Yn dilyn y digwyddiad hynod lwyddiannus a gafwyd y llynedd, hwn oedd y seithfed tro i’r diwrnod chwarae am ddim poblogaidd gael ei gynnal ar gaeau chwarae Christchurch yn y Rhyl.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ganolfan y Dderwen y Rhyl, a chafodd ei drefnu gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae y Cyngor i helpu plant i fwynhau eu gwyliau haf.

Roedd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim, gan gynnwys sesiwn sgiliau syrcas, Jurassic Live, adeiladu cuddfannau, celf a chrefft a llithro a sleidio ar ddŵr.

Dywedodd Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae y Cyngor: “Roedd yn wych cael croesawu teuluoedd yn ôl am y seithfed tro i’r diwrnod chwarae eleni.

"Mae hwn bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd ymysg teuluoedd lleol.

"Mae’n hyfryd gweld teuluoedd yn mwynhau eu hunain ac roedd yr adborth a gawsom gan fynychwyr yn gadarnhaol eto eleni”.