llais y sir

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd i gasglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Bydd cynllun peilot o gasgliadau newydd Nwyddau Hylendid Amsugnol (NHA) yn cychwyn fis Medi 2023.

Ar hyn o bryd, mae’r cynllun newydd ar gael i breswylwyr yn ardaloedd cod post LL16 ac LL17 yn unig ond bydd yn cael ei ymestyn i weddill y sir ymhellach ymlaen.

Ymysg rhai o’r nwyddau a gesglir fel rhan o’r gwasanaeth yma mae clytiau, bagiau clytiau, weips, padelli gwely tafladwy, padiau anymataliaeth a bagiau colostomi a stoma (mae rhestr gynhwysfawr ar wefan y Cyngor). Mae’r gwasanaeth wythnosol yma’n rhad ac am ddim a’i nod yw lleihau’r gwastraff sydd mewn biniau du preswylwyr, gan fod 20% o hwn yn wastraff NHA. Mae’n rhan o waith ehangach gan y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Arweinydd Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Rydym yn cychwyn drwy gasglu’r gwastraff yma ar wahân yn awr fel ein bod yn barod i’w ailgylchu ar unwaith pan fydd cytundeb mewn lle gyda chyfleuster ailgylchu. Yn y dyfodol, gallai’r gwastraff yma gael ei ailgylchu i greu ystod o gynnyrch newydd, megis byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg a ddefnyddir ar arwynebau ffyrdd.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Tra bod ystyried mwy o bethau i’w hailgylchu yn wych, rydym hefyd yn annog preswylwyr i ystyried ffyrdd eraill o leihau eu gwastraff. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio clytiau amldro sy’n rhatach na rhai a deflir. Mae’r Cyngor yn cynnig cynllun talebau clytiau amldro i helpu preswylwyr drwy gynnig gwerth £25 o dalebau i’w gwario ar glytiau amldro.”

Os ydych yn gymwys, mae modd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd NHA yn awr gyda chasgliadau yn cychwyn o ddydd Llun 25 Medi.

Mae gwybodaeth bellach am y gwasanaeth newydd, gan gynnwys sut i gofrestru ar ein gwefan

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid