Prosiect Barod

Mae prosiect Barod yn cefnogi pobl dros 16 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych i baratoi ar gyfer eu dyfodol trwy feithrin hyder, cymhelliant a gwella sgiliau bywyd.
Gall y gweithgareddau a gyflwynir trwy Barod gynnwys:
- Sesiynau a gweithgareddau meithrin hyder
- Sesiynau a gweithgareddau meithrin cymhelliant
- Sesiynau a gweithgareddau meithrin gwytnwch
- Cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer gwella lles
- Mynediad at gyrsiau hyfforddiant i wella lles
Rydym yn cynnal grŵp cymdeithasol wythnosol er mwyn cyfarfod â phobl newydd a meithrin hyder mewn lleoliadau cymdeithasol:
- Ymlaen bob dydd Iau
- 16- 24 oed, 1pm tan 2.30pm
- Bob yn ail rhwng Canolfan Ieuenctid y Rhyl a Hwb Dinbych
- 25+ oed, 3pm – 4pm.
- Bob yn ail rhwng Llyfrgell y Rhyl a Hwb Dinbych
Gall pobl alw heibio i’r grŵp cymdeithasol i gwrdd â staff a dysgu mwy am Barod a’r gefnogaeth y gallwn ei darparu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio: Ffôn: 01745 331438 neu gyrru e-bost at sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.

Ar y ffordd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

Dyma lle gallwch ddod o hyd i ni dros y misoedd nesaf.
Ffair Swyddi’r Hydref Sir Ddinbych yn Gweithio: dydd Mercher 27 Medi
Lle? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl
Yn dilyn llwyddiant ein ffair swyddi ym Mwyty 1891 yn ôl ym mis Ionawr, hoffem ail-greu’r canlyniadau anhygoel a welwyd.
Unwaith eto rydym yn gobeithio croesawu ystod eang o dros 50 o gyflogwyr a gwasanaethau o wahanol sectorau, gan roi cyfle i chi ddarganfod mwy am wahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.
Ffair Swyddi’r Flwyddyn Newydd Sir Ddinbych yn Gweithio: dydd Mercher 24 Ionawr 2024.
Lle? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl
Paratowch am flwyddyn newydd sbon ac ymunwch â ni yn ein Ffair Swyddi’r Flwyddyn Newydd!
Cewch gyfle i siarad gyda chynrychiolwyr amrywiaeth fawr o gyflogwyr a gwasanaethau a darganfod mwy am wahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.

Cyflwyno Cynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Cynllun Dechrau Gweithio yn brosiect a gaiff ei arwain gan gyflogwr sydd yn cefnogi unigolion i gael cyflogaeth eto.
Mae cyfranogwyr cymwys yn cael cynnig lleoliadau tri mis o hyd, naill ai gyda thâl neu di-dâl yn dibynnu ar eu hanghenion, a bydd Swyddog Prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio yn cefnogi cyfranogwyr trwy gydol eu lleoliad.
Mae Swyddogion Prosiect wrth law i roi mynediad i gyfranogwyr i gyrsiau hyfforddi, mentora, cyngor a byddant yn cynghori ar y camau nesaf ar ôl y lleoliad. Caiff cefnogaeth ei deilwra i bob cyfranogwr, yn dibynnu ar nodau personol, fe allai hyn gynnwys datblygu sgiliau newydd neu fagu hyder, nid oes yna un dull sy’n addas i bawb.
Yn Sir Ddinbych yn Gweithio, rydym wedi hwyluso sawl lleoliad drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio, gan gynnwys penodi Illia Chkheidze. Cofrestrodd Illia ar Gynllun Dechrau Gweithio fel Gweithiwr Cefnogi ar leoliad dros dro a arweiniodd at Gontract Cyfnod Penodol fel Gweithiwr Achos. Dyma stori Illia -
Roedd fy mhrofiad i gyda lleoliad Dechrau Gweithio wir yn rhyfeddol. Rhoddodd amrywiaeth o gyfleoedd i mi a galluogi i mi gael profiad gwerthfawr yn y maes sydd o ddiddordeb i mi.
Pan benderfynais i ymgeisio am y lleoliad i ddechrau, y rheswm oedd fy mod yn sylweddoli pwysigrwydd cael profiad ymarferol. Yn ystod y lleoliad yma, bûm yn ffodus o gael gweithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol profiadol iawn sydd wedi fy nhywys bob cam o’r ffordd. Rydw i wedi gweld ystod eang o dasgau, gan alluogi i mi ddatblygu sgiliau megis rheoli amser, datrys problemau a chyfathrebu'n effeithiol.
Yr hyn dwi wir yn ei hoffi am Gynllun Dechrau Gweithio yw strwythur y rhaglen. Trwy gydol fy lleoliad, cefais fy nghefnogi gan fy Swyddog Lleoliad, Fatima. Roedd y gefnogaeth yma’n bwysig gan fod gen i rywun i siarad â nhw am unrhyw broblem oedd gen i ar hyd y ffordd. Roeddwn i’n teimlo bod y Cynllun Dechrau Gweithio wir yn deall pwysigrwydd rhoi profiad perthnasol ac ymarferol i mi, rhai y gallaf eu defnyddio yn y byd go iawn.
Heb os nac oni bai, mae’r Cynllun Dechrau Gweithio hefyd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fy nyheadau gyrfaol. Drwy gydol y lleoliad yma, rwyf wedi cael dealltwriaeth fwy clir o fy nodau proffesiynol ac rwyf wedi gallu eu mireinio ymhellach. I unigolion sy’n ystyried lleoliad, buaswn wir yn eu hannog i fanteisio ar y cyfle yma. Nid yn unig mae lleoliad yn eich galluogi i gael profiad ymarferol yn y maes rydych chi’n ei ddewis, ond mae hefyd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio hefyd. Fe fyddwch chi’n cael cipolwg unigryw ar realiti y proffesiwn rydych chi’n ei ddewis, ac yn datblygu sgiliau na ellir eu hennill drwy astudiaethau academaidd yn unig. Mae’r twf proffesiynol a datblygiad personol y gellir ei gyflawni drwy leoliad yn rhywbeth heb ei ail.
Ar y cyfan, mae fy mhrofiad gyda’r lleoliad wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd y tu hwnt i fy holl ddisgwyliadau. Mae wedi rhoi profiad ymarferol i mi, wedi gwella fy sgiliau a chyfrannu’n gadarnhaol at fy nyheadau gyrfaol ac ansawdd bywyd. Rydw i wir yn annog unrhyw un sy’n ystyried lleoliad i achub ar y cyfle a chroesawu’r twf a dysgu sy’n dod gyda hynny.
Er mwyn cofrestru ar gyfer lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i https://www.denjobs.org/cy/work-start-scheme neu cysylltwch â ni drwy e-bostio workstart@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi ddysgu mwy.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
