llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Prosiect Tacsi Gwyrdd yn cyrraedd pen y daith

Kia EV6

Mae prosiect peilot wedi helpu i roi blas o gludiant mwy gwyrdd i 68 o yrwyr tacsis.

Mae Prosiect Tacsi Gwyrdd peilot y Cyngor wedi cwblhau ei filltiredd allyriadau isel terfynol, gan gefnogi cwmnïau tacsis ledled y sir sy’n ceisio gostwng eu hôl-troed carbon eu hunain.

Roedd y Cyngor yn un o’r ychydig o awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a gymerodd ran yn y cynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod tymor yr hydref 2021, dechreuodd y prosiect wrth ddefnyddio pedwar tacsi Nissan Dynamo E-NV200 oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn i’w defnyddio fel rhan o’r ‘cynllun rhoi cynnig arno cyn prynu’.

Roedd gyrwyr tacsis Hacni trwyddedig yn gallu profi’r cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod, a oedd yn cynnwys pwyntiau gwefru trydan am ddim mewn lleoliadau penodol yn y sir, trwydded cerbyd, yswiriant a pholisi torri i lawr.

Ar ôl cael adborth gan y gyrwyr tacsis ynglŷn â gwaith pellter hir, ychwanegwyd Kia EV6 i’r dewisiadau.

Gall y cerbyd deithio hyd at 328 o filltiroedd ar un gwefriad ac mae wedi’i ddylunio i ganiatáu i yrwyr tacsi weithio shifft gyfan yn hyderus gan gynnwys teithiau i feysydd awyr heb fod angen gwefru.

Roedd cyfanswm terfynol y milltiroedd ar gyfer y prosiect yn dangos fod y tacsis yn fras wedi teithio pellter o dair gwaith a hanner o amgylch y byd, sef 88,086 milltir.

Nifer y teithiau a gymerwyd i gefnogi sut y gall cludiant tacsi mwy gwyrdd helpu i ostwng allyriadau oedd 12,760 o siwrneiau unigol, ar draws y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r prosiect hwn wir wedi helpu gyrwyr tacsis ar draws y sir i gael profiad da o yrru cerbyd trydan. Mae wedi eu helpu i gyd i ganolbwyntio ar eu hôl-troed carbon eu hunain a beth allant ei wneud i ostwng eu heffaith. Mae adborth gan yrwyr wedi bod yn dda iawn.

“Mae’r prosiect wedi ein galluogi i gael adborth ar y defnydd o gerbydau allyriadau di-garbon yn ystod gweithrediadau tacsi heb gyfaddawdu ar ddarparu gwasanaeth a hefyd dangos yr arbedion tanwydd a’r effaith yn erbyn newid hinsawdd y gall cerbydau trydan ei ddarparu.”

“Mae’r peilot hefyd wedi helpu ein hadran fflyd yn ogystal ag edrych ar sut y gall gwahanol gerbydau trydan fod yn addas ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig sydd gan Sir Ddinbych.”

Caffi cymunedol yn paratoi dull o fynd i’r afael â gwastraff bwyd

Jade Lee  caffi Eiliadau

Mae caffi yn Rhuthun yn sicrhau nad yw bwyd da’n cael ei wastraffu, er mwyn cefnogi’r gymuned leol.

Mae caffi Eiliadau ar Stryd y Ffynnon wedi cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd diangen, er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan ReSource, wedi bod ar agor ers bron i bedwar mis yn Nhŷ’r Goron, sy’n eiddo i'r Cyngor.

Yn ddiweddar, cymerodd staff y Cyngor ran yn y rhaglen Design Differently gan y Cyngor Dylunio, gan ganolbwyntio ar yr economi gylchol o ran ailddefnyddio ac atgyweirio yn Sir Ddinbych gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Ailddefnyddio Cymru, a fu’n helpu gyda sefydlu’r syniad am gaffi.

