llais y sir

Newyddion

Galw am westeiwyr ar gyfer rhaglen ailsefydlu’r DU yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor yn galw ar bobl sy’n byw yn y sir i gysylltu gyda Llywodraeth Cymru os ydynt yn gallu cynnig cartref i’r rheiny sy’n ailsefydlu yn y DU o ganlyniad i’r erchyllterau yn Wcráin.

Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i groesawu teuluoedd ac unigolion i Sir Ddinbych ac mae timau o’r Cyngor wedi bod yn gweithio i gynnal gwiriadau mewn eiddo sydd wedi cael eu cyflwyno fel llochesi.  Mae timau hefyd yn gweithio i gefnogi anghenion iechyd a lles pobl, yn ogystal â chefnogi teuluoedd i ganfod llefydd mewn ysgolion i’w plant.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi adnewyddu’r galw am ragor o westeiwyr sy’n gallu cynnig cartref i ddod ymlaen ac mae'r Cyngor yn eu cefnogi i rannu gwybodaeth a chysylltu â chymunedau lleol.

Er mwyn cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin, mae’n rhaid i chi:

  • fyw neu fod yn berchen ar eiddo preswyl yng Nghymru
  • gadarnhau nad ydych wedi eich paru â gwesteion o Wcráin
  • allu cynnig ystafell sbâr neu gartref ar wahân am o leiaf 6 mis
  • gadarnhau eich bod wedi cael caniatâd i aros yn y DU am o leiaf 6 mis
  • allu datgan nad oes gennych gofnod troseddol

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae gan Sir Ddinbych hanes hir o letya a chefnogi ffoaduriaid, a dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi ailsefydlu 25 o deuluoedd, sy’n cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf mewn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Syria ac Affganistan.

“Mae’n bleser gennym fedru croesawu teuluoedd ac unigolion sydd wedi cyrraedd Sir Ddinbych o Wcráin dros yr wythnosau diwethaf ac mae’r gwaith hwn yn parhau.

“Mae’r Cyngor yn gweithio i sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i deuluoedd unwaith y byddant yn cyrraedd Sir Ddinbych, mae hyn yn cynnwys gwaith gan y tîm addysg i brosesu ceisiadau am lefydd mewn ysgolion.

“Yn sgil cyllid y Swyddfa Gartref, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom ac mae gennym weithgor i reoli’r rhaglen, yn ogystal â thîm ymroddedig yn gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, a chefnogaeth ychwanegol gan bartneriaid yn y trydydd sector a grwpiau gwirfoddol lleol.

“Mae nifer o breswylwyr Sir Ddinbych wedi dod ymlaen i gynnig llety i’r rheiny sydd wedi cael eu gorfodi i adael Wcráin yn sgil y gwrthdaro sy’n mynd rhagddo ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch iddynt am eu caredigrwydd.

“Fodd bynnag, mae arnom ni angen i’r unigolion a’r teuluoedd hynny sy’n gallu darparu cartref gysylltu gyda Llywodraeth Cymru.

Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau, neu os ydynt yn awyddus i gynnig llety, dylent ymweld â: https://llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain

Gwobr ar gyfer menter ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngerddi tref

Mae prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru a Chyfeillion y Gerddi Botaneg i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei ganmol mewn seremoni wobrwyo.

Mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyfeillion y Gerddi Botaneg a’r Heddlu, yn ogystal â chynghorwyr sir lleol, ysgolion, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r Aelod Seneddol a’r Aelod o'r Senedd lleol i fynd i’r afael â’r materion sydd yn achosi pryder yn lleol.

Cafodd y prosiect ei roi ar restr fer gwobrau Plismona Datrys Problemau Heddlu Gogledd Cymru a chyrhaeddodd y rownd derfynol lle enillodd y prosiect yr ail wobr. Derbyniodd y rhai oedd ynghlwm â’r prosiect y wobr mewn digwyddiad diweddar.

Dros y misoedd diwethaf, cafodd problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad eu hadrodd, yn cynnwys grwpiau o bobl ifanc yn ymgasglu oedd yn fygythiol i bobl eraill, a fandaliaeth oedd yn cynnwys difrod i’r lawnt fowlio.

Cafodd cyfres o fesurau eu cyflwyno ar ôl trafod gyda sefydliadau partner. Roeddynt yn cynnwys mwy o gamerâu CCTV, cau’r giatiau fin nos, gosod ffens o amgylch y lawnt fowlio, mwy o batrolau gan yr heddlu lleol, a gwella golau mewn rhannau o’r parc.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Ardd Fotaneg yn y Rhyl yn ased i’r gymuned leol ac rydym ni eisiau i bobl ei mwynhau mewn modd diogel.

“Rwy’n falch bod mesurau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith i geisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif o unigolion. Byddwn yn parhau i fonitro effeithiolrwydd y prosiect.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth sydd yn bodoli yn y dref ac mae’n dangos sut mae modd dod o hyd i atebion i broblemau pan fydd pobl yn eistedd i lawr a chael trafodaeth.

“Dyma un o nifer o fentrau lle rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i wneud y Rhyl yn lle mwy diogel i fyw ynddi, i weithio ynddi ac i ymweld â hi.

Dywedodd Jason Davies, Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru dros Arfordir Sir Ddinbych:”Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn hynod o ddiolchgar am waith y Cyngor a Ffrindiau’r Gerddi Botaneg sydd wedi cyfrannau at nifer yr achosion yn lleihau.

“Byddwn yn parhau i dargedu troseddau o’r fath er mwyn gwarchod ein cymunedau, wrth weithio i sicrhau mai Gogledd Cymru yw’r lle fwyaf diogel ym Mhrydain.

Cyngor yn cael ei anrhydeddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod yn un o’r 12 cyflogwr yng Nghymru sydd ymhlith y 156 o sefydliadau cenedlaethol a anrhydeddwyd â Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei gefnogaeth eithriadol i gymuned y Lluoedd Arfog.

Fel yr anrhydedd uchaf bosibl, dyfernir Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr i rai sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Gwahoddir y 12 enillydd o Gymru i gael eu gwobr yn hwyrach yn y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm y Principality.

Er mwyn ennill gwobr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, rhaid i sefydliadau ddangos eu bod yn darparu 10 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn a bod ganddynt bolisïau AD cefnogol yn eu lle i gyn-filwyr, milwyr wrth gefn a phartneriaid  y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Rhaid iddynt hefyd eirioli manteision cefnogi’r rhai sydd yn nghymuned y Lluoedd Arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yn y Cabinet, ac sydd hefyd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae hon wir yn anrhydedd fawr i Sir Ddinbych.

“Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn y Cyngor i gefnogi ein cymunedau lluoedd arfog ac rydym wrth ein boddau bod ein dull o greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol ble mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, wedi cael ei gydnabod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rydym wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel datganiad y bydd y Cyngor yn sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau a datblygu ein cysylltiadau ag unigolion, cymunedau a sefydliadau’r lluoedd arfog a pharhau i fod yn sefydliad cefnogol a chynhwysol”.

Dechrau ar y gwaith o eangu darpariaeth llety ar gyfer pobol hŷn yn Rhuthun

Mae’r gwaith ar fin dechrau ar brosiect ehangu gwerth £12.2 miliwn i ddiweddaru ac ymestyn Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun.

Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r safle er mwyn creu cynllun modern, carbon isel pwrpasol i ddiwallu anghenion pobol hŷn yr ardal.

Mae Cynlluniau Tai Gofal Grŵp Cynefin i gyd yn cynnig  annibyniaeth, cymdogaeth a chefnogaeth unigryw o fewn adeilad pwrpasol gyda fflatiau annibynnol ar gyfer y trigolion – pawb â’i ddrws ffrynt ei hun – ac ardaloedd cyffredin fel gerddi, lolfeydd, bwyty a lle trin gwallt. Mae’n cynnig cyfle gwych i bobl hŷn gael budd o ffordd annibynnol o fyw mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda chefnogaeth a gofal pan fyddant angen hynny.

Yn Llys Awelon, Rhuthun, bydd y cynllun 21 o fflatiau presennol yn cynyddu o 35 fflat ychwanegol un a dwy ystafell wely ynghyd â chyfleusterau newydd sbon.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Cyngor, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin: “Rydyn ni yn hynod o falch o allu cyd-weithio mor rhwydd gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i allu cynnig gwasanaeth o’r un safon yn Llys Awelon, Rhuthun, a fydd yn adnodd modern, gwerthfawr i’r ardal.”

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae prosiectau o’r fath yn dod a rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol a nodweddion canolog bwysig, arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio dulliau a thechnoleg i sicrhau carbon isel neu sero a’n gallu i ddod a phartneriaid at ei gilydd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er lles ein cymunedau.”

“Yn ogystal ag ymestyn y dewis o ddarpariaeth gofal a lletya i bobl hŷn yn ardal Rhuthun, bydd y cynllun yn helpu adfywio’r safle, gan fuddsoddi arian yn y dref a chymunedau cyfagos.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o allu parhau i weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig a Llys Awelon, Rhuthun i helpu preswylwyr Sir Ddinbych.

“Mae prosiectau fel hyn yn cefnogi ein trigolion i fyw yn annibynnol a darparu tai o safon uchel iddynt sy'n diwallu ystod eang o anghenion.”

Tacsi gwyrdd pellter hir newydd yn mynd yn fyw

Mae cerbyd newydd wedi’i ychwanegu i gynllun tacsi peilot yn Sir Ddinbych.

Yn dilyn adborth a gafwyd trwy gynnal unig beilot y cynllun tacsi gwyrdd heb allyriadau yng Ngogledd Cymru, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cerbyd electronig newydd pellter hwy.

Yn ddiweddar, gosododd Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r cynllun, nod o ddatgarboneiddio’r fflyd tacsis yn gyfan gwbl erbyn 2028.

Mae'r Cyngor yn unol o grŵp bach dethol o awdurdodau Cymru sy’n cymryd rhan.

Ers iddo ddechrau yn y Sir yn ystod yr hydref 2021, mae 59 o yrwyr tacsi wedi gyrru pedwar tacsi Nissan Dynamo E-NV200 sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, i’w defnyddio fel rhan o’r ‘cynllun profi cyn prynu’.

Gall gyrwyr tacsis Hacni trwyddedig brofi cerbyd am ddim am 30 diwrnod, gan gynnwys pwyntiau gwefru trydan am ddim mewn lleoliadau penodol yn y sir, trwydded cerbyd, yswiriant a pholisi torri i lawr.

Hyd yma, mae’r tacsis wedi teithio 56759 o filltiroedd ac wedi gweithredu ar draws Prestatyn, y Rhyl, Bodelwyddan, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun a Chorwen.

A nawr, yn dilyn mewnbwn gan yrwyr sy’n defnyddio’r cynllun, bydd Kia EV6 yn ymuno â’r fflyd bresennol.

Gall Kia deithio hyd at 328 o filltiroedd ar un gwefriad ac mae wedi’i ddylunio i ganiatáu i yrwyr tacsi weithio shifft gyfan yn hyderus gan gynnwys teithiau i feysydd awyr heb fod angen gwefru.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma un o nifer o brosiectau mae’r Cyngor yn eu rhedeg ar gerbydau trydan a fydd yn helpu i greu amgylchedd mwy iach a lleihau allyriadau carbon ar draws y sir.”

“Rydym wedi cael llawer o adborth cadarnhaol a defnyddiol gan y gyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn i roi cynnig ar y tacsis heb allyriadau hyn a dysgu am eu buddion. Un o’r meysydd a awgrymwyd oedd edrych ar gyflwyno cerbydau pellter hwy i gynorthwyo â chludiant y tu allan i’r sir ac yn ôl.

“Bydd y cerbyd hwn yn darparu amgylchedd eang, modern a moethus i deithwyr gyda lle cyfforddus, dim sŵn, dirgryniadau nac allyriadau pibellau mwg.

“Mae hefyd yn ein helpu i barhau i gael adborth am ddefnyddio cerbydau heb allyriadau mewn gweithrediadau tacsi o ddydd i ddydd heb gyfaddawdu ar ddarpariaeth gwasanaeth, a dangos yr arbedion o ran tanwydd a’r effaith yn erbyn newid hinsawdd mae cerbydau trydan yn eu cynnig ar hyn o bryd.

“Rydym yn edrych ymlaen at wrando ar brofiadau gyrwyr sy’n defnyddio’r tacsi hwn i’n helpu i barhau i fapio dyfodol y cynllun gwyrdd hwn.”

Bydd y cerbyd ar gael i yrwyr sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun yn unig, heb ddigwyddiadau difrifol ac mae lleoedd wedi’u cyfyngu ar hyn o bryd i 10 x cyfnod llogi 30 diwrnod dros y 12 mis nesaf.   

Cartref y fôr-wennol fach yn cadw ei statws Baner Werdd

Mae safle sy’n gartref i gytref adnabyddus o fôr-wenoliaid bach wedi cadw ei statws Baner Werdd.

Mae'r Cyngor wedi croesawu’r newyddion bod Twyni Gronant wedi cadw statws y Faner Werdd ar gyfer 2022/ 23.

Mae’r Faner Werdd a ddyfernir gan Cadwch Gymru’n Daclus yn arwydd i’r cyhoedd bod parc neu fan gwyrdd yn rhywle â’r safonau amgylcheddol gorau posibl, yn cael ei ofalu amdano hyd y safonau uchaf a bod yno gyfleusterau rhagorol ar gyfer ymwelwyr.

Enillodd y twyni’r Faner Werdd fawreddog am y tro cyntaf y llynedd ac mae’n darparu safon ansawdd a fframwaith cenedlaethol ar gyfer mannau gwyrdd.

Y gytref o fôr-wenoliaid bach ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r gytref fridio fwyaf yng Nghymru.

Mae’r traeth yn adnabyddus yn rhyngwladol gan ei fod yn cyfrannu dros 10 y cant o’r holl boblogaeth o fôr-wenoliaid bach sy’n bridio yn y DU a hefyd yn ategu cytrefi eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu a Chynllunio’r Cabinet: “Mae ein Gwasanaeth Cefn Gwlad yn falch tu hwnt bod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Gronant wedi cadw’r Faner Werdd.

“Mae’r twyni’n wych o safbwynt eu cymeriad a’r dirwedd a hefyd oherwydd eu gwerth bioamrywiaeth pwysig. Maen nhw hefyd yn gartref i gytref ffyniannus o fôr-wenoliaid bach diolch i gefnogaeth ein staff a’n gwirfoddolwyr.

“Mae llawer iawn o ymdrech wedi’i wneud i gynnal seilwaith y safle er mwyn i ymwelwyr a phreswylwyr gael mwynhau harddwch naturiol yr ardal ond gan darfu cyn lleied â phosib arni a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio  mor galed i wireddu hyn.”

Bws Fflecsi

Gall cynllun trafnidiaeth Fflecsi a weithredir gan fws trydan gael ei archebu'n bersonol gennych chi i deithio yn Rhuthun a'r cyffiniau, mwy o fanylion yma.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n rhoi crynodeb o'n perfformiad ar gyfer 2021 – 2022 newydd ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn cwmpasu oedolion a gwasanaethau plant ac yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ond mae hefyd yn cwmpasu'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yn symud ymlaen.

Wal Fyw wedi’i chodi yn Y Rhyl fel rhan o brosiect Isadeiledd Gwyrdd

Mae wal fyw wedi’i chodi’n ddiweddar ar adeilad Canolbwynt Strategaeth Dinas y Rhyl ar gornel Ffordd Wellington a Stryd Elwy.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Strategaeth Dinas y Rhyl i gael wal fyw ar ochr yr adeilad. Mae’r datblygiad yn cynnwys deuddeg metr sgwâr o blannu fertigol mewn system fodwlar a system ddyfrio sy’n darparu dŵr a bwyd i’r planhigion yn awtomatig. Mae yna hefyd danc o dan y wal fyw sy’n casglu dŵr er mwyn ei ailgylchu.

Mae’r prosiect hwn yn cefnogi rhaglen adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y Rhyl ac wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru fel rhan o fenter ehangach i lasu canol trefi ac ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Defnyddir waliau byw yn aml iawn mewn ardaloedd trefol i ddarparu nifer o fuddion, yn cynnwys gwella ansawdd aer, gwella bioamrywiaeth i ddarparu gofod nythu a bwyd i adar a phryfaid a gwella iechyd a lles pobl.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y fenter hon yn dod ag amryw o fuddion iechyd a lles i bobl sy’n byw ac yn ymweld â’r Rhyl, gan ychwanegu gofod gwyrdd deniadol hefyd.

“Mae waliau byw yn darparu’r budd mwyaf i ardaloedd gyda llawer o isadeiledd trefol ac ychydig iawn o ofodau gwyrdd, gan fod y planhigion yn helpu i lanhau’r aer rydym ni’n ei anadlu.

“Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect hwn, mae’n ein rhoi gam yn nes at gyflawni ymrwymiad y Cyngor i fod yn awdurdod carbon net ac i wireddu ein gweledigaeth ehangach ar gyfer y Rhyl.”

Meddai Joanne Bartlett-Jones, Pennaeth Adnoddau Strategaeth Dinas y Rhyl: “Mae’n wych gallu cynnal y wal fyw ar ein hadeilad fel rhan o fenter i lasu canol y dref.

“Rydym ni’n awyddus iawn i chwarae ein rhan i gynyddu bioamrywiaeth yn yr ardal; mae’n edrych yn wych, yn gwella lles unigolion ac yn helpu’r adar a’r pryfaid lleol!”

Mae’r fenter i lasu canol y dref wedi galluogi’r Gwasanaethau Cefn Gwlad i hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd i wirfoddoli yng nghanol y dref. Os hoffech chi ddod yn Wirfoddolwr Cefn Gwlad neu’n Gefnogwr Cymunedol, anfonwch e-bost at amy.trower@sirddinbych.gov.uk.

Cynllun Lles Drafft Conwy a Sir Ddinbych - rhwoch eich barn!

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Conwy a Sir Ddinbych wedi cynhyrchu Cynllun Lles drafft ar gyfer y rhanbarth ac rydym eisiau clywed barn pobl am yr amcan yr ydym wedi’i ddewis a’r ymdriniaeth yr ydym am ei defnyddio.

Bob 5 mlynedd, yn dilyn Asesiad o Les Lleol, mae’n rhaid i’r BGC gytuno ar amcanion lles er budd ei gymunedau a chytuno hefyd ar y camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.

Mae’r ddogfen yn amlinellu cynnwys Cynllun Lles 2023 - 2028 y BGLl, pan fydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar wneud Conwy a Sir Dinbych yn llefydd mwy cyfartal i fyw gyda llai o amddifadedd.

Mae hon yn her arwyddocaol a bydd yn gofyn am adnoddau’r holl bartneriaid i fynd i’r afael â hi. Byddwn yn ymdrechu i roi’r egwyddor datblygiad cynaliadwy a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith, gan gyfrannu at yr holl nodau llesiant cenedlaethol.

Dim ond amlinelliad o’n cynllun sydd yn y ddogfen a thrwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn gobeithio cael eich barn ar ein cyfeiriad arfaethedig a’r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd fel y gallwn ddefnyddio’r hyn yr ydych yn ei ddweud i lunio’r fersiwn terfynol o’r cynllun y byddwn yn ei gymeradwyo yn y gwanwyn 2023.

CLICIWCH YMACliciwch ar y logo (chwith) i weld y Cynllun Lles drafft a rhoi sylwadau.  Er mwyn gofyn am gopi papur, cysylltwch â ni trwy ein tudalen cysylltu â ni.  Neu, gallwch anfon unrhyw sylwadau neu awgrymiadau sy’n ymwneud â’r Asesiad Lles at sgwrsysir@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 574059. 

Y dyddiad cau ar gyfer ein harolwg yw 9 Tachwedd 2022.

Menter yn helpu i sefydlu meicro-ddarparwyr gofal a chefnogaeth newydd yn Sir Ddinbych

Gall trigolion Sir Ddinbych bellach gael mynediad at nifer o feicro-ddarparwyr lleol newydd ar gyfer gofal a chefnogaeth.

Diolch i gefnogaeth partneriaeth rhwng menter gymdeithasol Community Catalysts a'r Cyngor, mae 16 o breswylwyr y Sir bellach yn gweithio i’w hunain yn cynnig gofal a chefnogaeth i bobl hŷn ac anabl yn eu cymunedau lleol.

Mae Community Catalysts yn cynnig cyngor proffesiynol am ddim i’ch helpu i weithio i chi eich hun yn cynnig gofal a chefnogaeth ar draws y sir.

Mae’r meicro-ddarparwyr maent wedi helpu i’w creu hyd yn hyn wedi cefnogi dros 70 o bobl yn Sir Ddinbych i gael y gefnogaeth maent ei angen yn eu cartref eu hunain, pa unai ydi’r cymorth o amgylch y tŷ, yn gwmnïaeth, helpu rhywun i fynd allan neu ddarparu gofal personol.

Gyda 25 meicro-ddarparwr arall yn dod drwy’r rhaglen, bydd mwy o bobl yn Sir Ddinbych yn y dyfodol yn gallu defnyddio’r gwasanaethau yma i’w helpu nhw i fod yn fwy cyfforddus ac yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain. 

Dywedodd Nick Hughes, Catalydd Cymunedol ar gyfer Sir Ddinbych:

"Rydym wedi helpu amrywiaeth o ficro-ddarparwyr sefydledig i gynnwys gofalwyr sy’n byw i fewn, gofal personol, cymorth ymarferol gartref ac amrywiaeth o wasanaethau eraill sydd wedi’u dylunio i helpu pobl i aros yn ddiogel a saff yn eu cartrefi eu hunain.

Rydym ni bob amser yn chwilio am fwy o bobl i sefydlu eu menter meicro-ddarparwr eu hunain. Felly os ydych chi’n credu y gallech chi gynnig cefnogaeth i bobl yn eich cymuned chi, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. 

“Mae hi’n bleser gweithio gyda phobl sy’n angerddol am helpu pobl eraill yn eu cymunedau lleol.  Mae hi’n wych gweld pobl yn rhoi eu stamp personol nhw ar y ffordd maent yn cynnig eu gwasanaethau ac i weld y manteision enfawr maent yn ei gael ar fywydau pobl.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Community Catalysts ar y fenter wych hon er mwyn helpu i droi eu syniadau’n realiti a darparu mwy o gymorth i’r boblogaeth hŷn ac anabl. Dyma gyfle raglen wych sydd yn gallu helpu entrepreneuriaid sy’n gofalu i gefnogi a helpu preswylwyr lleol.”

“Hoffwn ddiolch i’r 16 meicro-ddarparwr am eu hymrwymiad i ofalu ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gefnogaeth y bydd y 25 meicro-ddarparwr arall yn ei ddarparu pan fyddant yn gorffen y rhaglen.”

I gael rhagor o wybodaeth am Community Catalysts a sut y gallant eich helpu i fod yn feicro-ddarparwr, ewch i https://bit.ly/3bTwcka

Os hoffech chi weld rhai o’r meicro-ddarparwyr sydd yn gweithio yn Sir Ddinbych, ewch i Gyfeiriadur Small Good Stuff.

Cyrraedd cam mawr ym mhrosiect adfywio y Rhyl wrth i waith ddechrau ar Farchnad y Frenhines

Mae gwaith i drawsnewid safle hanesyddol yn y Rhyl i un y gellir ei fwynhau gan y gymuned leol, ymwelwyr a busnesau wedi dechrau, diolch i'r Cyngor a grant drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan wedi’i benodi gan y Cyngor i wneud gwaith dylunio ac adeiladu Marchnad y Frenhines newydd sbon yng ngham cyntaf trawsnewid Adeiladau’r Frenhines ehangach sy’n eistedd ar hyd promenâd y dref.  

Mae’r prosiect y cam diweddaraf yng ngweledigaeth adfywio ehangach y Rhyl ac yn gweld y safle yn cael ei drawsnewid i leoliad i’r gymuned fwynhau, gyda’r disgwyl i waith gael ei gwblhau ar Farchnad y Frenhines erbyn yr Haf 2023.

Mae Wynne Construction yn ymgymryd â’r gwaith ar y safle, sy’n cynnwys rhoi toddiant concrid fel sylfaen i’r adeilad.  

Bydd y datblygiad yn cynnwys adeiladu neuadd marchnad dan do newydd a lledlawr ar gyfer gwerthwyr dros dro a seddi ychwanegol, yn ogystal â safle masnachol a digwyddiad hyblyg a pharth allanol wedi’i dirlunio.

Fel rhan o’r prosiect, bydd Wynne Construction yn cynnal cymeriad Siambr y Frenhines hanesyddol ar Stryd Sussex, gan gadw manylder y garreg draddodiadol wrth hen fynedfa’r adeilad sy’n dyddio yn ôl i 1902. 

Bydd gwaith brics traddodiadol ac arwyddion hefyd yn cael eu gosod i sicrhau bod yr adeilad yn eistedd yn gyfforddus gyda’r ardal leol.

Mae’r prosiect yn cynnwys mesurau cynaliadwy ychwanegol i leihau’r defnydd o ynni a chreu ôl troed carbon isel ar gyfer y datblygiad fel gosod paneli ffotofoltäig ar y to a system gwresogi ac oeri aer cyfan, sy’n rheoleiddio awyr a thymheredd drwy’r adeilad.

Dywedodd Richard Beatson, Rheolwr Dylunio, Wynne Construction:  “Mae Marchnad y Frenhines newydd wedi’i dylunio gyda rhyngweithio cymunedol yn rhan flaenllaw ac rydym yn falch fod gwaith wedi dechrau ar y datblygiad modern hwn ar bromenâd hanesyddol y Rhyl. 

“Bydd y safle yn ychwanegiad gwych i adfywio ehangach y dref a bydd yn dod â dehongliad ffres i brofiad neuadd y dref. Tra’n cael budd o’r nwyddau a gwasanaethau a gynigir gan werthwyr, mae ymwelwyr yn gallu mwynhau bwyd lleol o ansawdd uchel o amrywiol siopau.

“Fel rhan o’n holl adeiladau, byddwn hefyd yn ystyried gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol i gynnig cyfleoedd dysgu i brentisiaid a’r sawl sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant yn ogystal ag ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’r gymuned yn ystod y broses adeiladu.”

Fel rhan o Wynne Construction yn ymgysylltu â’r gymuned, bydd y cwmni yn cynnal dau ddigwyddiad gyda’r gymuned ym Mhafiliwn y Rhyl ddydd Iau, 22 Medi.  

Bydd y diwrnod yn cynnwys digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr agored i isgontractwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â menter gymdeithasol a sefydliadau trydydd sector sy’n ystyried darparu nwyddau a gwasanaethau yn ystod y cam adeiladu.

Bydd ffair swyddi i’r cyhoedd hefyd yn dangos yr hyn fydd yn rhan o’r cynllun yn ogystal ag amlygu’r cyfleoedd gyrfa lleol a gynigir gan y prosiect.  

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Mynd i’r Afael â Thlodi: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Wynne Construction i gyflawni cam cyntaf Adeiladau’r Frenhines sy’n brosiect catalydd allweddol o fewn rhaglen adfywio ehangach y Cyngor i’r Rhyl. 

“Mae’r prosiect eisoes yn darparu cyfleoedd gyrfa i bobl leol gan gynnwys cyfleoedd prentisiaeth, profiad gwaith a lleoliadau drwy brosiect Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor.”

Ar ôl i Wynne Construction ddatblygu Marchnad y Frenhines, mae’r Cyngor yn parhau i ddatblygu gyda chynlluniau ar gyfer datblygu gweddill safle Adeiladau’r Frenhines ymhellach. 

Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad wedi’i ddarparu gan y Cyngor, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: “Mae’r trawsnewidiad hwn o Farchnad y Frenhines eiconig y Rhyl yn golygu y gall pobl Sir Ddinbych gefnogi busnesau lleol ar garreg drws a gwneud defnydd da o ofod a groesewir i gynnal digwyddiadau cymunedol.

“Rwy’n falch o weld Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud defnydd da o’n cyllid Trawsnewid Trefi ac yn edrych ymlaen at weld y promenâd wedi’i adfywio.”

Mae Wynne Construction wedi’i benodi drwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru (PAGC) i adeiladu’r adeilad.

I archebu apwyntiad ar gyfer digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ gan Wynne Construction, gallwch gysylltu ag Alison Hourihane, rheolwr gwerth cymdeithasol ar alison@wynneconstruction.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am Wynne Construction ewch i http://www.wynneconstruction.co.uk/.

Sir Ddinbych yn paratoi i groesawu Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Mae arddangosfa yn adrodd stori cyfraniad Cymru i’r frwydr awyr fwyaf a gofnodwyd erioed yn dod i Sir Ddinbych yn ddiweddarach y mis hwn.  

Cafodd Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain ei chreu gan Gangen Hanesyddol Awyr yr RAF (Dr Lynsey Shaw), ynghyd â Chomodor y Llu Awyr, Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, i gofnodi 80 mlynedd ers Brwydr Prydain yn 2020, ond gohiriwyd oherwydd Covid.

Mae’r arddangosfa nawr yn teithio o amgylch Cymru a bydd yn Neuadd y Dref y Rhyl ddydd Gwener, 30 Medi (3pm-6pm); dydd Sadwrn, 1 Hydref (10am-5pm) a dydd Sul, 2 Hydref (10am-4pm).  Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Dywedodd y Comodor Awyr, Adrian Williams “Rwyf wrth fy modd, yn dilyn agoriad swyddogol Arddangosfa i nodi 80 mlynedd Brwydr Prydain yng Nghaerdydd, mae’r arddangosfa ar daith o amgylch Cymru a bydd yn derbyn llety gan Sir Ddinbych.

“Mae’r arddangosfa yn adrodd stori fydd yn galluogi pobl Cymru, o bob oed, i ddod a gwybod mwy am beth ddigwyddodd yn yr awyr ac ar y ddaear yn ystod y rhyfel.   Yn unigryw, mae’n canolbwyntio ar griw awyr Cymru wnaeth frwydro, gan adrodd eu straeon a’u gwroldeb i gynulleidfa fodern Gymreig. 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol y Cabinet, sydd hefyd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog:

“Rydym yn falch iawn o gynnig llety i’r arddangosfa bwysig hon, a grëwyd i gofio’r sawl wnaeth aberthu eu bywydau ac i ddysgu am y rhan wnaeth pobl a chymunedau ar draws Cymru ei chwarae yn y digwyddiad hanesyddol hwn. 

“Mae gennym gysylltiadau cryf gyda chymunedau’r Lluoedd Arfog a thraddodiad balch o’u cefnogi drwy ein Cyfamod Lluoedd Arfog.  Mae hwn yn ddatganiad y bydd y Cyngor yn sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

“Mae gallu adlewyrchu hanes Cymru a Brwydr Prydain yn anrhydedd.”

Yn cynnwys cyfres o baneli mawr wedi eu paratoi a nifer o arteffactau, bydd yr arddangosfa yn cynnwys lluniau a naratif i adrodd am y tro cyntaf, sut wnaeth Cymru ymddangos ym Mrwydr Prydain a beth ddigwyddodd yn yr awyr ac ar y ddaear yn ystod y rhyfel. 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid