Newyddion
Sut mae’r Cyngor yn perfformio?
Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!
Ym mis Medi bydd Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 yn cael ei lansio.
Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.

Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddysgu a gwella, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau byr cyn gynted ag y bydd yn weithredol.
Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor. I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk o ddydd Llun 11 Medi.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd i gasglu Nwyddau Hylendid Amsugnol
Bydd cynllun peilot o gasgliadau newydd Nwyddau Hylendid Amsugnol (NHA) yn cychwyn fis Medi 2023.
Ar hyn o bryd, mae’r cynllun newydd ar gael i breswylwyr yn ardaloedd cod post LL16 ac LL17 yn unig ond bydd yn cael ei ymestyn i weddill y sir ymhellach ymlaen.
Ymysg rhai o’r nwyddau a gesglir fel rhan o’r gwasanaeth yma mae clytiau, bagiau clytiau, weips, padelli gwely tafladwy, padiau anymataliaeth a bagiau colostomi a stoma (mae rhestr gynhwysfawr ar wefan y Cyngor). Mae’r gwasanaeth wythnosol yma’n rhad ac am ddim a’i nod yw lleihau’r gwastraff sydd mewn biniau du preswylwyr, gan fod 20% o hwn yn wastraff NHA. Mae’n rhan o waith ehangach gan y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Arweinydd Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Rydym yn cychwyn drwy gasglu’r gwastraff yma ar wahân yn awr fel ein bod yn barod i’w ailgylchu ar unwaith pan fydd cytundeb mewn lle gyda chyfleuster ailgylchu. Yn y dyfodol, gallai’r gwastraff yma gael ei ailgylchu i greu ystod o gynnyrch newydd, megis byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg a ddefnyddir ar arwynebau ffyrdd.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Tra bod ystyried mwy o bethau i’w hailgylchu yn wych, rydym hefyd yn annog preswylwyr i ystyried ffyrdd eraill o leihau eu gwastraff. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio clytiau amldro sy’n rhatach na rhai a deflir. Mae’r Cyngor yn cynnig cynllun talebau clytiau amldro i helpu preswylwyr drwy gynnig gwerth £25 o dalebau i’w gwario ar glytiau amldro.”

Os ydych yn gymwys, mae modd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd NHA yn awr gyda chasgliadau yn cychwyn o ddydd Llun 25 Medi.
Mae gwybodaeth bellach am y gwasanaeth newydd, gan gynnwys sut i gofrestru ar ein gwefan.
Dros 2,800 o bobl yn mynychu diwrnod chwarae am ddim yn y Rhyl
Daeth dros 2,800 o bobl i ddigwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Sir Ddinbych eleni, a gynhaliwyd ym mis Awst.
Yn dilyn y digwyddiad hynod lwyddiannus a gafwyd y llynedd, hwn oedd y seithfed tro i’r diwrnod chwarae am ddim poblogaidd gael ei gynnal ar gaeau chwarae Christchurch yn y Rhyl.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ganolfan y Dderwen y Rhyl, a chafodd ei drefnu gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae y Cyngor i helpu plant i fwynhau eu gwyliau haf.
Roedd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim, gan gynnwys sesiwn sgiliau syrcas, Jurassic Live, adeiladu cuddfannau, celf a chrefft a llithro a sleidio ar ddŵr.
Dywedodd Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae y Cyngor: “Roedd yn wych cael croesawu teuluoedd yn ôl am y seithfed tro i’r diwrnod chwarae eleni.
"Mae hwn bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd ymysg teuluoedd lleol.
"Mae’n hyfryd gweld teuluoedd yn mwynhau eu hunain ac roedd yr adborth a gawsom gan fynychwyr yn gadarnhaol eto eleni”.
Cartref Gofal yn Ninbych yn dechrau gwaith ar Ardd Gofio
Mae Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych wrthi’n brysur yn adeiladu gardd gofio er cof am y preswylwyr a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Maen nhw’n gobeithio cynnwys mwy o ddodrefn gardd, potiau plannu, planhigion ac addurniadau yn yr ardd gofio newydd.
Bydd yr ardd yn darparu lle i’r preswylwyr ymlacio a chofio.
Cynhaliwyd bore coffi yn gynharach eleni, i helpu gydag ariannu’r ardd newydd hon.
Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen: “Fe fydd yr ardd yn rhywle i’r preswylwyr fynd i’w mwynhau, a chofio’r rhai a gollwyd yn ystod y Pandemig.
"Mae treulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd yn gwella lles ac iechyd meddwl.
"Mae ein preswylwyr yn mwynhau creu man gwyrdd i dreulio amser ynddo.”
Dywedodd preswyliwr yn y cartref gofal: “Mae'n braf mynd i eistedd tu allan ac edrych ar y blodau, yn enwedig pan fo’r haul yn tywynnu”.
Y Cyngor yn cyhoeddi argraffiadau artist ar gyfer Prosiect 4 Priffordd Fawr
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi argraffiadau artist o prosiect 4 Priffordd Fawr o sut fydd rhannau o Langollen yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mae’r prosiect yn anelu i wella’r tirlun a gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn Llangollen.
Mae’r prosiect yn rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Yn y misoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi cynnal nifer o weithgareddau ymgynghori i gasglu adborth gan y cyhoedd am y gwelliannau y dymunent eu gweld fel rhan o’r prosiect hwn. Mae’r rhain wedi cynnwys cerdded o amgylch ardal y prosiect i glywed barn preswylwyr ar y cynlluniau, cyfleoedd i gyflwyno adborth drwy Sgwrs y Sir, porth ymgynghori ar-lein y Cyngor, sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref Llangollen a chyfle i fynegi barn ar ddyluniadau cychwynnol drwy arddangosfa gyhoeddus o’r gwaith celf yn y llyfrgell.

