Carchar Rhuthun
Mae’r gwaith ailwampio yn dilyn difrod llifogydd sylweddol yn y Carchar yn parhau.
Tra’n methu agor drysau eu celloedd i’r cyhoedd yr haf hwn, mae nhw yn cynnig teithiau AM DDIM o iard y carchar a’r ardaloedd y tu allan i’r carchar tan ddydd Sadwrn 1 Hydref.
Cynhelir y teithiau am 11am a 2pm pob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, gan ddibynnu ar y tywydd.
Dewch draw i ymuno â’n tywyswyr llawn gwybodaeth ar daith awyr agored o’r hen garchar hwn. Cewch glywed am hanes y Carchar a rhai o’n preswylwyr drwgenwog!
Bydd siop y Carchar yn agored ac yn gwerthu nwyddau ar thema’r Carchar a diodydd oer, croeso i chi ddod â phicnic!
Sylwer nad oes yna doiledau cyhoeddus ar y safle.