Noddfa natur Prestatyn yn croesawu ychwanegiadau newydd
Mae noddfa natur Prestatyn yn dod at ei gilydd i greu cefnogaeth i fywyd gwyllt lleol.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn parhau i ddatblygu tir ym Mharc Bodnant er mwyn helpu a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal.
Dechreuodd y gwaith ar y tir yn gynharach eleni yn rhan o Brosiect Creu Coetir y Cyngor a’i ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae bron i 1500 o goed, yn cynnwys coed perthi wedi cael eu plannu ar Ffordd Parc Bodnant drwy gefnogaeth tîm Newid Hinsawdd y Cyngor, staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr a ddaeth allan i gefnogi’r gwaith.
Mae’r coed yn cynnwys coed ffrwythau, gwrych bywyd gwyllt a choed brodorol wedi’u gosod ymhell oddi wrth ei gilydd i helpu i ddarparu cysgod a chadw lleoliad cynefin y parcdir.
Mae gwaith wedi parhau trwy gydol y flwyddyn ac mae’r safle bellach yn cynnwys ychwanegiadau newydd er mwyn rhoi hwb i natur.
Mae pwll newydd wedi cael ei ychwanegu i’r safle sydd wedi cael ei ddylunio i ddal lefel isel o ddŵr er mwyn darparu’r amodau gorau i sawl rhywogaeth allu ffynnu.
Yn ymyl y pwll y mae yna ystafell ddosbarth pren yn yr awyr agored sydd wedi cael ei greu yn lleol. Mae to ystlumod arno er mwyn rhoi lle i’r mamal nosol allu clwydo.

Mae staff Cefn Gwlad wedi parhau i wella perllan ym Mharc Bodnant ac maent wedi datblygu dôl blodau gwyllt er mwyn i rywogaethau cynhenid allu ffynnu ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hi’n wych gweld y safle yma’n tyfu ac yn datblygu trwy ofal ac ymrwymiad ein Gwasanaeth Cefn Gwlad. Ni fyddai’r twf yn bosibl heb gefnogaeth gwirfoddolwyr, ac fe gwrddais i â rhai ohonynt yn gynharach eleni wrth i ni blannu coed, ac mae eu hymroddiad i’r amgylchedd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i natur lleol yma.
“Mae’r ystafell awyr agored hefyd yn ased gwych i’r safle, a dwi’n gobeithio y gall preswylwyr o bob oedran ddod i ddysgu am y safle a’i fwynhau.”
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sy’n rheoli Twyni Tywod Gronant ac yno, ynghyd â’i nythfa gysylltiedig wrth y Parlwr Du, mae’r unig nythfa yng Nghymru o fôr-wenoliaid bach sy’n bridio. Y fôr-wennol fechan yw’r rhywogaeth leiaf o fôr-wennol ym Mhrydain. Hon yw’r ail nythfa fwyaf ym Mhrydain, ac un o’r mwyaf llwyddiannus, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r nythfa ers 2005.
Mae’r môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica, cyn teithio i orllewin Ewrop i fridio bob haf. Maent yn cyrraedd ym mis Mai i fridio ar gerrig mân ambell draeth dethol, cyn dychwelyd i Affrica ym mis Awst. Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 ŵy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

Mae cuddliw effeithiol iawn gan gywion y fôr-wennol fach, sy’n byw ar lymrïaid. Llun: David Woodfall
Gyda chymorth gwirfoddolwyr o Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn paratoi at y tymor ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys gosod ac adeiladu dros 3km o gorlannau ffens drydan, ffens allanol arall, canolfan ymwelwyr a chuddfan. Pwrpas hyn yw amddiffyn y nythod rhag ysglyfaethwyr ar y cerrig mân, a rhag i ymwelwyr amharu arnynt.

Staff a gwirfoddolwyr yn gosod corlannau ar y cerrig mân i warchod nythod y môr-wenoliaid bach
Wedyn, gwaith staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, a Wardeiniaid y Môr-wenoliaid Bach yn bennaf, sef Sam, Jonny a Jordan, oedd sicrhau bod presenoldeb ar y safle bob dydd. Roedd eu rôl nhw’n cynnwys cynnal y ffensys trydan, sy’n cael eu troi ymlaen dros nos i warchod y môr-wenoliaid rhag ysglyfaethwyr ar y tir, yn cynnwys llwynogod, gwencïod a charlymod. Roedd y wardeiniaid hefyd yn cadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogau tramor yn bennaf, ac yn siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn. Mae’r wardeiniaid yn cadw cyfrif o nifer y nythod sydd ar y cerrig mân, ac yn nes ymlaen, ar nifer y cywion, sy’n rhoi syniad o lwyddiant y tymor. Y tymor hwn, cofnodwyd 155 o gywion yn nhwyni Gronant, sy’n ymgynnull ar y lan cyn gwneud y siwrnai yn ôl i Affrica, ychydig wythnosau o oed yn unig!
Mae Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u trwyddedu i dagio adar, sydd â thros 35 mlynedd o brofiad o weithio gyda môr-wenoliaid bach. Maen nhw’n casglu data gwerthfawr a fydd yn creu dealltwriaeth fwy manwl o’r adar yma. Er enghraifft, mae tagio yng Ngronant wedi helpu i ddod o hyd i’r fôr-wennol fechan hynaf ar gofnod, dros 25 oed!
Mae Gronant yn lle poblogaidd i griwiau o ymwelwyr ac rydw i wedi tywys nifer allan at y nythfa fy hun y tymor hwn. Un o’r ymweliadau cyntaf oedd criw o Geidwaid Ifanc o Barc Gwledig Loggerheads. Fe wnaeth grwpiau ysgol o Chweched Dosbarth Tir Morfa ac Ysgol Gynradd Bodnant hefyd fwynhau ymweld. Mae nifer o griwiau o oedolion wedi bod yng Ngronant eleni, yn cynnwys Gŵyl Gerdded Prestatyn, cerddwyr Nordig a KIM Inspire. Mae’r nythfa’n boblogaidd ymysg ymwelwyr unigol: rhai’n adarwyr profiadol, ac eraill yn dod i’r traeth, ond â diddordeb mawr yn y môr-wenoliaid bach! Gallai rhai oedd yn ymweld â’r nythfa weld y môr-wenoliaid bach o’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan, ac o’r traeth hefyd, gan gadw y tu allan i’r ffensys.

Bu grŵp o Ŵyl Gerdded Prestatyn yn mwynhau gwylio’r môr-wenoliaid bach drwy’r telesgop!

Ysgol Bodnant yn gwylio’r adar o’r ganolfan ymwelwyr
Wrth ysgrifennu hwn, rydym ni wrthi’n gorffen datgymalu’r gosodiadau ar gyfer eleni. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi gadael dim ôl yng Ngronant, sy’n golygu bod y cyfarpar yn cael ei gadw dros y gaeaf. Hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled eleni, ac edrychwn ymlaen at dymor llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf!
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am nythfa môr-wenoliaid bach Gronant, neu i wirfoddoli, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk neu 07785517398.