Roedd y rhaglen Design Differently yn annog cydweithio, gan roi’r cyfle i Gyngor Sir Ddinbych gefnogi ReSource â rhai o’u syniadau ac i’r gwrthwyneb. Yna, defnyddiodd tri o staff ReSource y syniadau i greu canolbwynt cymunedol sy’n gwneud defnydd synhwyrol o fwyd dros ben.

Mae Jade Lee yn un o aelodau’r tîm: “Prif orchwyl y caffi yw derbyn bwyd dros ben bob amser, felly gall ein bwydlen newid o ddydd i ddydd ar gyfer ymwelwyr. Rydym yn darparu bwyd lleol lle bo modd hefyd a phan fyddwn yn prynu i mewn, byddwn yn ceisio sicrhau ei fod mor lleol â phosibl.

“Nid ydym yn gadael i unrhyw beth gael ei wastraffu, felly lle bo modd, byddwn yn ei ailddefnyddio ac mae hyn yn cadw’r costau’n isel i ni a’r rhai sy’n ymweld â’r caffi. Rydym yn cadw ein costau mor isel â phosibl, er mwyn ei gynnal fel caffi cymunedol.

Mae ein Tîm yn delio â’r Co-op, y neuadd farchnad yma yn Rhuthun. Rydym yn defnyddio Caws Figan Pips ac rydym wedi derbyn rhoddion gan Patchwork Foods, sydd wedi bod yn wych.”

Mae caffi Eiliadau ar agor ar hyn o bryd rhwng dyddiau Mercher a Sadwrn ac mae’n defnyddio cynllun addas i gefnogi Costau Byw, ar gyfer rhai sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd prynu yn ein lleoliad.

Eglurodd Jade: “Rydym hefyd yn derbyn rhagdaliadau, ac mae llawer o bobl yn credu ei fod yn gynllun ardderchog. Rydym yn rhoi unrhyw arian o dipiau mewn pot bach; yna caiff ei ddefnyddio pan na fydd rhywun sy’n dod i mewn yn gallu fforddio neu dalu’n llawn.

Mae’r caffi’n mynd i’r afael â mwy na bwyd dros ben yn unig, mae llyfrau a gemau ar y fwydlen hefyd.

Ychwanegodd Jade: “Rydym ni’n cynnal digwyddiadau bach, fel diwrnodau ar gyfer gêm benodol neu mae gennym glwb llyfrau hefyd er mwyn denu pobl i mewn. Bu i ni gynnal un digwyddiad lle gallai pobl ddod draw i ddysgu am steiliau gwallt y 1960au. Mae rhai’n rhentu’r caffi ar gyfer digwyddiadau, fel y gallant ei ddefnyddio ar gyfer gweithdy penodol a digwyddiadau ar gyfer y gymuned.

“Rydym hyd yn oed wedi cynnal ein parti plant cyntaf. Mae’r teulu eisoes yn galw i mewn yn aml gyda’u plant ifanc."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae creu dull partneriaeth yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu wrth addasu i newid yn yr hinsawdd. Roeddem yn ddiolchgar o gael y cyfle hwn gan y Cyngor Dylunio, sydd wedi ein helpu wrth symud ymlaen fel Cyngor, i weithio’n agosach â’n cymunedau, megis Caffi Eiliadau, er mwyn mynd i’r afael â gwastraff bwyd ar yr amgylchedd yn well er enghraifft gyda’n gilydd.”

Disgyblion Corwen yn creu cynefin newydd i warchod natur

Ymunodd disgyblion Ysgol Caer Drewyn gyda Thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i greu dôl o flodau gwyllt newydd er mwyn i’r ysgol helpu natur yn lleol.

Mae gan blant cynradd Corwen ardal newydd i hybu bioamrywiaeth ar dir yr ysgol.

Ymunodd disgyblion Ysgol Caer Drewyn gyda Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i greu dôl o flodau gwyllt newydd er mwyn i’r ysgol helpu natur yn lleol.

Mae’r ardal newydd yn rhan o wobr yr ysgol ar ôl llwyddo yng nghategori CA1 yr ysgol yng nghystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol y Cyngor lle roedd gofyn i ddisgyblion anfon neges yn ôl drwy amser i’n cynorthwyo i ddeall sut i greu gwell dyfodol ar gyfer ein hunain yn ein sir ac ar draws y byd.

Roedd Lily ac Eleanor, sy’n ddisgyblion yn yr ysgol, yn edrych ar sut y gellid helpu i adfer cefnforoedd a choedwigoedd glaw a’u cynefinoedd yn dilyn newid hinsawdd ac ecolegol ar gyfer 2050.

Roedd yr holl enillwyr yn cael detholiad o lyfrau amgylcheddol i’w hysgol, sgwrs gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor Sir a chasgliad o blanhigion bwlb i’w plannu er mwyn creu neu wella ardal blodau gwyllt.

Bu i ddisgyblion Blwyddyn Un a Dau dorchi eu llewys gyda’r swyddogion i blannu’r blodau gwyllt sydd wedi’u tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy yng nghornel tir yr ysgol i greu dôl newydd.

Fe wnaethon nhw blannu meillion coch, blodau neidr, pys y ceirw, milddail a chraith unnos.

Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth: “Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i wneud eu rhan i greu’r ddôl gan eu bod yn deall sut mae’r ardaloedd hyn yn cefnogi ystod o fywyd gwyllt o ‘fwystfilod bach’ (infertebratau) fel gwenyn ac ieir bach yr haf i anifeiliaid mwy fel adar a draenogod. Roeddent yn wych ac yn hynod frwdfrydig yn maeddu eu dwylo i wneud gwahaniaeth ar gyfer eu dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o’r disgyblion am fynd ati i greu ardal o flodau gwyllt. Mae’r rhain yn hybu natur a bioamrywiaeth yn lleol, ond hefyd maent er budd i ni, yn enwedig cenedlaethau’r dyfodol fel y plant yma a fydd yn gweld y darn yma o dir yn tyfu a gwarchod ein rhywogaethau.”

Cydnabuwyd holl waith eco disgyblion Ysgol Caer Drewyn ac maent wedi cadw eu Statws Platinwm gan Gadwch Gymru’n Daclus am y nawfed flwyddyn eleni.

Cafodd y gystadleuaeth ei chefnogi hefyd gan Brydain Di-Garbon y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT). Mae CAT yn elusen addysgiadol sydd wedi ymrwymo i ymchwilio a chyfathrebu datrysiadau cadarnhaol i newid amgylcheddol.

Planhigfa goed yn tyfu gwreiddiau ar gyfer cymuned wirfoddoli gref

Mae planhigfa coed o darddiad lleol Cyngor Sir Ddinbych, yn Fferm Green Gates, Llanelwy

Mae cymuned fywiog o wirfoddolwyr wedi ffurfio o wreiddiau prosiect bioamrywiaeth.

Mae planhigfa coed o darddiad lleol y Cyngor, yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn ceisio cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol y flwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol i Natur, hefyd yn meithrin grŵp cynyddol o wirfoddolwyr sydd wedi dod yn awyddus i wylio eu gwaith yn tyfu i fod yn gymorth hanfodol i fioamrywiaeth sirol.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth. Eisoes yr hydref diwethaf ychwanegwyd bron i 8,000 o blanhigion at nifer o Ddolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych.

Daeth Angela Mackirdy, sy’n byw yn y Rhyl ac yn wreiddiol o Swydd Amwythig, i helpu a chefnogi uchelgais y blanhigfa goed y llynedd ar ôl cysylltu â thîm bioamrywiaeth y Cyngor ynghylch cyfleoedd amgylcheddol.

Fe esboniodd: “Pan oeddwn yn Swydd Amwythig roeddwn i'n arfer gwneud llawer o bethau amgylcheddol. Roedd gennym ni dyddyn, roeddem yn amgylcheddwyr lefel uchel. Fe wnes i arolygon adar, arolygon natur, arolygon planhigion, roedden ni’n rhan go iawn o'r grŵp bywyd gwyllt lleol.

“Dechreuais ddod y llynedd pan oeddem at ein pen-gliniau mewn mwd. Dwi jyst yn mwynhau, dwi'n mwynhau dod allan a chyfarfod pobl a gweld sut mae pethau wedi datblygu. Mae'n anhygoel yn tydi.

“Pan wnaethon ni blannu’r mes ac yna gweld y derw yn dechrau tyfu, rydych chi’n meddwl ymhen 50 mlynedd bydd y goeden honno’n mynd i fod yn tyfu yn rhywle.”

Mae Simon Roberts, sy'n rhedeg rhandir ym Mhrestatyn, yn nodi’r cyfle i ddysgu fel agwedd wych o wirfoddoli yn y blanhigfa.

“Rydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl na fyddech chi'n cwrdd â nhw fel arfer ac mae'n lle braf. Rydych chi'n dysgu llawer mwy am y blodau gwyllt. Mae gennym ni foncen lawr yn y rhandir, rydym wedi plannu pethau ac yn ceisio ei chael cystal ag y gwelwch y tu allan yma.

“Mae Neil (Swyddog y Blanhigfa Goed) yn wybodus iawn am bethau, sydd yn fy helpu i, pethau na allaf eu tyfu gartref mae’n sôn amdanynt.”

Mae’r cwpl priod, Roger a Sue Jones, o Lanelwy, yn falch, nid yn unig o gefnogi bioamrywiaeth leol, ond hefyd o allu teithio’n gynaliadwy i wneud hynny.

Dywedodd Roger: “Rydyn ni'n eitha gwyrdd ... gwelodd Sue hwn yr wythnos diwethaf a dywedais y dylen ni fynd i lawr a dyma ni.”

Ychwanegodd Sue: “Mae’n hawdd i ni yn Llanelwy, gallwn gerdded neu feicio.”

Mae Clare Frederickson, yn teithio draw o Glyn Ceiriog yn ei cherbyd trydan, i chwarae ei rhan i helpu i hybu’r planhigion a’r coed ar gyfer bioamrywiaeth leol.

Fe esboniodd: “Roeddwn i wir eisiau dod, mae'n gyfle da, mae'n anhygoel beth sydd wedi'i wneud. Mae dydd Mawrth yn ddiwrnod da iawn i mi, a meddyliais y gallwn ddod draw i weld a allaf wneud unrhyw beth defnyddiol.

“Mae’n anhygoel bod yma… mae’n hyfryd iawn, mae’n brydferth.”

Eglurodd Gareth Hooson, o Ddinbych, fod ei gymhelliant dros helpu'r blanhigfa yn rhan o'r darlun ehangach o newid hinsawdd.

Dywedodd: “Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth pwysicach na’r angen am goed ar hyn o bryd, dyna’r prif gymhelliant os mynnwch.

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth, pan ddechreuais pan oeddwn yn fyfyriwr, yn gweithio swyddi haf mewn garddwriaeth ... nid yw byth wedi fy ngadael."

Dechreuodd Gareth wirfoddoli pan apeliodd y tîm Bioamrywiaeth am gymorth i gasglu mes yn hydref 2022 i dyfu yn y blanhigfa.

“Dim ond gweld hynny drwodd mewn gwirionedd. Fe wnaethon ni eu casglu, eu plannu, eu potio a dyma nhw. Unwaith y byddwch chi'n cymryd rhan, rydych chi’n gwirioni gan eich bod chi'n sylweddoli gwerth yr hyn rydych chi'n ei wneud.

“Y cam nesaf fydd cael y rhain allan i’r amgylchedd, i’w cael nhw i gychwyn tyfu.

“Mae’n beth gwerthfawr i’w wneud, dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli’r sefyllfa rydyn ni ynddi mewn gwirionedd ac mae angen i ni gyd-dynnu a rhoi trefn ar bethau os ydyn ni’n gallu.

“Mae’n gyfleuster eithaf unigryw hwn dwi’n meddwl ac mae bod yn rhan ohono yn bendant yn beth gwerth chweil. Mae’n brosiect gwych a gobeithio y byddaf yma i’w weld mewn 10 mlynedd!”

Mae Neil Rowlands, Swyddog y Blanhigfa Goed, yn gofalu am yr holl wirfoddolwyr: “Maen nhw wedi bod yn wych, maen nhw’n grŵp mor wych ac felly wedi buddsoddi yn yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni yma yn y blanhigfa.

“Mae’n wych eu cael nhw yma gan ei fod wedi dod yn gymuned fywiog go iawn ac mae gan bawb ddiddordeb mewn dysgu sut rydyn ni’n tyfu’r planhigion a’r coed. Heb y gwirfoddolwyr ni fyddem wedi gallu cyrraedd y cam yr ydym arno ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am eu holl gefnogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi dod i’r blanhigfa goed i helpu. Mae eu hymdrechion yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth mawr i fioamrywiaeth leol a hefyd rwy’n falch eu bod yn mwynhau eu hamser ar y safle yn fawr.”

Os hoffech chi wirfoddoli i helpu yn y blanhigfa goed, anfonwch e-bost at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

Disgyblion yn pweru diogelwch natur yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Penmorfa yn gofalu am fioamrywiaeth o amgylch eu hysgol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae disgyblion Prestatyn yn creu noddfa i natur oroesi ar dir eu hysgol.

Mae disgyblion Ysgol Penmorfa yn gofalu am fioamrywiaeth o amgylch eu hysgol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae’r ysgol wedi creu nifer o ardaloedd awyr agored i fywyd gwyllt ffynnu, gan gynnwys eu gardd sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth, ardaloedd blodau gwyllt a choridorau coed. Dros y gaeaf, plannodd yr ysgol 400 o goed gan Goed Cadw ar eu tir a 15 o goed ffrwythau brodorol gyda help tîm gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gan greu coridor bywyd gwyllt o goed ifanc a glaswellt hir o amgylch tu allan i gae eu hysgol.

Trwy gyngor a chefnogaeth gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor, mae disgyblion yn symud ymlaen wrth gynnig cefnogaeth gynyddol i’r natur sydd ar y safle trwy ddefnyddio’r hyn y mae tir yr ysgol yn ei ddarparu. Yn ddiweddar, aeth staff i ymweld ag Ysgol Penmorfa i redeg sesiwn fioamrywiaeth i ddisgyblion o’r grŵp garddio sgiliau bywyd. Bu’r tîm yn helpu’r disgyblion i gasglu hadau o dir eu hysgol i helpu i ailgyflenwi a rhoi hwb i’w hardaloedd blodau gwyllt presennol a gobeithio creu mwy yn y dyfodol gan ddefnyddio’r ffynhonnell hadau gynaliadwy hon. Bu’r staff yn arwain helfa chwilod o amgylch tir yr ysgol hefyd i ddangos i ddisgyblion beth yw gwerth yr ardaloedd gwyllt hyn i infertebratau a bywyd gwyllt arall.

Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth: “Roedd yn hyfryd gweld pa mor frwdfrydig oedd y plant am y gwahanol infertebratau sy’n byw ar dir eu hysgol. Mae mor bwysig iddynt ddysgu am fyd natur a rhyngweithio ag ef, er lles eu hiechyd nhw ac iechyd y blaned yn y dyfodol. Mae’r ardaloedd gwyllt mae Ysgol Penmorfa wedi’u creu yn llawn dop ac mae pob cam fel hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, gan sicrhau dyfodol i’r plant hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf diffygiol o ran natur yn y byd, ac mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o gael eu colli, ac mae mwy na 97% o’n dolydd blodau gwyllt wedi’u colli dros y 100 mlynedd diwethaf.

“Felly mae’r hyn mae’r disgyblion hyn yn ei wneud yma yn wych, mae eu gofal a’u hangerdd dros ddysgu sut i ddiogelu’r cynefinoedd hyn ar dir eu hysgol eu hunain yn rhywbeth y gallwn i gyd ddysgu ohono.”

Rhandiroedd Dinbych yn barod i dyfu bwyd bendigedig ar gyfer y gymuned

Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi ymuno â Bwyd Bendigedig Dinbych er mwyn helpu i baratoi rhandiroedd sydd wedi cael eu rhoi i’r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.

Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi torchi eu llewys i helpu i dyfu bwyd ar stepen drws Dinbych.

Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi ymuno â Bwyd Bendigedig Dinbych er mwyn helpu i baratoi rhandiroedd sydd wedi cael eu rhoi i’r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.

Mae grwpiau Bwyd Bendigedig yn gweithio i greu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig drwy ddefnyddio bwyd ac maent yn croesawu’r cyhoedd i fod yn rhan o dyfu cynnyrch ffres yn lleol.

Mae grŵp Dinbych yn anelu i dyfu bwyd gyda chymorth gan y gymuned leol, gan ganiatáu i bobl gael mynediad i ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn lleol.

Mae Bwyd Bendigedig Dinbych hefyd yn anelu i ddysgu sgiliau i’r gymuned er mwyn iddynt allu tyfu bwyd gartref. Mae cyfres o weithdai wedi’u cynllunio i ddysgu’r sgiliau yma i bobl, yn ogystal â choginio’n iach a sut i werthfawrogi bwyd sy’n weddill.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi helpu’r grŵp i gynllunio ac adeiladu’r isadeiledd sydd ei angen i gyflawni eu nodau lleol.

Mae hyn yn cynnwys mynediad cerrig a llwybr i bobl anabl i ganiatáu mynediad i’r ardal tyfu, dau wely planhigion a lloches a fydd yn darparu gofod storio yn ogystal â lloches rhag yr haul neu’r glaw.

Meddai’r Ceidwad Cefn Gwlad, Brad Shackleton: “Mae wedi bod yn braf iawn i allu cefnogi gwaith arbennig Bwyd Bendigedig Dinbych yma yn y dref drwy eu helpu i baratoi eu safle. Mae rhoi cyfle i’r gymuned gael bwyd lleol a rhoi cynnig ar ei dyfu eu hunain yn fenter ardderchog.”

Dywedodd Sue Lewis o Fwyd Bendigedig Dinbych: “Mae Bwyd Bendigedig Dinbych yn rhan o’r grŵp Bwyd Cymunedol ehangach a ffurfiwyd yn dilyn Cynulliad Y Bobl ar fwyd lleol a chynaliadwy a gynhaliwyd y llynedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan staff y Cyngor, a hefyd gan y Cynghorydd Delyth Jones sydd wedi ein helpu i wneud y rhandir cymunedol yn realiti. Rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i ymuno â ni - mae croeso i bawb!”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae rhoi cyfle i gymunedau dyfu eu bwyd ffres eu hunain, dysgu a mwynhau’r buddion, mor bwysig yn yr oes sydd ohoni ac rydw i’n falch iawn bod ein Staff Cefn Gwlad a’n gwirfoddolwyr wedi gallu cefnogi’r grŵp.”

Bill yn cynnig ffordd o ailddefnyddio hen bren ynn mewn parc

Ceffyl cob brown a gwyn yn tynnu coed ym Mharc Gwledig Loggerheads gyda'i hyfforddwr

Mae dull traddodiadol marchnerth wedi helpu i ddefnyddio pren eto ar ôl gwaith clefyd coed ynn.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cael cefnogaeth gan gyfaill pedair coes ym Mharc Gwledig Loggerheads i glirio pren i’w ailddefnyddio ar ôl gwaith diweddar ar y safle i atal clefyd coed ynn.

Mae’r goeden onnen sy’n frodorol i’r DU yn arbennig o gyffredin ar draws tirwedd Sir Ddinbych ac yn anffodus, mae llawer o’r coed hyn, gan gynnwys rhai yn Loggerheads, wedi’u heffeithio gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus, sy’n achosi clefyd coed ynn.

Cafodd coed y credwyd eu bod yn risg oherwydd y clefyd eu torri i lawr yn y parc ond caiff y pren sydd dros ben ei ailddefnyddio i gefnogi’r parc ymhellach, diolch i ymdrechion Bill, Cob Sipsi 15 oed.

Daeth Kevin Taylor o Shire X Logging â Bill i’r parc i helpu staff Cefn Gwlad i dynnu coed na allent eu cyrraedd gyda cherbydau ac a oedd yn rhy drwm i’w symud â llaw. Mae wedi bod yn gweithio gyda Bill ers 11 mlynedd ac mae’r ddau yn agos iawn.

Mae defnyddio Bill yn enghraifft o reoli coedwigoedd lle mae ceffylau’n symud coed o le maent wedi cwympo i le i’w casglu. Mae’r dechneg yn fwy carbon gyfeillgar gyda’r ceffyl yn disodli cerbydau, ac yn well i ecoleg y goedwig.

Bydd y pren y bydd Bill yn ei gasglu yn cael ei falu’n ddarnau y mae modd eu defnyddio er mwyn creu meinciau ar gyfer y parc.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod dull traddodiadol wedi ein galluogi i adfer y pren hwn i’w ailddefnyddio yn y parc o le y daeth ar ôl y gwaith pwysig hwn ar glefyd coed ynn yn y parc a diolch i bawb am eu cefnogaeth tra’r oedd Bill yn gwneud ei waith.”

Tîm yn gweithio i warchod hanes hynafol coed lleol

Mae apêl wedi'i lansio i helpu i warchod llinach coed hynafol Sir Ddinbych.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn paratoi i ymgymryd â gwaith i helpu i ddiogelu hanes hen goed yn y rhanbarth.

Mae’r tîm yn apelio ar bob tirfeddianwr yn Sir Ddinbych sydd â choed llydanddail brodorol hynafol neu hynod ar eu heiddo i gymryd cam ymlaen i helpu i warchod y llinach.

Os oes gan dirfeddianwyr ddiddordeb mewn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth yn y sir, y cyfan sydd angen i'r swyddogion ei wneud yw casglu hadau o'r goeden ddynodedig.

Bydd y rhain wedyn yn cael eu tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy y mae 11,500 o goed eisoes wedi tyfu ar y safle yn 2023.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey: “Rydym ni’n chwilio am y coed gwych hyn a’u hadau nhw i helpu i gadw a chynyddu brigdwf ein sir a byddem ni’n gwerthfawrogi cymorth tirfeddianwyr i wneud hyn yn fawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gennym ni gyfleuster gwych, sef ein planhigfa goed, sydd wir yn bwrw ymlaen i’n helpu ni i wella ein bioamrywiaeth ar hyd a lled Sir Ddinbych. Byddai'n wych pe gallem ni ddefnyddio hwn i barhau ag etifeddiaeth y coed hynafol balch hynny sydd allan yn y sir a byddwn yn annog tirfeddianwyr i gysylltu os ydyn nhw am wneud eu rhan nhw i helpu ein brigdwf lleol i ffynnu.

Cysylltwch â’r Tîm Bioamrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth - bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid