Lledaenwch y neges am ymgyrch recriwtio i ofal cymdeithasol
Mae ymgyrch recriwtio i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn parhau.
Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gofal cymdeithasol gwag, yn enwedig yn ystod Covid pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.
Ac mae’r ymgyrch o'r enw Gwnewch i Bobl Wenu wedi'i lansio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol ac i hysbysebu'r swyddi gweigion presennol sy'n bodoli yn y sir.
Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion ar drafnidiaeth gyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cymunedol, hysbysebion yn y cyfryngau lleol, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Bydd y Cyngor hefyd allan mewn lleoliadau yn cynnal sioeau teithiol recriwtio a gweithdai.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ailwampio ei wybodaeth ar y wefan ac wedi cynnwys astudiaethau achos fel fideos, mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn. Mae adran cwestiynau cyffredin hefyd wedi'i darparu i roi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf rheolaidd a dderbyniwyd.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal
Ffair Swyddi
Mae'r Cyngor yn eich gwahodd i fynychu ein Ffair Swyddi yn yr Hydref.
Cewch wybod mwy am y swyddi gwag presennol sydd ar draws ein gwasanaethau, cwrdd â rheolwyr yr adran wyneb yn wyneb a darganfod mwy am y manteision o weithio gydai ni.
Darganfyddwch fwy yma: www.sirddinbych.gov.uk/ffair-swyddi
Ydych chi wedi meddwl rhoi gwaed erioed?
Mae rhoddwyr gwaed Sir Dinbych wedi achub 321 o fywydau oedolion neu 642 o fabanod drwy roi gwaed yn lleol mis Awst.
Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Cliciwch yma i archebu yn un o’r sesiynau nesaf:
Rhewl (9 Medi, 13 Medi, 30 Medi)
Prestatyn (12 Medi)
Dinbych (14 Medi)
Y Rhyl (YN LLAWN)
Ap 'Mind of my own'
Mae Mind of My Own yn blatfform ar-lein sy’n galluogi plant a phobl ifanc sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych i ymgysylltu gyda'u gweithiwr a rhannu eu safbwyntiau ynglŷn â’r gofal maent yn ei dderbyn, eu pryderon, ofnau a llwyddiannau.
Fe all plant a phobl ifanc ddefnyddio’r ap ar eu pen eu hunain ar unrhyw adeg, neu gallent ddefnyddio Mind of My Own ochr yn ochr â'u gweithiwr dynodedig.
Hyd yma mae gan 215 o bobl ifanc gyfrifon, mae gan 154 o weithwyr gyfrifon ac mae 509 o ddatganiadau wedi eu derbyn gan blant a phobl ifanc.
Roedd Mind of My Own wedi cynnal eu Seremoni Wobrwyo Flynyddol yn gynharach yn y flwyddyn i ddathlu cyflawniadau gwych aelodau o’r gymuned Mind of My Own. Mi roedd Jane Hodgson, Uwch Weithiwr Cefnogi Teuluoedd (Tîm o Amgylch y Teulu) yn enillydd cwbl haeddiannol Gwobr Mind of My Own High Flyer, gan gydnabod ei chyflawniad yn defnyddio’r platfform o fewn Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych fel rhan o’i gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Jane Hodgson
Mae Jane wedi derbyn dros 80 datganiad gan blant a phobl ifanc yn gweithio gyda’r gwasanaeth, gan sicrhau bod eu barn am eu bywyd a’u gofal yn cael ei chlywed a’u deilliannau a lles yn gwella.
Da iawn chdi Jane!