Gwobr ar gyfer menter ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngerddi tref
Mae prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru a Chyfeillion y Gerddi Botaneg i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei ganmol mewn seremoni wobrwyo.
Mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyfeillion y Gerddi Botaneg a’r Heddlu, yn ogystal â chynghorwyr sir lleol, ysgolion, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r Aelod Seneddol a’r Aelod o'r Senedd lleol i fynd i’r afael â’r materion sydd yn achosi pryder yn lleol.
Cafodd y prosiect ei roi ar restr fer gwobrau Plismona Datrys Problemau Heddlu Gogledd Cymru a chyrhaeddodd y rownd derfynol lle enillodd y prosiect yr ail wobr. Derbyniodd y rhai oedd ynghlwm â’r prosiect y wobr mewn digwyddiad diweddar.
Dros y misoedd diwethaf, cafodd problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad eu hadrodd, yn cynnwys grwpiau o bobl ifanc yn ymgasglu oedd yn fygythiol i bobl eraill, a fandaliaeth oedd yn cynnwys difrod i’r lawnt fowlio.
Cafodd cyfres o fesurau eu cyflwyno ar ôl trafod gyda sefydliadau partner. Roeddynt yn cynnwys mwy o gamerâu CCTV, cau’r giatiau fin nos, gosod ffens o amgylch y lawnt fowlio, mwy o batrolau gan yr heddlu lleol, a gwella golau mewn rhannau o’r parc.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Ardd Fotaneg yn y Rhyl yn ased i’r gymuned leol ac rydym ni eisiau i bobl ei mwynhau mewn modd diogel.
“Rwy’n falch bod mesurau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith i geisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif o unigolion. Byddwn yn parhau i fonitro effeithiolrwydd y prosiect.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth sydd yn bodoli yn y dref ac mae’n dangos sut mae modd dod o hyd i atebion i broblemau pan fydd pobl yn eistedd i lawr a chael trafodaeth.
“Dyma un o nifer o fentrau lle rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i wneud y Rhyl yn lle mwy diogel i fyw ynddi, i weithio ynddi ac i ymweld â hi.
Dywedodd Jason Davies, Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru dros Arfordir Sir Ddinbych:”Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn hynod o ddiolchgar am waith y Cyngor a Ffrindiau’r Gerddi Botaneg sydd wedi cyfrannau at nifer yr achosion yn lleihau.
“Byddwn yn parhau i dargedu troseddau o’r fath er mwyn gwarchod ein cymunedau, wrth weithio i sicrhau mai Gogledd Cymru yw’r lle fwyaf diogel ym Mhrydain.