Dechrau ar y gwaith o eangu darpariaeth llety ar gyfer pobol hŷn yn Rhuthun
Mae’r gwaith ar fin dechrau ar brosiect ehangu gwerth £12.2 miliwn i ddiweddaru ac ymestyn Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun.
Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r safle er mwyn creu cynllun modern, carbon isel pwrpasol i ddiwallu anghenion pobol hŷn yr ardal.
Mae Cynlluniau Tai Gofal Grŵp Cynefin i gyd yn cynnig annibyniaeth, cymdogaeth a chefnogaeth unigryw o fewn adeilad pwrpasol gyda fflatiau annibynnol ar gyfer y trigolion – pawb â’i ddrws ffrynt ei hun – ac ardaloedd cyffredin fel gerddi, lolfeydd, bwyty a lle trin gwallt. Mae’n cynnig cyfle gwych i bobl hŷn gael budd o ffordd annibynnol o fyw mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda chefnogaeth a gofal pan fyddant angen hynny.
Yn Llys Awelon, Rhuthun, bydd y cynllun 21 o fflatiau presennol yn cynyddu o 35 fflat ychwanegol un a dwy ystafell wely ynghyd â chyfleusterau newydd sbon.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Cyngor, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin: “Rydyn ni yn hynod o falch o allu cyd-weithio mor rhwydd gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i allu cynnig gwasanaeth o’r un safon yn Llys Awelon, Rhuthun, a fydd yn adnodd modern, gwerthfawr i’r ardal.”
Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae prosiectau o’r fath yn dod a rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol a nodweddion canolog bwysig, arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio dulliau a thechnoleg i sicrhau carbon isel neu sero a’n gallu i ddod a phartneriaid at ei gilydd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er lles ein cymunedau.”
“Yn ogystal ag ymestyn y dewis o ddarpariaeth gofal a lletya i bobl hŷn yn ardal Rhuthun, bydd y cynllun yn helpu adfywio’r safle, gan fuddsoddi arian yn y dref a chymunedau cyfagos.”
Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o allu parhau i weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig a Llys Awelon, Rhuthun i helpu preswylwyr Sir Ddinbych.
“Mae prosiectau fel hyn yn cefnogi ein trigolion i fyw yn annibynnol a darparu tai o safon uchel iddynt sy'n diwallu ystod eang o anghenion.”