Mae Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych wrthi’n brysur yn adeiladu gardd gofio er cof am y preswylwyr a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Maen nhw’n gobeithio cynnwys mwy o ddodrefn gardd, potiau plannu, planhigion ac addurniadau yn yr ardd gofio newydd.
Bydd yr ardd yn darparu lle i’r preswylwyr ymlacio a chofio.
Cynhaliwyd bore coffi yn gynharach eleni, i helpu gydag ariannu’r ardd newydd hon.
Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen: “Fe fydd yr ardd yn rhywle i’r preswylwyr fynd i’w mwynhau, a chofio’r rhai a gollwyd yn ystod y Pandemig.
"Mae treulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd yn gwella lles ac iechyd meddwl.
"Mae ein preswylwyr yn mwynhau creu man gwyrdd i dreulio amser ynddo.”
Dywedodd preswyliwr yn y cartref gofal: “Mae'n braf mynd i eistedd tu allan ac edrych ar y blodau, yn enwedig pan fo’r haul yn tywynnu”.