Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi torchi eu llewys i helpu i dyfu bwyd ar stepen drws Dinbych.

Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi ymuno â Bwyd Bendigedig Dinbych er mwyn helpu i baratoi rhandiroedd sydd wedi cael eu rhoi i’r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.

Mae grwpiau Bwyd Bendigedig yn gweithio i greu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig drwy ddefnyddio bwyd ac maent yn croesawu’r cyhoedd i fod yn rhan o dyfu cynnyrch ffres yn lleol.

Mae grŵp Dinbych yn anelu i dyfu bwyd gyda chymorth gan y gymuned leol, gan ganiatáu i bobl gael mynediad i ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn lleol.

Mae Bwyd Bendigedig Dinbych hefyd yn anelu i ddysgu sgiliau i’r gymuned er mwyn iddynt allu tyfu bwyd gartref. Mae cyfres o weithdai wedi’u cynllunio i ddysgu’r sgiliau yma i bobl, yn ogystal â choginio’n iach a sut i werthfawrogi bwyd sy’n weddill.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi helpu’r grŵp i gynllunio ac adeiladu’r isadeiledd sydd ei angen i gyflawni eu nodau lleol.

Mae hyn yn cynnwys mynediad cerrig a llwybr i bobl anabl i ganiatáu mynediad i’r ardal tyfu, dau wely planhigion a lloches a fydd yn darparu gofod storio yn ogystal â lloches rhag yr haul neu’r glaw.

Meddai’r Ceidwad Cefn Gwlad, Brad Shackleton: “Mae wedi bod yn braf iawn i allu cefnogi gwaith arbennig Bwyd Bendigedig Dinbych yma yn y dref drwy eu helpu i baratoi eu safle. Mae rhoi cyfle i’r gymuned gael bwyd lleol a rhoi cynnig ar ei dyfu eu hunain yn fenter ardderchog.”

Dywedodd Sue Lewis o Fwyd Bendigedig Dinbych: “Mae Bwyd Bendigedig Dinbych yn rhan o’r grŵp Bwyd Cymunedol ehangach a ffurfiwyd yn dilyn Cynulliad Y Bobl ar fwyd lleol a chynaliadwy a gynhaliwyd y llynedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan staff y Cyngor, a hefyd gan y Cynghorydd Delyth Jones sydd wedi ein helpu i wneud y rhandir cymunedol yn realiti. Rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i ymuno â ni - mae croeso i bawb!”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae rhoi cyfle i gymunedau dyfu eu bwyd ffres eu hunain, dysgu a mwynhau’r buddion, mor bwysig yn yr oes sydd ohoni ac rydw i’n falch iawn bod ein Staff Cefn Gwlad a’n gwirfoddolwyr wedi gallu cefnogi’r grŵp.”