llais y sir

Twristiaeth

Carchar Rhuthun

Mae’r gwaith ailwampio yn dilyn difrod llifogydd sylweddol yn y Carchar yn parhau. 
Tra’n methu agor drysau eu celloedd i’r cyhoedd yr haf hwn, mae nhw yn cynnig teithiau AM DDIM o iard y carchar a’r ardaloedd y tu allan i’r carchar tan ddydd Sadwrn 1 Hydref.
Cynhelir y teithiau am 11am a 2pm pob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, gan ddibynnu ar y tywydd.
Dewch draw i ymuno â’n tywyswyr llawn gwybodaeth ar daith awyr agored o’r hen garchar hwn.  Cewch glywed am hanes y Carchar a rhai o’n preswylwyr drwgenwog!
Bydd siop y Carchar yn agored ac yn gwerthu nwyddau ar thema’r Carchar a diodydd oer, croeso i chi ddod â phicnic!
Sylwer nad oes yna doiledau cyhoeddus ar y safle.
Gallwch ddilyn nhw ar cyfryngau cymdeithasol.

Galw ar bob busnes

Hoffech chi gynnig taflenni am ddim i’ch cwsmeriaid sy’n hysbysebu ein trefi, cefn gwlad a llwybrau beicio? Llenwch y ffurflen ar-lein a gadewch y cyfan i ni. Cliciwch yma

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych

A oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth?

Mae Fforwm a sefydlwyd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 5 Hydref yn Oriel House, Llanelwy. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae’n cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.

I archebu lle yn y Fforwm Twristiaeth, cliciwch ar y ddolen >>> https://denbighshiretourismforumoct2022.eventbrite.co.uk.

Lansio Modiwl Dyffryn Clwyd

Mae modiwl newydd sbon Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych sy’n canolbwyntio ar Ddyffryn Clwyd newydd gael ei lansio. Mae’r modiwl yn trafod y trefi marchnad, atyniadau treftadaeth a chefn gwlad ac yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am fannau cysegredig, celfyddydau a diwylliant a llefydd i fwyta, yfed ac aros yn y Dyffryn.

Mae Cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu hyfforddiant i bobl ar gynnig twristiaeth Sir Ddinbych. Mae’n rhad ac am ddim, yn hyblyg, yn hwyl ac mae’n agored i bawb.

Mae cyfres o 13 o fodiwlau rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau wedi eu creu ar amrywiol themâu gan gynnwys cerdded, beicio, hanes, yr iaith Gymraeg, yr AHNE, Safle Treftadaeth y Byd, yr arfordir a thwristiaeth gynaliadwy. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gaiff eu cwblhau.

 

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022

Bydd chweched gyfres Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn cael eu cynnal ddydd Iau 24 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.

Mae cyfanswm o 16 categori ac mae’r enwebiadau bellach ar agor. Gallwch enwebu eich busnes twristiaeth eich hun, neu’r busnes twristiaeth gorau sy’n deilwng o’r wobr yn eich barn chi.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 10 Hydref.

Ewch i'w gwefan am fwy o wybodaeth.

Eisiau'r newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni rheolaidd >>> https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/y-wybodaeth-ddiweddaraf-am-dwristiaeth.aspx

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn ‘Gogledd Ddwyrain Cymru’ / ‘North East Wales’ ar Facebook, Twitter ac Instagram

Ewch i gogleddddwyraincymru.cymru

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid