llais y sir

Newyddion

Sut mae’r Cyngor yn perfformio?

Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!

Ym mis Medi bydd Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2023 - 2034 yn cael ei lansio. 

Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor.

Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddysgu a gwella, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau byr cyn gynted ag y bydd yn weithredol.

Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor.  I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, llenwch yr arolwg drwy fynd i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk o ddydd Llun 11 Medi.

 

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd i gasglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Bydd cynllun peilot o gasgliadau newydd Nwyddau Hylendid Amsugnol (NHA) yn cychwyn fis Medi 2023.

Ar hyn o bryd, mae’r cynllun newydd ar gael i breswylwyr yn ardaloedd cod post LL16 ac LL17 yn unig ond bydd yn cael ei ymestyn i weddill y sir ymhellach ymlaen.

Ymysg rhai o’r nwyddau a gesglir fel rhan o’r gwasanaeth yma mae clytiau, bagiau clytiau, weips, padelli gwely tafladwy, padiau anymataliaeth a bagiau colostomi a stoma (mae rhestr gynhwysfawr ar wefan y Cyngor). Mae’r gwasanaeth wythnosol yma’n rhad ac am ddim a’i nod yw lleihau’r gwastraff sydd mewn biniau du preswylwyr, gan fod 20% o hwn yn wastraff NHA. Mae’n rhan o waith ehangach gan y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Arweinydd Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Rydym yn cychwyn drwy gasglu’r gwastraff yma ar wahân yn awr fel ein bod yn barod i’w ailgylchu ar unwaith pan fydd cytundeb mewn lle gyda chyfleuster ailgylchu. Yn y dyfodol, gallai’r gwastraff yma gael ei ailgylchu i greu ystod o gynnyrch newydd, megis byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg a ddefnyddir ar arwynebau ffyrdd.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Tra bod ystyried mwy o bethau i’w hailgylchu yn wych, rydym hefyd yn annog preswylwyr i ystyried ffyrdd eraill o leihau eu gwastraff. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio clytiau amldro sy’n rhatach na rhai a deflir. Mae’r Cyngor yn cynnig cynllun talebau clytiau amldro i helpu preswylwyr drwy gynnig gwerth £25 o dalebau i’w gwario ar glytiau amldro.”

Os ydych yn gymwys, mae modd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd NHA yn awr gyda chasgliadau yn cychwyn o ddydd Llun 25 Medi.

Mae gwybodaeth bellach am y gwasanaeth newydd, gan gynnwys sut i gofrestru ar ein gwefan

Dros 2,800 o bobl yn mynychu diwrnod chwarae am ddim yn y Rhyl

Daeth dros 2,800 o bobl i ddigwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Sir Ddinbych eleni, a gynhaliwyd ym mis Awst.

Yn dilyn y digwyddiad hynod lwyddiannus a gafwyd y llynedd, hwn oedd y seithfed tro i’r diwrnod chwarae am ddim poblogaidd gael ei gynnal ar gaeau chwarae Christchurch yn y Rhyl.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ganolfan y Dderwen y Rhyl, a chafodd ei drefnu gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae y Cyngor i helpu plant i fwynhau eu gwyliau haf.

Roedd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim, gan gynnwys sesiwn sgiliau syrcas, Jurassic Live, adeiladu cuddfannau, celf a chrefft a llithro a sleidio ar ddŵr.

Dywedodd Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae y Cyngor: “Roedd yn wych cael croesawu teuluoedd yn ôl am y seithfed tro i’r diwrnod chwarae eleni.

"Mae hwn bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd ymysg teuluoedd lleol.

"Mae’n hyfryd gweld teuluoedd yn mwynhau eu hunain ac roedd yr adborth a gawsom gan fynychwyr yn gadarnhaol eto eleni”.

Cartref Gofal yn Ninbych yn dechrau gwaith ar Ardd Gofio

Gardd

Mae Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych wrthi’n brysur yn adeiladu gardd gofio er cof am y preswylwyr a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19.

Maen nhw’n gobeithio cynnwys mwy o ddodrefn gardd, potiau plannu, planhigion ac addurniadau yn yr ardd gofio newydd.

Bydd yr ardd yn darparu lle i’r preswylwyr ymlacio a chofio.

Cynhaliwyd bore coffi yn gynharach eleni, i helpu gydag ariannu’r ardd newydd hon.

Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen: “Fe fydd yr ardd yn rhywle i’r preswylwyr fynd i’w mwynhau, a chofio’r rhai a gollwyd yn ystod y Pandemig.

"Mae treulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd yn gwella lles ac iechyd meddwl.

"Mae ein preswylwyr yn mwynhau creu man gwyrdd i dreulio amser ynddo.”

Dywedodd preswyliwr yn y cartref gofal: “Mae'n braf mynd i eistedd tu allan ac edrych ar y blodau, yn enwedig pan fo’r haul yn tywynnu”.

Y Cyngor yn cyhoeddi argraffiadau artist ar gyfer Prosiect 4 Priffordd Fawr

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi argraffiadau artist o prosiect 4 Priffordd Fawr o sut fydd rhannau o Langollen yn edrych ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mae’r prosiect yn anelu i wella’r tirlun a gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn Llangollen.  

Mae’r prosiect yn rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Yn y misoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi cynnal nifer o weithgareddau ymgynghori i gasglu adborth gan y cyhoedd am y gwelliannau y dymunent eu gweld fel rhan o’r prosiect hwn.   Mae’r rhain wedi cynnwys cerdded o amgylch ardal y prosiect i glywed barn preswylwyr ar y cynlluniau, cyfleoedd i gyflwyno adborth drwy Sgwrs y Sir, porth ymgynghori ar-lein y Cyngor, sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref Llangollen a chyfle i fynegi barn ar ddyluniadau cychwynnol drwy arddangosfa gyhoeddus o’r gwaith celf yn y llyfrgell.  

Yn seiliedig ar yr adborth hwn, mae’r Cyngor wedi cwblhau dyluniadau ac wedi cyhoeddi argraffiadau’r arluniwr ar gyfer sut bydd yr ardal yn edrych ar ôl cwblhau’r prosiect. Bydd y cynlluniau manwl ar gael ar dudalen we un pwrpas y Cyngor ar gyfer y 4 Priffordd Fawr cyn bo hir.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi cychwyn ei broses tendro i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â’r gwaith ac yn gobeithio penodi un erbyn diwedd mis Medi 2023.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu adborth gan bobl ar yr opsiynau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer yr arwyddion newydd fydd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect.  

Mae gwybodaeth ddiweddaraf am brosiect 4 Priffordd Fawr y Cyngor i’w gweld yma: https://www.sirddinbych.gov.u/pedair-priffordd-fawr

Datblygiadau cyffrous ar gyfer Rhuthun a’r cymunedau cyfagos diolch i gyllid Ffyniant Bro

Ym mis Ionawr, mi roedd y Cyngor yn falch o dderbyn cadarnhad ei fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygiad 10 prosiect sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. Cefnogwyd y cynigion gan AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.

Mae dwy brif elfen i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun drwy welliannau i’r parth cyhoeddus ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gynnal hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Bydd yr ail yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun drwy welliannau i safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.

Bydd y Cyngor yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau, a bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni’r ddau brosiect olaf.

Disgwylir i'r prosiectau hyn gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2025 gyda'r gwaith adeiladu'n debygol o ddechrau yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth yng Ngharchar Rhuthun a groesawyd dwsinau o breswylwyr lleol trwy’r drysau i ddysgu mwy am y datblygiadau cyffrous.

Roedd y sesiwn alw mewn yn gyfle i Reolwyr Prosiect rannu dyheadau’r prosiectau a sut y byddant yn helpu i sicrhau fod diwylliant a threftadaeth gyfoethog Rhuthun a’r cymunedau cyfagos yn cael eu diogelu.

Bydd gwybodaeth am gynlluniau’r prosiectau, gan gynnwys amserlenni ar gyfer dyddiadau cwblhau disgwyliedig, yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd wrth iddynt ddatblygu.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o bobl leol yn cymryd diddordeb ac yn dod i’r sesiwn alw mewn yng Ngharchar Rhuthun i ddysgu mwy am y prosiectau a fydd yn digwydd yn yr ardal yn fuan.

“Rydym yn awyddus i sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cynlluniau ar gyfer Rhuthun a’r cymunedau cyfagos a hyrwyddo’r arwyddocâd sydd gan y prosiectau hyn wrth amddiffyn treftadaeth  y dref.”

Mae manylion y deg prosiect sydd wedi cael cyllid trwy raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar wefan y Cyngor.

Adolygu perfformiad y Cyngor

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn cynhyrchu adroddiad i grynhoi ein perfformiad. Mae’r adroddiad yn rhan ganolog o’r ffordd rydym ni’n gwerthuso ein perfformiad; er mwyn sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl a llefydd yn Sir Ddinbych, ac i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol.

Wedi’i gyhoeddi ar-lein yma, mae ein crynodeb gweithredol am y flwyddyn yn ceisio tynnu sylw at uchafbwyntiau ein perfformiad yn erbyn ein swyddogaethau, ac mae’n edrych ymlaen at yr heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym wedi amlygu meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnal perfformiad a’i wella lle bo’r angen. Mae ein hadroddiadau perfformiad chwarterol manwl wedi’u cyhoeddi ar-lein hefyd.  Adroddiad mis Ionawr i fis Mawrth 2023 yw’r cyntaf ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027. Fel adroddiad cyntaf, dyma ein gwaelodlin i fesur ein perfformiad ar gychwyn y Cynllun Corfforaethol newydd.  Mae yna faterion sylweddol rydym ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy ein Cynllun Corfforaethol, ac fe fydd y rhain yn cymryd amser cyn y gwelwn ni welliant; yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.

Gwastraff ac Ailgylchu

Enwch y Fflyd Ailgylchu

Mae'r Cyngor ar fin derbyn 21 o gerbydau ailgylchu newydd, gan gynnwys tri cherbyd trydan, ac rydym am i blant ysgol y sir eu henwi.

Mae’r gystadleuaeth yn rhedeg o 4 Medi tan 30 Medi a gwahoddir disgyblion Sir Ddinbych i gyflwyno enwau creadigol ar gyfer y lorïau ailgylchu yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae pedwar categori:

  • Blwyddyn 1-2
  • Blwyddyn 3-6
  • Blwyddyn 7-9
  • Categori teilyngdod arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig

Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y cerbydau newydd, a bydd cyfle i ddisgyblion gael tynnu eu llun gyda’r cerbyd a enwyd ganddynt.

Mae’r fflyd newydd yn cymryd lle’r hen fflyd ac mae’n rhan o ystod o fesurau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i gyrraedd targed ailgylchu’r sir o 70%.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros Amgylchedd a Chludiant, “Datganodd Cyngor Sir Ddinbych argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019 a’i nod yw dod yn Gyngor sero carbon net erbyn 2030. Mae’r cerbydau ailgylchu newydd yn un ffordd y mae’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r nod hwn.

“Mae plant yn ein sir yn gwbl ymwybodol o’r argyfwng amgylcheddol, ac mae mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol yn hollbwysig ar gyfer eu dyfodol. Rydym eisiau eu cymorth i enwi’r fflyd newydd,  fydd yn llawer gwell na’n hen gerbydau wrth leihau allyriadau ar ffyrdd ein sir.

“Rydyn ni eisiau gweld enwau gwirioneddol greadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y broses feirniadu ym mis Hydref.”

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Terberg Matec UK, “Rydym yn gefnogol iawn o Gyngor Sir Ddinbych yn y gystadleuaeth enwi cerbydau; mae’n fenter sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgysylltu â'r gymuned a gweithio tuag at atebion cynaliadwy.

“Mae Terberg Matec UK yn falch iawn o fod wedi sicrhau archeb yn ddiweddar ar gyfer un o’r adnewyddiadau fflyd mwyaf yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i'n hymroddiad i ddarparu cerbydau rheoli gwastraff arloesol a dibynadwy i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gweithrediadau lleol.

“Mae’r gystadleuaeth enwi cerbydau yn adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin wrth feithrin cyfranogiad cymunedol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae’n dangos ein hymroddiad i greu effeithiau cadarnhaol y tu hwnt i ymarferoldeb cerbydau casglu sbwriel yn unig.”

Gall ysgolion a disgyblion gyflwyno cymaint o geisiadau ag y dymunant a rhaid eu cyflwyno’n unigol drwy’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnig cymorth gyda Thlodi Data

Gan weithio gyda Good Things Foundation, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn helpu i ddosbarthu cardiau SIM a data symudol am ddim i bobl leol sy’n byw mewn tlodi data drwy’r Cynllun Banc Data Cenedlaethol.

Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn dosbarthu data am ddim i bobl drwy sefydliadau cymunedol ac mae’n cael ei gefnogi gan lawer o rwydweithiau ffonau symudol boblogaidd y DU.

Gall preswylwyr Sir Ddinbych gofrestru i gymryd rhan os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyster. Gall preswylwyr hefyd gofrestru diddordeb ar ran pobl eraill os ydynt yn adnabod rhywun a fyddai’n elwa o ddata symudol am ddim.

I fod yn gymwys i gael mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol mae'n rhaid i breswylwyr fod dros 18 oed ac yn dod o gartref incwm isel. Mae angen iddynt hefyd fodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol:

  • Nid oes gennych ddigon o fynediad i'r rhyngrwyd gartref, os o gwbl.
  • Nid oes gennych ddigon o fynediad i'r rhyngrwyd i ffwrdd o gartref, os o gwbl.
  • Ni allwch fforddio eich contract misol presennol neu ychwanegiad.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae mynediad i’r rhyngrwyd wedi dod yn rhan mor hanfodol o fywyd bob dydd, gyda nifer o wasanaethau hanfodol a chynlluniau bellach yn symud ar-lein. Buaswn yn annog unrhyw un allai fod angen cymorth yn y maes yma i gysylltu neu fynd i’w llyfrgell leol i gael mwy o wybodaeth.”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu gallwch fynd i’ch llyfrgell leol.

Twristiaeth

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023

Mae enwebiadau a thocynnau ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2023, a noddir gan Gwasanaeth Bwyd Harlech bellach wedi agor ac mae’r wefan bellach yn fyw.

Bydd seithfed Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn cael eu cynnal ddydd Iau 23 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth a chyflawniad eithriadol gan ein busnesau ac unigolion sy’n gweithio yn sector lletygarwch twristiaeth Gogledd Cymru.

Os ydych chi'n ymwneud â diwydiant twristiaeth ein rhanbarth yna mae'r gwobrau hyn ar eich cyfer chi! Beth am lenwi'r ffurflen ar-lein a'i chyflwyno? Mae yna 18 categori ac mae enwebiadau nawr ar agor! Gallwch enwebu eich busnes twristiaeth eich hun, neu'r busnes twristiaeth gorau sydd, yn eich barn chi, yn enillydd teilwng.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Llun 9 Hydref 2023.

I gael yr holl fanylion am y gwobrau gan gynnwys sut i ymuno â ni ar y noson wobrwyo ewch i https://gonorthwalestourismawards.website.

Cyllideb

Tudalennau gwe newydd i hysbysu trigolion am gyllid y Cyngor

Mae'r Cyngor wedi lansio tudalennau gwe newydd i hysbysu trigolion am sut mae’n gosod ei gyllideb i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian.

Mae cyllid awdurdodau lleol yn gymhleth a thechnegol ac er bod llawer yn credu bod y Dreth Cyngor yn talu am ddarparu holl wasanaethau’r Cyngor, mae hyn ymhell o fod yn wir.  Mewn gwirionedd, dim ond chwarter o arian y Cyngor sy’n dod o Dreth y Cyngor.

Daw cyllid y Cyngor o nifer o ffynonellau gyda’i gyllideb net yn dod o dair prif ffynhonell:

  • 62% - Grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru
  • 13% - Ardrethi busnes sef treth eiddo a delir ar eiddo busnes ac adeiladau anomestig eraill i dalu am wasanaethau lleol
  • 25% - Treth Cyngor, sef y ffi flynyddol y mae trigolion yn ei dalu i Gyngor Sir Ddinbych

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, “Rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod trigolion yn deall sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu, ac felly, sut caiff gwasanaethau eu cyllido. Mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch o ble daw’r arian, ac rydym am i drigolion gael gwell dealltwriaeth o sut y caiff eu harian ei wario.

“I fynd i’r afael â hyn, rydym wedi datblygu tudalennau gwe newydd gyda gwybodaeth am sut mae y Cyngor yn gwario ei arian. Y bwriad yw nodi’n glir ble rydyn ni’n cael ein cyllid, sut rydym yn gwario’r arian, rhoi trosolwg o gyllideb y Cyngor ac egluro i drigolion sut mae eu bil Treth Cyngor yn gweithio.”

I ddarganfod mwy am wariant y Cyngor, sut caiff y Cyngor ei ariannu ac am eich bil Treth Cyngor, ewch i dudalennau newydd sydd ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu

Gallwch hefyd wirio faint rydych yn ei wybod am waith y Cyngor drwy gwblhau cwis cyflym drwy glicio ar y ddolen ganlynol >>> Cwis cyflym

Sir Ddinbych yn Gweithio

Dros 12 awr yr wythnos o gymorth cyflogaeth rhad ac am ddim ar gael

Mae cyfres o sesiynau galw heibio’n cael eu cynnal gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio, y Cyngor ar hyn o bryd, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyflogaeth am ddim. Mae’r sesiynau galw heibio yn cynnig cymorth cyflogaeth am ddim mewn lleoliadau ledled y Sir yn wythnosol.

Mae’r cymorth sydd ar gael ym mhob sesiwn yn cynnwys help gyda chwilio am swyddi, diweddaru CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, cymorth TG sylfaenol a llenwi ffurflenni cais.

Rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, bydd staff Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i gynnig arweiniad a chymorth yn y lleoliadau canlynol bob wythnos:

  • Dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl, 2pm-4pm
  • Dydd Mercher – Canolfan Ni, Corwen, 11am-1pm
  • Dydd Iau – HWB Dinbych, 9:30am-1pm
  • Dydd Iau – Llyfrgell Rhuthun, 1pm-4pm
  • Dydd Gwener – Llyfrgell Prestatyn, 9:30am-12:30pm
  • Dydd Gwener – HWB Dinbych, 9:30am – 1pm

Meddai Tina Foulkes, Sir Ddinbych yn Gweithio: “Mae’r sesiynau galw heibio wythnosol rhad ac am ddim hyn yn gyfle gwych i breswylwyr Sir Ddinbych fanteisio ar gymorth cyflogadwyedd o ansawdd uchel yn y gymuned leol.

"Gall preswylwyr alw heibio am help gyda diweddaru neu lunio CV, dod o hyd i’r ffyrdd gorau o chwilio am swyddi a chael cyngor ac awgrymiadau ar y ffordd orau i lenwi ffurflenni cais.

"Yn y sesiynau hyn, bydd cyfle hefyd i fynychwyr ddysgu mwy am sut gall Sir Ddinbych yn Gweithio helpu gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant, cyllid ar gyfer cael gwared ar neu leihau eich rhwystrau i gyflogaeth, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau hyder, cymhelliant a gwydnwch.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r sesiynau hyn yn rhoi mynediad i breswylwyr Sir Ddinbych at gymorth cyflogaeth proffesiynol, llawn gwybodaeth ar draws y Sir.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd o bosibl angen cymorth cyflogaeth i fynychu un o’r nifer o sesiynau hyn am ddim mewn lleoliad cyfagos.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Prosiect Barod

 

Mae prosiect Barod yn cefnogi pobl dros 16 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych i baratoi ar gyfer eu dyfodol trwy feithrin hyder, cymhelliant a gwella sgiliau bywyd.

Gall y gweithgareddau a gyflwynir trwy Barod gynnwys:

  • Sesiynau a gweithgareddau meithrin hyder
  • Sesiynau a gweithgareddau meithrin cymhelliant
  • Sesiynau a gweithgareddau meithrin gwytnwch
  • Cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer gwella lles
  • Mynediad at gyrsiau hyfforddiant i wella lles

Rydym yn cynnal grŵp cymdeithasol wythnosol er mwyn cyfarfod â phobl newydd a meithrin hyder mewn lleoliadau cymdeithasol:

  • Ymlaen bob dydd Iau
  • 16- 24 oed, 1pm tan 2.30pm
    • Bob yn ail rhwng Canolfan Ieuenctid y Rhyl a Hwb Dinbych
  • 25+ oed, 3pm – 4pm.
    • Bob yn ail rhwng Llyfrgell y Rhyl a Hwb Dinbych

Gall pobl alw heibio i’r grŵp cymdeithasol i gwrdd â staff a dysgu mwy am Barod a’r gefnogaeth y gallwn ei darparu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio: Ffôn: 01745 331438 neu gyrru e-bost at sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.

Ar y ffordd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

 

Dyma lle gallwch ddod o hyd i ni dros y misoedd nesaf.

 Ffair Swyddi’r Hydref Sir Ddinbych yn Gweithio: dydd Mercher 27 Medi

Lle? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl

Yn dilyn llwyddiant ein ffair swyddi ym Mwyty 1891 yn ôl ym mis Ionawr, hoffem ail-greu’r canlyniadau anhygoel a welwyd.

Unwaith eto rydym yn gobeithio croesawu ystod eang o dros 50 o gyflogwyr a gwasanaethau o wahanol sectorau, gan roi cyfle i chi ddarganfod mwy am wahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.

 

Ffair Swyddi’r Flwyddyn Newydd Sir Ddinbych yn Gweithio: dydd Mercher 24 Ionawr 2024.

Lle? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl

Paratowch am flwyddyn newydd sbon ac ymunwch â ni yn ein Ffair Swyddi’r Flwyddyn Newydd!

Cewch gyfle i siarad gyda chynrychiolwyr amrywiaeth fawr o gyflogwyr a gwasanaethau a darganfod mwy am wahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.

        

Cyflwyno Cynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio

 

Mae Cynllun Dechrau Gweithio yn brosiect a gaiff ei arwain gan gyflogwr sydd yn cefnogi unigolion i gael cyflogaeth eto.

Mae cyfranogwyr cymwys yn cael cynnig lleoliadau tri mis o hyd, naill ai gyda thâl neu di-dâl yn dibynnu ar eu hanghenion, a bydd Swyddog Prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio yn cefnogi cyfranogwyr trwy gydol eu lleoliad. 

Mae Swyddogion Prosiect wrth law i roi mynediad i gyfranogwyr i gyrsiau hyfforddi, mentora, cyngor a byddant yn cynghori ar y camau nesaf ar ôl y lleoliad.  Caiff cefnogaeth ei deilwra i bob cyfranogwr, yn dibynnu ar nodau personol, fe allai hyn gynnwys datblygu sgiliau newydd neu fagu hyder, nid oes yna un dull sy’n addas i bawb.

Yn Sir Ddinbych yn Gweithio, rydym wedi hwyluso sawl lleoliad drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio, gan gynnwys penodi Illia Chkheidze. Cofrestrodd Illia ar Gynllun Dechrau Gweithio fel Gweithiwr Cefnogi ar leoliad dros dro a arweiniodd at Gontract Cyfnod Penodol fel Gweithiwr Achos.  Dyma stori Illia - 

Roedd fy mhrofiad i gyda lleoliad Dechrau Gweithio wir yn rhyfeddol.  Rhoddodd amrywiaeth o gyfleoedd i mi a galluogi i mi gael profiad gwerthfawr yn y maes sydd o ddiddordeb i mi.

Pan benderfynais i ymgeisio am y lleoliad i ddechrau, y rheswm oedd fy mod yn sylweddoli pwysigrwydd cael profiad ymarferol.  Yn ystod y lleoliad yma, bûm yn ffodus o gael gweithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol profiadol iawn sydd wedi fy nhywys bob cam o’r ffordd. Rydw i wedi gweld ystod eang o dasgau, gan alluogi i mi ddatblygu sgiliau megis rheoli amser, datrys problemau a chyfathrebu'n effeithiol.

Yr hyn dwi wir yn ei hoffi am Gynllun Dechrau Gweithio yw strwythur y rhaglen. Trwy gydol fy lleoliad, cefais fy nghefnogi gan fy Swyddog Lleoliad, Fatima. Roedd y gefnogaeth yma’n bwysig gan fod gen i rywun i siarad â nhw am unrhyw broblem oedd gen i ar hyd y ffordd. Roeddwn i’n teimlo bod y Cynllun Dechrau Gweithio wir yn deall pwysigrwydd rhoi profiad perthnasol ac ymarferol i mi, rhai y gallaf eu defnyddio yn y byd go iawn.

Heb os nac oni bai, mae’r Cynllun Dechrau Gweithio hefyd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fy nyheadau gyrfaol. Drwy gydol y lleoliad yma, rwyf wedi cael dealltwriaeth fwy clir o fy nodau proffesiynol ac rwyf wedi gallu eu mireinio ymhellach.  I unigolion sy’n ystyried lleoliad, buaswn wir yn eu hannog i fanteisio ar y cyfle yma.  Nid yn unig mae lleoliad yn eich galluogi i gael profiad ymarferol yn y maes rydych chi’n ei ddewis, ond mae hefyd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio hefyd.   Fe fyddwch chi’n cael cipolwg unigryw ar realiti y proffesiwn rydych chi’n ei ddewis, ac yn datblygu sgiliau na ellir eu hennill drwy astudiaethau academaidd yn unig. Mae’r twf proffesiynol a datblygiad personol y gellir ei gyflawni drwy leoliad yn rhywbeth heb ei ail.

Ar y cyfan, mae fy mhrofiad gyda’r lleoliad wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd y tu hwnt i fy holl ddisgwyliadau. Mae wedi rhoi profiad ymarferol i mi, wedi gwella fy sgiliau a chyfrannu’n gadarnhaol at fy nyheadau gyrfaol ac ansawdd bywyd.  Rydw i wir yn annog unrhyw un sy’n ystyried lleoliad i achub ar y cyfle a chroesawu’r twf a dysgu sy’n dod gyda hynny.

Er mwyn cofrestru ar gyfer lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i https://www.denjobs.org/cy/work-start-scheme neu cysylltwch â ni drwy e-bostio workstart@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi ddysgu mwy. 

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

 

Archifdy

Yr archifau’n caffael portread teulu o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf

Yn ddiweddar derbyniodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun ffotograff newydd cyffrous i’w casgliad.

Yn ddiweddar rhoddodd aelod o’r cyhoedd bortread o deulu’r milwr cyffredin Henry (neu Harry fel yr oedd yn cael ei adnabod) Jones o Stryd Mwrog, Rhuthun, a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd gan yr archifau eisoes gasgliad o gardiau post a llythyrau a anfonwyd gan y Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig o’r Ffrynt ac mae’r ymchwilwyr bellach yn gallu rhoi wyneb i enw gyda llun o’i wraig a’i blant.

Mae’r ffotograff yn bortread ffurfiol sydd wedi’i dynnu mewn stiwdio ac ynddo mae Mrs Elizabeth Jones (ei wraig) yn gwisgo ffrog dywyll hir a het sy’n cyd-fynd â’i gwisg. O’i hamgylch mae ei phedwar plentyn sydd i gyd dan bedair neu bump oed. Mae’r plant; Mary, Gladys, Isaac a Mons, hefyd yn gwisgo dillad ffurfiol a’r babi’n gwisgo gwisg sy’n edrych fel dillad bedydd. Gellir dyddio’r ffotograff yn ôl oedran y plant a chredir ei fod wedi cael ei dynnu tua mis Rhagfyr 1914 pan fedyddiwyd Mons yn yr eglwys blwyf leol.

Yn y llythyrau mae Harry’n sôn am ba mor oer yw’r tywydd yn y nos. Mae’n sôn am dderbyn parsel gyda sgarff a baco ynddo ac mae’n dweud y bydd yn help i gadw ei wddf yn gynnes iawn. Roedd y pâr yn trafod enw eu babi newydd yn y llythyrau ac mae Harry yn dweud wrth Elizabeth bod Mons yn enw dymunol iawn i fabi ar ôl i Elizabeth ei enwi ar ôl Brwydr Mons. Yna mae’n dweud ei fod yn gobeithio y cânt Nadolig da, gwell na’r un gaiff o, ac mae’n gobeithio y bydd yn well y tro nesaf os daw o adref o gwbl.

Yn ei lythyr olaf ar 23 Chwefror 1915 mae Harry yn holi am ei dad sy’n wael. Mae’n gofyn i Elizabeth ei fwydo’n dda gyda chawl ac oxo. Mae un dyfyniad o’i lythyr fel a ganlyn: “Well my Dear please remember me to father and give him my best love and tell him to cheer up and tell him the war will be over very soon now and I will be able to see him again…” Yn y llythyr hwn mae’n gofyn i Elizabeth am lun ohoni hi a’r plant, ac mae’n dweud wrthi fod modd eu cael yn rhad iawn ar gerdyn post. Ym mhob un o lythyrau Harry mae’n galw Elizabeth yn ‘annwyl wraig’ ac mae’n dymuno’n dda ac iechyd da iddi hi a’r plant. Mae Harry’n arwyddo’r llythyrau gyda “From Your Loving Harry” a llawer o gusanau.

Yn anffodus lladdwyd Harry ar ddydd Gŵyl Dewi yn 1915 yn ddim ond 29 oed, ychydig fisoedd ar ôl i’r portread gael ei dynnu. Nid oedd wedi cyfarfod â’i blentyn ieuengaf, ac mae’n bosibl nad oedd hyd yn oed wedi gweld y llun o’r teulu sydd bellach yn yr archifau.

Os hoffech weld llythyrau Harry a’r portread o’r teulu, gallwch fynd i’r archifau yn Rhuthun. I weld rhagor o fanylion, ewch i wefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn www.newa.wales.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Prosiect Tacsi Gwyrdd yn cyrraedd pen y daith

Kia EV6

Mae prosiect peilot wedi helpu i roi blas o gludiant mwy gwyrdd i 68 o yrwyr tacsis.

Mae Prosiect Tacsi Gwyrdd peilot y Cyngor wedi cwblhau ei filltiredd allyriadau isel terfynol, gan gefnogi cwmnïau tacsis ledled y sir sy’n ceisio gostwng eu hôl-troed carbon eu hunain.

Roedd y Cyngor yn un o’r ychydig o awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a gymerodd ran yn y cynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod tymor yr hydref 2021, dechreuodd y prosiect wrth ddefnyddio pedwar tacsi Nissan Dynamo E-NV200 oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn i’w defnyddio fel rhan o’r ‘cynllun rhoi cynnig arno cyn prynu’.

Roedd gyrwyr tacsis Hacni trwyddedig yn gallu profi’r cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod, a oedd yn cynnwys pwyntiau gwefru trydan am ddim mewn lleoliadau penodol yn y sir, trwydded cerbyd, yswiriant a pholisi torri i lawr.

Ar ôl cael adborth gan y gyrwyr tacsis ynglŷn â gwaith pellter hir, ychwanegwyd Kia EV6 i’r dewisiadau.

Gall y cerbyd deithio hyd at 328 o filltiroedd ar un gwefriad ac mae wedi’i ddylunio i ganiatáu i yrwyr tacsi weithio shifft gyfan yn hyderus gan gynnwys teithiau i feysydd awyr heb fod angen gwefru.

Roedd cyfanswm terfynol y milltiroedd ar gyfer y prosiect yn dangos fod y tacsis yn fras wedi teithio pellter o dair gwaith a hanner o amgylch y byd, sef 88,086 milltir.

Nifer y teithiau a gymerwyd i gefnogi sut y gall cludiant tacsi mwy gwyrdd helpu i ostwng allyriadau oedd 12,760 o siwrneiau unigol, ar draws y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r prosiect hwn wir wedi helpu gyrwyr tacsis ar draws y sir i gael profiad da o yrru cerbyd trydan. Mae wedi eu helpu i gyd i ganolbwyntio ar eu hôl-troed carbon eu hunain a beth allant ei wneud i ostwng eu heffaith. Mae adborth gan yrwyr wedi bod yn dda iawn.

“Mae’r prosiect wedi ein galluogi i gael adborth ar y defnydd o gerbydau allyriadau di-garbon yn ystod gweithrediadau tacsi heb gyfaddawdu ar ddarparu gwasanaeth a hefyd dangos yr arbedion tanwydd a’r effaith yn erbyn newid hinsawdd y gall cerbydau trydan ei ddarparu.”

“Mae’r peilot hefyd wedi helpu ein hadran fflyd yn ogystal ag edrych ar sut y gall gwahanol gerbydau trydan fod yn addas ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig sydd gan Sir Ddinbych.”

Caffi cymunedol yn paratoi dull o fynd i’r afael â gwastraff bwyd

Jade Lee  caffi Eiliadau

Mae caffi yn Rhuthun yn sicrhau nad yw bwyd da’n cael ei wastraffu, er mwyn cefnogi’r gymuned leol.

Mae caffi Eiliadau ar Stryd y Ffynnon wedi cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd diangen, er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan ReSource, wedi bod ar agor ers bron i bedwar mis yn Nhŷ’r Goron, sy’n eiddo i'r Cyngor.

Yn ddiweddar, cymerodd staff y Cyngor ran yn y rhaglen Design Differently gan y Cyngor Dylunio, gan ganolbwyntio ar yr economi gylchol o ran ailddefnyddio ac atgyweirio yn Sir Ddinbych gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Ailddefnyddio Cymru, a fu’n helpu gyda sefydlu’r syniad am gaffi.

Roedd y rhaglen Design Differently yn annog cydweithio, gan roi’r cyfle i Gyngor Sir Ddinbych gefnogi ReSource â rhai o’u syniadau ac i’r gwrthwyneb. Yna, defnyddiodd tri o staff ReSource y syniadau i greu canolbwynt cymunedol sy’n gwneud defnydd synhwyrol o fwyd dros ben.

Mae Jade Lee yn un o aelodau’r tîm: “Prif orchwyl y caffi yw derbyn bwyd dros ben bob amser, felly gall ein bwydlen newid o ddydd i ddydd ar gyfer ymwelwyr. Rydym yn darparu bwyd lleol lle bo modd hefyd a phan fyddwn yn prynu i mewn, byddwn yn ceisio sicrhau ei fod mor lleol â phosibl.

“Nid ydym yn gadael i unrhyw beth gael ei wastraffu, felly lle bo modd, byddwn yn ei ailddefnyddio ac mae hyn yn cadw’r costau’n isel i ni a’r rhai sy’n ymweld â’r caffi. Rydym yn cadw ein costau mor isel â phosibl, er mwyn ei gynnal fel caffi cymunedol.

Mae ein Tîm yn delio â’r Co-op, y neuadd farchnad yma yn Rhuthun. Rydym yn defnyddio Caws Figan Pips ac rydym wedi derbyn rhoddion gan Patchwork Foods, sydd wedi bod yn wych.”

Mae caffi Eiliadau ar agor ar hyn o bryd rhwng dyddiau Mercher a Sadwrn ac mae’n defnyddio cynllun addas i gefnogi Costau Byw, ar gyfer rhai sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd prynu yn ein lleoliad.

Eglurodd Jade: “Rydym hefyd yn derbyn rhagdaliadau, ac mae llawer o bobl yn credu ei fod yn gynllun ardderchog. Rydym yn rhoi unrhyw arian o dipiau mewn pot bach; yna caiff ei ddefnyddio pan na fydd rhywun sy’n dod i mewn yn gallu fforddio neu dalu’n llawn.

Mae’r caffi’n mynd i’r afael â mwy na bwyd dros ben yn unig, mae llyfrau a gemau ar y fwydlen hefyd.

Ychwanegodd Jade: “Rydym ni’n cynnal digwyddiadau bach, fel diwrnodau ar gyfer gêm benodol neu mae gennym glwb llyfrau hefyd er mwyn denu pobl i mewn. Bu i ni gynnal un digwyddiad lle gallai pobl ddod draw i ddysgu am steiliau gwallt y 1960au. Mae rhai’n rhentu’r caffi ar gyfer digwyddiadau, fel y gallant ei ddefnyddio ar gyfer gweithdy penodol a digwyddiadau ar gyfer y gymuned.

“Rydym hyd yn oed wedi cynnal ein parti plant cyntaf. Mae’r teulu eisoes yn galw i mewn yn aml gyda’u plant ifanc."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae creu dull partneriaeth yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu wrth addasu i newid yn yr hinsawdd. Roeddem yn ddiolchgar o gael y cyfle hwn gan y Cyngor Dylunio, sydd wedi ein helpu wrth symud ymlaen fel Cyngor, i weithio’n agosach â’n cymunedau, megis Caffi Eiliadau, er mwyn mynd i’r afael â gwastraff bwyd ar yr amgylchedd yn well er enghraifft gyda’n gilydd.”

Disgyblion Corwen yn creu cynefin newydd i warchod natur

Ymunodd disgyblion Ysgol Caer Drewyn gyda Thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i greu dôl o flodau gwyllt newydd er mwyn i’r ysgol helpu natur yn lleol.

Mae gan blant cynradd Corwen ardal newydd i hybu bioamrywiaeth ar dir yr ysgol.

Ymunodd disgyblion Ysgol Caer Drewyn gyda Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i greu dôl o flodau gwyllt newydd er mwyn i’r ysgol helpu natur yn lleol.

Mae’r ardal newydd yn rhan o wobr yr ysgol ar ôl llwyddo yng nghategori CA1 yr ysgol yng nghystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol y Cyngor lle roedd gofyn i ddisgyblion anfon neges yn ôl drwy amser i’n cynorthwyo i ddeall sut i greu gwell dyfodol ar gyfer ein hunain yn ein sir ac ar draws y byd.

Roedd Lily ac Eleanor, sy’n ddisgyblion yn yr ysgol, yn edrych ar sut y gellid helpu i adfer cefnforoedd a choedwigoedd glaw a’u cynefinoedd yn dilyn newid hinsawdd ac ecolegol ar gyfer 2050.

Roedd yr holl enillwyr yn cael detholiad o lyfrau amgylcheddol i’w hysgol, sgwrs gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor Sir a chasgliad o blanhigion bwlb i’w plannu er mwyn creu neu wella ardal blodau gwyllt.

Bu i ddisgyblion Blwyddyn Un a Dau dorchi eu llewys gyda’r swyddogion i blannu’r blodau gwyllt sydd wedi’u tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy yng nghornel tir yr ysgol i greu dôl newydd.

Fe wnaethon nhw blannu meillion coch, blodau neidr, pys y ceirw, milddail a chraith unnos.

Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth: “Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i wneud eu rhan i greu’r ddôl gan eu bod yn deall sut mae’r ardaloedd hyn yn cefnogi ystod o fywyd gwyllt o ‘fwystfilod bach’ (infertebratau) fel gwenyn ac ieir bach yr haf i anifeiliaid mwy fel adar a draenogod. Roeddent yn wych ac yn hynod frwdfrydig yn maeddu eu dwylo i wneud gwahaniaeth ar gyfer eu dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o’r disgyblion am fynd ati i greu ardal o flodau gwyllt. Mae’r rhain yn hybu natur a bioamrywiaeth yn lleol, ond hefyd maent er budd i ni, yn enwedig cenedlaethau’r dyfodol fel y plant yma a fydd yn gweld y darn yma o dir yn tyfu a gwarchod ein rhywogaethau.”

Cydnabuwyd holl waith eco disgyblion Ysgol Caer Drewyn ac maent wedi cadw eu Statws Platinwm gan Gadwch Gymru’n Daclus am y nawfed flwyddyn eleni.

Cafodd y gystadleuaeth ei chefnogi hefyd gan Brydain Di-Garbon y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT). Mae CAT yn elusen addysgiadol sydd wedi ymrwymo i ymchwilio a chyfathrebu datrysiadau cadarnhaol i newid amgylcheddol.

Planhigfa goed yn tyfu gwreiddiau ar gyfer cymuned wirfoddoli gref

Mae planhigfa coed o darddiad lleol Cyngor Sir Ddinbych, yn Fferm Green Gates, Llanelwy

Mae cymuned fywiog o wirfoddolwyr wedi ffurfio o wreiddiau prosiect bioamrywiaeth.

Mae planhigfa coed o darddiad lleol y Cyngor, yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn ceisio cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol y flwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol i Natur, hefyd yn meithrin grŵp cynyddol o wirfoddolwyr sydd wedi dod yn awyddus i wylio eu gwaith yn tyfu i fod yn gymorth hanfodol i fioamrywiaeth sirol.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth. Eisoes yr hydref diwethaf ychwanegwyd bron i 8,000 o blanhigion at nifer o Ddolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych.

Daeth Angela Mackirdy, sy’n byw yn y Rhyl ac yn wreiddiol o Swydd Amwythig, i helpu a chefnogi uchelgais y blanhigfa goed y llynedd ar ôl cysylltu â thîm bioamrywiaeth y Cyngor ynghylch cyfleoedd amgylcheddol.

Fe esboniodd: “Pan oeddwn yn Swydd Amwythig roeddwn i'n arfer gwneud llawer o bethau amgylcheddol. Roedd gennym ni dyddyn, roeddem yn amgylcheddwyr lefel uchel. Fe wnes i arolygon adar, arolygon natur, arolygon planhigion, roedden ni’n rhan go iawn o'r grŵp bywyd gwyllt lleol.

“Dechreuais ddod y llynedd pan oeddem at ein pen-gliniau mewn mwd. Dwi jyst yn mwynhau, dwi'n mwynhau dod allan a chyfarfod pobl a gweld sut mae pethau wedi datblygu. Mae'n anhygoel yn tydi.

“Pan wnaethon ni blannu’r mes ac yna gweld y derw yn dechrau tyfu, rydych chi’n meddwl ymhen 50 mlynedd bydd y goeden honno’n mynd i fod yn tyfu yn rhywle.”

Mae Simon Roberts, sy'n rhedeg rhandir ym Mhrestatyn, yn nodi’r cyfle i ddysgu fel agwedd wych o wirfoddoli yn y blanhigfa.

“Rydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl na fyddech chi'n cwrdd â nhw fel arfer ac mae'n lle braf. Rydych chi'n dysgu llawer mwy am y blodau gwyllt. Mae gennym ni foncen lawr yn y rhandir, rydym wedi plannu pethau ac yn ceisio ei chael cystal ag y gwelwch y tu allan yma.

“Mae Neil (Swyddog y Blanhigfa Goed) yn wybodus iawn am bethau, sydd yn fy helpu i, pethau na allaf eu tyfu gartref mae’n sôn amdanynt.”

Mae’r cwpl priod, Roger a Sue Jones, o Lanelwy, yn falch, nid yn unig o gefnogi bioamrywiaeth leol, ond hefyd o allu teithio’n gynaliadwy i wneud hynny.

Dywedodd Roger: “Rydyn ni'n eitha gwyrdd ... gwelodd Sue hwn yr wythnos diwethaf a dywedais y dylen ni fynd i lawr a dyma ni.”

Ychwanegodd Sue: “Mae’n hawdd i ni yn Llanelwy, gallwn gerdded neu feicio.”

Mae Clare Frederickson, yn teithio draw o Glyn Ceiriog yn ei cherbyd trydan, i chwarae ei rhan i helpu i hybu’r planhigion a’r coed ar gyfer bioamrywiaeth leol.

Fe esboniodd: “Roeddwn i wir eisiau dod, mae'n gyfle da, mae'n anhygoel beth sydd wedi'i wneud. Mae dydd Mawrth yn ddiwrnod da iawn i mi, a meddyliais y gallwn ddod draw i weld a allaf wneud unrhyw beth defnyddiol.

“Mae’n anhygoel bod yma… mae’n hyfryd iawn, mae’n brydferth.”

Eglurodd Gareth Hooson, o Ddinbych, fod ei gymhelliant dros helpu'r blanhigfa yn rhan o'r darlun ehangach o newid hinsawdd.

Dywedodd: “Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth pwysicach na’r angen am goed ar hyn o bryd, dyna’r prif gymhelliant os mynnwch.

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth, pan ddechreuais pan oeddwn yn fyfyriwr, yn gweithio swyddi haf mewn garddwriaeth ... nid yw byth wedi fy ngadael."

Dechreuodd Gareth wirfoddoli pan apeliodd y tîm Bioamrywiaeth am gymorth i gasglu mes yn hydref 2022 i dyfu yn y blanhigfa.

“Dim ond gweld hynny drwodd mewn gwirionedd. Fe wnaethon ni eu casglu, eu plannu, eu potio a dyma nhw. Unwaith y byddwch chi'n cymryd rhan, rydych chi’n gwirioni gan eich bod chi'n sylweddoli gwerth yr hyn rydych chi'n ei wneud.

“Y cam nesaf fydd cael y rhain allan i’r amgylchedd, i’w cael nhw i gychwyn tyfu.

“Mae’n beth gwerthfawr i’w wneud, dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli’r sefyllfa rydyn ni ynddi mewn gwirionedd ac mae angen i ni gyd-dynnu a rhoi trefn ar bethau os ydyn ni’n gallu.

“Mae’n gyfleuster eithaf unigryw hwn dwi’n meddwl ac mae bod yn rhan ohono yn bendant yn beth gwerth chweil. Mae’n brosiect gwych a gobeithio y byddaf yma i’w weld mewn 10 mlynedd!”

Mae Neil Rowlands, Swyddog y Blanhigfa Goed, yn gofalu am yr holl wirfoddolwyr: “Maen nhw wedi bod yn wych, maen nhw’n grŵp mor wych ac felly wedi buddsoddi yn yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni yma yn y blanhigfa.

“Mae’n wych eu cael nhw yma gan ei fod wedi dod yn gymuned fywiog go iawn ac mae gan bawb ddiddordeb mewn dysgu sut rydyn ni’n tyfu’r planhigion a’r coed. Heb y gwirfoddolwyr ni fyddem wedi gallu cyrraedd y cam yr ydym arno ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am eu holl gefnogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi dod i’r blanhigfa goed i helpu. Mae eu hymdrechion yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth mawr i fioamrywiaeth leol a hefyd rwy’n falch eu bod yn mwynhau eu hamser ar y safle yn fawr.”

Os hoffech chi wirfoddoli i helpu yn y blanhigfa goed, anfonwch e-bost at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

Disgyblion yn pweru diogelwch natur yn yr ysgol

Mae disgyblion Ysgol Penmorfa yn gofalu am fioamrywiaeth o amgylch eu hysgol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae disgyblion Prestatyn yn creu noddfa i natur oroesi ar dir eu hysgol.

Mae disgyblion Ysgol Penmorfa yn gofalu am fioamrywiaeth o amgylch eu hysgol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae’r ysgol wedi creu nifer o ardaloedd awyr agored i fywyd gwyllt ffynnu, gan gynnwys eu gardd sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth, ardaloedd blodau gwyllt a choridorau coed. Dros y gaeaf, plannodd yr ysgol 400 o goed gan Goed Cadw ar eu tir a 15 o goed ffrwythau brodorol gyda help tîm gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gan greu coridor bywyd gwyllt o goed ifanc a glaswellt hir o amgylch tu allan i gae eu hysgol.

Trwy gyngor a chefnogaeth gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor, mae disgyblion yn symud ymlaen wrth gynnig cefnogaeth gynyddol i’r natur sydd ar y safle trwy ddefnyddio’r hyn y mae tir yr ysgol yn ei ddarparu. Yn ddiweddar, aeth staff i ymweld ag Ysgol Penmorfa i redeg sesiwn fioamrywiaeth i ddisgyblion o’r grŵp garddio sgiliau bywyd. Bu’r tîm yn helpu’r disgyblion i gasglu hadau o dir eu hysgol i helpu i ailgyflenwi a rhoi hwb i’w hardaloedd blodau gwyllt presennol a gobeithio creu mwy yn y dyfodol gan ddefnyddio’r ffynhonnell hadau gynaliadwy hon. Bu’r staff yn arwain helfa chwilod o amgylch tir yr ysgol hefyd i ddangos i ddisgyblion beth yw gwerth yr ardaloedd gwyllt hyn i infertebratau a bywyd gwyllt arall.

Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth: “Roedd yn hyfryd gweld pa mor frwdfrydig oedd y plant am y gwahanol infertebratau sy’n byw ar dir eu hysgol. Mae mor bwysig iddynt ddysgu am fyd natur a rhyngweithio ag ef, er lles eu hiechyd nhw ac iechyd y blaned yn y dyfodol. Mae’r ardaloedd gwyllt mae Ysgol Penmorfa wedi’u creu yn llawn dop ac mae pob cam fel hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, gan sicrhau dyfodol i’r plant hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf diffygiol o ran natur yn y byd, ac mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o gael eu colli, ac mae mwy na 97% o’n dolydd blodau gwyllt wedi’u colli dros y 100 mlynedd diwethaf.

“Felly mae’r hyn mae’r disgyblion hyn yn ei wneud yma yn wych, mae eu gofal a’u hangerdd dros ddysgu sut i ddiogelu’r cynefinoedd hyn ar dir eu hysgol eu hunain yn rhywbeth y gallwn i gyd ddysgu ohono.”

Rhandiroedd Dinbych yn barod i dyfu bwyd bendigedig ar gyfer y gymuned

Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi ymuno â Bwyd Bendigedig Dinbych er mwyn helpu i baratoi rhandiroedd sydd wedi cael eu rhoi i’r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.

Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi torchi eu llewys i helpu i dyfu bwyd ar stepen drws Dinbych.

Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi ymuno â Bwyd Bendigedig Dinbych er mwyn helpu i baratoi rhandiroedd sydd wedi cael eu rhoi i’r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.

Mae grwpiau Bwyd Bendigedig yn gweithio i greu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig drwy ddefnyddio bwyd ac maent yn croesawu’r cyhoedd i fod yn rhan o dyfu cynnyrch ffres yn lleol.

Mae grŵp Dinbych yn anelu i dyfu bwyd gyda chymorth gan y gymuned leol, gan ganiatáu i bobl gael mynediad i ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn lleol.

Mae Bwyd Bendigedig Dinbych hefyd yn anelu i ddysgu sgiliau i’r gymuned er mwyn iddynt allu tyfu bwyd gartref. Mae cyfres o weithdai wedi’u cynllunio i ddysgu’r sgiliau yma i bobl, yn ogystal â choginio’n iach a sut i werthfawrogi bwyd sy’n weddill.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi helpu’r grŵp i gynllunio ac adeiladu’r isadeiledd sydd ei angen i gyflawni eu nodau lleol.

Mae hyn yn cynnwys mynediad cerrig a llwybr i bobl anabl i ganiatáu mynediad i’r ardal tyfu, dau wely planhigion a lloches a fydd yn darparu gofod storio yn ogystal â lloches rhag yr haul neu’r glaw.

Meddai’r Ceidwad Cefn Gwlad, Brad Shackleton: “Mae wedi bod yn braf iawn i allu cefnogi gwaith arbennig Bwyd Bendigedig Dinbych yma yn y dref drwy eu helpu i baratoi eu safle. Mae rhoi cyfle i’r gymuned gael bwyd lleol a rhoi cynnig ar ei dyfu eu hunain yn fenter ardderchog.”

Dywedodd Sue Lewis o Fwyd Bendigedig Dinbych: “Mae Bwyd Bendigedig Dinbych yn rhan o’r grŵp Bwyd Cymunedol ehangach a ffurfiwyd yn dilyn Cynulliad Y Bobl ar fwyd lleol a chynaliadwy a gynhaliwyd y llynedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan staff y Cyngor, a hefyd gan y Cynghorydd Delyth Jones sydd wedi ein helpu i wneud y rhandir cymunedol yn realiti. Rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i ymuno â ni - mae croeso i bawb!”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae rhoi cyfle i gymunedau dyfu eu bwyd ffres eu hunain, dysgu a mwynhau’r buddion, mor bwysig yn yr oes sydd ohoni ac rydw i’n falch iawn bod ein Staff Cefn Gwlad a’n gwirfoddolwyr wedi gallu cefnogi’r grŵp.”

Bill yn cynnig ffordd o ailddefnyddio hen bren ynn mewn parc

Ceffyl cob brown a gwyn yn tynnu coed ym Mharc Gwledig Loggerheads gyda'i hyfforddwr

Mae dull traddodiadol marchnerth wedi helpu i ddefnyddio pren eto ar ôl gwaith clefyd coed ynn.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cael cefnogaeth gan gyfaill pedair coes ym Mharc Gwledig Loggerheads i glirio pren i’w ailddefnyddio ar ôl gwaith diweddar ar y safle i atal clefyd coed ynn.

Mae’r goeden onnen sy’n frodorol i’r DU yn arbennig o gyffredin ar draws tirwedd Sir Ddinbych ac yn anffodus, mae llawer o’r coed hyn, gan gynnwys rhai yn Loggerheads, wedi’u heffeithio gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus, sy’n achosi clefyd coed ynn.

Cafodd coed y credwyd eu bod yn risg oherwydd y clefyd eu torri i lawr yn y parc ond caiff y pren sydd dros ben ei ailddefnyddio i gefnogi’r parc ymhellach, diolch i ymdrechion Bill, Cob Sipsi 15 oed.

Daeth Kevin Taylor o Shire X Logging â Bill i’r parc i helpu staff Cefn Gwlad i dynnu coed na allent eu cyrraedd gyda cherbydau ac a oedd yn rhy drwm i’w symud â llaw. Mae wedi bod yn gweithio gyda Bill ers 11 mlynedd ac mae’r ddau yn agos iawn.

Mae defnyddio Bill yn enghraifft o reoli coedwigoedd lle mae ceffylau’n symud coed o le maent wedi cwympo i le i’w casglu. Mae’r dechneg yn fwy carbon gyfeillgar gyda’r ceffyl yn disodli cerbydau, ac yn well i ecoleg y goedwig.

Bydd y pren y bydd Bill yn ei gasglu yn cael ei falu’n ddarnau y mae modd eu defnyddio er mwyn creu meinciau ar gyfer y parc.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod dull traddodiadol wedi ein galluogi i adfer y pren hwn i’w ailddefnyddio yn y parc o le y daeth ar ôl y gwaith pwysig hwn ar glefyd coed ynn yn y parc a diolch i bawb am eu cefnogaeth tra’r oedd Bill yn gwneud ei waith.”

Tîm yn gweithio i warchod hanes hynafol coed lleol

Mae apêl wedi'i lansio i helpu i warchod llinach coed hynafol Sir Ddinbych.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn paratoi i ymgymryd â gwaith i helpu i ddiogelu hanes hen goed yn y rhanbarth.

Mae’r tîm yn apelio ar bob tirfeddianwr yn Sir Ddinbych sydd â choed llydanddail brodorol hynafol neu hynod ar eu heiddo i gymryd cam ymlaen i helpu i warchod y llinach.

Os oes gan dirfeddianwyr ddiddordeb mewn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth yn y sir, y cyfan sydd angen i'r swyddogion ei wneud yw casglu hadau o'r goeden ddynodedig.

Bydd y rhain wedyn yn cael eu tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy y mae 11,500 o goed eisoes wedi tyfu ar y safle yn 2023.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey: “Rydym ni’n chwilio am y coed gwych hyn a’u hadau nhw i helpu i gadw a chynyddu brigdwf ein sir a byddem ni’n gwerthfawrogi cymorth tirfeddianwyr i wneud hyn yn fawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gennym ni gyfleuster gwych, sef ein planhigfa goed, sydd wir yn bwrw ymlaen i’n helpu ni i wella ein bioamrywiaeth ar hyd a lled Sir Ddinbych. Byddai'n wych pe gallem ni ddefnyddio hwn i barhau ag etifeddiaeth y coed hynafol balch hynny sydd allan yn y sir a byddwn yn annog tirfeddianwyr i gysylltu os ydyn nhw am wneud eu rhan nhw i helpu ein brigdwf lleol i ffynnu.

Cysylltwch â’r Tîm Bioamrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth - bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cymanfa’r Adar: Y Gylfinir a’r Carfil Mawr

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) wedi bod yn gweithio gyda’r artist a’r animeiddiwr Sean Harris mewn partneriaeth gyda’r Senedd, Canolfan Grefft Rhuthun, Amgueddfa Cymru a’r cymunedau ar hyd a lled yr AHNE a thu hwnt.

Wedi’i ddylunio gan Harris, ond wedi esblygu drwy nifer o sgyrsiau ar hyd y ffordd, mae’r prosiect yn rhoi llais i ddau aderyn eiconig; un sy’n agos ac wrth law a sy’n gyfarwydd i genedlaethau hŷn, a’r llall yn fwy pell ond yn symbol parhaus o ganlyniadau pellgyrhaeddol ein gweithredoedd fel defnyddwyr.

Gyda’i gilydd mae’r Gylfinir – a allai fod wedi diflannu o Gymru mewn llai na degawd – a’r Carfil Mawr – y mae ei ddiflaniad trasig wedi’i brofi gan wyddoniaeth arloesol Gymreig – yn codi cwestiynau am ein gallu i ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Maent yn cyfleu’r berthynas anghynaliadwy gyda’r byd ‘y tu hwnt i ddynoliaeth’ a anwyd o ddatgysylltiad cynyddol cymdeithas gyda natur.

Sut allwn ni unioni hyn? Lle allwn ni ddod o hyd i obaith? A sut allwn ni oresgyn y rhaniadau sy’n ein dal ni yn ôl rhag ymgymryd â’r camau sydd eu hangen ar frys?

Oeddech chi’n gwybod?

Cynhelir Cymanfa’r Adar – yn y Senedd, o Fedi 18 i Ragfyr 14.

Ers dau ddegawd mae Sean wedi defnyddio animeiddiad fel dull ar gyfer archwilio a mynegi’r perthnasoedd amrywiol rhwng pobl a thirweddau yng Nghymru a thu hwnt. Gan fabwysiadu yn gyson greadur i arwain – eog, carw, pili pala, garan, bual – mae ei ffordd gynhwysol o weithio yn ffurfio rhwydweithiau newydd.

Mae wedi bod yn cydweithio gyda’r AHNE ers amser ac mae ei weithgarwch arloesol o fewn ei thirweddau wedi darparu’r glasbrint ar gyfer gwaith dilynol gydag ystod o sefydliadau cadwraeth ac ymchwil mewn mannau eraill o Gymru a thu hwnt.

Nod y prosiect presennol yw ailgalibro ein cysylltiad gyda natur drwy gwestiynu ein canfyddiad cyfoes ohono. Mae hyn yn golygu teithiau i leoedd eraill a gyrhaeddir drwy deithiau a alluogir yn greadigol drwy amser a gofod – a thrwy’r dirwedd ei hun. Mae’r rhain yn ein galluogi ni i weld ein hamser a’n lle ein hunain o’r newydd; efallai hyd yn oed drwy lygaid rhywogaethau eraill.

Ers miloedd o flynyddoedd mae celf ac anifeiliaid wedi cyfuno i gyflwyno cyfrwng hanfodol i gwestiynu, mynegi ein perthynas gyda’r tir ac er mwyn dweud yn sylfaenol ‘dyma ni a dyma ein lle’. Gan gofleidio’r ethos hwn o fewn sioe anifeiliaid deithiol animeiddiedig, daw Harris â’r adar yn fyw er mwyn adlewyrchu i gymdeithas ac felly helpu i lunio dyfodol gwell ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Noddfa natur Prestatyn yn croesawu ychwanegiadau newydd

Mae noddfa natur Prestatyn yn dod at ei gilydd i greu cefnogaeth i fywyd gwyllt lleol.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn parhau i ddatblygu tir ym Mharc Bodnant er mwyn helpu a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal.

Dechreuodd y gwaith ar y tir yn gynharach eleni yn rhan o Brosiect Creu Coetir y Cyngor a’i ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae bron i 1500 o goed, yn cynnwys coed perthi wedi cael eu plannu ar Ffordd Parc Bodnant drwy gefnogaeth tîm Newid Hinsawdd y Cyngor, staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr a ddaeth allan i gefnogi’r gwaith.

Mae’r coed yn cynnwys coed ffrwythau, gwrych bywyd gwyllt a choed brodorol wedi’u gosod ymhell oddi wrth ei gilydd i helpu i ddarparu cysgod a chadw lleoliad cynefin y parcdir.

Mae gwaith wedi parhau trwy gydol y flwyddyn ac mae’r safle bellach yn cynnwys ychwanegiadau newydd er mwyn rhoi hwb i natur.

Mae pwll newydd wedi cael ei ychwanegu i’r safle sydd wedi cael ei ddylunio i ddal lefel isel o ddŵr er mwyn darparu’r amodau gorau i sawl rhywogaeth allu ffynnu.

Yn ymyl y pwll y mae yna ystafell ddosbarth pren yn yr awyr agored sydd wedi cael ei greu yn lleol. Mae to ystlumod arno er mwyn rhoi lle i’r mamal nosol allu clwydo.

Mae staff Cefn Gwlad wedi parhau i wella perllan ym Mharc Bodnant ac maent wedi datblygu dôl blodau gwyllt er mwyn i rywogaethau cynhenid allu ffynnu ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hi’n wych gweld y safle yma’n tyfu ac yn datblygu trwy ofal ac ymrwymiad ein Gwasanaeth Cefn Gwlad. Ni fyddai’r twf yn bosibl heb gefnogaeth gwirfoddolwyr, ac fe gwrddais i â rhai ohonynt yn gynharach eleni wrth i ni blannu coed, ac mae eu hymroddiad i’r amgylchedd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i natur lleol yma.

“Mae’r ystafell awyr agored hefyd yn ased gwych i’r safle, a dwi’n gobeithio y gall preswylwyr o bob oedran ddod i ddysgu am y safle a’i fwynhau.”

2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sy’n rheoli Twyni Tywod Gronant ac yno, ynghyd â’i nythfa gysylltiedig wrth y Parlwr Du, mae’r unig nythfa yng Nghymru o fôr-wenoliaid bach sy’n bridio. Y fôr-wennol fechan yw’r rhywogaeth leiaf o fôr-wennol ym Mhrydain. Hon yw’r ail nythfa fwyaf ym Mhrydain, ac un o’r mwyaf llwyddiannus, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r nythfa ers 2005.

Mae’r môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica, cyn teithio i orllewin Ewrop i fridio bob haf. Maent yn cyrraedd ym mis Mai i fridio ar gerrig mân ambell draeth dethol, cyn dychwelyd i Affrica ym mis Awst. Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 ŵy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

Mae cuddliw effeithiol iawn gan gywion y fôr-wennol fach, sy’n byw ar lymrïaid. Llun: David Woodfall

Gyda chymorth gwirfoddolwyr o Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn paratoi at y tymor ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys gosod ac adeiladu dros 3km o gorlannau ffens drydan, ffens allanol arall, canolfan ymwelwyr a chuddfan. Pwrpas hyn yw amddiffyn y nythod rhag ysglyfaethwyr ar y cerrig mân, a rhag i ymwelwyr amharu arnynt.

Staff a gwirfoddolwyr yn gosod corlannau ar y cerrig mân i warchod nythod y môr-wenoliaid bach

Wedyn, gwaith staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, a Wardeiniaid y Môr-wenoliaid Bach yn bennaf, sef Sam, Jonny a Jordan, oedd sicrhau bod presenoldeb ar y safle bob dydd. Roedd eu rôl nhw’n cynnwys cynnal y ffensys trydan, sy’n cael eu troi ymlaen dros nos i warchod y môr-wenoliaid rhag ysglyfaethwyr ar y tir, yn cynnwys llwynogod, gwencïod a charlymod. Roedd y wardeiniaid hefyd yn cadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogau tramor yn bennaf, ac yn siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn. Mae’r wardeiniaid yn cadw cyfrif o nifer y nythod sydd ar y cerrig mân, ac yn nes ymlaen, ar nifer y cywion, sy’n rhoi syniad o lwyddiant y tymor. Y tymor hwn, cofnodwyd 155 o gywion yn nhwyni Gronant, sy’n ymgynnull ar y lan cyn gwneud y siwrnai yn ôl i Affrica, ychydig wythnosau o oed yn unig!

Mae Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u trwyddedu i dagio adar, sydd â thros 35 mlynedd o brofiad o weithio gyda môr-wenoliaid bach. Maen nhw’n casglu data gwerthfawr a fydd yn creu dealltwriaeth fwy manwl o’r adar yma. Er enghraifft, mae tagio yng Ngronant wedi helpu i ddod o hyd i’r fôr-wennol fechan hynaf ar gofnod, dros 25 oed!

Mae Gronant yn lle poblogaidd i griwiau o ymwelwyr ac rydw i wedi tywys nifer allan at y nythfa fy hun y tymor hwn. Un o’r ymweliadau cyntaf oedd criw o Geidwaid Ifanc o Barc Gwledig Loggerheads. Fe wnaeth grwpiau ysgol o Chweched Dosbarth Tir Morfa ac Ysgol Gynradd Bodnant hefyd fwynhau ymweld. Mae nifer o griwiau o oedolion wedi bod yng Ngronant eleni, yn cynnwys Gŵyl Gerdded Prestatyn, cerddwyr Nordig a KIM Inspire. Mae’r nythfa’n boblogaidd ymysg ymwelwyr unigol: rhai’n adarwyr profiadol, ac eraill yn dod i’r traeth, ond â diddordeb mawr yn y môr-wenoliaid bach! Gallai rhai oedd yn ymweld â’r nythfa weld y môr-wenoliaid bach o’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan, ac o’r traeth hefyd, gan gadw y tu allan i’r ffensys.

Bu grŵp o Ŵyl Gerdded Prestatyn yn mwynhau gwylio’r môr-wenoliaid bach drwy’r telesgop!

Ysgol Bodnant yn gwylio’r adar o’r ganolfan ymwelwyr

Wrth ysgrifennu hwn, rydym ni wrthi’n gorffen datgymalu’r gosodiadau ar gyfer eleni. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi gadael dim ôl yng Ngronant, sy’n golygu bod y cyfarpar yn cael ei gadw dros y gaeaf. Hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled eleni, ac edrychwn ymlaen at dymor llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf!

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am nythfa môr-wenoliaid bach Gronant, neu i wirfoddoli, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk neu 07785517398.

Priffyrdd

Llwyddiant Gwella Arwyneb

Cwblhaodd y tîm priffyrdd raglen gwella arwyneb yn ddiweddar fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i wella’r rhwydwaith y ffyrdd, er gwaethaf yr angen i oroesi’r amodau gwlyb.

Mae’r math yma o waith yn cael ei gynnal ar y prif ffyrdd fel arfer, ond penderfynwyd gweld sut byddai’r broses yn perfformio mewn ardal bengaead a dewiswyd Cwrt Hammond yn y Rhyl i wneud hyn. 

Mae gan Gwella Arwyneb ddwy fantais fawr gan ei fod yn selio ffyrdd sy'n dechrau diffygio ond mae hefyd yn rhad iawn o'i gymharu ag ailosod wynebau confensiynol.

Mae’r llun yn dangos pa mor ffafriol mae'r broses hyn wedi gweithio allan i ni a byddwn yn sicr yn edrych i dargedu safleoedd tebyg pan ddaw’r ‘tymor’ eto yn Haf 2024.

Ein Tirlun Darluniadwy

Paneli Dehongli newydd ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd

Mae cyfres o baneli dehongli newydd wedi’u gosod ar hyd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen, fel rhan o brosiect i ymgysylltu pobl â threftadaeth gyfoethog yr ardal.

Mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Glandŵr Cymru i ddatblygu’r byrddau dehongli. Mae’n archwilio campau peirianneg a dylunio a arweiniodd at ddynodi’r safle’n Safle Treftadaeth y Byd yn 2009, ac mae’n adrodd hanes rhai o’r peirianwyr, artistiaid, twristiaid, entrepreneuriaid ac adeiladwyr camlesi arloesol sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd dros y canrifoedd.

Mae’r paneli dehongli, a gynhyrchwyd gan VisitMôr, wedi’u gosod ar wyth safle allweddol ar draws 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys Pont Gledrid, Traphont Ddŵr y Waun, Froncysyllte, Basn Trefor a Llangollen, a bydd yn helpu i roi teimlad o le i ymwelwyr, gan rannu hanesion o arwyddocâd lleol. Dyma gam cyntaf byrddau dehongli newydd, a chaiff paneli pellach eu disodli ar hyd y gamlas rhwng Glanfa Llangollen a Rhaeadr y Bedol yr haf hwn.

Dywedodd Hannah Marubbi, Rheolwr Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Mae gymaint o leoedd arbennig ar hyd 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd, o Raeadr y Bedol, Glanfa Llangollen, y Waun a Gledrid, yn ogystal â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte ei hun. Mae’r prosiect hwn wedi canolbwyntio ar adrodd hanes y lleoedd hyn ac annog pobl i archwilio’r safle cyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae cyfoeth o hanes a diwylliant yn yr ardal hyfryd hon ac rwy’n falch o’i weld yn cael ei gydnabod trwy’r gwaith partneriaeth arbennig hwn."

Addysg

Cyngor Sir Ddinbych yn llongyfarch disgyblion am ganlyniadau arholiadau 2023

Mae'r Cyngor yn llongyfarch holl ddisgyblion y sir sydd wedi derbyn eu canlyniadau arholiadau eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Theuluoedd, “Ar ran y Cyngor hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion sydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a TGAU.

“Mae’r garfan hon wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi gwneud ymdrech aruthrol i lwyddo ac wedi gweithio’n galed iawn i orchfygu nifer o rwystrau.

“Mae gwaith partneriaeth wych wedi digwydd i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo ac yn cyflawni’r canlyniadau gorau bosibl ac mae disgyblion wedi derbyn cefnogaeth gan eu teuluoedd a’u hysgolion. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein myfyrwyr gweithgar dros y flwyddyn ddiwethaf.”

“Rydym yn dymuno’r gorau i’r holl ddysgwyr ar eu camau nesaf.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid