Cyrraedd cam mawr ym mhrosiect adfywio y Rhyl wrth i waith ddechrau ar Farchnad y Frenhines
Mae gwaith i drawsnewid safle hanesyddol yn y Rhyl i un y gellir ei fwynhau gan y gymuned leol, ymwelwyr a busnesau wedi dechrau, diolch i'r Cyngor a grant drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan wedi’i benodi gan y Cyngor i wneud gwaith dylunio ac adeiladu Marchnad y Frenhines newydd sbon yng ngham cyntaf trawsnewid Adeiladau’r Frenhines ehangach sy’n eistedd ar hyd promenâd y dref.
Mae’r prosiect y cam diweddaraf yng ngweledigaeth adfywio ehangach y Rhyl ac yn gweld y safle yn cael ei drawsnewid i leoliad i’r gymuned fwynhau, gyda’r disgwyl i waith gael ei gwblhau ar Farchnad y Frenhines erbyn yr Haf 2023.
Mae Wynne Construction yn ymgymryd â’r gwaith ar y safle, sy’n cynnwys rhoi toddiant concrid fel sylfaen i’r adeilad.
Bydd y datblygiad yn cynnwys adeiladu neuadd marchnad dan do newydd a lledlawr ar gyfer gwerthwyr dros dro a seddi ychwanegol, yn ogystal â safle masnachol a digwyddiad hyblyg a pharth allanol wedi’i dirlunio.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Wynne Construction yn cynnal cymeriad Siambr y Frenhines hanesyddol ar Stryd Sussex, gan gadw manylder y garreg draddodiadol wrth hen fynedfa’r adeilad sy’n dyddio yn ôl i 1902.
Bydd gwaith brics traddodiadol ac arwyddion hefyd yn cael eu gosod i sicrhau bod yr adeilad yn eistedd yn gyfforddus gyda’r ardal leol.
Mae’r prosiect yn cynnwys mesurau cynaliadwy ychwanegol i leihau’r defnydd o ynni a chreu ôl troed carbon isel ar gyfer y datblygiad fel gosod paneli ffotofoltäig ar y to a system gwresogi ac oeri aer cyfan, sy’n rheoleiddio awyr a thymheredd drwy’r adeilad.
Dywedodd Richard Beatson, Rheolwr Dylunio, Wynne Construction: “Mae Marchnad y Frenhines newydd wedi’i dylunio gyda rhyngweithio cymunedol yn rhan flaenllaw ac rydym yn falch fod gwaith wedi dechrau ar y datblygiad modern hwn ar bromenâd hanesyddol y Rhyl.
“Bydd y safle yn ychwanegiad gwych i adfywio ehangach y dref a bydd yn dod â dehongliad ffres i brofiad neuadd y dref. Tra’n cael budd o’r nwyddau a gwasanaethau a gynigir gan werthwyr, mae ymwelwyr yn gallu mwynhau bwyd lleol o ansawdd uchel o amrywiol siopau.
“Fel rhan o’n holl adeiladau, byddwn hefyd yn ystyried gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol i gynnig cyfleoedd dysgu i brentisiaid a’r sawl sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant yn ogystal ag ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’r gymuned yn ystod y broses adeiladu.”
Fel rhan o Wynne Construction yn ymgysylltu â’r gymuned, bydd y cwmni yn cynnal dau ddigwyddiad gyda’r gymuned ym Mhafiliwn y Rhyl ddydd Iau, 22 Medi.
Bydd y diwrnod yn cynnwys digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr agored i isgontractwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â menter gymdeithasol a sefydliadau trydydd sector sy’n ystyried darparu nwyddau a gwasanaethau yn ystod y cam adeiladu.
Bydd ffair swyddi i’r cyhoedd hefyd yn dangos yr hyn fydd yn rhan o’r cynllun yn ogystal ag amlygu’r cyfleoedd gyrfa lleol a gynigir gan y prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Mynd i’r Afael â Thlodi: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Wynne Construction i gyflawni cam cyntaf Adeiladau’r Frenhines sy’n brosiect catalydd allweddol o fewn rhaglen adfywio ehangach y Cyngor i’r Rhyl.
“Mae’r prosiect eisoes yn darparu cyfleoedd gyrfa i bobl leol gan gynnwys cyfleoedd prentisiaeth, profiad gwaith a lleoliadau drwy brosiect Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor.”
Ar ôl i Wynne Construction ddatblygu Marchnad y Frenhines, mae’r Cyngor yn parhau i ddatblygu gyda chynlluniau ar gyfer datblygu gweddill safle Adeiladau’r Frenhines ymhellach.
Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad wedi’i ddarparu gan y Cyngor, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: “Mae’r trawsnewidiad hwn o Farchnad y Frenhines eiconig y Rhyl yn golygu y gall pobl Sir Ddinbych gefnogi busnesau lleol ar garreg drws a gwneud defnydd da o ofod a groesewir i gynnal digwyddiadau cymunedol.
“Rwy’n falch o weld Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud defnydd da o’n cyllid Trawsnewid Trefi ac yn edrych ymlaen at weld y promenâd wedi’i adfywio.”
Mae Wynne Construction wedi’i benodi drwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru (PAGC) i adeiladu’r adeilad.
I archebu apwyntiad ar gyfer digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ gan Wynne Construction, gallwch gysylltu ag Alison Hourihane, rheolwr gwerth cymdeithasol ar alison@wynneconstruction.co.uk.
Am fwy o wybodaeth am Wynne Construction ewch i http://www.wynneconstruction.co.uk/.