i’n tîm Bioamrywiaeth gasglu hadau o safleoedd i fynd yn ôl i blanhigfa’r Cyngor i’w tyfu. Mae’r planhigion rydym yn eu tyfu o hadau yn cael eu defnyddio i hybu bioamrywiaeth safleoedd ar draws Sir Ddinbych.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar gyfer y prosiect newid hinsawdd pwysig hwn yn ystod y tymor blodeuo ac edrychwn ymlaen at weld y llwyth cyntaf o blanhigion cynhenid sy’n tyfu yn ein planhigfa yn cael eu cyflwyno i’n safleoedd dros y misoedd nesaf.”
Os hoffech ddysgu mwy am ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, dilynwch y ddolen isod.
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/iechyd-yr-amgylchedd/newid-hinsawdd-ac-ecolegol/prosiect-dolydd-blodau-gwyllt.aspx
Planhigfa yn cynhyrchu miloedd o blanhigion ar gyfer safleoedd blodau gwyllt
Mae miloedd o blanhigion wedi eu tyfu yn lleol i hybu prosiect bioamrywiaeth y Cyngor.
Mae planhigfa goed tarddiad lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, wedi cynhyrchu bron i 8,000 o blanhigion yn ystod ei thymor tyfu cyntaf.
Mae’r blanhigfa wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Ac yn dilyn datganiad y Cyngor ar Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae 30 math o blanhigion blodau gwyllt wedi eu tyfu yn y blanhigfa, gan gynnwys tafod y llew gwrychog, melynydd, barf yr arf felen, tafod y bytheiad a pheradl garw.
Bydd y planhigion a dyfwyd yn mynd i ddolydd blodau gwyllt ledled y sir i hybu’r amrywiaeth o flodau yn y safleoedd a chynnal bioamrywiaeth leol.
Disgwylir i’r blanhigfa gynhyrchu dros 1,000 o goed a fydd yn cael eu plannu ar draws safleoedd coetir dethol yn y sir i gefnogi’r amgylchedd lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau cnwd y flwyddyn gyntaf o flodau gwyllt yn y blanhigfa. Mae ein tîm bioamrywiaeth wrthi’n trefnu i ddosbarthu i’r safleoedd blodau gwyllt ar draws y sir sydd angen cefnogaeth ychwanegol i aeddfedu ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o liwiau ac amrywiaeth yn ymddangos yn y dolydd y flwyddyn nesaf.
“Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr gwych sydd wedi ein helpu i gyflawni’r nifer hyn o blanhigion trwy roi eu hamser i helpu yn y blanhigfa.”
“Rydym yn awyddus i barhau ein cyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, yn dyfwyr planhigion brwd neu’r rhai sydd eisiau dysgu am brosiectau bioamrywiaeth y Cyngor, wrth i ni ddynesu at y tymor plannu tu allan.”
Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch a bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk