Mae’r ffotograff yn bortread ffurfiol sydd wedi’i dynnu mewn stiwdio ac ynddo mae Mrs Elizabeth Jones (ei wraig) yn gwisgo ffrog dywyll hir a het sy’n cyd-fynd â’i gwisg. O’i hamgylch mae ei phedwar plentyn sydd i gyd dan bedair neu bump oed. Mae’r plant; Mary, Gladys, Isaac a Mons, hefyd yn gwisgo dillad ffurfiol a’r babi’n gwisgo gwisg sy’n edrych fel dillad bedydd. Gellir dyddio’r ffotograff yn ôl oedran y plant a chredir ei fod wedi cael ei dynnu tua mis Rhagfyr 1914 pan fedyddiwyd Mons yn yr eglwys blwyf leol.
Yn y llythyrau mae Harry’n sôn am ba mor oer yw’r tywydd yn y nos. Mae’n sôn am dderbyn parsel gyda sgarff a baco ynddo ac mae’n dweud y bydd yn help i gadw ei wddf yn gynnes iawn. Roedd y pâr yn trafod enw eu babi newydd yn y llythyrau ac mae Harry yn dweud wrth Elizabeth bod Mons yn enw dymunol iawn i fabi ar ôl i Elizabeth ei enwi ar ôl Brwydr Mons. Yna mae’n dweud ei fod yn gobeithio y cânt Nadolig da, gwell na’r un gaiff o, ac mae’n gobeithio y bydd yn well y tro nesaf os daw o adref o gwbl.
Yn ei lythyr olaf ar 23 Chwefror 1915 mae Harry yn holi am ei dad sy’n wael. Mae’n gofyn i Elizabeth ei fwydo’n dda gyda chawl ac oxo. Mae un dyfyniad o’i lythyr fel a ganlyn: “Well my Dear please remember me to father and give him my best love and tell him to cheer up and tell him the war will be over very soon now and I will be able to see him again…” Yn y llythyr hwn mae’n gofyn i Elizabeth am lun ohoni hi a’r plant, ac mae’n dweud wrthi fod modd eu cael yn rhad iawn ar gerdyn post. Ym mhob un o lythyrau Harry mae’n galw Elizabeth yn ‘annwyl wraig’ ac mae’n dymuno’n dda ac iechyd da iddi hi a’r plant. Mae Harry’n arwyddo’r llythyrau gyda “From Your Loving Harry” a llawer o gusanau.
Yn anffodus lladdwyd Harry ar ddydd Gŵyl Dewi yn 1915 yn ddim ond 29 oed, ychydig fisoedd ar ôl i’r portread gael ei dynnu. Nid oedd wedi cyfarfod â’i blentyn ieuengaf, ac mae’n bosibl nad oedd hyd yn oed wedi gweld y llun o’r teulu sydd bellach yn yr archifau.
Os hoffech weld llythyrau Harry a’r portread o’r teulu, gallwch fynd i’r archifau yn Rhuthun. I weld rhagor o fanylion, ewch i wefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn www.newa.wales.