Yn seiliedig ar yr adborth hwn, mae’r Cyngor wedi cwblhau dyluniadau ac wedi cyhoeddi argraffiadau’r arluniwr ar gyfer sut bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r prosiect. Bydd y cynlluniau manwl ar gael ar dudalen we un pwrpas y Cyngor ar gyfer y 4 Priffordd Fawr cyn bo hir.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi cychwyn ei broses tendro i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â’r gwaith ac yn gobeithio penodi un erbyn diwedd mis Medi 2023.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu adborth gan bobl ar yr opsiynau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer yr arwyddion newydd fydd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect.
Mae gwybodaeth ddiweddaraf am brosiect 4 Priffordd Fawr y Cyngor i’w gweld yma: https://www.sirddinbych.gov.u/pedair-priffordd-fawr
Datblygiadau cyffrous ar gyfer Rhuthun a’r cymunedau cyfagos diolch i gyllid Ffyniant Bro
Ym mis Ionawr, mi roedd y Cyngor yn falch o dderbyn cadarnhad ei fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygiad 10 prosiect sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. Cefnogwyd y cynigion gan AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.
Mae dwy brif elfen i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun drwy welliannau i’r parth cyhoeddus ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gynnal hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.
Bydd yr ail yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun drwy welliannau i safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.
Bydd y Cyngor yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau, a bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni’r ddau brosiect olaf.
Disgwylir i'r prosiectau hyn gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2025 gyda'r gwaith adeiladu'n debygol o ddechrau yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth yng Ngharchar Rhuthun a groesawyd dwsinau o breswylwyr lleol trwy’r drysau i ddysgu mwy am y datblygiadau cyffrous.

Roedd y sesiwn alw mewn yn gyfle i Reolwyr Prosiect rannu dyheadau’r prosiectau a sut y byddant yn helpu i sicrhau fod diwylliant a threftadaeth gyfoethog Rhuthun a’r cymunedau cyfagos yn cael eu diogelu.
Bydd gwybodaeth am gynlluniau’r prosiectau, gan gynnwys amserlenni ar gyfer dyddiadau cwblhau disgwyliedig, yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd wrth iddynt ddatblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o bobl leol yn cymryd diddordeb ac yn dod i’r sesiwn alw mewn yng Ngharchar Rhuthun i ddysgu mwy am y prosiectau a fydd yn digwydd yn yr ardal yn fuan.
“Rydym yn awyddus i sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cynlluniau ar gyfer Rhuthun a’r cymunedau cyfagos a hyrwyddo’r arwyddocâd sydd gan y prosiectau hyn wrth amddiffyn treftadaeth y dref.”
Mae manylion y deg prosiect sydd wedi cael cyllid trwy raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar wefan y Cyngor.

Adolygu perfformiad y Cyngor
Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn cynhyrchu adroddiad i grynhoi ein perfformiad. Mae’r adroddiad yn rhan ganolog o’r ffordd rydym ni’n gwerthuso ein perfformiad; er mwyn sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl a llefydd yn Sir Ddinbych, ac i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol.
Wedi’i gyhoeddi ar-lein yma, mae ein crynodeb gweithredol am y flwyddyn yn ceisio tynnu sylw at uchafbwyntiau ein perfformiad yn erbyn ein swyddogaethau, ac mae’n edrych ymlaen at yr heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym wedi amlygu meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnal perfformiad a’i wella lle bo’r angen. Mae ein hadroddiadau perfformiad chwarterol manwl wedi’u cyhoeddi ar-lein hefyd. Adroddiad mis Ionawr i fis Mawrth 2023 yw’r cyntaf ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027. Fel adroddiad cyntaf, dyma ein gwaelodlin i fesur ein perfformiad ar gychwyn y Cynllun Corfforaethol newydd. Mae yna faterion sylweddol rydym ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy ein Cynllun Corfforaethol, ac fe fydd y rhain yn cymryd amser cyn y gwelwn ni welliant; yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.