llais y sir

Enwch y Fflyd Ailgylchu

Mae'r Cyngor ar fin derbyn 21 o gerbydau ailgylchu newydd, gan gynnwys tri cherbyd trydan, ac rydym am i blant ysgol y sir eu henwi.

Mae’r gystadleuaeth yn rhedeg o 4 Medi tan 30 Medi a gwahoddir disgyblion Sir Ddinbych i gyflwyno enwau creadigol ar gyfer y lorïau ailgylchu yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae pedwar categori:

  • Blwyddyn 1-2
  • Blwyddyn 3-6
  • Blwyddyn 7-9
  • Categori teilyngdod arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig

Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y cerbydau newydd, a bydd cyfle i ddisgyblion gael tynnu eu llun gyda’r cerbyd a enwyd ganddynt.

Mae’r fflyd newydd yn cymryd lle’r hen fflyd ac mae’n rhan o ystod o fesurau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i gyrraedd targed ailgylchu’r sir o 70%.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Chludiant, “Datganodd Cyngor Sir Ddinbych argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019 a’i nod yw dod yn Gyngor sero carbon net erbyn 2030. Mae’r cerbydau ailgylchu newydd yn un ffordd y mae’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r nod hwn.

“Mae plant yn ein sir yn gwbl ymwybodol o’r argyfwng amgylcheddol, ac mae mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol yn hollbwysig ar gyfer eu dyfodol. Rydym eisiau eu cymorth i enwi’r fflyd newydd,  fydd yn llawer gwell na’n hen gerbydau wrth leihau allyriadau ar ffyrdd ein sir.

“Rydyn ni eisiau gweld enwau gwirioneddol greadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y broses feirniadu ym mis Hydref.”

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Terberg Matec UK, “Rydym yn gefnogol iawn o Gyngor Sir Ddinbych yn y gystadleuaeth enwi cerbydau; mae’n fenter sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgysylltu â'r gymuned a gweithio tuag at atebion cynaliadwy.

“Mae Terberg Matec UK yn falch iawn o fod wedi sicrhau archeb yn ddiweddar ar gyfer un o’r adnewyddiadau fflyd mwyaf yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i'n hymroddiad i ddarparu cerbydau rheoli gwastraff arloesol a dibynadwy i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gweithrediadau lleol.

“Mae’r gystadleuaeth enwi cerbydau yn adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin wrth feithrin cyfranogiad cymunedol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae’n dangos ein hymroddiad i greu effeithiau cadarnhaol y tu hwnt i ymarferoldeb cerbydau casglu sbwriel yn unig.”

Gall ysgolion a disgyblion gyflwyno cymaint o geisiadau ag y dymunant a rhaid eu cyflwyno’n unigol drwy’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid