Y Cyngor yn cyhoeddi argraffiadau artist ar gyfer Prosiect 4 Priffordd Fawr
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi argraffiadau artist o prosiect 4 Priffordd Fawr o sut fydd rhannau o Langollen yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mae’r prosiect yn anelu i wella’r tirlun a gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn Llangollen.
Mae’r prosiect yn rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Yn y misoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi cynnal nifer o weithgareddau ymgynghori i gasglu adborth gan y cyhoedd am y gwelliannau y dymunent eu gweld fel rhan o’r prosiect hwn. Mae’r rhain wedi cynnwys cerdded o amgylch ardal y prosiect i glywed barn preswylwyr ar y cynlluniau, cyfleoedd i gyflwyno adborth drwy Sgwrs y Sir, porth ymgynghori ar-lein y Cyngor, sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref Llangollen a chyfle i fynegi barn ar ddyluniadau cychwynnol drwy arddangosfa gyhoeddus o’r gwaith celf yn y llyfrgell.

Yn seiliedig ar yr adborth hwn, mae’r Cyngor wedi cwblhau dyluniadau ac wedi cyhoeddi argraffiadau’r arluniwr ar gyfer sut bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r prosiect. Bydd y cynlluniau manwl ar gael ar dudalen we un pwrpas y Cyngor ar gyfer y 4 Priffordd Fawr cyn bo hir.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi cychwyn ei broses tendro i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â’r gwaith ac yn gobeithio penodi un erbyn diwedd mis Medi 2023.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu adborth gan bobl ar yr opsiynau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer yr arwyddion newydd fydd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect.
Mae gwybodaeth ddiweddaraf am brosiect 4 Priffordd Fawr y Cyngor i’w gweld yma: https://www.sirddinbych.gov.u/pedair-priffordd-fawr